Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

O'r De Draw.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'r De Draw. Cofio Ambrose Lloyd. Es efallai bra id d yn hwyr yn y dydd, ac hyd yn oed ar draul y'm cyhuddir o fod ddivvarnoti ■ar ol, anturiaf yn hyderus anfon gair i'r BRYTHON er gosod ar gael a chadw yr hyn a wnaed yng Nghanol Rhondda erdathlu can- rrtlwyddiant y diweddar Mr. J. Ambrose Lloyd. Fe dalodd fe ibion a merched em cwm poblog deyrnged teg alielaeth adegWyl Ddewi er cofio Picton a Waterloo, ac Owen Glyn Dwr —ie, Cadwgan y Fwyell hefyd, un o gaptein- iaid Owen yn y Rhondda—a'i ymdreoh dros aimibyniaeth Cymru. Ond ni fuont ychwaith yn anghofus am un it. fu'n borth a llywydd i 6111 cysegr. sef Ambrose Lloyd. A ninnau yng Nghanol Rhondda, heb ajighofio lielynt blin y rhyfel, na eholli golwg ar fwg y brwydrau,"—eich chwedl chwi,-a gwybod ar yr un pryd ein dyletswydd. i gof un o'n prif gymwynaswyr cerddorol, ni a benderfynasom gadw gwyl er coffa amdano. Pwy biau'r syniad nis gwn, ond un peth a wn i, fe''i mabwysiadwydyn ddiymdroigyda brwd frydedd, ac fe'i gorffennwyd yn ihvyddtaimus, er mawr foddhad i bawb a gwelwyd tyrfa oedd yn moliannu'r Arglwydd yn ei dy, a sain can a moliant yn esgyn i fyny yn fawl dyrch- a tel. Er hyrwyddo'r gwaith yr oedd yn ein pwyllgor eanolog gynrychiolaeth broao bob eglwys Ymneilltuol Cymreig o Ganol Rhon- dda,-yn rhifo tuag ugain eglwys. Pender- fynwyd., heb neb yn tynnu'n groes, gael C'ymanfa Undebol, ond yr anhawster oedd, sut i'w ohynnal er rhoi cyfle i'r llu aelodau Cymreig sydd yn yr ardal boblog hon i fanteisio ar yr wyl. Nis gellid gwell na chael pedair cymanfa,—wyth cyfarfod i gyd—i'w cynnal yn y capelau ohangaf, ar yr un dydd, oilyngweithredu'r un rhaglen, a phawb yn un a ehytun yn eu pebyll, a'r oil yn yr un ysbryd. A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd." Paratowyd holl waith y dydd trwy gyfrwng un pwyllgor eanolog, yn cynrychioli pedwar dosbarth, sef, yn laf, Llwyn y Pia a'r cylch; yr 2il, Clydach Vale a Blaen Clydach y 3ydd, Ton y Pnndy a Threalaw ac yn 4ydd, Pen y graig, Dinas a Thre Wiliam. Dyma'r cwbl o'r pentrefi, os iawn eu galw hwy felly, oblegid maent yn awr wedi eu huno'n un dref enfawr a'i phoblogaeth yn rhifo tua hanner can mil. Nodir y ffaith hon er dangos ehang- edl cylch y gymanfa a'r sylw a gafodd gwrth- rych y dathliad. Fe drefnodd pob dosbarth ei swyddogion ei hun, ynghyda llywyddion, siaradwyr, cyfeil- wyr ac arweinwyr canu am y dydd. Daeth- pwyd ag adroddiadau'r dosbarthiadau i'r pwyllgor eanolog, lie y cwblhawyd y gweddill y rhaglon-sef dewis tonau ac anthemau o Vaith y diweddar J. Ambrose Lloyd. Yr oedd y pwyllgor hwn yn llawn sel a chariad at y gwaith, ac yn y fan i chwi, cafwyd Seiat Ganu'n ddidaro-blaenffrwyth y cymanfa- oedd hwylus a gafwyd nawn. a nos Iau, y 14eg o fis Hydref diwethaf. Am y cyfarfodydd, nid fyawydd i ywbww clod nac anghlod rhagor gwaith hwn a'r llall, ond mentraf ddweyd, hyd y gwn i, na threfn- wyd erioed o'r blaeJl o fewn cylch yr un dref gynifer o gyrddau—wyth mewn rhif—er dathlu eanmlwyddiant cerddor neu lenor gyda ni y Cymry. Yr oedd ymhob cwrdd siarad gwych B gafaelgar, canu da a melys, ac ni aiff o gof llawer ohonom a glywodd ganu Y Blod- euyn Olaf a'r un don ar bymtheg a eiliwyd i'r Goruchaf. Wele enwau'r tonau a ddatgan- wyd Groeswen, Henryd, Mary, Voryd, .Brynteg, Abergele, Narberth, Wydd/jrug, Olas- jr-gn, Gastell Emlyn, Alun, Rhyl, Cambria, Whitford, Eifionydd, a Wynmtay. Fe wnawd coffa teilwng, fel y gwel ptiwb a fyn, o Mr. Ambrose Lloyd, ord nid da lie goilir gwell, oblegid mae ym mryd y pwyllgor ragori ar a wnaethpwyd eisoes. Fe ddeellh', wedi talu'r holl dreuliau, fod swm go lew mewn Haw i wneuthur rhywbeth er cof am y cerddor enwog. Pa ffurf a gymer ni wyddis eto, ond gwn mai dymuniad Ilawer o gerddor- ion fyddai math ar ysgoloriaeth neu ryw ffurf arhosol arall. Petae adroddiad eraill yn gwneuthur cystal ar hyd y flwyddyn 1916 g y bwriada'r pwyllgor hwn wneud, nid yw'n anhygoel y gellid cwblhau yr hyn a rag- ddeohreuwya mor ragorol. A fynno helpu, ymgynghored a Mr. T. Ayton Jones, ysgrif- ennydd y pwyllgor, Llwyn Onn, Sherwood, Llwyn y Pia, Rhondda.—T.J.

ILlith Glannau'r Afan. I

I Ein Cenedl ym Manceinion.

IAm Lyfr.

Advertising