Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
30 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
30 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Derbynir Hysbysiadau Cymreig" <j i'r Ddalen hon. I I rR -4DR -e4Y G rMR JE Go Gwahoddir Gohebiaethau Dyddorol. I AT EIN DARLLENWYR. roneT pob gohebiaetb i'r GOLYGYDD CYMREIG, "Pioneer,"
DAN SYLW.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DAN SYLW. fEL DIHAREB. Hysbys yw'r ymadrodd Seisnig "From band to mouth," a'r cyfieithiad cyffredin o hono i'r Gymraeg yw "O'r llaw i'r genau." Eithr pert- iach o'r hancr yw cyfieithiad Cochfarf, "O'r dwrn i'r danedd." A « it GWYL COLWYN. Mae Cymreigdod Colwyn yn codi a'r gwynti Eisteddfodol yn lledu'r hwyliau yn hardd. Eis- oes ceir y pwyllgorau yn dethol testynau gyda dyfalwch, a cheir amryw wedi eu hawgrymu. Nid yw cyfanswm y gwobrau a gyrneradwyir uched ag mewn rhai Eisteddfodau eraill, ond da yw cadw lJinynau'r pwrs yn dynnion ar y dech- reu a chynilo yn ngenau'r sach. 1 H. BRYTHON HUGHES. Preswylia Mr H. Brython Hughes, cyfieithydd, "Brenhin yr Afon Aur," yn Llanelian. Treul- iodd flynyddau yn Lloegr, bu wedyn yn Mon, ar yn awr y mae'n llenydda'n ddiwyd yn y pi -tref tlws a nodwyd. Ysgrifenodd lawer i gylchgronau y wlad, ac nid oes ei weli am gyf- addasu hanesion ar gyfer plant. Nerth i'w fraich a'i ysgrifell lawer blwyddyn eto. it it it it LLAIS A.S. ARFON. Mynega cyfoesolyn Seisnig :Cydnabyddir yn dra chyffredinol mai llais Mr William Jones, A.S. Arfon, yw'r pereiddiaf yn Nhy'r Cyffredin. Y mae bron yn ddigon peraidd i beri i bobl gredu fod grym yn nadleuon y Rhyddfrydwyr." t UNDEB YR A.B.C. Oeir tri choleg yn cyfansoddi Prifysgol Cymru, sef Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd. AwycTda Syr Marchant Williams am weled undeb yr A.B.C. yn cael ei dori, a Deheudir Cymru yn meddu ei brifysgol ei hun. Sefyllfa arianol Coleg Caerdydd, meddir, sydd yn cyfrif fwyaf am y cwrs a gymhellir gan y Marchog Ilengar. it it • it it ANFOES CAERDYDD. Arferir credu mai Caerdydd yw Sodom Cymru, dd'dd ae yn 1 aill y niae'r troseddau a'r anfoes a. geir ynddi yn ddiharebol. Y dydd o'r blaen bu dirprwyaeth ar ymweliad a'r awdurdod sy'n; gwarchod dros y ddinas yn galw sylw at yr an- foes, gan grefu am fesurau i geisio dileu y llygredd. Fel y sylwodd bardd flynyddau yn ol, da fyddai pe ceid moddion er "Gyru y d: 1 o Gaerdydd," a newid arferion deiliaid ei dcyrnas liefyd. CENADWRI Y DIWYGIWR. Yn y rhifyn presenol o'r "Efengylydd" y mae* cenadwri oddiwrth Mr Evan Roberts at "blant y diwygiad," yn nghwrs pa un y dywcd y diwyg- iwr Anwyliaid,- Yr wyf wedi treulio canoedd o oriau mewn gweddi yn ystod fy arhosiad yn Lloegr. Yr wyf yn gwcled arwyddion clir o beth- au dymunol i ddyfod, a bod gweddiau dosbarth n illduol yn yr cglwys-y rhai sydd yn adnaboct el Duw a'i ffyrdd-yn prysur droi y frwydr. Y 'lawar i Mosc-s gyda*i freicli,'t-u i fyny ddydd mae i a nos. Mewn gair, y prif belh wyf yn ei wneud ydyw gweddio; ac yr wyf yn credu fod y diwyg- iad sydd i dori dros y byd yn agos. Parhewch i, weddio." It » it YMGYRCII WYDDELIG AR GYMRU. Yrnddengys fod arweinwyr y Blaid Wyddelig wedi penderfynu cario rhyfelgyrch cryf yn mlaen yn Nghymru a Lloegr yn ystod y gauaf dilynol. Bydd yr ymgyrch yn cael ei ddechreu yn Ngwrec- sam ar y 13eg o'r mis nesaf. Mr John Redmond ei hun fydd arwr y cyfarfod, yr hwn yn sicr a. fydd yn un gorboblogaidd. Yn gadeirydd bydd Mr Hemmerde, yr aelod dros Ddwyreinbarth sir Ddinbych. Yn bresenol bydd amryw aelodau Rhyddfrydig, megys Mr Clement Edwards, a Mr A. Mond, o Gaer. » # ADFYD CLERIGWYR. Esgob Truro, mewn anerchiad yn nghyfarfod cyllidol ei esgobaeth, dydd Iau, a ddywedodd mai testyn gofid iddo ef yw nad ydyw Eglwys Loegr, er mai hi yw yr eglwys gyfoethocaf yn y byd, yn rhoddi cynhaliaeth ddigonol i'w chlerigwyr, nao yn darparu bhvydd-daliadau iddynt yn eu hen- aint. » ft CLERIGWR HYBARCH. Y mae Canon Wynne Jones, rheithor Llany- mynech, a Mrs Wynne Jones, nev^j'dd ddathlu eu 52ain mlwydd o'u priodas. Cafodd Wynne Jones, yr hwn sydd yn 86ain mlwydd oed, ei or- deinio yn yr Iwerddon, a chydag un eithriad, efe ydyw y clerigwr hynaf yn esgobaeth Llan- elwy, ac y mae wedi bod mewn urddau sanctaidd am 63ain o flynyddoedd, a threuliodd 59ain o'r cyfryw flynyddoedd yn esgobaeth Llanelwy. y mae wedi gwasanaethu o dan dri o esgobion Llanelwy. n»X2S y
"Cymry yn yr Eidal."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Cymry yn yr Eidal." DARLITH GAN DR HARTWELL JONES. Dr G. Eaxtwell Jonea oedd darlnhydd cyfar- fod cynta'r tymhor l aelodau y l<ynwteithai GenedJaethol yn Manoeinion nos Wener. Mab yw Mr Jon i Edward Jones, o Lanrhaiadr-yin- Moohnant; e: daid oedd John Jones, y prmtar, Llanrwst; a'i hen daid oedd y Dafydd Jones, o Drofriw; ao y mae yntau, trwy ei ymchwiliad- 1 aeth hanesyduol, yn tori maxc ai ymdaith ei genedl, fel ei wehelyth. Testyn ei ddarlith oedd Footprints of y Welshmen ir Italy." Dangosodd fel yr oedd naturiokieb y wlad, a iymudiadau mawrion y ""n' yii sNN-?no a huci<) y C?-inry i gyineryd tri, dyd db ynddynt. ]Elefyd eth liuaws o ]E?ryr i' wlad yn garcharorion, ao y mae n r d ych Rtiufain n ohon o weit4 ad" l?a g(?rw. redoedd Ilawer ohorib-nt. Swynwyd y Cymry gan yr Ymherodmcth RLIF 'eidig, ac ymunodd -vvg o amxyw yn aelo-dau anii r fyddin. Gwagha- wyd (?lymru droion, gan acsen Wiedig yn y Bwydd3-n 383, 0 lawex o'i tlynion 4ewraf; trwy ymfudo 3,n ty4cidiTioedd. i zmddiffyn y wlad yno, rhoddod<i bi.)-ny farltais I oresg-yjawyr YD y wlad bon. Mae ysgrifau a barddoniaeth yr ban Gymry yn cyfeirio at bererindodau i Rufain ganddynt hwy neu eu noddwvr, a oheir profion fod tyrfaoedd o bererinion wedi gwneyd eu ffordd yno. Bu g'wleidyddiaeth eglwysyddol a cbrefydd, yn atdyniad cryt i'r Cymry i Rufain, ao yn mhlith y personau amlwg y sylwodd y darlibhydd arnynt yr oedd Caradoo, Gerallt Gymro, GriflBth Roberts, cyhocddwr geariaidur yn 1585, ac a wnaefh waith gwladgar hela,eth tra yn Rhufain; a John Dafydd Rhys, Llanfaethlu, athro oyhoeddus ao y&golor a radd- iodd yno; Owen Lewis a Morua Clynog; coll- odd y diweddai ei fywyd mewn llongddrylliad wrth ddychwelyd troes y blaenof ysbyty y pererinion yn goleg, a mawr fu nifer y Cymry a gyrchent yno am addysg". Terfynodd y dar- lithydd ei sylwadau trwy ddangoe gymaint oedd awKdd a dyhead y Cymry am oleuni a dysg, a dringodd Cymru trw-y lawer o anhawsderau, rhagfarnau, anwybodaeth, a siomiant; ond yn mlaen yr aeth, ao yn mlaen Yl. a. Siaradodd amryw bersonau yn y cyfarfod, a gofynodd Mr John Davies i Mr Hartwell Jones a ddaeth ef yn ei ymchwihad yn llyfrgolloedd Rhufain o hyd i ysgrifau yn rhoi ychwaneg o oleum ar y ch'Aedlau A.rthuraidd, so attbwyd ef yn nacaol. Mr Richard Williams. Pendle- ton, a ddymunodd am i r ysgrifau sjdd megis yn gyfiiniol yn y Vatican ag yd^nt yn dal oysylltiad a ni fel oenpdl, gael eu cyhoeddi ac i'r werin gael gafael arnynf. Ilysbysodd y d^litJiKdd iddo ddod o hyd i amryw ysgrifau p'r fath, ao fod yn ei fwriad eu cyhceddi-
Ysgol ar Dan yn Sir Fflint.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ysgol ar Dan yn Sir Fflint. Fore Llun, torodd tan allan yn Ysgol y Cyng- hor, Llaneurgrain, air Fflint. Daeth Tan Fri- gad y Wyddgrug yno'n fuan, ac ar ol gveithio'n galed am awr a haner llwyddwyd i orchfygu yr elfen ysol, ond nidi cyn iddo ddinystrio y to a'r holl ddodrefn y tu fewn i'r ysgol. Nid oes yn sefyll ond y muriau allanol. Dechreuodd ty yr ysgolfeistr befyd danio, ond llwyddwyd i arbed y rhan fwyaf o'r dodrefn. Cafwyd yr holl blant 1 ddyogelwch. Yr oedd yr ysgoj wedi ei hys- wirio.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae Rheithor Llandudno (Parch Llewellyn R. Hughes) yn treulio ychydig ddyddiau yn Mhal&i Glyn Garth, gydag Esgob Bangor.,
Llith Die Jones. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llith Die Jones. I R —- i ■■' BRWYDYR ETHOLIADOL CONWY. BRASLUNIAD O'R CADFRJDOGION. Dywedais yn fy llith yr wythnos diweddai fod dydd y frwydyr yn agoshau yn Conwy, a mi ryda ni wythnoa arall yn nes i'r dydd hwnw erbyn heddyw. Cyn y cyhoeddir "Pioneer" arall mi fydd y frwydyr drosodd, a heddweb yn tevrnasu unwaith yn rhagor yn yr hen dref. Yr unig beth fydd wedi ei adael i setlo'r helynt fydd dewis rhyw un i wisgo y gadwen aur am y flwyddyn ddyfodol. Yn ystod y dyddiau di- weddaf mae y ddwy blaid wedi bod yn egniol iawn, ac erbyn heddyw mae y naill ochr a'r Hall yn hyderus iawn o enill y dydd, ond gan nad yw'n bosibl i'r ddwy ochr enill fe allai y bydd ychydig sylwadau yn nglyn a'r etholiad yma yn ddyddorol. MAES Y RHYFEL. Ar -DI y rbagymadrodd svlwn vn gyntaf ar faes y rhyfel, yr hwnsydd yr? evn, ys 4703 o acer? a,o hefyd yn cynwys plwyfi Conwy, Gytfin, a Llanrhoo, yn mha rai mae tua 5470 o drigolion, ond allan o'r nifer yma nid oes ond 926 a hawl i bleidleisio yn yr etholiad dydd Llun nesaf. Mae yna afon yn flkedeg trwy faes y rhyfel, sef afon Conwy, sydd jn adnabyddus am ei chregin. Ar un ochr i'r afon mae yna 569 o blei.lUrss/yr, ac ochr Conwy, wrth gwrs, yw yr ochr yma.. Ar yr ochr arall, sef ochr Deganwy1 a'r Junction, mae yna 657 o bleidleiswyr. Mae pobl ochr Conwy yn talu trethi at gadw y tlodion ar y swm o 15,278p, ac at welliantau a phethau perthynol i'r fwrdeisdref ar y swm o ll,299p (gwertn trethian- 0'\ Mae tr golion Deganwy a'r Junction yn talu at gadw y tlodion ar y swm o 12,865p, ac at y fwr- ciji-drff a y swm o I0,040p. Fe!'y mi w» jwcb nad oes yna ddim rhyw lawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddwy ochr i'r afon, yn enwedig pan gofiwn fod ochr Conwy yn cynwys plwyf Gyffin. Tra mae ochr Conwy yn gallu ymffrostio mewn rnsto I ijfwr a bi'dms hanesyddol eraill, ii,a- Deganwy, ar yr ochr arall, vn perchen gystal mynydd "Spion Kc^j" ag a welwvd yn Affrica. Hefyd yn y Junction yna, mae yna fyddin o drethdalwyr yn hogi eu cleddyfau bob nos Lun. Mae y naill ochr bron cyn gryfad a'r llall. Mae y Rhyddfrydwyr wedi dewis dau ymgeisydd o ochr Conwy a'r ddau arall o ochr Deganwy a'r Junction, tra mac y Ceidwadwyr wedi dewis tri o Gonwy, a dim ond un o ochr Deganwy a'r Junction. Wel, dyna i chi ddesgrifiad o faes y rhyfel. Y CADFRIDOGION. Sylwn yn nesaf ar yr ymgeiswyr, neu yr ym- laddwyr i gadw at iaith y rhyfel. Mae yna bedair set yn wag ar y Council, a¡ mae y Ceidwadwyr eisio y podair. Mae y Rhyddfrydwyr mor farus a hwytha, achos maent yn ymiadd am yr holl seti gweigion. Felly mae yna wytb o gadfridogion dewr yn yr-ymladdfa. Gair bach ar bob un o'r ymgciswyr wrth eu nymbars. _n, -Mae h-,vn w(-d' i, -,i v nvj,-Iadd c'- ,be, 1. blaon, ac wedi cael ei guro, ond fe fu jyyt iawn iddo enill y tro diweddaf hefyd. Mae o yn ad- nabod y wlad yn dda iawn ar ochr Conwy, ond wn i ddim sut y daw o yn mlaen pan groesith o yr afon tua Deganwy a'r Junction. Pe basa yna fwy o ffevmwyr yn byw ar y maea mi fasa yn sicr o fod ar dop y poll, achos toes yna ddim oymaint ag un aelod ar y Council yn cynrychioli y ffermwyr ar hyn o bryd, a mi rydw i yn sicr sa fo y ba I'n ymladd drost?-nt byd at waed, pe bai yn angenrheidiol. Nymbcr 2.—Mae hwn yn hen ymladdwr, ac yn gwybod beth ydi enill a chael ei guro. Mi fu am amser yn arwain byddin y trethdalwyr yn Conwy. Mae o yn siaradw-r cvhoeddus ar- dderchcg, ac wedi cael profiad mawr gyda brwydrau. Er fod o yn byw yn Conwy mi fu ganddo fo rhyw gys7.11tiad a Byddin Trethdalwyr y Junction y flwyddyn ddiweddaf. Mi fuo ei dad o yn Faer Conwy ddwywaith, ac hefydt yn henadur. Mae y cadfridog hwn yn aelod o Bwyllgor y Llvfrgell yn bresenol. Nymber 3.-Dyma. un o'r dynion mwyaf pob- logaidd ar y maes, ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf mae o wedi rhoi amser mawr i weithio dros y trethdalwyr yn y gwahanol Councils a'r pwyllgorau. Tair blynedd yn ol etholwyd o i l Council Conwy ar dop y poll, a, gwnaeth waith da yno. Mae o hefyd yn cynryehioli yr ardal yn y Cynghor Sirol. Mi ddywedodd un yn y camp Rhyddfrydol y noson o'r blaen fod y cadfridog hwn wedi meddianu un ochr o'r afon iddo ei hun yn hollol, ac nad oedd dim iws treio ei gymeryd oddiarno. Yn ol fel rydw i wedi clywed mae yna rhywfaint o wirionedd yn hyn, neu felly 'roedd hi yn y lecsiwn diweddaf. Tydw i ddim yn meddwl am foment y ceiff o ei guro yn hon, ond yn ol yr arwyddion ni fydd ganddo ddim gymaint o fotea wrth ei gefn y tro yma. Nymber 4.-Dyma gadfridog poblogaidd arall. Mae ganddo brofiad mawr mewn ymiadd brwydr- au pohticaidd. Mi fu yn Faer Conwy am ddwy flynedd, a mi 'roedd o yn edrvch reit dda hefyd yn ei goat goch a'i gadwen aur. Er yn ddyn prysur mae o wedi rhoi llawer o'i amser i'r trethdalwyr. Mae wedi bod yn aelod o Council Conwy am ugain mlynedd. Nymber 5.-Dyma, 'rwy'n meddwl, y tro cyn- taf i'r cadfridog yma wneud ei ymddangosiad ar faes y frwydr. Pe basa hi yn myned yn rhyfel ar y dwr yn lie ar y tir mi fasa ganddo fantaia fawr ar y lleill. Mae o ynl dwad o hen stoc iawn. Nymber 6.-Mae hwn yn hen ymladdwr prof- iadol iawn, wedi bod yn aelod o Council Conwy am flynyddoedd lawer, ac wedi gwneud gwaith da dros y trethdalwyr. Mi fu yn faer y dref rhyw bum' mlynedd yn ol. Mae o yn aelod o Fwrdd Gwarclieidwaid Conwy. Nymber 7. Dyma gadfridog yn meddi; ar Ja'ost- fawr fel dyn o fusnes, a •lymon fe;!j eisio i edrych ar ol pres y trethdalwyr" ar y Council, ynte ymhobol i? Nymbar 8.—Wn i fawr i gyd am y cadfridog yma, ond mae o yn ddyn neis iawn, ac yn byw yn ochr Deganwy. Wel dyna i chi fras- luniad o'r ymgeiswyr mor bell ag yr ydw i yn piJ hadnabod nhw. 'Tydw i ddim m ihfwr/d wrtha chi sut nac i pwy i votio, ond fotiwch dros y dynion gored.
Masnach Lo De Cymru. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Masnach Lo De Cymru. LLEIHAD YN YR ALLFORION. Adroddir nad yw rhagolygon y fasnach lo yn Nelieudir Cymru yn addawol iawn ar hyn o bryd. Mae'r allforion yn farwaidd iawn. Deng- ys ystadegau fod 208,600 o dunelli yn llai o lo wedi ei alliforio o Abertawe, Caerdydd, New- port, a Port Talbot yn ystod y naw mis diwedd- af, o'u cydmaru a'r un amser y llynedd. Codir ILawer iawn mwy o lo nao sydd o alw am dano, ac mae aiifer y dynion sydd yn segur yn cyn- yddu; mae prisiau y glo yn syrthio ac mae'r cyf- logau yn sefyll yn uchel. Ni wvddis pa nifer o ddynion sydd allan o waith yn y Deheudir. Gadawodd 400 o ddynion eu gwaith yn Nglofa Blaenclydach, Tonvpandy, y dydd o'r blaen, tal- wyd ymaith 1500 yn rhanau gorllewinol Morgan- wg, mae yn agos i 15,000 o ddynion o dan ry- budd yn mhyllau y glo oaled; mae Glofa Gelli- hir yn Maesteg wedi ei chau; mae 1200 ar streio yn Llanbradaoh, nlM'r dynion yn nglofa Lady Windsor, perthynol i'r Ocean Coal Company, wedi oael mis o rybudd, ac mae glowyr amrai weithfaoedd yn ardal Trecvnon a Maesteg yn gweithio dan rybuddion oyffelyb. Er hyny oil, gwneir trelfniadau i godi glo ar raddfa eangach nac onoed o lawer or prif byllau; ac mae hyn wodi rhoddi bodolaeth o'r nowydd Pr cynygiad 1 rooloiddio y cynyrcfi o'r pyllau, ao hefyd i nifer y dyddiau gwaith, a phris y glo.
PLESER YN TROI 'N ENILL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PLESER YN TROI 'N ENILL. Y mae y Due « Westminster yn arfer rhanu yr holl symian delid gan ymwelwyr ag Eaton Hall yn ystod y flwyddyn rhwng Caer ao achos- ion eliwenot yn y rhanbarth. Eleni yr oedd y taliadau yn cyrhaedd 725p. Bydd y sefydliad- ,.u Iynol areu ni"tis:-Ybyay C .er, &50p; Cyn-ideithas Elusenol Caer, 80p; Cartref Merched a Thy Trugaredd, Caer, 50p bob an; YebyUy Alexan4dra, RhyL 40p; yn nghyda symiau W i sefydliadau cluf3enol eraa
Bwrdd y Lienori
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bwrdd y Lienori (GAN AFALLON.) Pob llyfr i'w adolygu a phob foheb'aelh i'r golofn hon i'w hanfon i—"Afallon," C ax ton House, Bangor. "ODLAU EIFION. Gan Cybi (awdwr "Ardal y Cewri," etc.). Pria Swllt. Pwllheli: Argraphwyd gan Richard Jones, Heol Fawr. Dyfal yw ysgrifell Cybi. Nid oes namyn ychydig fisoedd er pan roes ramantau "Ardal y Cewri" i'w gydwladwyr, ac wele gyfrol o'i farddoniaeth yn awr ar y bwrdd. Dywed yn ei ragymadrodd mai "detholiad o bethau byrion ydyw ar gyfer amynedd, moddion a meddwl fy mrawd y Gwerinwr." Ceir yn y llyfryu 128 t.d., yn cyn- wys agoa i 300 o ganiadau ac englynion ar am- rywiol destynau. Dyry orig felus o fwyniant i ganoedd ac yn ddiamheu ni rwgnach neb wario swllt am y fath arlwy. Nid hawdd yw lleoli Cybi yn mhlith beirdd ein gwlad. Er yn fynych fuddugol, ni ysgrifenodd ddim tra uchelgeisiol. Yn myd y delyneg semi a'r englyn pert y cartrefa, a dealla nod angen y math yma ar gerdd. Bardd gwlad ydyw, a phan yn canu ar destynau agos ato y ceir ei awen felusaf a chryfaf. Teimlir ei fod weithiau yn "gwthio gormod i'r dwfn" mewn ambell gan, ao mai gwell iddo ei hun a'r darllenydd fyddai oedi mwy gylch y glannau; ond ychydig o'r can- iadau hyn geir yn y llyfr, ac nid yw Awen ddi- antur yn deilwng o'i meithrin. Yn ei englyn ceir ergydion tra byw, a llawer cwpled megis di- hareb. Er hyn dylai oegoi ymadroddion fel "boreu traswyn," "talent ddisglaerlan," "gwely pruddfwyn," "gan draswyn." Nid yw ansodd- eiriau o'r fath yn chwanegu nerth na phryd- ferthwch unrhyw gynyrchion. Ceir hefyd duedd. i ganu'n or-gywrain, fel y teimlir nam ar y gynghanedd er yn eithaf diwall. Un diffyg arall a nodwn, sef nad oes fawr o drefn a dosbarth ar y modd y lleolwyd y detholion. Tecach fuasai ,,Iyni<>n ar walian, a dos- gos(>d y caniadau a?r eni, barthu y testynau fel y byddai y rhai o nodwedd cysegredig, gwladgarol, gwledig, etc., gyda'u gilydd. Wedi datgan hyn gallwn ganmol y llyfr o galon rwydd, canys ceir ynddo syniadau ,Fne,-u yn ddymunol. Ceir gwivr wedi eu m- llawer tant yn nhelyn Cybi, ond y sawt a dery fwyaf effeithiol yw tant gogan. Mae ei duchan yn ddeifiol, a chaiff ami gymeriad ac arferiad ddyrnod drom gan y bardd. Gwna hyny wrth ddesgrifio yn ddeheuig gan amlaf. Dyma batrwm :—I'r Marwnadwr:— Papur, a lliwiau, a sebon, Ansoddair, rhyfeddnod, a chri; Peiriant i wneud anfarwolion Dan ganu-am ddeuswllt neu dri. Hyderwn y caiff y Ilyfr ei hae-ddiant-pryniad rhwydd a'i ddarllen yn ystyr-bwyll, canys nid chwilio gem a chael gwmon" y bydd neb a wnelo hyny.
Nodion o Glip y Gop.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodion o Glip y Gop. (Gan Wil y Gweithiwr). M A R W OL A ET n MR WILLIAM BTJLCOCK, Y.H. Disgynotld prudd-der yn mysg llawer yn y eyfRniau hyn pan dderbyniwyd y newydd am farwolaeth v boneddwr uchod. Nid yn unig yr oedd Mr Bulcock yn boblogaidd yn mysg ei weithwyr yn Chwarelau Gwespyr, yr oedd hefyd yn wr poblogaidd yn mysg dosbarthindau eraill yn yr ardaloedd hyn. 0 ran ei ddaliadau gwl- eidyddol, Ceidwadwr selog ydoedd, a bydd yn gollod fawr i'r blaid hono am ei wasanaeth. Hefyd, yr oedd yn meddu talent at ddadganu, a phob amser byddai rhyw achos da yn gofyn, help, ni byddai neb parota.ch nag ef i gymeryd rhan yn ei ddygiad yn mlaen. Gwnaeth lawer o ddaioni yn y cwmpasoedd hyn tra bu byw, a theimlir bwlch o'i golli o'n mysg. Cydymdeim- lir a'i deulu yn eu profedigaeth ddofn. "••»»» CENHADAETH YR EGLWYS SEF- YDLEDIG. Yn mwrdd diweddaf Cynghor Gwledig Tre- ffynoni, derbyniwyd cynllun oddiwrth y Parch W. Lloyd Protheroe, fioer Llanasa, o ystafell genhadol, wedi ei chynllunio o haiarn, a bwr- iedir ei gosod i fyny yn Gwespyr. Rhoddodd y Cynghor eu cymeradwyaeth iddo. • m « « ER ARBED CAMDDEALLTWRIAETH. Hysbysir fod Mr Wheway, china dealer, Pres- tatyn, wedi cael archef am gant o gwpanau ar gyfer plant Trelogau, er cof am agoriad yr ysgol newydd, ac hefyd braidd yr un nifer ar gyfer plant Gwaenysgor i'r un amcan. Gan ei fod' yn hysbys mai y Cynghorwr Mr A. M. Rallf sydd yn anrhegu Trelogan a hwy, dym- unir arnom hysbysu y telir am danjTit yn Gwaenysgor allan o weddill arian sydd mewn llaw o drysorfa agoriad yr ysgoI. Bydd i hyn o eglurhad arbed caniddealltwriaeth. G WELLIANTAU. Dywedir fod plwyfolion Dyserth dan rwymau diolchgarwch i Mr J. Owen, Wern House, am wellhau darn o ffordd sydd yn arwain- i Tan-y- FocI, yr hon ar nosweithiau tywyll oedd yn bur beryglus i deithwyr a chcrbydau. Eisieu mwy o bobl y gwelliantau sydd arnom yn mhob ewr o'r wlad. it it I CANU. Y mae yn bleser1 genyf hysbysu fod cyfeillion Dyserth yn adnewyddu eu nerth mewn cerddor- iaeth. Y maent wedi sefydlu cor 0> dan yr enw Heilin Male Voice Choir, a'r arweinydd ydyw Mr Ernest Hughes, Bryn; ysgrifenydd, Mr Bernard Parry; yn nghyda thrysorydd, Mr Ed- ward Humphreys. Bellach, os bydd rhywun yn holi pa sut y mae pethau yn dyfod yn mlaen yn Dyserth, gellir ateb ei bod yn dyfod yn mlaen dan ganu. Dymunwn Iwyddiant i'r cor. 0 9 0 0 t Y BOBL ALLAN 0 WAITH. Nid oes enw mwy hysbys yn yr ardaloedd hyn nag enw Syr Charles MacLaren, priod Lady MacLaren, yr hon y mae ei hystad yn cyrhaedd o Laxv-y-mor, Prestatyn, gan belled a'r Cwm. Fel eraill o ddynion mawr, y mae Syr Charles wedi traethu ei farn yn Bed helaeth mewn ys- grif o'i eiddo ar y rhai diwaith. Yn benaf, ei gynllun ef ydyw peidio gweithio dros amser, a pheidio gor-brysuro gyda "contracts" mewn am- serau prysur. Tybia y gellid oedi llawer o bethau hyd amser marwaidd, ac felly estyn gwaith mewn amseroedd drwg; hefyd, tybia y boneddwr hwn y gellid gwella amgylchiadau y dosba,rth hyn trwy sefydlu rnan-dyddyncod.. ft v BUWCH GAMPUS. Enillwyd gwobr gan, fuwch 3m Tunbridge WeJls, yr hon yn -,Y.tod podair awr-ar-hugain a rocl,dodd uwchlaw 71 galwyn 0 laeth, ac wedi 2 tynu yr hufen, cafwyd fod yr ymenyn yn pwyso 7 bwys a 12 wns. Yn sicr, pe buasai gan bob gweithiwr fuwch mor faethlon a hon, gallasent ymdaraw yn lied dda pan allan o waith, ac hefyd talasai yn dda am ei chadwraeth. » » • Y BOBL FWYTADWY. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, danfonodd Denmarc i'r deyrnas hon 1,818,811 canpwys o ymenyn, 1,800,000 canpwys o gig moch, a 420,000,000 o wyau. Os oes rhai yn cael rhy fach o foethau i'w bwyta, y mae eraill yn, cael gormod.
Eglwysdy Newydd yn Llanelwy.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Eglwysdy Newydd yn Llanelwy. Dydd Sadwrn; aed trwy y ddefod o osod sylfaen Eglwysdy newydd yn Llanelwy, gan Mrs Ed- wards, priod yr Esgob. Yr oedd yr Esgob a'r Countess Dundonald yn breseaol. Cyflwynodd un o blant yr Ysgol Genedlaethol y swm o 20p i Mrs Edwards ar ran disgyblion yr ysgol. Casglwyd y Bwm gan y plant trwy gynal cyfar- fod amrywiaethol. Cyflwynwyd y tir i adeiladu yr Eglwysdy arno gan y Dirprwywyr Eglwysig, a bydd cyfanswm y draul yn 1200p. Cadeirydd y Pwyllgor Adeiladu yw Mr H. S. Stock, a chyflwynodd dywel arian ac ifori i Mrs Edwards. j)!f) t ttf
Marwolaeth Ynad yn 5ir Fflint.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth Ynad yn 5ir Fflint. 'Hysbysir mlarwoiaeth Mr WiUiam Buloock, Gwespyr, ger Prestatyn, yr hyn ddigwyddodd ddydd Gwener wedi maith waeledd- Fel per- ohenog obwarel, yr oedd yn cadw llawer o weitlhwyr yn yr ardal. Yr oedd yn boblogaidd gljda phob dosbarbh. Bu yn ynad heddwch droa Sir Fflint am amryw flynyddoedd. Yr oedd yn Eghvyswr selog, ac yn Geidwadwr blaenlTaw. Yr oedd yn gerddor da, ao yr oedd galw mawr am dano i ganu mewn cynghorddau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ddydd lau cyflwynwyd;"?iiwr i'r Rhing- yll H. Jonee-Peewg, Colw ty?? beddweis I ardal Colwyn Bay ar ei ymadawiad i Abergele. Cyflwynwyd yr aurbeg gaa yr Heddwas Owen.
Newyddion Dyddorol. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion Dyddorol. MAER NEWYDD BANGOR. Mewn cyfarfod o Gynghor Dinesig Bangor, a gynhaliwyd nos Ian, penderfynwyd dewis Mr H. C. Vincent, o ffirm y Mri Lloyd Carter, Vincent, a'u Cyf., yn faer y ddinas am y flwyddyn nesaf. ETHOLIADAU CANADA. Fel canlyniad xx etholiad cyffredinol yn Canada, dychwelir syr Wilfrid Laurier eto i aw- durdod gyda mwyafrif o tua 50—llai o ddeg na. phan etholwyd ef o'r blaen, IAWN MAWR AM ATHROD. Yn Llundain, ddydd Mawrth, dyfarnwyd 23,000p iawn i'r Mri Edward Cook a'u Cwmni, Cyf., gwneuthurwyr sebon, am athrod a gy- hoeddwyd gan Gwmni y Newyddiaduron. MAN-DDALIADAU YN NGHYMRU. Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd Mercher, hysbys- wyd Mr R. Harcourt, ar ran Bwrdd Amaethydd- iaeth, fod 12,000 o aceri o dir, 600 o aceri o ba rai sydd yn Nghymru, wedi eu meddianu gan y Cynghorau Sirol o dan Ddeddf y Man-Ddaliadau. MASNACHU AR Y SUL YN MANGOR. Yn Llys Ynadon Bangor, ddydd Mawrth, dir- wywyd W. T. Parker, High-street, i 2s 6c a'r costau am agor ei shop ar y Sul. Cydna.byddid fod y shop yn agored, ond credai y diffynydd fod hyny yn gyfreithlon. LLADRAD BEIDDGAR. Cymerodd lladrad beiddgar le ar adeiladau'r Mri Debenham a Freebcdy, Wigmore-street, Llundain. Cymerwyd gwerth 5000p o emau oddiyno. Llwyddodd y lladron i oegoi nifer o wylwyr noeawl, ac nid yw swyddogiou Scotland Yard hyd yma wedi dyfod o byd iddynt. MALU FFENESTRI A'R GOSB. Yn Llanrwst, ddydd Llun, caed James Smitii, hocer, yn euog o dori ffenestri y Victoria Hotel, a dirwywyd ef 10s a'r costau. Dywedai iddo fod yn hogi pedair llif' am bedair awr, a thair cein- iog a gynygiwyd iddo am ei boen. Parodd hyn iddo gythruddo a malu'r ffenestri. CYTHRWFL MEWN OYFARFOD. Mewn cyfarfod yn Poplar, Llundain, nos Lun, pan oedd Mr Sydney Buxton, y Postfeistr Cyffredinol, yn anerch, aeth yn anrhefn mawr,, a bu'r dyrnau b ir. Bu r 'd tro' cyn ?ni ryst U.,O, ai d i ainryw allan v ga la Mr B fyn yu miaen gyda'i araeth. CWMNI AGERLONGAU LERPWL A GOGLEDD CYMRU. Yn nghyfarfod blynyddol y cwmni uclcd, ddydd Mawrth, sylwodd Mr H. Maclver, y cadeirydd, fod y derbyniadau oddiwrth deithwyr wedi Heihau yn ddirfawr trwy ddirwasgiad mas- nach a thywydd drwg. Rhoddid elw o ? v cant ar y cyfranau. TYSTEBU TIR ORUCHWYLIWR. Dydd Llun, yn nhref Caerfyrddin, cyflwynwyd i Mr Richard Macauky Thomas, yr hwn a yma^ dawodd o'r dref yn mis Mehefin i fyned yn brif oruchwyliwr Ystad Syr Watkin Williams Wynn, Bar., Wynnstav, amryw anrhegion ar ei ymadaw- iad o'r dref, lie bu am ugain mlynedd yn glero trefol. FICER NEWYDD LLANEURGAIN. Mae ficeriaeth Llaneurgain wedi cael ei derbyn gan y Parch Thomas Herbert Vaughan, ficer Glyndyfrdwy. Mae Mr Vaughan wedi graddio yn Ngho!eg Dewi Sant, Llanbedr, ac ordeiniwyd ef gan Esgob Llanelwy yn 1887. Bu yn gurad yn Colwyn a Rhyl, ac yn Ficer Glyndyfrdwy er 1900. Gwerth bywoliaeth Llaneurgain ydyw 200p a thy. BWRDD MASNACH A'R DI-WAITH. vVrf' do-ri tywarchen gyntaf d\vf." proacl. i'r Metropolitan Water Board, ddydd Sadwrn, dy- wododd Mr Burns fod Bwrdd Llywodraeth Leol ar hyd y tair blynedd diweddaf wedi argvaphu ar gyrph cyhoeddus y priodoldeb o ymgymeryd *thiaii cvhooddL,,A ar t,(Ie,?au o ddir-wo.g- a u gwe' iad masnaehol a phan y byddai prinder gwaith yn eu hardaloedd. LLAID-GODWR MWY A'R BYD. Ddydd LIun gwthiwyd y "dredger" fwyaf yn y byd i'r dwfm yn ngweithiau y Tranmere Bay Development Company. Mae'r llestr fawr, yr hon oedd y gyntaf i gael ei throi o'r yard newydd hon, wedi ei hadeiladu ar orchymyn y Mereey Docks and Harbour Board. Mae ganddi alia i godi graian yn ol 10,000 o duneill mewn deg munud a deugain. DAMWAIN I FRENHIN A BRENIIINES I SPAEN. Tra yr oedd Brenhin a Brenhines yr Yspaen yn croesi y porthladd yn Barcelona, ddydd Uun, gwrthdarawodd agerlong yn erbyn y eweh a'u oludai. Yr oedd y gwrthdarawiad yn un ffyrnig, ond, diolch i fedrusrwydd dwylaw y cwc-h, oflgo- wyd niweidiau difrifol. Yr oedd y Brtnhin a'r Frenhines yn bur hunan-feddianol, tra yr oedd urddasolion eraill ag oedd gyda hwynt yn bur gynbyrfus. Y DDIRPRWYAETH AT MR BURNS. Wedi ymweliad ofer "dirprwyaeth ddi-waith" a thy Mr John Burns, anerchwyd cynulliad ar Gomin Clapham, ddydd Sadwrn, gan aelod o'r Blaid Lafur Annibynol, yr hwn a ddywedodd na ddylai'r di-waith ymddiried gormod yn eu har- weinwyr, ond dylent ymwroli ac ymiadd dros eu hawliau. Ac am Mr Burns, dylent ymweled ag ef dair gwaith y dydd a thynu x-maith glicied ei ddrws. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL COLWYN BAY. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol yr uchod nos Fawrth, y Parch Meredith J. Hughes yn llywyddu. Cymeradwvai y Pwyllgor Llen- yddol y testynau canlynol: "Ednyfed Fychan," "John Bunyan," a'r "Brenhin Iorwerth VII.' Cymeradwyid hefyd nad oedd yr un aelod 0 bwyllgor i fod yn ymgeisydd. Awgrymai y Pwyllgor Cerddorol fod 200p i gael ei roddi yn ddwy wobr yn y brif gystadleuaeth gorawl; 5i0p yn yr ail, a 35p i'r seindyrf. Nid oedd cyfan- swm y gwobrau yn yr adran hon ond 473p. Cymeradwyid yr ail wythnos yn Medi fel amser cyfaddas i gynal yr wyl. TRENGHOLIAD YN LLANDUDNO. Dydd Mawrth eynhaliodd Mr Pentir Williams, y crwner dros Arfon, drenghotiad yn Llandudno, ar gorph Mrs Ida Bessie Williams, 29ain mlwydd oed, priod Mr Henry Davies Williams, chweg- nwyddwr a phobydd, Caerwys, yr hon oedd ar ymweliad a'r dref. Cafwyd Mrs Williams tuag unarddeg o'r gloch nos Sadwrn ar lawr ei hys- tafell-wely. Galwyd Dr. Kenriok Davies i mewn, yr hwn a ddywedodd ei bod wedi marw. Yn ol ei farn ef yr achos o'r farwolaeth ydoedd diffyg gweithrediad y galon. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn unol a'r dystiolaeth feddygol; a phasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad ganddynt a'i gwr a'r teulu. PRIODI CHWIORYDD 'YR UN DYDD. Ddydd Iau, yn Eglwys Bryanston-street, Llun- dain, cymerodd priodas le rhwng dwy ferch Lieut. W. G. Eden, R.N., o Tanygraig, Porth- madog. Unwvd Miss Constance Eden gyda Mr Percy Fairbairn, Eltham, a Miss Norah Eden gyda Mr Edward Andrewes, Mor Anedd, Porthmadog. Rhoddwyd Miss C. Eden ymaith gan ei thad, a Miss N. Eden gan ei chefnder, Mr Eden-Dickson. Gweinyddwyd gan y Parch J. E. Williams, ficer Porthmadog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch F. R. Fairbairn, Parch B. Dulley, Parch F. L. Boyd, a'r Parch A. Molineaux. Caed y wledd yn y Langham Hotel. Yn ddiweddarach ymadawodd Mr a Mrs Fair- bairn am Como, a Mr a Mrs Andrewes am Bruges. Mr David Breese, Clerc yr Heddwch dros Feirionydd, oedd y gwas i Mr Andrewea. MERCHED Y BLEIDLAIS. Yn Heddlys Bow-street, ddydd Sadwrn, gor- ch, ii, rwyd i Mrs Pankhurst a Mrs Drrimmrnid, y rhai a wysiwyd ar gyhuddiad o geisio anog torf i "ruthro" Ty y CylFredin, i gael eu rhwymo i gadw'r heddweh am ddeuddeg mis neu fyned i garchar am dri mis. Am ddeng wythnoa yr oedd Mrs Pankhurst i fyned i garchar os na chy Dvwedodd Mrs Pank- ,.Zerai lei rhwymo." y byddai iddynt fyn,-d i gamhar, a rhodd- wyd cymeradwyaeth uchel iddynt fel ag yr elent o'r llys. Yn Llundain, ddydd Llun, rhwymwyd Mrs Eleanor Gaskell a Miss Annie Smith i gadw'r heddwch. Y cyhuddiad yn eu herbyn ydoedd iddynt beri rhwystr yn Picadilly Circus. Mewn cyfarfod yn y Brifddinas, yr un dydd, dywedodd Mrs Pethick Lawrence nad oedd arnynt hwy, ferclied y freinteb, ofn unrhyw Lywodraeth, pa mor gryf bynag y bo, nao unrhyw wrthwynebiad, pa mor anymunol bynag fyddct. i
Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn Pensarn, Hydref 21ain. Llywydd, Mr Evan Owen, Beth- lefiem. CYFARFOD Y BOREU. Dechreuwyd gan Mr Evans, Deganwy. Nod- wyd i archwilio'r cofnodion, Mr Edward Ro- berts, Colwyn, a Mr Williams, Talybont. Hys- byswyd fod llytbyrau wedi eu derbyn yn cyd- nabod cydymdeimlad y C.M. Datganwyd cyd- ymdeimlad y C.M. a Mr David Jones, Hebron, mewn profedigaeth; ac a Mr Edward Owen, Bethania, Llandudno, mewn gwaeledd. Cafwyd adroddiad o Gymdeithasfa Caernarfon gan Mr W. G. Williams, Conwy. Galwyd sylw y C.M. at y cenadwriau o'r Gymdeithasfa yn nglyn a— (1) Dyledicn capelau, (2) y Sabboth dirwestol, (3) yswiriant capelau, (4) argruphiad newydd o'r Beibl Cymraeg, (5) y drysorfa gynorthwyol. i dd'od a'r genadwri hon o flaen y P-i,VV.i p r I C'. -11. an dtlaw v adeg wneud v casgliad blynyddo at y dn?sc,fa ga-northwvol. Cafwyd hanes yr achos a phrofiad y swyddog- ion yn Mhensarn, dan arweiniad Mr John I Jones, Penoros. Yr oedd yr oil o'r swyddogion yn nghyda'r gweinidog yn bresenol. Llongyf- archwyd yr eglwys gan y C.M. oherwydd yr adroddiad c-ysurol am safle yr achos yn Mhen- sarn. Nodwyd y Parch W. E. Williams a Superin- tendent Rees i ofaJu am y casgliadaa. Derbyniwyd y blaenoriaid canlynol yn aelod- au o'r Cyfarfod Misol :-0 Hebron, Colwyn: Mr David Parry Jones, Mr William Parry, a Mr Robert Jones. 0 Llanelian: Mr David Evans a Mr Joseph Jonea. Y maes holi oedd "Qj-fansoddiad a hanes y Cyfundeb," a holwyd hwy yn y maes gan y Parch J. O. Jones, Gyffin. Holwyd hwy am eu profiadau gan y Parch Owen Evans, Colwyn Bay. Wedi i'r Llywydd ofyn y cwestiynau arferol idd- ynt, derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yna traddododd y Parch William Thomas, Llanrwst, v cynghor iddynt. Diwedd- wyd gan Mr Roland Williams, Seion, Colwyn Bay. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Dechreuwyd gan Mr John Hughes, Eglwys- bach. Cadarnhawyd y cofnodion. Hysbyswyd fod#y C.M. nesaf i'w gynal yn Bethlehem, Col- wyn Bay, Taehwedd Cadarnhawyd yr hyn a ganlyn o adroddiad y Pwyllgor Dirwestol: "(1) Fod yr Ysgrifenydd i gyflwyno adrodd- iad yn y Cyfarfod Misol nesaf o hanes yr achos dirwestol o fewn cylch y C.M. (2) Anerchiadau ar Ddirwest i'w rhoddi gan Mr John Evans, Deganwy, a'r Parch De Charles Evans, F.G.S." Cyflwynwyd y gweddill o'r adroddiad i vstyr- iaCth bellach y Pwyllgor Dirwestol, ac i "dd'od gerbron yn y C.M. nesaf. Rhoddodd y Parch John Edwards adroddiad am y G-ynhadledd Seisnig gynhaliwyd yn Col- wyn Bay. Penderfynwyd anfon gwahoddiad i'r Prifathraw Prvs dd'cd i Gyfarfod Misol Rhag- fyr, ar ran y Forward Movement. Pasiwyd ar- graphu y tafleni cyhoeddiadau 1909 yn unol ag adroddiail Pwyllgor Tafleni y Cyhoeddiadau. Cafwyd trafodaeth ar y cynllun i gael blwydd- dal i hen weinidogion. Agorwyd y drafodaeth gan ilr David Jones, Llwynfryn; a chymerwyd rhan bellach ynddi gan v Parch Robert Wil- liams, M.A., Mr Roland Williams, Mr W. F. Jones, y Parchn. Evan Davies, Lewis Williams, T. M. Jones, a John Edwards. Pasiwyd "Ein bod yn cymeradwyo cgwyddor y cynllun, yn nghyda'i brif linelku, ond yn rradael manvlion y cynllun i vstyriacth bellach Pwyllgor y Gym- deithasfa." Cadarnhawyd adroddiad Pwyllgor y Cenadwri- au:—"(1) Enwyd v Parch W. E. Williams, Taly- bent, i arwain gyda bane2 yr achos a phrofiad y swyddogion yn y C.M. nesaf. (2) Penderfvn- wyd mai doeth fyddai cy3wvno y gfnadwri o esrlwyg Moriah i sylw cyfarfod dosbarth Colwyn Bay, gan ofyn i'r cyfarfod dosbarth gyflwyno adroddiad ar y mater i'r Cyfarfod Misol nesaI. M) Eto, i wneud ymchvviliad i achos swyddog o'r Gyffin: y Parchn. Owen Evar.s. Robert Wil- liams, M.A., a Llywydd y C.M. (5) Rhoddwyd caniata/d i eglwys Pandy Tudur gael benthyg .V_ g-N,e'throdo<xid tv -we;ni<iog e7lwvs LlaTLsaut- ftrai? 1'w i-boi y gist-. (7) C-?f,73'-nwyd nayn yn I aiianol 5Cp i'w ddinystrio o eglwys Brynpydew. (8) Rhoddwyd caniatad i eglwys Ebenezer gaoel arwyddo dau nodyn arranol—un am lOOp, a'r llall am 50n. (9) Enwyd v Parch S. T. Jones i g.ynrychioli y C.M. yn y Gynhadledd yn nglyn a dadgysylltiad sydd i'w chynal yn Llundain, Tachwedd 12fed." Cafwyd sylw ar-y casgiia.d at yr yspyttai. Hysbysodd y goruchwyliwr ei fod yn derbyn cwynion yn barhaus oddiwrth y pwyllgor yn Lerpwl oherwydd bychander y casgliad o Og- ledd Cymru. Darlknwyd cylch-lythyr oddiwrth y pwyllgor ar y mater. Gofynwyd i'r goruch- wylwyr anfon at y pwyllgor i ofyn am eglur- had pellach ar gynwys y cvlch-lythyr. a rhodd- wyd cymhelliad cryf i'r eglwysi i fod yn ffyddlon i gasgliad yr yspyttai. Ilysbvswyd gan yr Archwilwyr fod llyfr^i vr eglwys yn cael eu cadw yn foddhaol. Darllen- wyd rhestr y ca^gliadau. Diweddwvd gan y Parch T. J. James. Prcgethwyd gan y Parchn. H. H. Roberts, R A T. t ni'H, S T Jones, a T. Charles Williams, M.A. f
Cymru ac Yspyttai Lerpwf.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymru ac Yspyttai Lerpwf. Y mae pwyllgorau rhai o Ysbyttai Lerpwl wedi penderfynu, oa na dderbynir mwy o gyn- orthwy arianol o Gymru, y bydd iddynt gau eu drysau yn erbyn cleiflon Cyinreig. Achc?sa hyn, w r g -n' th m gryn anesmwythyd vn Ng,)g?--dd Cymru yn neillduol. Ond i bawb oedd yn talu sylw i amgylchiadau yr ysbyttaii yr oedd yn amlwg mai i hyn y deuai yn y diwedd. Fel y mae yn wybyddus, y mae llawer iawn o gleifion o Gymru yn cael eu cludo i ysbyttai Lerpwl i dderbyn triniaeth oddiar law gwyr cyfarwydd, ond, y mae yn resyn dweyd nad yw y gefnog- aeth arianol geir o Gymru yn agos ddigon i gyfarfod y gost yr eir iddi gyda'r! cleifion Cym- reig. Yn nghyfarfod diweddaf Gwarcheidwaid Cor- wen, dygwyd y mater i sylw gan Mr John Wil- liams, yr hwn a ddywedodd fod dwy ysbytty yn unig yn Lerpwl yn derbyn 450 o gleifion; Cym- reig, ac yr oedd y costau yn nglyn a hwy yn 1600p, tra na chyfrenid ond 300p o'r swm yma gan Gymrn. Apeliai Mr Williams ar i bob Undeb yn Ngogledd Cymru wneud rhodd o'r trethi er cefnogi ysbyttai Lerpwl. Pe byddai yr ysbyttai yn gwneud fel y bygythiant, byddai yn rhaid i'r awdurdodau cyhoeddus yn Nghymru ddarpar a dodrefnu ysbyttai eu hunain. Costiai hyny filoedd o bunau, ac yn ddiambeu codai'r trethi, neu fe fyddai yn rhaid cael yr arian drwy danysgrifiadau gwhrfoddol. Yn sicr, y mae yn ngallu yr eglwysi i wneud y cyhoedd yn fwy byw i'r mater hwn, oherwydd y mae swm mawr o'r tanysgrifiadau yn dyfod drwy eu llaw hwy. Fe ddylai Cymru er ei mwyn ei hun ystyried) y mater yn ddifrifol, a phenderfynu rhoddi mwy o gefnogaeth i'r ysbyttai yn y dyfodol, ac felly osgoi y canlyniad a u difrifol fuasai yn deilliaw oddiwrth rwystro y cleifion o Gymru gael myn- ediad i'r sefydliadau bendithiol hyn. UIB—HMEM—
Cofeb Mr Samuel Smith.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cofeb Mr Samuel Smith. Mae'r goft?b ir diwe?,,Idar Wir Anrhvd. Samuel 1* w Smith, A.S., yn Sefton Pa k, Lerp-1, bron a chael ei gorphen. Fe gofir i Mr Smith farw yn sydyn yn yr India, tra mewn cyniiadkdd bwysig yno. Mae'r gofeb yn cael ei chodi yn y paro yn y fynedfa o Croxteth-road, a dygir y draul drwy danysgrifiadau cyhoeddus. Mae yn gof- adail hardd o farmor gwyn, a bydd iddi adgoffa ymwelwyr a'r pare o aniryw weithredoedd da Mr Smith er lies y cyhoedd a'r tlawd pan yn trigo yn Lerpwl.
Cymdeithas Ddirwestol EsgobaethI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymdeithas Ddirwestol Esgobaeth Llanelwy. Cynhelir cyfarfodydd blynyddol y gymdeithas ucbod yn Trallwm, dydd Iau, Taehwedd 5ed. Llywyddir gan yr Esgob Edwards, a chvmerjr rhan gan y Parch J. P. Lewis, rheithor Llanys- tumdwy.
Marwolaeth Clerigwr Cymreig.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth Clerigwr Cymreig. Cofnodir marwolaeth y Pribendari Garnons Williams, Abercarnlais, Sir Frycheiniog, yr hyn a gymerodd le nos Sadwrn, ac efe yn 78 mlwydd oed. Yr oedd yn wr uchel ei barch a'i ddylan- wad yn y De.
YSGRIN GOFFADWRIAETHOL ARGLWYDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSGRIN GOFFADWRIAETHOL ARGLWYDD PENRHYN. Trefnir i fyned trwy ddefod y cyfiwyno yn nglyn ag ysgrin dderw gerfiedig sydd wedi cael ei chodi er cof am y diweddar Arglwydd Penrhyn, yn Eglwys Gadeiriol Bangor, ar y lOfed o fis Taehwedd. Cymer gwasanaeth Saes- neg le yn y prydnawn, a phregethir ynddo gan ft Esgob. Bydd gwasanaeth C^ymraeg yn yr wyr, pryd y pregethir gau y Deoo.
Swyddfa Cofrestru y 44 Pioneer."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Swyddfa Cofrestru y 44 Pioneer." CYNLLUN NEWYDD. Ar tudalen 12 o'r "Pioneer," yn mliiith y man hysbysiadsju, ceir mynegiad dydd- arrfonir ar nos Wener restr O'T rhai sydd yn orol acn gynllun newydd a ddygir genym i weithnediad, trwy yr hwn y cynorthwyir moistresi i ddod o hyd i fcrwynion a mor- wynion i sioriuiu Ueoedd. I bawb a ddan- fonant hysbysiad t r "Pioneer" am forwyn, hysbysebu yn ein oolofnau am leoedd. Trwy hyn dygir meistresi a mcrwynion i gymundeb buan a'u gilydd tnvy hysbysebu yn y "Welsh Coast Pioneer. Ni chodir unrhyw dal am hyn ac eithro y tal am yr hysbysiad.
Cymdeithas Cymmrodorion Caerwrangon.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymdeithas Cymmrodorion Caerwrangon. GWYL DIOLCHGARWCH: GWEITHRED- IADA U DYDDOROL. Y mae y gymdoithas uchod wedi ei sefydlu er's tua phum' neu chwe' blynedd, ac er's tair blynedd cynhelir o dan ei nawdd gyfarfod di- olchgarwch am y cynhauaf yn yr hen iaith, a dydd Iau diweddaf cynhaliwyd y drydedd wyl yn Eglwys Pedr Sant, Caerwrangon (Worcester). Yma helyd y cynhaliwyd y cyntaf, prydi y caw- som wasanaeth cymeradwy y Parch Canon Williams, B.D., periglor Jeffreystone, swydd Benfro; yr ail a gynhaliwyd yn Eglwys St. An- drews, Droitwich, pryd y daeth i'n gwasanaethu y Parch George Salt, pryd hyny rheithor laan- f roth en, ond yn awr Bodfean, Lleyn ac eleni, daeth i'n gwasanaethu Ficer poblogaidd Dewi Sant, Llynlleifiad. Cawsom dywydd hafaidd, cynulliadau rhagorol, a phregethau effeithiol gan y Parch J. Davies, A.C. Yr oedd yn bresenol y clerigwyr cazlynel- on yn Gymry i'r earn:- Y Parchn. E. Lewis. B.A., rheithor Hampton Lovett (llywydd cyntaf y gymdeiihas); G. G. Williams, B.A", rheithor Chadeslev Corbett; Capten Daviee, B.A., Gwallgofdy Powyck; W. Davies, B.A.. rheithor Rushock; Caplan Conan Davies, B.A., Pedr Sant; J. Trehearne Phillips, B.A., curad-mewn- gofal, Wychbold; a WoIseley Lewis, M.A., Mal- vern. Cymerth yr oil o honynt ran yn y gwasan- aethau, y prydnawn a'r hwyr. Yn y cyfwng rhwng y gwasanaethau yr oedd gwledd o de wedi ei pharotoi yn Ystafell Gen- hadol yr Eglwvs, yr hwn oedd wodi ei drefnu gan Mr J. E. Jones, fferyllydd, ond yn ei absen- oldeb yn Caerludd ar fusnes pwysig, perthynol i w fasnach, arolygw yd v trefniadau gan Mr Walters, Corn Market, a Mr Lewis, St. John's. Yr oedd Mr Jones yn un o gychwyn^wyr v gvrn- deithas, ac y mae wedi gweithio yn egniol o'i phlaid. Ar ol clirio y byrddati. cymerodd Llvwvdd y gymdeithas, Mr A. Lloyd Evans (Llyg, Storridge, Malvern, y gadair, ac yn ei anerch- iad, Ilongyfarühodd y gwyddIoddion yn galon- og ar Iwyddiant y gweithrediadau, a llawenhai weled cymaint o wynebau dyeithr yn eu plith. F,-tynai ddeheulaw evnidei??.as i'r b ocdd-nt new? ,yry i'r ardal sef rheithoriai? Clwldelese:7 0(>rbett a Rushe?ck" ond gofidiai nad allasai y Parch H. L. James, di- weddar warden yr Hostel yn Mangor, ac wedi hyny rheithor Llangefni, fod yn bresenol, oher- wydd ymn* ymiadau eraill; ond gobeithiai y caffai hamdden i dd'od i'n plith ddydd Gwvl Dewi Sant. J Y Parch James Davies, M.A. (Ap Teifi), a roes anerchiad ddoniol odiaeth, a pharodd hwvl fawr. Mr Price, surveyor, Upton-on-Severn (a di- weddar o Blaenau Ffestiniog), a gynvgiodd ddi- olchgarwch mewn ffrwd o hyawdledd^i'r Parch Mr Simpson, fieer Pedr Sant, am ei garedig- rwydd i'r frawdoliaeth yn caniatau i ni wasan- aeth yr Egiwys a'r ystafell hono. Yr oedd y ficer, er yn Sais, fel un ohonom. ac vn cvm- cryd dyddordeb mawr yn y gweithrediada.nl. Cydnabvddodd y Ficer y bleidlai3 gyda geiriau cefnogol i'r hyrwyddwyr. Y Caplan Daviee, Powyck, mewn araeth niaei^bert, a gefnogodd vr hyn oli a lefar- wyd. Mr Dan;el Tho-na,-R, o Dro,w-ich, a -ynv,odd bleial?ais o',Lt-d:olchi, '?arch J. Tr(,hl" ,,a.rweh "r Phlllii?s, am lei lafur vn 'ngl-n a,'r ??dcitahxa?l&e fel ys,-rifenvdd anrhydeddus? Yr oedd wedi bod yn ddiwyd mewn amser ac allan o amser. Cyfeiriodd hefyd at ei briodas agoehaol a'i ben- odiad fel cenhadwr i New Zealand, lie y bwr- iada fyned tua dec-hreu Rhagfyr. Dymunai Dduw yn rhwydd iddo. Atebodd yr Yr,,?rifenT,-dd parchecl-??,r, ond yr ow,?t?f vn rhy ddr.vilio,? ei dc-nladiti i d iin o,-id d diolch iddynt oil am eu teimladau da tuae ato. Y Partli P,. l,ewi!! a svnvgiodd ddiolch7arweh i'r T,Ivwvdcl, v-r b3-n, a ?, efnOgw'vd gan Y C'anian Davies. Y Llywydd hefyd a gynygiodd ddWch gwresoca f y cyfarfod i Mr J. E. Jones, Mri Wal- ters a Lewis, am eu trefniadau deheuig mewn cysyllt.iiwl a'r wledd, ac hefyd i'r tanysgrifwyr tua? ati. Derbyniwyd hyn yn llawen,* a dviem nodi yn ddiolchgar lettvgarwch Mrs Jones, North ngton Farm, i'r pregethwyr. Terfyn"'Yd y gweithrediad au gyda'r hen enivn anwyl, "0 Fryniau Caersalem" a "Hen Wlad Fy Nhadau." Yr oedd y canu o dan ofal Mr Lewis Llovd, ysgolfeistr, Alfrick, Cymro cadam a chantor di- ail o Ddolgellau, a Mr Daniel Thomas, Droit- wich, ac fel arfer gwnaethant eu rhan yn gvmer- adwy. Felly hefyd yr organydd, Mr A. Neal. Gwnaed casghadau tuagat dreuliadau'r dydd.
Gwallgofdy Gogledd Cymru --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gwallgofdy Gogledd Cymru CYF ARFOD CHWARTEROL YTI YM- WELWY'R. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn y Gwallgofdy, ddydd Llun, pan yr oedd yn brnol :-Dros sir Fflint, Mri P. P. Pennant (cadeirydd), a W. Davies; sir Ddinbych, Mri J. A. Chadwick, J. T. Millward, ac E. Allen; Mon, Dr. E. P. Ed- wards, Mri Harry Clegg, a W. Owen; sir Gaer- narfon, Mri J. Jones-Morris, J. R. Hughes, a T. W. Griffith; gyda Mr P. E. Story ar ran y cynrychiolwyr; Mr W. Barker, y clerc, a Dr. Cox, yr arotygydd meddygol. Mynegwyd fod Mr W. Foulkes Jones, Cor- wen, wedi ei ethol yn olynydd i Dr. Hughes, Bala, ar ran Meirionydd. Y CLEIFION. Mynegodd y Clerc mai cyfanrif y cleifion ar y llyfrau oedd 888—59 yn breifa.t--sef yr un nifer a'r un adeg y llynedd. Y Cadeirydd a sylwodd fod y fEgyrau yn dangos sefyllfa foddhaol iawn. Yr oedd salon gwallgofrwydd wedi gostwng llawer yn ystod blynyddau diweddar, a dyna oedd yn cyfrif am y cynydd mawr yn rhif y cleifion. Mr T. W. Griffith a sylwodd mai y gost wvth- nosol o gynal y cleifion tlawd ydoedd 7s 0 £ *c y pen. Y chwarter nesaf byddai raid darpar ar gyfer y trethi arferol, yn cyrhaedd cyfanswm o 1600p, sef cynydd o 400p ar y flwyddyn ddi- woddaf. Byddai cost cynal pob un claf felly yn fwy. Sylwodd y Clerc y byddai i fwrdeisdref Din- bych, ar y trethiant presenol, dderbyn SOOp mewn trethi o'r gwallgofdy. Y GWAN-FEDDWL. Wrth dralod adroddiad y Ddirprwyaeth Fren- hinol ar Ofalu am y Gwan-Feddwl, sylwodd y Clerc y ceid He yn awr yn y gwallgofdy i 917 o gleifion, fel nad oedd lie ond i 29 yn rhagor ar ol helaethu y sefydliad. Penderfynwyd cyfarfod yn mis Rhagfyr i ys- tyried adroddiad y Ddirprwyaeth fel yr oedd a wnelo a'r sefydliad. YR ADEILADAU NEWYDDION. Cyfeiriodd amryw at y ffaith fod yr adranau newyddion wedi eu gorphen, y oleifion wedi eu lleoli ynddynt, a rhoddid canmoliaeth ucheJ i'r gwaith. Mr J. Jones-Morris a sylwodd iddynt orphen yr helaethiad heb fyned dros ben yr amcaa- gyfrif, ao heb orfod myned i gyflafareddiad. Galwyd sylw at y ffaith fod saith o ddynion a thair march yn gadael y sefydliad y dwthwn hwnw, a bod lOOp wedi eu derbyn oddiwrth ym- ddiriedolwyr y diweddar Mr H. Daviee Griffith, Caerhun, er budd cleifion adawent y sefydliad.
MARWOLAETH DRIST CADBEN CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH DRIST CADBEN CYM- REIG. Cyrhaeddodd y newydd i Borthmadog, ddydd lJun, fod Cadben Edward Jones, ofalai am yr ysgwner "Ellen James," wedi ei ladd yn ddam- weiniol ar fwrdd yr ysgwner tra'n mordwyo o Labrador i Gibraltar.
DYWEDDIAD FlCER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYWEDDIAD FlCER. Mae priodas wedi ei threfnu ac i gymeryd lie yn fuan rbwng y Parch John Allen Jones, ficer Llanyblodwel, a Millie, merch Mr S. Oppenheim. Parkfield, Didsburj. t I
1 Byd y Bardd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
1 Byd y Bardd. DAIL YR HYDREF. O. grinddail aur yr Hydrcf prudd, Tosturiol fysedd tyner nos Daen drosoch niwl yn amdo dlos I'ch gwisgo yn eich beddrod cudd, 0, grinddan and Y fwyalch ber friwedig fron A gan farwnad yn y coed O'ch gwel'd yn friw dan lawer troed Ddiystyr iawn, o'eb rhoi dan don. 0, grinddail aati Nid oes dosturi yn y ser Na lloer. na haul, na chwmwl chwim, Ai tybed nad adgofiant ddim Am dlysni byw eich einioes ber?— 0, grinddail aurlr Y rheibus wynt sy'n rhuthro drwy Y canghau noethir awr ac awr, A gyr ar ffo yn fyddin fawr Chwi ddail dan benaiirt llwm a'i -!wvl,- 0, grinddall, atai Eich gweled mwy, 0, ddail, ni chawn, Fel tlysni cain ar ganghau'r berth, A'r gwlitb yn mwydo natur ferth, Foreuon haf hudolus iawn, 0, grinddail aarl Ond hi ein mam-y ddaear ddoeth,— Broffwydes adgyfodiad cu, A'ch derbyn chwi, a'n derbyn ni Pan syrthiom oil i'r beddrod ngath, 0, grinddail aurj ANELL YDD. Ficerdy St. Michael, Penfro. CAN GWAS Y FFARMWR. Gwas ydwyf i tmaethwr Yn codi gyda'r wawr, 'Rwy'n hoffi bod yn weithiwr Er nad oes eyftog mawr; Mae bywyd i mi'n bleser Ar faes y ffer«*n draw, Yn gyru gwedd fj meistr, A'r awen yn fy llaw. Bu'm beddyw yn aredig Yn unig, drwy y dydd, Er hyny, yn aredig, Yn ffyddlon wrth y gwydd; Ac er i'm weithiau guddio A chadw peth o'r ceÍIch- Fe wyr y byd mai eiddo Y meistr ydyw'r meirch. Mae gweled mab ffyddlondeb Ar hyd y meusydd draw, Yn byw drwy cbwys ei wyneb Yn nghanol gwynt a gwlaw; Yn haeddu i ti edrych A rhoddi iddo glod, Er nad yw'r byd, yn fynych, Yn gvrybod dim ei fod. 'Rot gweithio, a dioddef Gwlvbaniaeth yn y nant, Mor ddedwydd fydd bod adref Yn nghwmni gwraig a phlant; A theimlo y dyddordeb Gymerais drwy y dydd, I weithio mown ffyddlondeb Er mwyn cvdwybod rvdd. HYWEIi.
BLAENAU FFESTINIOG,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLAENAU FFESTINIOG, PIERFFORMIAD.-Noe Iau, yn y Xouadd1 Gynull, bu i Gor Bethel (A.), Llan Ffestiniog, roddi perfformiad godidog o "Dafydd, y Bugajl- lano," o dan arweiniad Mr W." Stephen, ua y\ cyfeiliai Mr Edward Samuel ar y berdoneir. Mr( T. Lloyd Jones gyda'r cornet, a Miss A. E., Owen-Davies, A.R.C.M. Eglurwyd y gan^wd( gan y Parch R. Talfor Phillips, ac yr oedd yr4 hyn araethai ef yn fanteisiol iawn er deall yi gwaith. Y GENHADAETH.—Wythnos genhadol yd-t oedd y ddiweddaf ar ei byd yn ein liardaLi Cafwyd cyrddau llwyddi&nus o nos Fawrth hyd nos Sul yn y gwahanol addoldai. Nos Sal yr] oedd y neuadd dan sang, y ddau genad ;i.ewa, hwyl yn traddodi y genadwri felus, a'r gynuUeid- fa fawr wrth eu bodd yn eu gwrando. Y SEINDORF.—Nos Wener bu i'r seinJorf fyned am dro i Tanygrisiau, i osod pobi y haa- barth hwnw mewn cyweirnod priodol ar reu y gauaf presenol. Hefyd, gwnaethant. yr iraj peth brydnawn Sadwrn gyda phobl Church-i street a High-street. Deallwn eu bod i, m ym.: weled a phob rhan o'r ardal. BRYN-BOWYDD.-—Yn Nghymdeithas Ddij wylliadol Brynbowydd. nos Fawrth, o Ian lyw-i yddiaeth Mr R. W. Roberts, Benar-road, caf,, wvd dadl, "A ddylid rhoddi etholfraint i I.ch- ed?" pryd y cymerwyd yr ochr gr.darnhaol g&n( Mrs Jones, Dorvil-street, a'r nacaol gan Mr W, O. Jones, Bryn Tegid. Yr oedd y idau 34 dadleu yn rhagorol dros eu hochr. I BETHANIA.—Prydnawn Sul, pasiwyd yn yf eglwys uchod fod dau gor i gael eu codi or eg Iwys eleni tuag at gystadleuon Eisteddfod yr An nibynwyr y Nadolig, sef cor cym} sg a chor plant.- Gobeithio y bydd i'r ddau gor gadw eu henw 4 i fvny y tro nesaf fel mewn blynvddoedd fu. EBENEZER (W.).-Nos lau cynhahwyd cyf^ fod agoriadol Cymdeithas y Bob] Ieuainc, c danj lywyddiaeth y Parch P. Jones-Roberts, pryd JJ cafwyd unawdau ac adroddiadau gan amryw o'n aelodau. GORPHWYSFA (W.).-Yn Nghapel r"! phwysfa, Tanygrisiau, cafwyd darlith ragorol, gan Mr John Jones, o Melbourne, Awstralia, y*i hon a eglurwyd drwy gyfrwng yr hud-lusern a( weithid gan Mr J. T. Evans. DARIiUN.—Yn y rhifyn diweddaf o'r "Slat«i Trade Gazette" yr oedd darlun hardd o'r L-cim, eddwr rhadlon, Mr Richard Bowton, Cart re' gydag ysgrif arno yn ei gysylltiadau masnachoL ODDICARTREF.—Nos Iau a nos Wener jrx oedd y Parch R. Silyn Roberts, M.A., Tany^ grisiau, yn anerch gweithwyr Sir Gaernarfoitr ar ran y Blaid Annibynol Liafur. Nos SadwTdi yr oedd gyda'r un gwaith yn Penrhyodeudraeth Yr oedd y Parch E. Cefni Jones yn pregeth* mewn cwrdd mawr blynyddol yn Rhuthyn, gydar Parch E. T. Janes, Lianefli, y Sul a'r; Llun diweddaf. Y mae galw mawr yn Ne a) Gogledd CyTrma am weinidogaeth Mr Jones, YNAD NTWYDD.—Llongyfarchwn y moAt* yg rhadlon, Dr Richard Jones, M.D., ar ei ddyrchafaad i'r faioe yitadoL Hir oee iddo gyf-* lawni y swydd.
MANION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANION. Bwriada amryw o'r Eglwysi Ymneillduol ddeci- reu eu cymdeithasau llenyddol yr wythnos riesaffc a.c yn eu plith Seion a Jerusalem. Clywsom fod y cor merched Eydd wedi ei Sef- ydlu yn yr ardal, yn dechreu o ddifrif gyda'ai gwaifcn. o dan arweiniad Mr Tudor Owen, A.R.C.M. Y Sadwrn nesaf bydd Car Meibion BrenhuMr y Moelwyn yn cadw eyngherdd yn Llynlleifiad. Nos Iau cynhaliwyd cyfarfod Gobeithlu Caip mel, Tanygrisiau, pan y caed dadleuon, adroddl iadau, a chaneuon. Nos Fawrth agorwyd cyfarfod Gobeithlu Brya> bowydd. Amrywiol ydoedd y riiaglen.
PENMACHNO A'R CWM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENMACHNO A'R CWM. MYN'D A DOD.-Maer Heddgeidwad R Da- vies wedi ei symud i Landudno Junction, a'r Heddwas Owen Jones, o'r lie hwnw, wedi cyrneryi ei le yntau yma. DL4NGFA. — Ymddengys i Mr G. Robert^ Hafodredwydd, gael diangfa gyfvng y dydd o'i blaen wrth ddod a llwyth o fawn o'r mvnydd- Trodd y drol a bu agos iddo yntau fyn'd dani. PELLEBYR.—Yr oedd llythyr wedi ei an i Gynghor Gwledig Geirionydd yn gofyn cania i osod polion y pellebyr ar y ffordd o Carrog i'r Cwm, a chaniatawyd hyny. Bydd yn gaffacliadf mawr iawn, gan fod yna dair milldir o ffordd o Cwm i'r Llan. AGOR CAPEL NEWYDD M.C. Dydd Gwener agorwyd capel newydd M.C. yn Penis4 yr hwn a gostiai oddeutu BOOp, Y pregethwyr oeddynt y Parchn. William Thomas, Llanrwst; William Jones, C-aernarfou (Dugoed gynt), a S.; T. Jones, C-cnwy. TYSTEB.—Y mae pwyUgor wedi ei ffurfio eX cario allan y cynlhm o fyned o gwmpaa i ga-sglfl tanysgrifiadao tuag at roddi tysteb l Mr D. A, Hughes, ysgolfeistr, ar ei ymadawiad o'r lie. Rhoddodd Mr Hughes 16eg mlynedd o wasanaetk gwerthfawr i'r plwyf mewn Dawer ystyr, ac ya awr rhoddir cyfle i'r plwyfobon ddangos eu gwerthfa-wrogiad o'r cyfryw wasanaeth. CLADDEDIGAETH. 'Nawn Iau, dodwyd gweddillion Mra Jones, anwyl briod Mr William Jones, gof, Rhiwbach, i orwedd yn mynwenf Salem, a hi yn 49ain mlwydd oed. Gedy briod a chweoh o blant i alaru eu colled. Cydymdeimli* a hwynt oil yn eu trallod. Gweinyddwyd yn y, ty ac ar laD. y bedd gan y Parch T. I. Jam-. M.C.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dydd Gwener, mewn heddlys arbenig yn Llap- dudno, cybuddid gwr o'r enw Joseph Henry Maguire, o Stoke-on-Trent, o ladrata par o esgidiau o fasnach Mri Stead a Simwon, Lowet Mostyn-street, ar yr 16eg cyfisol. Pledbodd J8 euog, a dedfrydwyd ef i fifl o garohar gyda Ilafur 1