Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

SIR FFLINT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SIR FFLINT. Yn Wyddgrug y cynnaliwyd y trawdlys hon, dydd Gwener, ger bron y Bauvi' Chan- nel". Cynghaws am Dorl Ammod Priudas —'< Ploidliiau wedi dyfod i uyttu-iJ^b. Crybwyllodd Mr. R. V. BanKes achos yn mha un yr oedd Susie Pressley, gynt o Man- chester a Wyddgrug, a'r hon oedd yn awr yn rheoli gwestty yn Liverpool, yn erlynes, ac Edwin Lloyd, Fferm Maesgarmon, yn ddi- ffynydd. Cynghaws ydoedd am dori ammod priodas, ac yr oedd wedi cael ei benderfynu trwy dalu swm neillduol y cyttunwyd arno, gyda chostau. Gofynodd am i ddyfarniad gael ei gwneyd ar y telerau drefnwyd. Cyt- tunodd y barnwr. Cyhuddiad o Amlwreliciaeth. Alfred H. D. Webb, 39ain mlwydd oed, saer priddfaen, a gyhuddwyd o briodi Sarah Elizabeth Taaffe, yn Mhenarlag, ar yr Slain o Ragfyr, tra yr oedd ei wraig flaenorol, Ad- elina Maria, yr hon oedd efe wedi briodi ar y lOfed o Gorphenaf, 1895 yn fyw. Erlynid gan Mr. T. H. Parry. Nd oedd neb yn amddiffyn y carcharor. Hysbyswyd fod Webb wedi priodi Miss Taaffe ar ol iddo ei sicrhau hi ei fod wedi cael ysgariad oddi wrth ei wraig gyntaf. Pan gymmerwyd' y carcharor i'r dclalfa. yn Bwcle, cydnabyddodd ei fod yn wr priod, a bod ganddo bedwar o blant. Y carcharor, wrth roddi ei dystiolaeth ar ei ran ei hun, a ddywedodd iddo glywed fod ei wraig gyntaf wedi marw. Yr oedd wedi cael allan a oedd hyn yn ffaith, trwy anfon •lly thy ran wedi eu cyfejrio i'w wraig i ofal ei fam, ond ni dderbyniodd un atteb i'r rhai hyn. Cafodd y rheithwyr y carcharor yn euog. Dywedai ei arglwyddiaeth ei bod yn ammhos- sibl i un dyn synwyrol gredu y mynegiad wnaed gan y carcharor, ei fod yn meddwl fod ei wraig wedi marw. Deallai nad oedd iechyd y carcharor yn dda, ac wrth gymmer- yd y ffaith hon i ystyriaetli, ac i'r carcharor eisoes fod yn ngharchar am bedwar mis, byddai iddo roddi dedfryd o chwe' mis o garchariad yn yr ail ddosbarth. Lladrad yn Rhyl. Dedfrydwyd John Jones, Slain mlwydd oed, llafurwr, i bedwar mis o garchariad, gyda llafur caled, am ladrata tecell copr, gwerth 5s., eiddo Thomas Evans, yn Rhyl, ar y 10fed o Ebrill. Erlynid gan Mr. Oliver Roberta. Tyngu Anudon yn Wyddgrug. Cyhuddwyd John H. Williams, 34ain mlwydd oed, paentiwr, o dyngu anudon yn llys yr ynadon yn Wyddgrug, ar y 25ain o Ebrill, wrth roddi ei dystiolaeth ar ei ran ei hun, mewn achos y cyhuddid ef o ladrata plwm. Erlynid gan Mr. Ellis Griffith, ac amddi- ffynid gan Mr. T. H. Parry. Plediodd y carcharor ei euogrwydd, a gorchymynwyd iddo fyned i feichiafaeth y gwnai ei ymddangosiad ar unrhyw adeg o fewn y flwyddy-n nesaf ac yn y cyfamser gos- odid' ef o dan arolygiad swyddog, dyledTswydd yr hwn fyddai adrodd i'r llys os rhoddai y carcharor ffordd i ddiod etto. Collwng y Carcharor yn Rhydd. David Lewis, 35ain mlwydd oed, uphol- sterer,' Rhyl, a gyhuddwyd o dreisio yn Rhyl, Ebrill 2il. Ymddangosai Mr. R. V. Bankes dros yr er- lyniad a Mr. Ellis Griffith, A.S., dros yr am- ddiffyniad. Oafwyd y carcharor yn ddieuog, a gollyng- wyd ef yn rhydd. Gynghaws Teuluaidd. William Owen Hughes a geisiai sicrhau y swm o 296p. gan ei chwaer, Eliabeth Lloyd, arian a honid oedd wedi cael eu derbyn gan swm o 296p. gan ei chwaer, Eliabeth Lloyd, arian a honid oedd wedi cael eu derbyn gan y ddiffynyddes at wasanaeth yr erlynydcl. Yr oedd y pleidiau yn trigiannu yn Nhre- ffynnon. Bu John Hughes, brawd i'r erlyn- ydd a'r ddiffynyddes, farw yn Nhrefedigaeth y Penrhyn, Mawrth, 1907. Rhyw ychydig cyn ei farwolaeth, ysgrifenodd lythyr at yr erlynydd, ac un arall at y ddiffynyddes. Yn un o honynt dywedai ei fod yn disgwyl i'r ddiffynyddes ranu yr hyn a adawodd gyda Bill. Dywedodd ei Arglwyddiaeth y byddai iddo ohirio ei ddyfarniad. Dadganodd ei obaith y byddai i'r pleidiau, yn y cyfamser, ddyfod i gyttundeb a'u gilydd.

Y GOGLEDD.

Y DEHEU.

SIR ABERTEIFI,

CYHUDDIAD O DYNGU ANUDON.

SIR DDINBYCH.

LLANWRIN.