Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
---(Holofn g JHaxheb.
(Holofn g JHaxheb. [GAN N E L I. J- -.J-J'v- iFf mhrif esgusawd yn rhoddi y bregeth gan- 'lynol (mewn gwisg Gymreig) yn y Golofn' heddyw yw, anewyllysgarwch pregethwyr Cymru i bregethu' yn erbyn y fasuach ofnadwy mewn diodydd iiied(lwol.- iYell,] Traddodwyd y bregeth ganlynol gan y Parch. II. Hex* ton, periglor eglwys St. Paul, Lachine, i gynnuileidfa fawr iawn yn eglwys y Drindod, Montreal, rai wythnosau yn ol. Ei destyn ydoedii 4 Gvvae a roddo ddiod i'w gymmydog yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei fednwi.'—Hab. ii. 15 Wedi sylwad rhag- anveinioi gofynodd y pregethwr pabeth oeddynt efiFeitliiiiU y fasnach mewn diodydd meddwol ar y bob I I Yr ydym yn barnu y prell wrth y ffrwyt,h a ddyga. Y mae v pten meddwol er's llawer o flvnydd- au wedi gyru ei wraidd yn ddwfn yn mhridd y udaear, ac wedi lledu ei ganghenau dros lawer o wledydd, ac nid yw ond tag ymholi pa fath ffrwyth a groga ar ei ganghenau. Yna efe a bwyntiodd allan yr angeurbeidrwydd oedd am yr boll alwcdigaethau eraili,a'r daioni a wnaeth- aut i ddynolryw. Ond ni cbyfranodd y fasnach mewn diodydd meddwol yr un wybodaeth, in esgorodd ar un rhinwedd, ni safoud ar floidd un drwg, ni chysurodd yr un galon drom, ac ni ddyddanodd yr un enaid anghyfannedd. Y mae o'n ddirmyg -fnadwv ar yr boil ddiwydiannau eraill, ac i fasnach yn gyffredinol. Ei fod yn >ddrwg nid oes neb a wfid, o blegid nis gellir codi cwestiwn ar y pwngc. Gorfodwn ef i dalu trwydded am ei fod "yn ddrwg ag y bydd raid ei reoleiddio. Ni rakl gwneyd hyny ag unrhyw fasnach arall, o blegid nad oes yr un yn felldith ddipymmysg ond hi. Masuach ydyw a'i thnedd uniongyrchol i ddyfetha iechyd, diorseddu rhe- swm, fflamio drygnwydau, caledu'r gydwybod,*a dinyttrio enaid a chorph. Y mae hi y fwyaf ddrygionus yn yr boll fyd, fel y cydnabyddir yn gyffr. dinol ac yn ungo'r llynorod mwyaf ar ein gwareiddiad. a bygythia gymdeitbas, eglwys, gwladwriaetli a chymmeriad parsonol os beiddia dyn, neu gorph o ddynion, wrthwynebu ei harddangosiadau haerllug. a myn reoli ein deddfau. Y mae llawer o'n gwladyddiaeth heddyw o dan ei rheolaeth hi. Oni welsom ni y dydd o'r blaen ei bod yn b6itio'n ddigywilydd "yn y newyddiaduron) nad oes yr un Lywodraeth a allai sefyll yn y wlad hon a withwyneha y fasnach feddwol, ac y troir allan y Llywodraeth bresennol, er cryfed yw, os y gwna ddim yn erbyn interest y ddiod ? A ydyw petbau wedi dyfod i hyn yna, nad allwn i ddim ethol na chadw Lly.vodraeth mewn gallu yn groes i ewyllys y darilawyr, &c 1 Os gwir hyn, ac nid bust wagsaw breniu Alcohol, mae'n hen bryd i ni ei wybod. Ni a wyddom gymmaint a hyn, fodd bynag, yr hyn sydd ddigon drwg yn ol pob cydwybod, a hyny ydyw, fod budd y fasnach mewn diodydd yn hftlogi ein cistenau pleidleisio, yn llechu yn ein llysoedd deddfwriaethol, yn barod i gym- meryd ein doddfwueuthurwyr yn erbyn eu gyddfau i lindagu pob mesur ag sydd yn erbyn y trade.' Amser yn ol fe hawliodd y bobl gyfleusdra i roddi pleidlais ar y cwestiwn o adael i'r fasnach fyw o gwbl; ond ar ol i fwyafrif mawr anghyffredin roddi llais yn ei herbyn, ond aeth hi yn drech na'u hewyllys; ae, wele, y maa hi'n rhodio'n rhydd heddyw, a'i dwylaw gan goched ag erioed gan waed ei lladdedigion lliosog. [Yma fe wnaeth y gwr parchedig gyfeiriad at ei wlad ieuangc ei hun, fel y mae hi yn dysgu mor fuan rodio yn ffyrdd drygionus hen wledydd Ewrop], I Oiitl pabeth yw y nwydd a werthir ? Nid yw fwyd. Fe gydnabyddir nad yw mewn UG- rhyw ffordd yn angenrheidiol i gadw bywyd. Gwenwyn meddwol ydyw. Syr William Gull, yr hwn un adeg, oedd yn physygwr i'r Frenhines Victoria, a ddywedodd yn ei dystiolaeth yn Nh £ yr Arglwyddi :—' Y mae' alcohol' yn wenwyn o'r fath fwyaf marwol. Yr wyf yn meddwl dyweyd fod nifer fawr o bobl yn meirw beunydd drwy gael eu gwenwyno gan I alcohol,' er nad ydynt hwy yn meddwl hyny, Fe wneir llawor o ddrwg i iechyd gall' alcohol' mewn llawer o wahanol ffyrdd, ie, hyd yn oedd wrth ei gym- meryd yn bur gymmedrol.' Gallwn roddi rhestr bir o dystiolaethau meddygon yr un mor ben- dant a'r eiddo Syr William, ond mae'n rhaid i mi gyfyngu fy hun i'r unganlynol:—"Nidyw alcohol' yn cynnwys dim inaeth i'r system. Gan ei bod yn elfen ddyeithriol nid oes ynddi ddim ag y gall yr organau dynol ei gyd-dym- mheru (assimilate yw'r gair a arferodd y pre- gethwr; ond hyd y gwn i, nid oes air Cymraeg I da, na banner da, am dano) ft gwahanol elfmau y coiph. I'r gwrthwyneb, fe ddysg arferiad gwastad o hono lawer o wahanol anhwylderau y rhai a fyrhânt y bywyd dynol. Y mae'n hollol wy- byddus fod alochol' yn achosi gwallgofrwydd rhanol ac hollol. Fe ddylai addolwyr Backus daiu ymweliad ag y&tafelloedd clustogedig nawddleoedd ein meddwon, lie mae y rhai a ddioddefant dan wabgofrwydd y dieifl glaisiot),, yn cael eu cadw o dan warchodaeth, mewn trefn iddynt weledgeudob eu cred. Y I Scie?zce Jfonthly sydd yn attebol am yr adioddiad fod 1,271 o waligofiaid, banner cant y cant o ba rai a wnaed felly drwy yfed diodydd meddwol i raddau angbymmedrol. Daetbpwyd o hyd i'r ffaith Ylla drwy ymholiad manwl. Ond nid liyn ydyw yr oil, na'r gwaethaf. Pe caniataem fo-I yfed diodydd me^d-vol yn weithred focsoi, ac yn angenrheidiol er cyfarfod a dymuniad ein rhan anifeilaidd, galleai beryglu ein iecbyd a'n rheswm, nid. oes ammheuaeth y byddai paryglu gosod yr anhwylderau uchod ar y rhai a ddouant ar ein hoi yn weithred o'r fath iwyaf anghyfiawn. Etto hyn ydyw pechod yj-hai a anwesant y drygioni marwol o feddwi. Y mae llawer o afiechydon yn cael eu trosglwyddo o dad i fab ac o fam i ferch, ac yn mhellach na hyny, ac y mae meddwdod yn mysg y rhai hyny. Fe welir oddi wrth y ftaith Ylla, y gall pechod un person unigol gael ei drosglwyddo i blant ei blant, hyd y dtydedd a'r b dwaredd genhedlaeth, Pe gallai meddwou syllwedtloli y ffaith hon, prin y gallai y caletaf o honynt gario'n mlaen yn ei gwrs meddwol. 0 Yn un o wallgofdai yr Unol Dalaethau fe wnaed ymchwiliad i aiferion rhieni 300 o'r gwallgofiaid, ac fe gaed allan fod 149 o honynt yn fectdwon cys,o--i. Y mae y ddiod feddwol yn cynnhyrfu y tueddiadau anifeilaidd iselaf, ac yn achosydd y drygaa mwyaf ofnadwy yn ngwasanaeth y diafol. 0 dan ddylanwad y ddiod yr oedd y bedwaredd ran o bump o ddrwg- weithredwyr wedi en carcharu yn y gwahanol garchardai; a chyfaddefa nawo bob deg o honynt mai diod a'u dygodd i'r sefyllfa y maent ynddi yn awr. Gallwn ddwyn yn mlaen gyfrol fawr o tfeithiau o barthed y mwrdradau, hunanladd- iadau, damweiniau, marwolaethau anamserol, dinystriad bywydau babanod, a llawer o ddrygau an fad eraill o eiddo y ddiod feddwol ag y byddai noswaith gyfan yn rby fbr i adrodd eu banner. Y maa y fasnach feddwol yn dwyn i mewn gyllid aruthrol i'r Llywodraeth ac o herwydd hyny fe gyfiawnheir y fasnach, gan yr ystyrid y cyllid hwn yn fantais i'r w]adwriaeth. Y mae y wedd hon ar y cwestiwn yn galw am ymchwil- iad iddo. Y cwestiwn i ni i'w ystyried yw, yn sym], a ydyw pob! y ddiod yn chwanegu rliyw- eth at gyfoeth y wlad ? Nac ydynt, yn sicr. Y maent oil yn byw or yr hyn a gant. o logellau eu cydgreaduriaid. Dengys yr y:-bdegau oil fod percentage mawr o'r carcharorion yn ein carchar- dai a gwallgofiaid yn ein gwallgofdai wedi eu (wyn iddynt g. n rum, fel, drwy hyny, y mae chwanegiad mawr iawn yn ein costau. Y mae'n dra hysbys nad yw y dosbarth meddwol yn gweithio, yr hyn, with gwrs, sydd yn golled fawr i'r wiad. Nid yw masnach y ddiod yn crou masnach arall, ac ni chyfoethogir y wlad gan unrhyw swm o ddiod er ei yfed yn- ddi. Felly, fo gollir drwy ddiffyg gweithio lawer o gyfoeth a ddylai fyned i gyfoethogi y wlad yn gyftredinol. Dywedodi Syr A. T. Gait y gellid gwneyd i fTwrdd a'r fasnach mewn licar a yfir fel diod gyffredin heb wneyd colled i'r gyllidfa. Dvwedodd Arglwydd Salisbury fod y ddiod yn gwneyd mwy o golledion yn Lloegr nag a wna rhyfol, newyn, a haint, yngbyd. Galwyd y fasnach gan Mr. Gladstone yti 'fellcliti-i fwyaf yr oes.' A'r gwir ydyw, eich bod chwi a minnau, y sobr a'r diw.yd, yn gorfod tain am hyn oil. Fe ga sotyn nieddw ei friwio yn yr heol neu mown yniosodiadau bwystfilaidd mewn salVvn, a'i wella yn yr ysbytty ar ein traul ni. Diganir y car- d .tyn meddw oddi ar ein byrddau ni, deua ei blaut newynllyd i'n* drysau am fara, ac nis gallwn withod bara iddynt ac i'w wraig galon- doredig ac yn y diwedd, wedi iddo wastraffn ei fywyd mewn oferedd, fe fydd yn rhaid 1 ni, y bobl sobr, dalu am ei gadw yn yr ysbytty neu weithdy yr Undeb. Nis gallwn osgoi hyn. Gallwn brotestio yn ei crb) n, ond talu fydd raid. Nid oes dadl na dderbynir symiau mawr- ion i'r gyllidfa oddi wrth y fasnach feddwol; ond doder y gosfc o'u casghi, drwgweithredoedd, diogi, damweiniau, tlodi, gwallgofrwydd, car- charau, ysbyttai, gwallgofdai, ac o bale y daw yr elw mawr i mewn ? Fe ymddengys i mi ein bod yn talu yn bur ddruci am ein chwibanogl. Costia Hears fwy na'n blodiau, cigoedd, llyfrau, misolion, chwarterolion, a'n papyrau newyddion oil ynghyd. Dadleuir pe gwneid i ffwrdd i'r fasnach mewn diod y collai y wlad yr arian sydd wedi eu suddo ynddi. Na fyddai yn golled o gwbl, o blegid fe droid yr arian i gyfeiriadau eraill, y rhai a dro- ent fwy o elw i'r cyboedd o lawer nag a wna y fas- nach feddwol, er fe ddichon na phrofai felly i'r bob! fyddent mewn cyssylltiad uniongyrchol a'r gwahanol fasnachau Cymmerer yr arian sydd wedi eu -investio yn y fasuach feddw- ol a gwarier hwy ar ein dinas,1;Montreal, i'w gwella, &c., ac ni fyddai raid i chwi fenthyca i'w gwneyd y ddinas harddaf, &c., ar y cyfandir.'
ARGLWYDD ROSEBERY AR DEYRNASIAD…
ARGLWYDD ROSEBERY AR DEYRNASIAD VICTORIA. LLYWYDDAI Arglwydd Rosebery mewn llys arbenig o lywiawdwyr y Gorphoraeth Ysgot- aidd Frenhinol dydd Mercher, yn mha un y mabwysiadwyd anerchiad i'r brenin, yn cynnyg iddo eu cydymdeimlad ar farwolaeth y Fren- hines Victoria, ac o longyfarchiadau iddo ar ei esgyniad i'r orsedd. Cyfyngodd Arglwydd Rosebery ei araeth at deyrnasiad y Frenhines Victoria, a dywedodd nad oedd yn ormod dyweyd, yn ystod holl hanes dynoliaeth nad oedd un farwolaeth wedi cyffwrdd a'r fath nifer o drigolion y byd a marwolaeth ein diweddar benadur. Yr oedd efe yn rhyfeddu, weithiau, er yr oil oedd wedi cael ei ysgrifenu a'i ddyweyd, pa un a oedd pawb yn sylweddoli yr hyn oedd yn ddyledus oddi wrthyin i'r Frenhines. Dygodd i gyng- horau Prydain Fawr drysorfa o Avybcdaeth na fu gan un hanesydd cyfansoddiadol erioed at ei h w, Hi oedd penaeth y penaduriaid Ewrop- aidd; a phan gofir fod ei dylanwad personol mawr yn nghynghorau trafferthus Ewrop yn cael ei roddi bob amser dros heddwch, rhyddid, a llywodraeth dda, yr oeddym yn teimlo, nid yn unig ein bod ni, ond fod y byd wedi colli un o'i gyfeillion goreu. Dywedid etto gan hanes- yddiaeth am y Frenhines Victoria, ein bod fel gwlad, o dan ei nodded hi, wedi dringo llwybr ar i fyny am 63 o flynyddoedd, ei bod wedi rhoddi ei henw ar gyfnod yr oedd gogoniant amser Elizabeth yn ymddangos yn wael ac yn welw yn ei ymyl, a'i bod wedi eangu a chyfuno sylfeini y frenhiniaeth Brydeinig i'r fath radd- au ag a fuasai yn ymddangos yn anghredadwy i'r rhai oedd yn gwybod beth oedd brenhlniaeth Brydeinig ar ei hesgyniad hi i'r orsedd. Ond i'r cenedlaethau oedd wedi byw o dani, byddai iddi gael ei chofio, hwyrach, yn fwy fel y wraig, y fam, y ferch y ferch oedd yn y lie mwyaf amlwg yn y byd ag a osododd yr esampl fwyaf amlwg o ymddygiad a chymmeriad.
EISTEDDFOD Y WESLEYAID.
EISTEDDFOD Y WESLEYAID. DYDDIAU Mercher ac Iau cynnaliwyd eistedd- fod mewn cyssylltiad g Ysgolion Sabbothol y Wcsleyaid yn Mmgor. Cafwyd cynnulliadau cht yn y gwahanol gyfarfodydd. Llywyddid yn y ddau gyfarfod gan y Mri. W. Hughes a Dudley Morgan-cyrnmerodd y boneddwr olaf yn garedig le Mr. Lloyd-George, A. a., yr hwn oedd yn methu bod yu bresennol. Yr arweinwyr oeddynt y Parch. John Kelly a Mr. W. O. Jones. Gweithredai y Parch. Wilfrid Jones fel beirniad cerddool; a Mr. D. R. Ellis, Bangor, fel cyfeilydd. A ganlyn ydynt rai o'r prif ddyfarniadau:— Unawd ar yrharmonium.; goreu, Miss Jones, Bangor. Unawd contralto, Miss Clarisa Davies, Beth- esda. Ccr o blant; c5r Kyffin Square, o dan arnvein. iad bachgen deuddeng mlwydd oed, o'r enw James Da vies. Corau cymmysg o ddeuddeg o gantorionj goreu, Mr. John Roberts a'i gwmni. Unawd soprano, Miss Jennie Davies a Miss Esther Davies, Glanadda, yn gyfartal. Corau plant, c u- Penuel, Bangor, o dan ar- weiniad Mr. J. O. Jones. Unawd soprano, 'Stat' of Bethlehem,' Miss Augusta Williams, yr hon oedd yn gyfartal mewn cystadleuaeth gyffelyb gyda Miss Katie Da vies, Bethesda. Unawd tenor; goreu, Gutyn Eifion. Deuawd tenor a bass, Gutyn Eifion ac Alex- ander Henderson. Cystadleuaeth cor o feibion, ewmni y Crown, o dan arweiniad Mr. John Roberts, Bangor. Uer-unawdau, goreu Mr. J. O. Morris, Pen- isa'r waen. Unawd baritone; rhanwyd y wobr rhwng Mr. Lemuel Roberts, Bangor, a Mr. Alexander Henderson, Nantlle. Y brif gystadleuaeth gorawl; goreu, cor Pendref. Bangor, o dan arweiniad Mr. John Williams.
r. -------COLEG PRIFYSGOL…
r COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. CAFODD y penderfyniad canlynol, yr hwn a, basiwyd mewn cyfarfod cyffredinol o aelodau y coleg uchod, ei anfon i'w Fawrhydipan dder- j byniwyd y newydd prudd am farwolaeth ei dxweddar Fawrhydi, Brenhmes Victoria; a chafodd Ilythyr, copi o ba un a welir isdaw, ei dderbyn, yn cydnabod ei dderbyniad — Fod aelodau Coleg Prifysgol Cymru, Aber- ystwyth, wedi iddynt gael ar ddeall, gyda theimladau annisgrifiadwy o ofid, am farwol- aeth eu teyrn enwog ac anwyl, y Frenhines Victoria, yn dymuno cael caniatSd i ddadgan, gyda gwarogaeth deyrngarol a pharchus i'w Uehelder y Brenin, eu cydymdeimlad mwyaf dwfn a'i Fawrhydi a'i briod brenhinol, ac ael- odau eraill y brenhinol, yn en Ionawr 23ain, 1901. OSBOSNE, Ionawr 29a'n, 1901. SYR, Cyfarwyddir il gan y brenin i gydnabod derbyniad eich Ilythyr, yr hwn oedd yn cyn- nwys copi o benderfyniad a fabwysiadwyd gan aelodau Coleg Prifysgol Cymrn, Aberystwyth. Mewn attebiad, gofynir i mi drosglwyddo diolchgarwch mwyaf cliffuant ei Fawrhydi am y dadganiad caredig o gydymdeimlad yn wyneb y golled anadferadwy a gafodd y brenin a'r genedl. lVleddaf yr anrhydedd o fod, Syr, Eich ufuda wasanaethwr, (Arwyddwyd: SIDNEY GLIEVILLE, Gwastrawd at Alwad. T. F. ROBERTS, Ysw.'
ARIANDY GOGLEDD A DEHEUDIR…
ARIANDY GOGLEDD A DEHEUDIR CYMRU. DVDD Mawrth, Ionawr 22ain, cynnaliwyd cyf- arfod blynyddol (y pummed a thrigain) cyfran- ddalwyr yr Ariandy hwn, yn y Laic Association Rooms, Liverpool, o dan lywyddiaeth Mr. Tho- mas Broeklebank, cadeirydd yr ariandy. Y cadeirydd a ddywedodd Foneddigion, y ddyledswydd gyntaf sydd genyf i'w chyflawni yw cynnyg Fod yr adroddiad sydd eisoes wedi ei ddosbarthu yn mhlifch y cyfranddalwyr yn cael ei fabwysiadu.' W rth edrych dros eiriau olaf fy anerchiad, pan gefais yr dyfrydwch o gynnyg fod yr adroddiad a'r fantolen am 1899 yn cael eu mabwysiadu, yr wyf yn cael i mi ddyweyd y pryd hwnw ein bod yn credu y byddai i'r tymmor oedd o'n blaen barhau yn un llwyddiannus ac ennillgar. Wel, foneddigion, credaf fod fy mhrophwydoliaeth wedi ei chyf- lawni yn y fantolen yr wyf yn awr yn gofyn i chwi ei derbyn a'ichadarnhau (clywch, clywch). Cawsom flwyddyn nodedig o foddhaol, mae y fiigyrau bron yn siarad drostynt eu hunaiu, o blegid y mae enniliion yr ariandy yn dal cym- mhariaeth hynod fFafriol a'r rhai yn ystod y blynyddoedd diweddaf; ac y mae y llwyddiant lu ar ein hymdrechion wedi ein galluogi i ddefnyddio adnoddau yr ariandy fel ag i gadw i fyny y sefyllfa o gadernid sydd bob amser yn nod o'n blaen. Gwelir hyn oddi wrth y fiigyrau a ganlyn — I gyfarfod a'n holl gyfrifoldeb i'r cyhoedd, sef, 9,932,291p. y mae genym mewn arian parod, ac wedi eu rhoddi allan ar ddiogelion y Llywodraeth, rhanau mewn ffyrdd haiarn o'r dosbarth blaenaf, ac ar filiau, 6,143,293P., yr hyn sydd yn gyfartal a 62 y cant o'n hymrwymiadau (clywch, elywchl. Ac yn awr yr wyf yn bwriadu, gyda'ch cania- tad, sylwi ar un neu ddau o'r pethau mwyaf dyddorol yn y fantolen, Yn gyntaf, chwiwel- wch fod pob cyfanswm—ar y ddwy ochr i'r f cyfrif-gydag un eithriad, yn dangos cynnydd, a chwi sylwch fod yr arian a reddwyd i mewn ar log yn fwy nag oeddynt y llynedd o hanner miliwn o bunnau, neuchwaneg. Y mae y ffaith hon wedi bod yn ianteisiol i'r Ariandy, o her- wydd fod y gwahaniaeth rhwng y Hog a delid genym y flwyddyn ddiweddaf a'r hyn a gyn- nyrchai yr arian a roddwyd allan wedi bod yn fwy ffafriol i ni nag yn y flwyddyn 1899. Yn yr ail le, y mae eich cyfarwyddwyr—yn ngwyneb y gostyngiad sydd wedi cymmeryd lie yn ngwerth marchnadol yr holl ddiogelion goreu wedi barnu yn ddoeth i ostwng y swm sydd ar ein llyfrau felgwerthdiogelion y Llyw- odraeth i 90 y cant, ac y mae hyn wedi ei wneyd allan o enniliion y flwyddyn sydd new- ydd derfynu ae os na chwymp yr ymherodr- aeth Brydeinig, nid ydym yn rreddwl y bydd angen gwneyd dim darpariaeth yn y cyfeiriad yna etto. Fel y mae yr Ariandy yn parhau i gynnyddu, yr ydym o dan angenriieidrwydd i liosogi nifer ein canghenau, ac i'w helaethu. Yr ydym felly wedi adeiladu swyddfeydd newydd- ion yn He yr hen yn Nghaergybi' a Phwllheli. Disgwyliwn y bydd ein hadeilad newydcl yn Rhyl yn barod yn ystod yr h -f dyfodol; ac er fod pobpeth yn cael ei wneyd heb'unrhyw was- traff, etto, rhaid i'r adeiladau fod yn sylweddol a hardd a chan gadw hyn mewngolwg, y mae eich cyfarwyddwyr yn teimlo mai iawn ydyw parhau i ddefnyddio cyfran o'r elw yn ilyiiydd- ol i ostwng y swm sydd ar ein llyfrau fel gwertli y cyfryw feddiannau. O ganiyniad, yr ydym eleni wedi defnyddio 5,798/?. o'r eanillion i'r perwyl hwn ac yn nghorph yr wyth mlyn. edd diweddaf, y mae cyfanswm o :38,OO(¡p. wedi. en defnyddio yn yr nn dull. Yr ydym, hefyd, wedi rhoddi o'r neilldu 2,000p. tuag at ygronfa er sicrhau blwydd-d 1 i'r swyddogion ar ddi- wedd tymmor eu gwasanaeth. Y mae hyn, yn nghyd n'rdarpariaethau eraill a grybwyilwyd, yn gwneyd cyfanswm o 18,OOOp. a gymmerwyd o'r enniliion am y flwyddyn, o'i gymmharu a 0,000;1. y flwyddyn gynt; ond gadiwyd yn weddill ddigon i'n galluogi i dalu ychydig yn rhagor i'r cyfranddalwyr nag o'r hlaeii (cym- meradwvaeth). Yn y cyssylltiad yma carwn grybwyll, os na wna hyny i Mr. Rowland Hughes wrido, nad oedd cyfanswm y colledion yn y brif swyddfa am y flwyddyn ond 161,0. lk 2c., a dim mwy na 2,568,0. 78. 2'. yn yr oil o'r naw cangen a thrigain. Y mae hyn yn siarad cyfrolau am y gofal a gvmmorir gan y swyddogion, ac am yr adnabyddiaeth gywir sydd ganddynt o'r cwsmeriaid, a'r telerau da sydd yn bodoli rhyngddynt (cymmeradwy- aeth). Cyn symmud yn mhellach, hoffwn alw eich sylw at y flaitb ein bod wedi talu 1,400p. mwy o dreth i'r Llywodraeth ar ein hennillion eleni na'r ilynedd ac yn awr, y mae y dreth hon a delir genym ychydig dros ddeuna'w cein- iog am bob un o gyfranau yr Ariandy. Yr ydym wedi agor cangen yn Llandrindod, ac is- ganghenau yn Coedpoeth a Rhosllanerchrugog, ac yr ydym y flwyddyn hon wedi trefnu i agor un yn Craven Arms, er cyfieusdra i'r cwsmer- iaid sydd yn mynychu y if eiriau pwysig a gynnelir yno. Yr ydym wedi prynu adeiladau yn Smithdown Road, Liverpool, ac yn yr Am- wythig, lie, yn fuan, yr agorir canghenau, y flaenaf i'w hadnabod fel cangen Sefton Park. Buom yn ffodus yn yr Amwythig i sicrhau ad- eilad yn y safle fwyaf manteisiol, ac yn hawdd ei gyfaddasu at ein hamcanion ar draul gym- mharol fechan; ac felly, y mae eich cyfar- wyddwyr o'r diwedd bron a sylweddoli eu hen ddymuniad am gael cangen yn yr Amwythig, yr hon a ystyrir gan lawer fel prifddinas Gog- ledd Cymru (cymmeradwyaeth). Yn unol a'r telerau cyssylltiedig fi, chronfa y flwydd-d&l, y maepedwar o oruchwylwyr ein canghenau wedi ymneillduo yn nghorph y flwyddyn, ar ol gwa- sanaeth maith ac anrhydeddu's. Mae eu lleoedd wedi eu llenwi gan ddynion ieuengach, yn y rhai y mae gan y cyfarwyddwyr yr ymddiried llwyraf. Y mae genym yn awr gynnifer a 437 o swyddogion, yr oil yn sclog yn ngwasanaeth yr Ariandy, ac yn awyddus i hyrwyddo ei fuddiannau. Gyda golwg ar y dyfodol, gwelli mi beidio dyweyd dim, am fod y byd mewn cyflwr hynod o aflonydd. Y mae y flwyddyn ddiweddaf, mewn ystyr fasnachol, wedi bod yn un eithriadol o anwastad. Yr oedd cyfanswm masnach, yr hon a gyrhaeddodd y pwynt uchaf yn ystod misoedd olaf y ganrif, yn anghyffred- in o fawr, ond cwttogwyd yr ennillion'mewn llawer o gyfeiriadau gan gystadleuaeth o'r Al- maen a'r America, a chan bris uchel y gin. Y mae adroddiadaa y Bwrdd Masnach yn dangos fod y wlad yn myned yn mlaen mewn llwydd- iant, ac y mae y cynnydd enfawr yn y dmfnid-I iieth mewn nwyddau rhwng y wlad hon a gwledydd eraill yn ddigon i brofi mai pan fydd masnach mwyaf bywiog y bydd enniliion yr Ariandy fwyaf helaeth. O'r ochr arall, pan fydd masnach yn isel, nid oes dim i'w ddisgwyl ond llog isel a 11 ai o elw i'r cyfranddalwyr. Y mae y rhyfel yn Neheudir Affrica sydd yn ym- lusgo yn mlaen riior araf, wedi bod yn fanteis- iol iawn i berchenogion llongau, ond y mae wedi cadw marchnad llafur yn llwm a thra y par ha yr helynt, gellir disgwyl, hefyd, y bydd prinder o aur yn y wlad. Ar hyn o bryd, nid oes nnrhyw argoelion o ostyngiad mewn llogau arian. Uyda hyn o sylwatlau, yr wyf yn awr gyda phleser mawr yn cynnyg y penderfyniad a ddarllenais cymmeradwyaeth). Mr. Beausire a ddywedodd ei fod ef, gyda phleser mawr, yn eilio y penderfyniad. Yr Henadur Edward Paull a ddywedodd ei fed yn dymuno gwneyd ychydig o sylwadau llongyfarchiadol clywch, clywch). Wrtli ed- rych ar yr adroddiad boddhaol lawn oedd yn eu dwylaw; ac ar ol gwrandaw ar anerchiad y cadeirydd, teimlai ef fod Ariandy Gogledd a Delieudir Cymru yr un mor ddiogel rhag suddo a'r ymherodraeth Brydeinig (clywch, clywch, a chwerthin). Yroedd y swm a welodd y cyfarwyddwyr yn angenrheidiol i'w gosod o'r neilldu tuag at golledion yn nodedig o fychan (cymmeradwyaeth', yr hyn sydd i'w briodoli i arolygiaeth ragorol yr Ariandy, a chywirdeb a gonestrwydd masnachwyr Liverpool a Gogledd Cymru (cymmeradwyaeth). Hhoddwyd y cynnygiad i'r cyfarfod, a phas- iwyd ef yn unfrydol. Mr. G. C. Dobell a gynnygiodd fod Mr. Ro- bert Clover-Beazle a Mr. Thomas Broklebank yn cael eu hail ethol yn gyfarwyddwyr yr Ar- iandy. Eiliwyd gan Mr. R. W. Jones, a chariwyd yn unfrydol. Yr Henadur Edward Paull a gynnygiodd fod diolchgarwch y cyfranddalwyr yn cael ei gyf- lwyno i gyfarwyddwyr yr Ariandy am eu gwasanaeth gwerthfawr, a bod y swm'o 4,000p. yn cael ei roddi iddynt fel cydnabyddiaeth am y flwyddyn bresennol. Hwyrach y byddai iddynt rhywbryd yn y dyfodol gymmeryd i ys- tyriaeth y priodoldeb o godi swm y gydnabydd- iaeth i'r cyfarwyddwyr ond yn y'cyfamser, d au y byddent yn foddlawn ar y 4,000p. a roddid yn awr iddynt, gyda diolchiadau gwres- og y cyfranddalwyr. Mr. W. C. Aikman a eilioddy penderfyniad, yr hwn a basiwyd, a chydnabyddodd y cadeir- ydd y bleidlais mewn dull pwrpasol. Mr. Edward Rae a ddywedodd ei fod ef yn cynnyg fod y Mri. Harmood Banner a'i Fab yn cael eu hail ethol yn archwilwyr yr Ariandy. Ystyriai ef fod y ffaith eu bod hwy wedi ar- chwilio cyfrifon yr Ariandy am dymmor mor faith yn deyrnged i'w medrusrwydd. Cynnyg- iai ef fod eu cydnabyddiaeth yn cael ei godi o 300 i 400 gini, a theimlai yn sicr na achosai hyny unrhyw syndod i'r cyfranddalwyr pan gofient fod en gwaith yn trymhau bob blwydd- yn- Eiliwyd gan y Llyngesydd Jones-Parry, a mabwysiadwyd y cynnygiad. Mr. H. Bui-keley Price a gynnygiodd bleid- lais o ddiolchgarwch i oruchwylwyr a swyddog- ion eraill yr Ariandy. Nid fel mater o ffurf y gwnai y cynnygiad, o bleg;d fe welai y cyfran- ddalwyr fod yr elw boddhaol a dderbynient ar eu heiddo yn dibynu i raddau helaeth ar was- anaeth rhagorol goruchwylwyr a swyddogion eraill yr Ariandy. Eiliwyd gan Mr. John Dempster, a mabwys- iadwyd y penderfyniad. Mr. '1'. Rowland Hughes, y goruchwyliwr cyffredinol, wrth gydnabod y bleidlais ar ei ran ei hun a'r swyddogion eraill, a ddiolchodd i Mr. Bullceley Price am yr hyn a ddywedwvd ganddo; ac, hefyd, i'r cyfranddalwyr am y dull caredig yn mha un y derbyniasant y pender- fyniad. Terfynwyd y cyfarfod gyda phasio diolch- garwch i'r cadeirydd am lywyddu, ar gynnyg- iad Mr. Joseph Wilson, yn cael ei eilio gan y Cynghorwr John Morris.
!G W n E C S A M .
G W n E C S A M PLENTYN WEDI LLOSGI. Nos Fercher cynnaliwyd trengholiad gan Mr. Wynne Evans, y trengholydd dros ranbarth dwyreiuiol sir 13dinbych, ar gorph Clifford Crawford, tair blwydd oed, mab James Craw- ford, gas-fitter, 2, Barracks La no. Yn ol y dystiolaeth a roddwyd ymddengys i fam y plentyn fyned allan i siopa am hanner awr wedi deg boreu ddydd Llun, gan adael y trangcedig, a bac' gen hynach, chwe blwydd 11 tl oed, yn y ty en bunain, ac yr oedd y plentyn ieueugaf yn cvsgu yn ei wely. Tra yr oedd hi allan, aeth y trangcedig i lawr y grisian, a bu yn chwareu y bel droed gyda'i frawd. Cafodd y bel ei chicio ar y pentan, safodd y trangcedig ar yr yst&! i geisio ei chyraaedd a thra yr oedd yn gwneyd hyny, cymtnerodd ei grys nos dan. Llwyddodd y bachgen hynaf i agor cliced drws y ffrynt gyda rbaw, a dasfu i ddyn oedd yn digwydd pasio y ty ar yr adeg roddi y tan allan a'i siacad. Yu union wedi hyny, dycbwel- odd Mrs. Crawford. Cafodd y trangcedig ti symmud i Ysbytty Gwrecsam, lie y bu farw yn mhen rhyw ychydig-oriau ar ol hyny. Y trengholydd a sylwodd fod ganddo blant bychain ei hun, a dywedodd y bnasai yn y&tyr- ied ei hun yn berffaith wallgof wrth adael plentyn tair blwycld oed o dan ofal un chwe ulwydd oed, pan nad oedd yna ddim i'w cadw oddi wrth y tan. Yr oedd efe, er's amryw flyn- yddoedd, wedi bod yn aanog rhieni gyda phlant bychain i gael fireguards yn eu tai. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn o I Farw- olaeth ddamweiniol,' a chwanegasant argym- mhelliad cryf i rieni ddarparn fireguards, er cadw y plant rhag myned at y tân.
B'A N G 0 R.
B'A N G 0 R. CYHOEDDIY BRENIN. YMGYNWULLODD rhai miloedd o boblyn Mangor 0 prydnawn dydd Llun, er bod yn bresennol yn mhroclamasi wn y Brenin. Meddiennid yr esgyulawr gan uchelsirydd sir Gaernarfon (Mr. Thomas Lewis), gyda'r hwn yr oedd yr is-sirydd (Mr. H. C. Vincent), y maer a'r Gorphoraeth, cynnrychiolwyr Culeg y Brifysgol, a nifer o ynadon. Yr oedd yr esgynlawr yn cael ei ham- gylchynu gan nifer liosog o wirfoddolwyr lleol, o dan lywyddiaeth y Mil. Savage, ynghyd ag adran o Wylwyr y Glanau, o dan lywyddiaeth y Prifswyddog Spry. Darllenodd yr uchelsirydd y Ilythyr oddi wrth y Cyfringynghor, a'r proclamasiwn wedi hyny. Yna chwareuodd y seindorf, Dtiw gadwo y Brenin,' yn mha un yr ymunai y dorf fawr yn galonog. Wedi hyny darllenodd y maer broclamasiwn y brenin, yr hwn a ddilynwyd, drachefn, trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Wedi hyny, anerchodd y rnaer y gynnuileidfa, gan gyfeirio at ragoriaethau digyffelyb y ddi- weddar Frenhines, a'i hyder y byddai i'r brenin newydcl arddangos yr unrhyw ddoethineb a rhagoriaethau yn nghyflawniad ei swydd. Di- weddodd y maer ei anerchiad trwy hysbysu y cynnelid divvrnod o wyl gyfi'redinol dydd Sadwrn hyd bed war o'r gloch yn y prydnawn, ac y cedwid gwasanaeth coffadwriaethol yu yr eglwys. Z-1
Y BWRDD YSGOL.
Y BWRDD YSGOL. Yn nghyfarfod misol y bwrdd hwn, nos Fer- cher, hysbysodd y cadeirydd (y Prifathraw Price) ei fod ef a Dr. Richard Jones, mewn canlyniad i lythyr oedd wedi cael ei anfon at y bwrdd gan Miss Wynne Jones, Bodnant, Ban- gor, wedi tynu cylchlythyr allan yn galw sylw at y drygau, yn gorphorol a moesol, oedd yn cael eu hachosi trwy ysmocio sigarenau gan blant a bechgyn ieuaingc arferiad a ofnid oedd yn myned ar gynnydd. Yr oedd y cylch- lythyr wedi cael ei dynu allan ar linellau yr un a gyhoeddwyd gan Fwrdd Ysgol Edinburgh; a chynnygiwyd fod y Ilythyr a ysgrifenwyd gan y Cadfridog Baden Powell ar y pwngc yn cael ei gorphori ynddo. Cafodd y Ilythyr ei gymmeradwyo; a phen- derfynwyd fod copiau Cymraeg a Saesneg o lythyr y Cadfridog Badeu Powell yn cael ei ranu yn y gwahanol ysgolion. lilioddodd Miss M'lX>nald ei swydd i fyny fel athrawes gynnorthwyol yn Ysgol yr Is. athrawon, trwy ei bod wedi derbyn swydd yn Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad, ond amlvg- wyd gofid eu bod yn colli gwasanaeth Miss M Donald. Cafodd Miss Catherine Amy Da vies, yr hon sydd wedi derbyn anrhydedd uchel yn INgholeg Prifysgol Cymru, yr unig un oedd yn ymgeisio, ei phennodi i lenwi y swydd dros dymmor.