Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

MR. LLOYD GEORGE, A.S., YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. LLOYD GEORGE, A.S., YN CRICCIETH. Nos Lun, Medi 28ain, siaradodd Mr. Lloyd George mewn cyfarfod cyhoeddus gynmaliw^d ynglyn a Synod Wesleyaid Gogledd Cymru, yn Criccieth. Dywedodd fod yn dda ganddo ?od Synod y Wesleyaid yn gosod y cwestiwn dirwestol ar ffrynt ei hymgynghoriadan. Ni bu erioed amser oedd yn galw mwy aim, i allu yr eglwys gael ei roddi ar waith ar ran sobr- wyddnag yn bresennol..Yr oedd yr ytm- drechion enfawr a roddid ar waith gan 'y fasnach yn Lloeg'r i ddinvstrio y meswr cymmedrol iawn o ddiwygiad dirwestol oedd y Llywodraeth wedi ei ddwyn yn mlaen, yn ddiau, yn gwneyd argraph ar y farn gy- hoeddus yn Lloegr. Yr. Eglwys a'r Etholwyr. Yn Ysgotland ac yn Nghymru yr oedd yr ymdrecihion hyny yn beriiaith egwan i adael (dylanwad gwirkmeddol ar y sefyllfa wield-, yddol. Yr oedd efe yn fpriodoli hyny i'r ffaith fod yr eglwysi yn Ysgotland a Ohymru yn llawer mwy eu dylanwad ar y bobl; a pha beth bynag fyddai canlyniad yr ym- drechfa fawr hon, dangosai, modd bynag, mewn modd terfynol, un ystyriaeth bwysig i ddyfodol y wlad hon, a hyny ydoedd, pa un a oedd ymdrechion unol yr holl enwadau crefyddol yn y wlad hon yn gyfartal i'r gallu oedd yn cael ei ddangos gan yr un fasnach hon ar dynged y wlad (clywch, clywch). 0 blegid nid ymgyrch rhwng Ymneillduaeth a'r fasnach mewn diodydd meddwol yn unig ydoedd. Teimlai ef yn falch o gael dyweyd mewn capol Ymneillduol, ac o flaen cyn- nulleidfa o Ymneilkluwyr, fod y mwyafrif o arweinwyr Eglwys Loegr wedi cymmeryd eu rhanXel dynion yn yr ymgyrch yn erbyn galluoedd anghymmedroldeb. Sicrhead ef ei fod yii debygol y byddai i Archesgob Gaer-' gaint, a'r mwyafrif o'r esgobion, gofnodi eu pleidleisiati yn Nhy yr Arglwyddi dros ail (ddarlleniad Mesur y Trwyddedau ac os caw- sai y mesnr, er y ffaith bono, gyda chydsyn- iad ainlwg yr etholwyr Saesnig, golvgai, ar y cwestiwn oedd yn effeitliio ar fuddiannau uchaf y bobl, fod buddiannau y fasnach mewn diodydd meddwol yn cario mwy o ddy- lanwad ar yr etholwyr Saesnig nag appel- iadau unol y rhai oedd yn gyfrifol am lwydd- iant moesol ac ysbrydol dynion a merched y wlad (clywch, clywch). I Ddynion goreu pob Plaid. Dyma y math o gwestiwn y gallai Ty yr Arglwyddi dda.ngos, mewn gwirionedd, pa hawl oedd ganddo i fod yn g'ynnulliad oedd yn rhydd i ystyried buddiannau gwirionedd- ol y bobl, heb gael eu cario i tfwrdd gan gynnhyrfiad y lliaws (cym.). Nid oedd dedclfwriaeth ddirwestol yn fath o waith ag oedd yli dwyn poblogrwydd i unrhyw blaid, ac nid ymjgymmerai tin blaid a'r gwaith g3Tdaig viinhyvv obaith o ennill pleidleisiau trwyddi. Feliv, yr oedd yn a,mlwg ei fod yn achos y dylai dynioii o bob plaid uno er at- tal buddiannau personol, a dymuniad adran o'r wladwrjaeth a safent ar ffordd llwydd- iant cyffredinol. pawb (ue'hel gyin.). Yr oedd yr hynodrwydd liwn ynglyn a deddfwriaeth ddirwestol, ei fod yn cael ei wrthwyiiebtl bob amser gan y rhai yr oedd yn estyn iiiwyaf 0 fanteision iddynt. Yr oedd ilnrhyw. fesur arall, pa.un bynag ai Blwydd-daliadau i bobl Oedranus, neu Ad-daliad i Weithwyr, neu Fesur Wyth Awr i Fwnwyr, yn derbyn cefnogaeth galonog y personau hyny ar ran pa rai yr oedd y cyfryw fesura u yn cael eu dwyn yn mlaen. Ond yr oedd y rhai a syrthient i anghjlmimedroldeb, er amddiffyn pa rai yr oedd mesurau yn dwyn perthynas r f,asnach feddwol yn cael eu dwyn yn mlaen, bob amser yn. ffyrnig, ac yn wrth- wynebwyr anghymmodlawn i'r cyfryw fesur- au. Dyna pa ham na ddylid trin dirwest fel cwestiwn plaid. Dylai, yn hytrach, ddwyn pob plaid i ymwneyd ag,-ef, heb gymmeryd i ystyriaeth fantais plaid. Gyfieusdra i'r Arglwyddi. Dyana y cyfleusdra mwyaf gynnygiwyd er- ioed i Dy yr Arglwyddi i godi i fyny i urdd- as ei honiadau mawrion fel sefydliad anni- bynol yn mhell uwch law v cynnhyrfiadau a'r buddiannau oedd yn ysgubo y lliaws. A fyddai iddynt godi i lefel eu cyfleusdra? Yr oedd profiad wedi eu dysgu, os gwelai Ty yr neu wrthod mesur, ni wnai un ystyriaeth Arglwyddi unrhyw fantais plaid trwy. basio. o'i deilyngdod, neu ei effaith ar lwyddiant y bobl. sefyll rhyngddynt hwy a buddiannau y blaid yr oeddynt hwy yn gangen hollol o honi. Hyd yn oed pe cawsai y meshr ei wrthod,' chwanegai Canghellydd y Drysorfa, nid ydym ar derfyn ein hadnoddau 6 gwbl.' Dylanwad Wesleyaeth. Wrth ddeclireu ei araeth sylwodd Mr. Lloyd George fod John Wesley wedi sefydlu un o'r cymdeithasau mwyaf perffaith a wel- odd y byd erioed; ond er mai Wesleyaeth oedd y mwyaf o'r Eglwysi Rhyddion, ac er fod ei gwrandawyr yn mysg y rhai oedd yn siarad Saesneg trwy y byd. yn fwy lliosog nag unrhyw enwad crefyddol arall, gan gvn- nwys Eglwys Loegr, nid oedd dylanwad gwirioneddol y symmudiad Wesleyaidd i gael ei fesur trwy ystadegau, naill ai eglwysi, eiddo, nac aelodaeth; ond gar; yr ysgotgiad newydd a'r ysbrydiaeth oedd yn ei roddi i fywyd crefyddol Prydain, ar foment pan yr oedd ysbryd o dduwiolfrydedd yn ei fan isaf yn hanes y wlad hon.

IMR. WALTER RUNCIMAN, A. S,…

MR. HEMMERDE, A.S., YN RHOSTYLLEN.

DADSEFYDLIAD YR EGLWYS YN…

MERCHED YR ETHOLFRAINT YN…

'SYNOD' Y WESLEYAID YN FFLINT.

!ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD.

YN PARHAU YN DDA YN NGHONWY.

[No title]

Y GYNNADLEDD YN ABERTAWE.