Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Basgedaid o'r Wlad.I

Clep y Clawdd Isef Clawdd…

Gair am Ffynnon Treffynnon.

AR GIP.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR GIP. O'r un ar bymtheg a "sythai am swydd gofalu am bresenoldeb plant yn'r ysgolion bob dydd, penododd Pwyllgor Addysg Ffestiniog y Pte. J. J. Evans, Penrhyn Deudraeth. Yr oedd o a milwr arall ymysg yr un ar bymtheg, I a'r ddau wedi colli'r fraich dde. Y mae Miss Maggie Evans, merch fferm Cefn Llydan, ger y Drenewydd, ar goll er dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn wyth ar hugaih. oed, a chaed ei hymbarel ar lan yr Hafren. Y mae'r Anrhyd. F. G. Wynn, Glyn Llifon, a Bodfean, sir Gaernarfon, yn bur wael a lid peryglus y pneumonia, Mab y fo i'r diweddar Arglwydd Newborough. Glyn Llifon yw'r hen bias a fyddai'n gartref yr Yswain Huw Llwyd, oedd mor dyniaethus i'r Ymneilltuwyr fel y disgynnodd yn farw gelain, oherwydd gwylltio wrth fethu cael ei arfaeth a'i ewyllys fileinig ar un o'r hen Gynghorwyr. Bu'r Barch. Thos. Price, ficer Prestatyn, farw yn Llanfair Muallt ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yn saith a phedwar ugain mlwydd oed, ac wedi bod yn ficer Prestatyn am flynyddoedd. Y mae'r Parch. R. E. Morris, M.A., wedi bugeilio eglwys M.C. Scion, Gwrecsam, era chwarter canrif. Y mae Mr. Morris yn tvr caredig dros ben yn Hebreigiwr cyfarwydd, ond byth yn dweyd hynny wrth bregethu o'r Hen Destament. Da clywed fod Mr. Rd. Lloyd, Cricieth- sef ewythr y Prif Weinidog—yn well ei iechyd nag y bu. Y maer hen ewythr yn ail i Mr. Lloyd George ei hun yn serch ac edmygedd y wlad. Yng nghyfarfod Misol Dyffryn Conwy, yng Ngholwyn Bay yr wythnos ddiweddaf, caed anerchiadau gan y Parchn. O. Gaianydd Williams (Ro Wen), H. H. Roberts (Capel Curig), ac 0. Evans (Colwyn Bay) ar Sut orew i afael yn y Fasnach Feddwol. Am ei gwahardd yn llwyr yn ystod y rhyfel yr oedd Mr, Gaianydd Williams ond am ei phrynu a'i chael i balfau'r wlad yr oedd y ddau arall. Fel hyn y dadleuai Mr. H. H. Roberts :— Pe gwaherddid hi'n awr, fe ail godid y cwes- tiwn ymhen chwe mis wedi terfyn y rhyfel, a'r pryd hwnnw byddai'r Blaid Ddirwestol yn llawer gwannach i ymladd a'r ddraig ddichellddrwg. Eithr pe prynnid vested interests y Fasnach yn awr, pan gostiai hynny lai nag ar un adeg i ddod, byddai Plaid Sobrwydd yn ablach lawer i gael llwyr wared a'r drwg ar derfyn y rhyfel. Dywed Mr. E. R. Davies, ysgrifennydd Pwyllgor Amaethyddol sir Gaernarfon, fod llaio 10,000 o aceri o dir dan driniaeth yn y sir yn awr nag oedd dair blynedd a deugain yn ol, ond fod chwe mil o aceri yn rhagor i gael ei drin eleni Gair yn cyrraedd Pwllheli fod y Pte. W. J. Pritchard, brawd Mr. Hugh Pritchard, y cyfreithiwr,—a mab y diweddar Capt. Pritchard, Sabrina—wedi ei ladd yn y rhyfel. Cawsai ei addysg yng Ngholeg Aberystwyth a bancer oedd w rth ei alwedigaeth. Dyna'r unig fan y byddaf i yn teimlo'n siwr nad wyf yn gwastraffu'r amser," ebe'r Parch. Wm. Evana, B.A., Pen y Bont ar Ogwr, wrth sgrifennu yn Y Dysgedydd am Genhadaeth Poen, a son am yr amser a ddyry i ymweliadau a gwely'r cystuddiol. Bod poen yn gosl.),-dyii.a ateb yr Iddew i'r cwestiwn dyrys,—a mewn gwirionedd, er ein bod ni'n Gymry glan, atebion Iddewig yw bron bob ateb sydd gennym i ofyniadau mawr bywyd." Y mae'r Lifft. T. J. Owen, unig fab Mr. John Owen, Avallon, Llandudno, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Treffynnon yw ysmotyn du sir Fflint, meddir, o ran lluosogrwydd ei thafarnau, sef un ar gyfer pob 115 o'r trigolion. Ddeng mlynedd yn ol, aeth Mr. W. Jones—mab Mr. Ellis Jones, New Street, yr Wyddgrug—i Canada. Clerc ydoedd gartref ond yn y wlad newydd, ymrodd i barotoi at y weinidogaeth. Graddiodd yn B.A. Yna daeth yr ias feddyga ato, a gradd iodd yn M.B., ym Mbrifysgol Toronto Flwyddyn yn ol ymunodd a'r Fyddin, y mae bellach yn gaplen a meddyg milwrol, ac wedi cael eyfle i weld ei deulu a hen Dre Daniel Owen. Y mae'r tanysgriliadau at weddwon ac amddifaid y Conizemartz-a gollwyd y mis o'r blaen ar greigiau Greenore—yn cyrraedd £ 1,000,— £ 500 o hynny wedi ei gyfrannu gan Mr. R. J. Thomas, Garreg Lwyd, Caergybi. O'r ardal honno yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gollwyd. Y mae Mr. Lloyd George wedi cael ei ethol yn llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Pwllheli. Bu Mr. E. R. Ronner Thomas, eurych, Porthmadog, farw'n sydyn ddydd Sadwrn, yn bump a deugain oed. Gedy weddw a dau blentyn. Y fo oedd arweinydd Cym- deithas Gerddorfaol y dref, a thebyg mai y fo oedd un o grythorion gorou Gogledd Cymru. Y mae'r Parch. Ellis H. Griffiths, rheithor Llangadwaladr, M6n, wedi penderfynu derbyn bywioliaeth Trallwng. Bydd cryn dwll ym Mon amdano, canys yr oedd yn bur bybyr gyda phob gwaith cyhoeddus a defn- yddiol, er gwaetha'r ffaith ei fod yn ddiwinydd myfyrddwys.

Advertising