Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Golofn Cymreig y Rhondda.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Golofn Cymreig y Rhondda. Ymweliad yn Haint. Mae cyflwr pethau yn rhan isaf Ystrad- Rhondda a Threalaw o'r safbwynt iechydol yn nd flm; mae dros 300 o achosion difrifol o bersonau dan y typhoid fever," ac y mae eisoes dri o honynt wedi profi yn farwol; ond mae arwyddion fod yr ymledaeniad yn cael ei atal yn ei rawd ronyn, trwy dori ymaith y cytienwad arferol o ddwfr, ac y mae yn flortunus mai yn y gauaf y torodd allan er cael digonedd o ddwfr o gyfeiriadau ereill, ac er hefyd gael hin mwy ffafriol i roddi lleffethair ar garlamiad yr haint. Dengys cyflwr fel hyn ar bethau, yn nghanol poblogaeth fawr fel eiddo y Rhondda. mai nid rhyw chwareu plant ydyw swyddau taledig a seddau ar yr awdnrdodau lleol (anrhydeddua), ond safle- oedd sydd wedi eu cylehynu gan gyfrifol- deb or math mwyaf difrifol, gan fod rhyw gynlluniau neu drefniadau iechydol yn arwain i welliantau yn nghyflwr pethau, neu e&geulusdod yn arwain i drychineb annarluniadwy yn mywyd cymdeithas. Pwy fedr fesur na phwyso yr ingoedd, y dyoddef, a'r cythrwfl daiiwyd i gyflwr 300 o deuluoedd trwy ymweliad fel hyn? Dyg hyn i gof llawer yn y Rhondda gyflwr ofnadwy pethau yn Ninas Bangor, yn Ngogledd Cymru pan fu haint debyg yn cerdded trwy y lie ac yn cario ymaith ugeiniau os nid canoedd, ac y codwyd braw ar yr holl wlad rhag d'od yn agos i'r lie nac i'r un cysylltiad masnachol nac arall a'r dref na'r cynffiiau, ao hefyd gadwodd ymwelwyr draw am flynyddau, os nad yn wir hyd heddyw. Ac wedi chwilota a dadansoddi, cafwyd yno hefyd mai yn y dwfr giudid yiio o belWer o tua 7 neu 8 milldir yr oedd eisteddle'r drwg. Felly yma, yn y dwfr y tybid fod y drwg. Dro yn ol, yn y Portli, tybid mai o'r llaeth yr oedd priodoli'r drwg. Ac felly mewn achos pwysig yn Llundain. Profa hyn yn eglur ein hawgrym fod bywyd cym- deithasol heddyw yn bwnc cymhleth, ac fod unrhyw un sydd a rhan ynddo, ac yn ei drefniadau, nid i'w gymeryd o law y cyhoedd fel coron o ogoniant, ond fel baich o ddyledswydd bwysig i'w chario allan fel dyn yn ystyriol o neges bywyd, ac o oludodd ei gyfleusderau er gwneyd da. Pantycelyn," gan y Parch. J. J. Williams. Bu y Parch. J, J. Williams, Shiloh, yn darlithio ar y gwron uchod. Ein cymydog barddol sydd oludog o fonedd, urddas a mwynder. Caed araeth ragorol iawn, ond yn Ifodus neu yn anftodus-barned pob un 0'1 safle ei htiyi-ae,th hwyl uchel cyrddau gweddi'r gwahanol gapelau yn drech na'n Uymrodoriaeth fel na chaed cyfleu i wrando yr araeth gan luaws oedd yn dymuno o ga Ion am y cyfleu, Yn arbenig, gan fod ein Ben Bach anwyl wedi ein dwyn yn adnewyddol i edmygu ein bardd an Emynydd Cymreig Cenedlaethol. Erys emynau Williams, per ganiedydd Cymry, tra phery 'r genedl a'r iaith i roi llafar i'n teimladau mwyaf cysegredig. Efeallai daw cyfleu eto i roddi i ni y wledd a gollasom y tro hwn. Y Gymrodoriort. Mae ysgrifenydd ffyddlawn y Cymio- dorion wedi llwyddo i gael eto addewidion gwerthfawr gan wyr pwysig i dd'od i'n hanerch. Yn sicr, mae rhyw gyfaredd rhyfedd yn ei allu i sicrhau y gwyr mawr i dd'od i'n Cwm. Hoffem yn ami iddynt altu ein mamiaith, ac iddynt allu ein dyddori a'n hadeiladu yn yr hen Gym- raeg wen. Oblegyd, tra yn rhoddi dognau haeddianol o glod i'r ysgrifenydd diguro a lfvddlawn, eto, rliaid galw sylw'r pwyll- gor yn ddifrifol at hyn, mai nid rhyw farch faen, er esgyn o neb i lawes mawrion byd nac i dorheulo yn eu gwenau am nifer o oriau, sydd efeallai i ni werinos syml gwlad y bryniau, yn rhyw ber-lewyg bara- dwysaidd, ac i'r ymwelwyr yn rhoi rhyw foddhad digrifol wrth weled ach yr hen Gymry gwronaidd, yn rhy dueddol i fyned yn Saisaddwyr lliprynaidd a gwasaidd. Nid ein tlodi fel cenedl o ddynion cryfion fedr rhodio yn rhydd yn rhodfeydd uwchaf dysg a gwybodaeth. ac hefyd allent ddweyd eu cyfrinion i ni yn iaith ein mam. Ond mae yna eithriadttu gogoneddus i'w cael o ddynion sydd yn selog dros ein cenedl a'n hiaith, ond eu hunain heb gael cyfleu, neu heb ei geisio, i ddysgu yr iaith, ond eto yn aiddgar garu'r genedl a'i delfrydau. Ac un yn ddiau o'r cyfryw ydyw Syr W. H. Preece, y medrus wr hwnw mewn gwefryddiaeth sydd glod i'w wlad, ac yn ymffrofit i'w genedl; efe yw'r nesaf o'r gwyr enwog i'n hanerch. Nid bai'r ysgrif- enydd yw hyn, ond ei ddirfawr glod am ei fod mor llwyddianus, ac mor aiddgar, ond credwn mai bair pwyllgor ydyw gadael pethau redeg i ormod graddau i'r cyfeiriad hyn, oblegyd fel hyn colla'r Cym- rodorioll ei amcan. "Ysbyd yr Oes." Mae yn y misolyn hwn ysgrif ragorol, Ie-fn a darllenadwy iawn er coffa am Miss Gvvenfryn Timothy, y llenores ieuanc, dalentog, a'r feinir fwyn o'r Ton, diweddar ferch Jaino6 Timothy, Timber Yard, Ton. Yn sicr, mae yma filoedd yn y Cwm o'i liadnabyddion ao o'i hedmygwyr fuasai yn falch o gael golwg ar yr ysgrif. Yn ddiau merch ieuanc nodedig am ei thalent ac am ei hysbryd mwyn a'i chrefyddolder dwfn ydoedd hi. Mae genyf nnau air i'w ddweyd am dani, am a wn ni, na wyr neb ond fy hunan am dano, ond mae mor dlws, tyner ac enaid-gynhyrliol fel nas gallaf eto ym- cldiried iy hunan i ysgrifenu yn ei gylch. Daw cyfleu eto, wedi i mi gael rhoddi ystyriaeth dyladwy iddo. 0 feinir fwyn, na fathred neb dy fedd, engyl daeno eu hedyn gwynion yn orchudd dros dy fedd. Gwenfron, ie, Gwenfron yn gwenu fry. Diolch i Ysbryd yr Ges" am yr ysgrif. Neuadd y Gweithwyr. Rhagorol weithwyr Cymreig. Nid oes braw arnom edrych i'r dyfodol pan welwn chwi yn gafael yn eich cyfleusderau, ac yn eu troi i'r fath ddefnydd. Wedi i'r llywodraeth roddi addysg plant yn rhydd a rhad, dacw ryddhad o'r I poundage" o geiniog y bunt, ond darfu i chwi yn ddoeth a hyfwyn gymeryd yr awgrym o barhau i dalu yr arian hyny a gwneyd cronfa, ac erbyn heddyw yr ydych yn meddu neuadd eang a llyfrgell ragorol gwerth tua f:8,000, ac nid oes yn aros ond tua £ 2,000 heb ei dalu o'r cwbl. O'r blaen y tafarnau neu'r capeli oedd genyeh ar gyfer pob cyfarfod, ond yn awr cewch gyfleu yn eich adeilad eich hunain i ddwyn eich holl waith yn mlaen, ac hefyd i dderbyn ymweliadau weithiau o ddarlith- iau, &c., pethau fydd a'u tuedd i ddyrhc- afu ac nid i lygru cymdeithas, Englynion Anerch Gan Walter Morgan ar agoriad Neuadd y Gweithwyr, Ton, Tachwedd 24ain, 1904. I erchi rhywbeth gorchawn—y gwelem Argoelion hiraethlawn, Ar wyneb y rhai uniawn, Awydd oedd am "Neuadd iawn." Mi soniaf mai i wasanaeth—gaethol Y gweithiwr fu'r arfacth; Del, hudol, adeiladaeth, Rydd i chwi, arwydd o cliwaeth. Mor deilwng mae'r adeilad-lle eithaf Holl weithwyr afrifad; Y fan hon fydd yn fwynhad Ar helynt, fel bo'r alwad:, 'R un adeg Ha! 'r'wyn nodi—der fudiad 'Rwyf wedi'm boddloni; Yn hynawe gallaf honi Yn wydd ein hawl Ein Neuadd Ni.' Eto i Mr. a Mrs. W. Jenkins, Y.H., Ystradfechan, ar eu gwaith yn agor y Neuadd. Gwyddom fod eu hagweddiad-yn ddigon 0 ddegwm i'n syniad; Dau o fri a rhai difrad Yn dal enw a dylanwad. Boed i'r ddau yn glau fawr glod—i'w Ac hirddydd yn gyfnod; Lhurddas Lwys undeb eu helusendod Yn faeth i'w naws yn fyth eu nod. Caed cwrdd i'w hagor dydd Iau. Cyflwynwyd allwedd arian hardd gan Miss Rees, Pentre, i Mrs. W. Jenkins, ac agor- wyd y drws gan Mis. Jenkins yn nghanol cymeradwyaeth mawr y Uu. Cyflwynwyd blodeuglwm gan Evan Williams, yr hen weithiwr hynaf, mewn araeth fechan, dwt iawn, a chymerodd Mr. W. Jenkins, Y.H., y gadair. Caed areithiau gan W. Wil- liams, Mathew Jones, B. Davies, D. Thomas, Ben Davies, Jacob Roy (Tre- harris), Watts Morgan, ac Evans (trysor- ydd yr adra.n perthynol i'r Federation). Canwyd gan Nana Jones, D. Davies, Noah Evans, a Tilly Thomas ar y crwth, yr hon gafodd gymeradwyaeth fyddarol iawn. Caed gair byr gan Alban Richards, yr adeiladydd, a Jacob Rees, y cynllunydd. Yr oedd D. S. Evans yn chwareu yr offeryn gyda medr amlwg iawn. Yr oedd yr oil yn cael ei wneyd gan rai perthynol i weithfeydd y Bwllfa neu'r Ton, neu eu teuluoedd. Yr oedd y boneddigesau hefyd wedi paratoi yn dda ar gyfer yr ymwelwyr yn y llyfrgell. Gobeithio y ceir bendith fawr i'r ardal yn gyffredinol o honi. Cwm Khondda ar Dan. Mae yr holl Gwm o ben bwy gilydd ar dan gan awelon cryfion o ddiwygiad nerthoi, Ni chlywir ond llais can a moliant fel tyrfa yn cadw gwyl trwy yr holl le. Mae cyrddau gweddio yn y tai ac yn y gwaith, yn y talcen glo, ac yn ngherbydau a gorsafoedd y reilffordd. .Mae yr heol yn llawn, y tai yn llawn, y capeli yn llawnion o bobl o tidifrif calon yn addoli Duw. Rhaid addef na welwyd erioed beth tebyg yn Nghwm Rhondda, ac yr oedd yma baratoi ar ei gyfer er's tro yn mhob cylch; ond ni feddyliodd neb fod y wawr ar dori mor agos. Dywed y diweddar Gyngorwr Phylip Rees, Tylors- town, eiriau byw ar y pwnc. Dylid eu darllen gan bawb — Ordemiad dwyfol er sicrhau diwygiad hefyd ydyw gweddio. 0 ddydd y Pente- cost hyd yn awr mae pob diwygiad grymus a fu ar grefydd yn ganlyniad i weddiau unol a thaerion yr eglwys, am hyny 'Gofyn- wch, a rhoddir i chwi, ceisiwch, a chwi a gewch, curwch, ac fe agorir i chwi.' Y mae yr Arglwydd yn sicr olwyddo ei achos (meddai rhai) yn ei amser da ei hun, ond rhaid i ni gofio mai ffordd Duw i gyfranu ydy,w cael dynion i geisio. Yn gysyllt- iedig a gweddi y cafodd plant Israel waredigaeth o'r Aifft, ac o Babilon. Yr oedd Duw wedi rhoddi addewid ag amser- iad a dyddiad pendant am waredigaeth o Babilon, Chwi a fyddwch yn Babilon ddeng mlynedd a thriugain, ond pan y daw y rhai hyny i ben, mi a ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy addewid, ac a'ch dygaf chwi yn ol i'ch gwlad.' Wel, gallai rhywrai o honynt dybied a dywedyd, Nid oes i ni ddim i'w wneyd ond ymfodd- loni yn y caethiwed, a derbyn y wared- igaeth pan y cawn ni hi.' Na, nid felly ychwaith, y mae genych chwithau ryw- beth i'w wneyd sydd yn hanfodol er cyf- lawniad yr addewid. Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch ac y gweddiwch arnaf Fi, a minau a'ch gwrandawaf, ceisiwch Fi hefyd, a chwi am cewch. pan y'm ceisiweh a'ch holl galon.' Er mor bendant yr addewid, gwelwn fod gweddi yn ordeiniad i'w rhagflaenu. Felly y mae hanes yr eglwys trwy yr oesoedd, yn blaenori diwygiad mawr goruchwyliaeth y Testa- ment Newydd. Cawn fod y dysgyblion yn Disgwyl am addewid y Tad, ac yn parhau yn gytun mewn gweddi ac ymbil.' Cawn hanes hefyd am Cornelius, tra yr oedd efe ar y nawfed awr yn gweddio yn ei dy, yr ymddangosodd angel Duw iddo i'w gyfarwyddo i anfon am Pedr i bregethu Gair yr Iachawdwriaeth iddo. A thra yr oedd Pedr drachefn ar nen y ty yn gweddio y canfu yntau y weledigaeth a'i henillodd i fyned i mewn at rai dienwaed- edig, ac felly, mewn canlyniad i weddio Cornelius, a gweddio Pedr, dyna deyrnas nefoedd yn cael ei hagor i'r byd cenedlig, a'r Ysbryd Glan yn syrthio 'Ar bawb a oedd yn clywed y Gair.' tl Gweddiwyr mawr oedd hen ddiwygwyr y dyddiau gynt; byddai ysbryd gweddi yn disgyn ar Christmas Evans, meddai ef, fel cawodydd o wlaw. Dywedodd un mai yn ystaleil ddirgel Luther yr oedd dirgel- wch y Diwygiad Protestanaidd. Ysbryd gras a gweddiau fyddo yn meddianu ein heglwysi, mwy o gyfarfodydd gweddi wrth erchwynion gwelyau cleifion, a llai o'r gwyl-nosau yn nhai meirwon. Y mae oes y gwyrthiau wedi myned heibio, meddai un, am fod oes y ffydd a'r weddi wedi myned heibio. Ofnwn ein bod yn cyfyngu gormod ar ein gweddiau, gofynwn i'r Ar- glwydd am achub ein gwrandawyr, fel pe na allasai achub ond gwrandawyr efengyl yn unig, heb gofio fod Duw yn gallu achub y cablwr, yr erlidiwr, yr esgeuluswr, a'r cymeriadau gwaethaf, Wele, ni fyrhawyd Haw yr Aiglwydd, fel na allo achub, ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na, allo glywed.' Bydded yr eglwys i anrhydeddu Duw felly yn ei gweddiau, ac fe ddaw yntau i'w hanrhydeddu hithau a. llwydd- lant. "Dymunem hefyd yn ostyngedig aw- grymu i'n heglwysi i gynal cyfarfodydd cenadol yn yr awyr agored. Ymdreched pobl ieuainc ein heglwysi i gyfaddasu a diwyllio eu hunain yn ystod nosweithiau y gauaf trwy y nmdiad a ffurfir yn ein plith, sef Undeb y Bobl leuaine,' a deuant allan yn yr haf a ffrwyth eu hymchwil- iadau. Goreu i gyd pa fwyaf o draining fydd y milwr wedi ei gael cyn anturio i faes y frwydr. Rhydd y mudiad yma o eiddo 'IJndeb Adranol Cwm Rhondda' fantais i'n merched a'n bechgyn ieuainc i berffelthio eu hunain mewn myfyrio, dar- llen, gweddio, canu, ao areithio, yn ystod misoedd y gauaf, ac yna bydded iddynt ymwroli i faes y frwydr yn nhymor yr a hyny nghwmni y Gwr a ddywed- odd, Ac wele yr ydwyf gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.' "0 na byddai i 'holl' dalentau a doniau yr eglwys gael eu dadblygu mewn gwasanaeth cysegredig i gydymdrech unol er enill yr esgeuluswyr. Nid yw ein cref- ydd o un gwerth 00 na fydd er daioni i'n cyd-ardalwyr. Oblegyd ni fedr dyn fyned

Advertising

[No title]

80 Per Cent.

Llwynypia.

Advertising