Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
12 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ACORWYD senedd gyntaf Iorwerth VII. dydd I Iau diweddaf, gyda seremoni rwysgfawr. J Ymgynnullodd tyrfaoedd Uiosog i weled yr orymdaith frenhinol yn myned o Balas Buck- ingham i Westminster a rhoddwyd derbyniad bnvdfrydig i'r brenin a'r frenhines ar eu hym- ddangosiad yn ngherbyd hynafol ac arddunol y teyrn. Ond ni chymmerodd dim o unrhyw ddyddordeb neillduol Ie yn ystod yr orymdaith hyd nes y cyrhaeddwyd
ARAETH Y BRENIN,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARAETH Y BRENIN, yr hon oedd fel y canlyn:- 'FY ARCHJWYDDI A BONEDDIGION, Yr wyf yn eich cyfarch am y waith gyntaf ar adeg 0 dristwch eeuedlaethol,, pan y mae yr iiolAvlad yn galaru am y golled anadferadwy yr ydym yn ddiweddar wedi ei gael, a'r hon *ydd wedi disgyn arnaf fi gyda llymder neill- duol. Ditriu l'ni hanwyl fm, yn ystod ei thevmasiad hirfaith a gogoneddus, osod esampi o flaen y byd o'r hyn a ddylai penadur fod. Fy nymuniad diffuant ianau ydyw cael rhodio yn 61 ei thraed hi. Yn nghanol ein tristweh, cyhoeddus a pher- sonol, boddhfid o'r mwyaf i mi ydyw bod yn alluog i'ch sierhau fod fy holl berthynasau gyda''r Galluoedd eraill yn parhau i fod ar y telerau mwyaf cyfeillgar. Nid ydyw y rhyfel yn Neheubarth Affrica etto wedi ei dwyn i derfyniad hollol, ond y mae I prif ddinasoedd y gelyn a phrif linellau eigym- mundeb yn fy meddiant, ac y mae mesurau wedi cael eu cymmeryd ag a fyddant, mi a obeithiaf, yn foddion i alluogi fy milwyr i ddelio yn effsithiol &'r nerthoedd gan ba rai y gwrth- wvnebir hwy. "y r wyf yn mawr ofidio o herviydd y golled ar fywydau a'r draul ar drysorau sydd wedi fleilliaw oddi wrth y rhyfel wylliog a gerir yn ralaen gan bleidwyr y Bwriaid yn nhiriogaeth- au blaenorcl y ddwy weriniaeth. Y mae eu hymostyngiad buan yn beth ag y dylid ei ddy- mano er eu mwyn hwy eu hunain; o blegid, hyd oni chymmer hyny le, bydd yn ammhossibl i mi osod i fyny yn y trefedigaethau hyny y sefydliadau a fyddant yn foddion i sicrhau iawnderau cyfartal i'r holl bobl wynion sydd yn preswylio ynddynt, ac amddiffyniad a ehyfiawnder i'r oil o'r boblogaeth frodorol. Mae y meddianniad ar Pekin gan y Galluoedd Cynghreirio], a rhyddh&d dedwydd y rhai hyny oeddynt yn cael eu gwarchau yn mhalas- an y llysgenhadon, mewn dwyn oddi amgylch yr hyn y darfu i'm milwyr Indiaidd a'm mor- filwyr wneyd eu rhau yn ganmoladwy, wedi cael en dilyn gan ymostyngiad y Llywodraeth Chineaidd, a pharodrwydd i dderbyn yr hawliau y gofynai y Galluoedd am danynt. Mae tra- fodaeth yn awr yn cael ei chario yn mlaen mewn perthynas i'r dull yn mha un y mae cyd- ymffurfiad a'r ammodau hyn i'w effeithio. Cafodd sefydliad gwladwriaeth Awstralia, ei gyhoeddi yn Sydney ar y laf o Ionawr, yn nghanol amlygiadau aneirif o frwdfrydedd a llawenydd y bobl. Yr oedd fy amvyl fam wedi rhoddi ei chydsyn- iad i ymweiiad y Due o Cernyw ac Efrog i agor senedd gyntaf y wladwriaeth newydd yn ei henw hi. Nis gall ymwahaniad oddi wrth fy mab, yn eawedig ar adeg fel yr un bresennol, lai na bod yn dra phoenus; ond yr wyf yn parhau i deimlo yn awyddus dros roddi effaith i ddymuniad ei di- weddar fawrhydi; ac fel prawf o'i dyddordeb hi, yn gystal ag o'r eiddo finnau, yn mhob peth sydd yn dal perthynas A chysur fy neiliaid y tu hwnt i'r morcedd, yr wyf wedi penderfynu na byddo i'r ymweiiad ag Awstralia gael ei adael; ac y bydd iddo gael ei emgu fel ag i gymmeryd i mewn New Zealand a thiriogaeth Canada. Y mae parhad y gweithrediadau gelyniaethus yn eheubarth Affrica wedi fy arwain i wneyd galwad pellach ar eich gwladgarwch, ac ar ffydd- Iondeb Canada ac Awstralia. Yr wyf yn llawen ychu fod fy nghais wedi cael ei atteb mor bryd- iiwfl ac mor frwdfrydig, a bod catrodau ohwaneg- 01 mawrion o'r trefedigaethau hyn i gael eu han .f?' 4 faoc* 1:7 t>huf1 un rl(11vmorni VLI ."lAoo'ilO J "JJ" J" -J Coronwyd yr ymgyrch a ffuxfiwyd i ddarostwng V gwrtbryfel yn Ashanti gan lwyddiatt mawr. Trwy bybyrwch a dewrder fy milwyr brodorol, yn cael eu liywyddu yn ailuog gan Syr James Will. uocks, a'u harwain gan swyddogion Prydeinig, iorchfygwyd gwrthwynebiad ystyfnig y Ilwythau mwyaf rhytelgar yn ngorllewinbarth Affrica, yu cgyafeal ag anhawsderau eifchriadol yr hinsawdd, y tymmor, a'r wlad, yn mha rai yr oedd y gweith- rediadau yn cael eu cario yn mlaen. Cafodd archoll,.iCootyassie, yr hwn a warcheuid, ei war- edu ar ol arnddiffyniad maith a dewr. Darfu i'r brenhinoedd penaf wneyd eu bymostyngiad, ac y mar- v prif rwystr ar ffordd cynnydd a dadblygiad y gyfrau oludog hon o'm meddiannau yn Ngor- llewinbarth Affriea wedi cael eu symmud ymaith yn derfynol. Y mae y dioddefiant a'r lliaws marwolietbau a aohoswyd gan yr hir sychder drcs gyfran helaeth o'm Bymerodraeth ladiaidd wedi cael ei liniaru yn fakyr gan y gwlaw a ddiagynodd ond yr wyf yn gofidio fy mod dan orfod i chwanegu fod rhan o Dywysogaeth Bombay yn parhau mewn cyfynsrdfr o natur ddifrifol, yr hwn y mae y swyddogioQ In defnyddio pob ymdrechion i'w leddfn. BONEDDIGION Ty Y CY7FREDINt. Bydd i'r amsangyfrifon am y flwyddyn gael on gosod ger eich bron. Y mae pob gofal wedi cael ei gymmeryd i wneyd eu swm mor fychan ag oedd bossibl ond, y mae angenrheidiau llyngesol a milwrol y wlad, ac yn enwedig y draul anwabanol gysaylltiedig a'r rhyfel yn Nebeubarth Affrica, wedi peri chwanegiad an. ocheladwy atynt. Par marwolaeth y Frenhines ei bod yn ang- e-irheidioi gwneuthur daipariaeth adnewyddol gogvfer a'r Rbestr Wladol. Yr wyf yn y modd nlw,yi,if (iihoced yn gofo.l.et eich galwad yr oil a'r Cyllidau Etifeddol a suddwyd yn yr un mold yn eich dwylaw gan fy rhagflaenoriaid ac vr wyf wedi gorchymyn ar fod i'r papyrau ar.genrheidiol tuag at ystyriaath lawn o'r mater ihwn gael eu gosod ger eich bron. Fy ARGLWYDDI A BONEDDSGION, Rhoddir i'ch barn gynnygion er cryfhau eff- eithiolrwydd fy ngalluoedd milwrol. Y mae cyfnewidiadau neillduol yn nghyfansoddiad Llys yr Appdl Diweddaf yn ange.nrheidiol er cyfar- fod A'r defnydd chwaDegol a wneir o hono, yr byn sydd wedi ei aobosi gan ymeangiad yr Ym- herodraeth yn ystod y adwy genhedlaeth ddi- weddaf. Cynnygir deddfwnaeth i chwi er gwella y ddefidf mewn pertbynas ag Addysg. Y mae mesurau wedi cael eu parotoi, ac os bydd amser yn caniatau dygir hwy o'ch blaen, er rheoli gwerthiant gwirfoddol gan dir-feistr- iaid i'w tenantiaid yn yr Iwerddon, er gwella ac uno deddfau v ffacti-is a'r ]law-weittif eydd, er gwella gweinyddiad y ddeddf mewn perthynas I a gwallgofiaid, er gwella deddf yr iechyd cyhoeddus, y deddfau mewn perthynas a'r cyf- lenwadau o ddwfr,er rhwystromeddwdodmewn tai trwyddedol a lleoedd cyhoeddus, ac er gwella y ddeddf mewn perthynas a hawliraint llenyddol. Yr ydwyf yn gweddioar i'r Hollalluog Dduw barhau i'ch arwain yn nghyflawniad eich ym- drafodaeth, a'n bendithio ft llwyddiairt. Wedi hyny gohiriwyd y Ty am ysbaid o amser. Am chwarter wedi pedwar, cymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle ar y sach wlan. Daeth gryn nifer o bendefigion yn mlaen i gymmeryd y llw.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Arddangoswyd dyddordeb mawr yn mysg aelodau T, y OyfFredin ar agoriad y senedd- dymmor hwn ac yr oecld, o leiaf, rhyw ddwsin c aelodau wedi gwneyd eu hymddangosiad yn y Ty tua hanner awr ar ol iddi daraw hanner nos nos Fercher, er mwyn iddynt sicrhau eu heisteddleoedd. Caed ysbaid o dawelwch wedi hyny nes yr oedd tua saith o'r gloch y boreu, pan y daeth nifer i mewn a pharhaai yr ael- odau i ddylifo i mewn wedi hyny nes yr oedd yn hanner awr wedi un, pan yr oedd pob eis- teddle wedi cael ei chymmeryd. Am ugain munyd wedi clau cafodd aelodau y Tý eu gwysio gan y Wialen Ddu i ymddangos yn Nhy yr Arglwyddi, i wrandaw araeth y Brenin. Ar ol bod yn absenno] am tuagugain munyd, gwnaeth y Llefarydd ei ail ymddangosiad. Ni ddarfu iddo gymmeryd ei sedd; gohiriwyd yr eisteddiad hyd hanner awr wedi tri. Llw o Deytngarwch. Pan ail ymgyfarfyddodd y Tj, yr oedd tyr- fa o'r aelodau yn disgwyl am gymmeryd eullfr o deyrngarwch i'r brenin. Yn mysg yr aelod- au o Gymru yr oedd Mr. W. Jones a Mr. W. Abraham (Rhondda). Cemdwriatthau oddi wrth gynnrychiolwyr Tram or. Hysbysodd y Llefarydd iddo, er pan y go- hiriwyd y Ty y tro diweddaf, dderbyn anerch- iadau oddi wrth amrywiol gynnrychiolwyr tramor mewn perthynas i farwolaeth y Fren- hines, ae iddo ef eu cydnabod yn enw y TY. Writ' i ranbarth Stratford. Ar gynnygiad Syr W. Walrond, gorchym- ynwyd rhoddi gwrit newydd alian dros ran- barth Stretford osir Lancaster, er ethol aelod yn lie Syr W. Maclure, yr hwn oedd wedi marw. Mesurau y Llywodraeth. Rhoddodd Mr. Ritchie rybudd y byddai iddo, ddydd Iau nesaf, ofyn mmiatâd i ddwyn mesur i mewn i ddiwygio Cyfreithiau y Ffactri a'r Gweithdai, yn gystal a mesur i gyfuno y cyf- reithiau hyny. Mr. Long a roddodd rybudd y byddai iddo, ddydd Llun, ddwyn mesur imewn i ddiwygio y gyfraith mewn cyssylltiad a'r iechyd cyhoedd- us, gyda sylw arbenig i'r cyflenwad o ddwfr, a materion eraill. Mr. G. Balfour a roddodd rybudd o'i fwriad i ddwyn mesur i mewn, yn fuan, i ddiwygio a chyfuno y gyfraith mewn perthynas i hawlys- grif lenyddol. Y Ddadl ar yr Å nerchiad. Cynnygiodd Mr. W. H. W. Foster anerchiad o ddiolchgarwch i'r brenin mewn attebiad i'r Araeth o'r Orsedd. Syr A. Agnew a gefnogodd y penderfyniad. Syr H. Campbell-Bannerman, yr hwn oedd y nesaf i siarad, a alwodd sylw at ddifrifwch y*; sefyllfa yn Neheudir AfFrica, a chyfeiriodd at gamgasgliadau difrifol y Llywodraeth, pan y dywedodd yn Hydref fod y rhyfel drosodd. Dadleuai ef y dylid anfon gyda'r corphluoedd oedd yn myned drosodd i'r wlad hono i gryf- J hau ein milwyr ddadganiad at bobl y ddwy j Dalaeth o'r cyfryw ammodau a wnai sicrhau i'r ymherodraeth yr oil yr oedd yn gofyn am dano, a'r hyn a wnai dawelu ofnau eu gwrth- wynebwyr ar y maes ar yr un adeg, arbed eu hawliau, a thrwy hyny fod yn gymmhelliad iddynt roddi eu harfau i lawr. Yr oedd yr awgrymiad y gallai Deheudir Affrica gael ei Hywodraethu trwy warchodlu milwrol yn beth nas gellid meddwl am dano. By'dai i'r fath oruchafiaeth ddwyn anghlod ar enw Prydain. Ammod hanfodol llwyddiant yn Neheubarth AfFrica ydoedd, cydnabod barn yr Is-ellmyn- iaid; ac heb hyny, ni wnai ein holl gyfi eth, ein corphluoedd, na holl allu a medrusrwydd ein gweinyddwyr a'n llywodraethwyr, wasanaethu i gadw ein hymherodraeth yn Neheudir Aff rica. Diweddodd Syr Henry ei araeth trwy gyfeirio at y sefyllfa yn China, ac at y ddeddf- wriaeth gartrefol oedd yn cael eu hacldaw yn Araeth y Brenin. Mr. A. J. Balfour, wrth atteb ar I dlodi tru- enus' rhaglen ddeddfwrol y Llywodraeth, a edliwiodd i aelodau y Llywodraeth Rydd- frydig ddiweddaf eu bod mor dlawd yn eu cyflawniad ag oeddynt o gyfoethog yn eu haddewidion. Wrth gyfeirio at y rhestr wlad- ol, dywedodd fod yna amser, pan yr oedd yn angenrheidiol darparu ar gyfer dyledion yr aed 1-1 y iddynt cyn i'r Tywysog ddyfod i'r orsedd, ond nid oedd yna ddyryswch o'r fath yn yr achos hwn. Nid oedd yna ddim dyledion i'w cyfar- iod, ac yr oedd efe yn teimlo yn sicr y byddai y ddwy ochr i'r Ty yn awyddus am ddarparu mewn modd digonol ar gyfer anghenion teyrn ,ein hymherodraeth fawr. Gan fyned yn mlaen at y cwestiwn o ryfel, dywedai Mr. Balfour fod arweinydd yr Wrthblaid fel am roddi ar ddeall ei fod ef yn myned at y Bwriaid, ac yn dyweyd wrthynt, os rhodcient eu harfau i lawr, y cawsent sefydliadau rhydd yn ddioed. Nid oedd y Llywodraeth yn credu fod hyny yn bossibl, nac yn bolisi diogel. Gobeithiai ef y byddai i holl aelodau y Ty fod yn ofalus rhag dyweyd dim y gellid ei droi i fod yn awgrym fod y wlad hon yn meddwl rhoddi i fyny yr ymgyrch oedd yn cael ei chario yn mlaen gan- ddi. Ni wnai ef unrhyw ymgais at geisio prophwydo pa bryd y byddai i'r rhyfel gael ei dwyn i derfyniad, ond yr oedd efe yn dadgan y cawsai ei chario yn mlaen hyd nes y deuid i'r unig derfyniad possibl, yn gysson a'n hanrhyd- edd a'n sefyllfa yn Neheadir Affrlca. Cymmerwyd rhan yn y ddadl wedi hyny gan Syr H. Vincent, Syr E. A. Bartlett, a Syr C. Dilke. Mr. Bryce a sylwodd nad oedd yn ymddang- os fod Mr. Balfour yn meddu ond ychydig ym- wybodolrwydd o ddifrifwch y sefyllfa, ac nad oedd yn tafiu unrhyw oleuni ar agwedd bremen- nol pethau, nac yn rhoddi ar ddeall beth oedd y polisi i fod yn y dyfodol. Cododd y Tý am hanner nos. o
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. DYDD GWENER, Chivefror 15jed.-Cy-mmerodd y Llefarydd y gadair am dri o'r gloch. Y Cyffredinwyr ac A raeth y Brenin. Mr. J. E Ellis a ofynodd, trwy pa awdurdod yr oedd aelodau yn cael eu cau or seddau yn oriel, Tý yr Arglwyddi a drefnwyd ar eu cyfer pan yr oeddynt wedi cael eu gwysio i'r Tý- hwnw ddydd Iau, gan y brenin, a thrwy awdurdod pwy yr oedd dyeithriaid yn cael myned i mewn, a'r aelodau trwy hyay yn cael eu cau allan? Eglurodd Mr. Balfour fod y trefniadau ddydd Iau yn union fel yr arferent fod ar y oyfryw amgylchiad. LI-et, y Coroniad. Mr. Wingfield-Digby a ofynodd, pa un a oedd yna gyfnewidiad i gael ei wneyd yn llw y coron- lad; a.c oa felly, a oedd yn bossibl gwneyd y cyf. newidiad hwnw heb gyfraith seneddol ? Atlod Newydd. Cymmerodd Dr. E. C. Thompson, yr hwn a gyflwynwyd i'rT$gan Cadben Donelan a Mr. P. 0 Brien, y lift a'i sedd dros Ogledd Monaghan, yn lie y diweddar Mr. Macaleese. Rhoddwyd cynameradwyaeth iddo gan y Cenedlaetholwyr.
Y DDADL AR YR ANERCHIAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DDADL AR YR ANERCHIAD. Ail agorwyd y ddadl ar yr Anerchiad gan Mr. Chaplin, yr hwn a ddadlau&i y dylai y Llywodraeth ddwyn mesur i mewn er amddiffyn y cyhoedd rhag cael eu gwenwyno trwy gwrw. Mr. Cuthbert a siaradodd i'r un cyfeiriad. Mr. Walter Long, ar ol iddo ddyweyd fod y Llywodraeth wedi pennodi Dirprwyaeth Fren- hinol, a sylwodd y byddai yn ammhossibl i'r Llywodraeth attal gwerthiant cwrw oedd wedi cael ei fragu mewn modd cyfreithlawn a phriodol yn y wlad hon yn yr amser oedd wedi myned heibio, a'r hwn oedd yn rhydd oddi wrth fater gwenwynig. Syr Waiter Foster a alwodd sylw at y marwol- aethau llioaog oddi wrth afiechyd yn Neheudir Affriea a dywedodd fod adroddiad Dirprwyaeth yr Ysbyttai yn cyfiawnhau yn llawn yr holl gwynion oedd wedi ctel eu gwneyd yn y T £ hwnw a'r newyddiaduron. ) Mr. Burdett-Coutts, Mr. Pirie, Mr. Labouchere, ii at eraill, a ddadlenent dros i ammodau cyttundeb gael eu cynnyg i r Bwriaid. Arglwydd Stanley, ar ran y Llywodraeth, a attebodd, trwy ddyweyd nad gwir oedd yr boaiad na chyaDygiwyd ammodan boddwoh i'r Bwriaid. Pan ddyneswyd at Botha a De Wet, yr oeddynt wedi gwneyd dadganiad o'u penderfyniad i beidio derbyn dim llai nag annibyniaeth hollol. Mewn perthynas i losgi ffermydd, yr oedd Argl- wydd Roberts wedi cyfarwyddo nad oedd y gosp hono i gael ei chario allan oud ar gyfarwyddyd y swyddog llywyddol am droseddau arbenig. Tra. yn y dehen gallasai nad oedd wedi cMio effaith dda, ond yr oedd wedi cael yn y gogledd, yn ddiau. Mr. J. Walton a siaradodd ar y sefyllfa yn China. Yr oedd Arglwydd Cranborne yn siarad, mewn attebiad, ganol nos, pan y gohiriodd y Tý.
AMLWCH.j
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMLWCH. Llys yr Ynadon,—Dydd Gwener cynnaliwyd y llys hwn, o dan lywyddiaeth Mr. J. MatLhew. Cyhuddwyd William King, alias Roy, Oanad- iad ieuango, yrhwn oedd yn dyfod o Montreal, o lanrata mackintosh, pir o hosanau, d^u gadach gwddf, a 4s. 6c, mewa arian. eiddo John Hughes, Fferm y Nanner, Ll-iaibwydrus, y rhai a brisid yn 30-5. Cymmerwyd y carcharor i fyny yn Nghaer, a throsglwyddwyd ef i ofal yr Heddgeidwad Hugh Williams, Porthaethwy; a chydnabyddodd ei ouogrwydd. Cyhuddwyd ef, yn mhellach, o enciliooddi wrth y fyddin ar y 19eg o Ionawr, Y cadeirydd a sylwodd, gan mai y lly. cyntaf a gynnaliwyd yno yn ystod teyrnasi&d Iorwerth VII. ei bod yn bleser iddynt hwy ym- ddwyn yn dyner tuag at yr holl garoharorion; Gofidient eu bod yn gweled un o'r Canadiaid teyrngarol mewn trafferth. Dedfrydid ef i 14 diwrnod o garchariad am y Hadrad a byddai iddo gael ei drosglwyddo ar derfyn y tymmor hwnw i I ofal yr awdurdodau milwrol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
[GAN AGRICOLAj. .r MAGU TWRCIOD. FE ddywedir nad oes ond tair o ferched yn yr Unol Dalaethau yn gwneyd yr hyn y gellir ei alw yn fasnach cyfanwerthol mewn magu twrciod i'r farchnad; un o honynt yw Mrs. B. F. Jackson, Kentucky, yr hon a ddechreuodd bum mlynedd yn ol; ac er byred yr amser hi wna fasnach yn cyrhaedd arnryw filoedd o ddoleri hefo twrciod; ac y mM'r galwad am danynt yn bresennol yn fwy nag y gall hi ei gyfarfod. Yr ail yw Mrs. Mary R. Thomas, Maryland, gan yr hon y mae saith o ffermydd wedi eu neillduo i'r fasnach. Y drydedd yw Miss Anita Martin, o Texas, yr hon sydd wedi bod yn y fasnach o ddeutu yr un faint o amser a Mrs. Jackson. Geill hithau rifo ei thwrc'iod wrth y miloedd. Dewisa Mrs. Thomas yr adar lliw pres (bronze). Pwvsa'r ceiliogod o 36 i 45 pwys, a'r ieir o 18 i 26 pwys. Dywed Mrs. Jackson na ddylid bwydo'r cywion hyd nes y byddont o- leiaf yn 36 o oriau o oed, a gwell fyddai aros 12 awr yu mhellach. Yna cfiut dri phryd y dydd, yn gynnwysedig o friwsion bara, cawl, a wynwyn wedi eu malurio, am ychydig o wythnosau; yna fe'i newidir am wenith ac indrawn wedi ei ysigo. Pan y bydd ganddi 100 neu ragor wedi eu deor dodir hwy gyda thair o'r ieir tyreyaidd goreu, a'u gadaol i ddewiseu mamau eu hunain. Gellir eu gollwng yn rhyddion pan fyddont yn 10 niwrnod oed, ond fe ddylid cymmeryd g .fal i'w harnddiffyn rbag gwlaw, a'u cadw rhag crwydro i ymddyrysu mewn gwelltglas gwlyb, y I am eu bod yn dueddol i gymmeryd anwyd, yr hwn, yn ddi-eithriad, o'r bron, a brofa'n angeu iddynt. Rhaid iddynt gael digon o oleuni haul Rhaid hefyd fyd eu cadw rhag pryfaid, trwy dcefiiyddio powdwr pryfaid yn yr hi: i oer ac ar adeg boeth ii-o eu penau a'n gyddfau yn y nos hefo cymmysgedd o floneg (lard) a Kerosese^ yr hwn a'u gyr ymaith cyn y bOleu. Ceidw Miss Martin o ddeutu 100 o 'stock birds,' ac y mae dwy ddynes ac amryw o fechgyn yn ei chynnorthwyo hi; a dywed ei bod wedi clirio dwy fil a hanner o ddoleri y flwyddyn ddi- weddaf. Coda hi arlleg (shalots) a phupur, yn ogystal ag indrawn,i'w ffidio; ac y mae y modd y trina hwy yn gyffelyb i ddull Mrs. Thomas gvda'r eitbriad y bydd hi yn rhoddi blawd indrawn iddynt heb ei ogrynu, ac yn rhoddi pupur yn He garlleg hyd nes y byddont yn ddi- gon hen i hel bwyd glas eu hunain. Wedi iddynt ddyfod yn bedwar mis oed ni fwydir hwy oud dwy waith yn y dydd. 0 herwydd getwinder yr bin yn y gauaf fe rodda magwyr da pluog yr America lawer o fwydydd breintebol (patent foods) i'w hieir mewn trefn i'w cadw yn gyimes, ac i weithredu arnynt fel cymmhellydd (stimulant) i ddodwy. Ond fe ddylid bod yn ofalus gyda bwydydd o'r natnr hyny i beidio ei roddi i'r adar bob dydd, o blegid bydd yn sicr o wneyd mwy o ddrwg nag o lês, gan yr effeitbia ar yr wyau i'w gwneyd yn an- ffrwythlawn. Weithiau fo welid cywion o wyau ieir wedi en bwydo yn y fath fodd yn colli eu pluf. Yn hytrach na defnyddio powdrau wedi eu parotoi gwell, mi goeliaf, fyddai defnyddio pupur coch cyffredin. Hwyrach yr attebat snusur da gystal a dim i gadw da pluog yn iaeh mtwn tywydd oer.
PORTHI MOCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTHI MOCH. Nid oes eisiou colli amser i geisio profi fod baewn a hams Denmarc yn dra chymmeradwy yn Nghymru a Lloegr-y maent felly, fel pob- peth da arall. Blawd haidd yw y prif uwydd a ddefnyddir yno i fwydo moch. Y mae. blawd haidd yn beth nad oes eisieu amser lawer i'w barotoi—dim ond ei wlycbu a dwfr oer, yna ei gymmysgu & llefrith wedi ei ddihufenu. Y mae yr amaethwyr yn Denmarc yn meddwl cym- maint o haidd i bortbi fel y prynant gannoedd o dynelli o hono mewn gwledydd eraill at y pwr- pas, a dywedant fod yr haidd yn talu yn dda drwy ei ddefnyddto'n fwyd moch. Yr ydym ni yn credu yr un fath a hwy am yr haidd fel bwyd ardderchog i foch a thybiwn, hefyd, y talai i niunau godi mwy o hono at y pwrpas hwnw yn hytrah na phrynu indrawn i'w porthi. Rhydd amaethwyr Denmarc gryn bwys ar silage fel bwyd moch; ond hawdd iawn yw rhoddi gormod o silage iddynt, a thrwy hyny wneyd mwy o ddrwg nag o les iddynt. Dywed un awdurdod yn mysg ein bamaeth- wyr fod o 30 i 40 pwys o silage y dydd yn llawn digon i bob mochyn. Wrth gwrs, gellid rhoddi rbagor am amser byr.
II PEDOLI MEIRCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
II PEDOLI MEIRCH. Y mae profiad blynyddau ar bedoli mairch a phedolau trymion yn rhoddi i ni bawl dda i gondemnio yr arferiad fel an ag sydd yn rhwym o fod yn un greulawn, ac anfanteisiol iawn i'w percbetiogion. I geffylau a gariant lwythi ar hyd y dydd ar flyrdd caregog a cbaledion yn unig y mae angen am danynt, a diau y geilid tynu y rhai hyny hefyd i lawr. Ond i geffylau yn gweithio ar dir, goreu po ysgafnaf y byddont. Ni ddylent fod yn drymach nag o 14 i 15 wns yr un. Pe chwanegid pedair wns atynt—i'w gwneyd yn bwys yn rhagor i farch i'w gario bob munyd o'r dydd a'r nos, diau y dywedai arno mewn amser lied fyr. Wrth aredig, llyfnu, tori gwair ac yd, fe gerdda ceffyl o 10 i 20 milldir y dydd. Dyweder 15 milldir fo fyddai y gwahan- iaeth yn y pwysau fyddai ra.id i'r march sym- mud yn naw mil o bwysi yn rhagor bob dydd, neu yn agos i bum tyoell, Fe welir fod y nerth i wneyd hyny yn cael ei droi yn waste, a hyny i ddim pwrpas arbenig. Y mae llawer o fanau yn America na, fydd y meirch byth yn cael eu pedoli, a'r unig beth a wneir i'w carnau fydd trwsio tipyn arnynt hefo cyllell, yn gyffelyb fj y gwna eu perchetiogioti a'u hcwin- edd eu hunain. Fe arferid 80 niiynec'd yn ol bedoli gwartheg a yrid i lawr i Loegr/ ond ni raid gwneyd hyny yn awr, gan na fydd raid iddynt gerdded ond pur ychydig.
GWARTHEG GODRO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWARTHEG GODRO. Fe ymddengys fod y gwartheg godro yn America, Awstralia, ac. yn arbenig yn New Zea- land, yn cael sylw neillduol yn bresennol. Yn y lie cyntaf a enwyd, a. gofelir am iddynt fod yn hollol glir oddi wrth bob afiechyd, yn enwodig tuberculosis. Rhaid fydd iddynt basio y prawf cyn y eftnt eu godro, yr byn beth a wneir gan ddoctor anifeiliaid profedig. Bydd y llaeth a odrir o wartheg lol hyny yu cael ei w§rf/hu fel certified milk a hawlia y pris uchaf yn marchnad- oedd y wlad. Golyga yr hyn a ddywedwyd uchod y bydd raid i'r beudai a'u cylchoedd fod yn lân. Hefyd, y dwfr a roddir i'r gwartheg yn Ign a phur. Bydd raid cael tystysgrif o dan law meddyg anifeiliaid, o dan law y dynion fydd yn edrych ar ol glanwe thdra'r beudai a'u cylch- oedd, purdeb y dwfr a glanweitbdra y llestri llaeth, ltC, hefyd o dan law psrehenog y gwartheg, i dystio y bydd ef wedi cadw at yr holl reolau a olyna y gyfraith-cyfraith y Ilwybr llaetbog.'
LLANWONNO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANWONNO. ETHOLIAD BWRDD YSGOL. Y MAE yr ymgeiswyr canlynol wedi cael eu benwi am seddau ar Fwrdd Ysgol Llanwonno Arglwydd At)erdir; John Charles, Mountain Ash J. E. Davies, Abercynon J. P. Davies, Abercynon W. S. Davies, Mountain Ash Thomas Edmunds, Mountain Ash Hannah Sophia Edwards, Mountain Ash G. A. Evans, Mountain Ash Isaac George, Mountain Ash James A. Griffiths, Abercynon Morgan Jen- kins (gweinidog gyda'r Annibynwyr), Aber- cynon A. T. Jones, Mountain Ash Edward Junes, Ynysybwl; Owen Jones (gweinidog gyda'r Aunibynwyr), Mountain Ash B-njamin Lloyd (iicer), Mountain Ash; J. C. Lloyd (gweinidog gyda'r Aunibynwyr), Yuysybwl Edwin Lovell, Mountain Ash William Phillips, Penrhiwceiber William Probert, Mountain Ash D. Smith, Yuysybwl I). Thomas, Mountain Ash E. T. Williams, Peorhiweeiber; John Williams, Penrhiwceiber; ThomasWilliams, Abercynon William Yates, Mountain Ash. Ysgrifenodd Mr. Isaac George, y Grove, Mountain Ash, i hysbysu ei fod ef wsdi tynu ei ymgeisiaeth yu ol yn ffafr y tri ymgeisydd Liafur ac annogai eraill oedd wedi cael eu benwi i ddilyn ei esampi, fel y byddo i ymgeis- wyr Llafur a'r hen aelodau gael eu dychwelyd yn ddi-wrthwynebiad. Y mae 25 wedi cael eu henwi yn ymgeiswyr am yr 18 o seddau. Os na thynir rhif yr ymgeiswyr i lawr, cymmer ym- drechfa etboliadolle ar y 25ain o'r mis hwn.
Y PARCH. THOMAS PARRY, COLWYN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH. THOMAS PARRY, COLWYN BAY. YN y Colwyn Bay Weekly News am yr wythnos ddiweddaf ceir darlun rhagorol o'r gweinidog adnabyddus uchod yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, ynghyd I brfte Kin o hanes ei fywyd. Yr ydym, yn y modd mwyaf calonog, yn non- gyfarch em hanwyl gyfaiil ar ei yrf, lafurus a llwyddiannus Nodwedd fawr ei fywyd ydyw yni a phenderfyniad, a gwneir hyn yn amlwg yn y brlls lfta. Gallai darlleniad ystyriol o hono fod yn aymbyliad o'r fath fwyaf certhol i ddynion ieuaingc. Yn Mr. Parry cawn enghraifft nodedig o'r dyn hunan-wneuthureiig.' Trwy ddiwyd- rwydd a medr y mae wedi ennill sefyllfa anrhyd- eddus o annibyniaeth, ao wedi dilyn gyrfa ddi- lychwin. Yn ei dref nid oea neb yn uwch el barob, na neb A, mwy o alw am ei wasanaeth. Fel aelod o gynghor ei air edryoha ei gydaelodau arno gyda pharch haeddiannol. Yn ngbytarfod misol Dyffryn Conwy mae ei ddylanwad yn ddwfn a di. aminheuol. A ohan y cynoulleidfaoedd nid oes gweinidogaeth neb yn fwy cymmeradwy nag eiddo y gwr diymhongar y mae ei enw uwch bea y paragraph hwn. Bydded iddo hir oeg.