Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Paradise Regained! by use of the DUX PATENT QUILT." Call and see it demonstrated. By adapting this electrically heated patent Bed Quilt your icy cold and Northern situated bed can be brought up to and maintained I at Summer temperature for any period. Really a marvellous patent, must be witnessed to be fully appreciated. SEE IT AT ONCE and place your order as already the demand is greatly exceeding present supply. r=  ??L! ITED^ t-I M I TED The Leading Complete House Furnishers of the North either for CASH or OUT OF INCOME.
0 Beer-seba i Jeriwsnlem.
0 Beer-seba i Jeriwsnlem. Un o lanciau Eglwys yr Woodlands, Birkenhead, sy gyda'r Fyddin yn y Dwyrain, yn gwynfydu wrth weld rnannau cu. Gwlad yr Addewid, yn enwedig Jeriwsalem cir Ardd a'r Olewydd ARoltreulio ohonom rai misoedd yn yr Aifft a'r cyffiniau, daeth gorchymyn i wynebu'r Twre ym Mhalesteina. Gwyr pawb erbyn hyn i Beer-seba syrthio i'n dwylo ni y dydd cyntaf o Dachwedd (1917). Trannoeth cefais y mwynhad prudd o gerdded trwy eijheolydcl. Llawer gwaith y dyheais weled yr hen fangre hanesyddol hon, ac o'r diwedd sylweddolwyd fy nymuniad. Ar wahan i'w chysyiltiadau hanesyddol, nid oes fawr o ddim yn y dref i ennyn diddordeb. Ag eithrio'r ychydig dai newyddion a godwyd yn ddiweddar gan y Germaniaid, nid oes yno ond crag o fwthynod budron i'r brodor- ion. Mae'r dref heddyw'n enwog am ei ffvnhoniiau, fel yn amser y patrieirch gynt. Tra yn anialwch Beer-seba achubais y cyfle i es ?,yn i ben un o'r mynyddoedd cyfagos, He'r oadd carnedd fawr o gerrig. Dyma'r fan, ebe traddodiad, y cafodd Jacob Weledigaeth yr Ysgol, O'r fan hon cefais olygfa ardderchog. Dyma'r tir gwyllt lie y crwydrai Dafydd pan ar ffo o flaen Saul. Yng nghyfeiriad y gogledd gwelem fryniau Judea, gydag ambell bentref yma ac acw. I'r dwyrain a'r de gorweddai anialwch Beer- seba, gyda'i ffrydiau a'i ffynhonnau, ac hwyrach mai o'r rhai hyn y disychedai Abraham ac Isaac eu praidd gynt. Yn y niwl tuhwnt i'r Anialwch hwn i'r dwyrain dacw fynyddoedd Moab yn codi'u pennau, o'r man y cafodd Moses drem ar Wlad yr Addewid." Rhyngom a'r rhai hyn yr oedd nifer o fryniau sgythrog,—creigiau Engedi. Yn y caddug islaw, rhwng y mynyddoedd pellaf a'r rhai agosaf atom, ond o'r golwg, gorweddai y Mor Marw. I'r de gwelem fynyddoedd cribog Seina, a phrydferfch iawn oedd yr ohvg ar For y Canoldir yn disgleirio o dan belydrau haul y Gorllewin, a'r tonnau mawr yn torri ar y traeth islaw Gaza. Er- byn hyn edrychem yn awyddus i'r mynydd- oedd draw, a gobeithiem eu cyrraedd yn fuan. Yr oedd gennym o Beer-seba i Jeriwsalem tua 50 milltir i'w troedio. Am tua 8 milltir teithiem drwy anialwch llwm j ddigon. Wedi cyrraedd cyffiniau bryniai i Judea yr oedd yn amlwg fod y tir bron i j i gyd yn cael ei wrteithio'n dda. Pan yn agoshau at Hebron gwelais am y waith gyntaf winllannoedd caecdig, a gerddi ffigys, wedi eu murio o amgylch, a thyrrau ar y conglau i'r gwylwyr. I mi yr oedd hyn yn eglurhad ar rai pethau yn namhegion Crist, Fel y gellid disgwyl teimlwn ddiddor- deb neilltuol yn Hebron, fel lie amlwg mewn hanesiaeth Feiblaidd. Yma y lledodd Abraham ei babell, lie hefyd y bu Dafydd a Saul yn teymasu. Gwelais yno y deml fawr gyda'i thyrrau mawreddog, un o brif demlau y byd Mahometanaidd. Myn can- lynwyr Mahomet ei bod yn safyll ar ogof Macpela, lie y gorffwys gweddillion Abraham a'i deulu. Oddiyno euthom ymlaen i Fethlehem. Gwefreiddiwyd ni gan iasau annisgrifiadwy pan gawsom y drem gyntaf ar y fangre gysegredig. Nid oedd ond ped- war diwrnod i'r Nadolig. Yn naturiol rhedai ein meddyliau yn ol at y noson ryfedd honno pan aflonyddwyd ar y bugeiliaid gan yr Angylion, a phan y canasant y gan nefol, Gogoniant yn y Goruchaf, i Dduw," etc., uwchben y maysydd oedd yn awr o flaen ein llygaid. Ar wahan i'r adeiladau diweddar—rhai'n fawr, a rhai'n onvyeh- nid yw Bethlehem heddyw ond pentref I cyffredm yr olwg, ac fel y rhan fwyaf o bentrefi'r wlad, yn fudr a thlodaidd. Saif ar lain cul, ac ar godiad tir. Hawdd deall ¡ nad oedd lie i lawer o ymwelwyr yn v llety." On blaen ar yr ochr ddwyreiniol i'r' dre, yr oedd y llechweddau hynny y bu Dafydd ac eraill yn bugeilio'u praidd. Yn ymyl y mae nifer o ogofeydd, a dywedir fod ogof Adulam yn un oho'nynt, lie y bu Dafydd yn ymguddio. Gerllaw y mae mevsvdd" ýd lie y bu Ruth yn llofta. Sylwais fad y tir o gylch y lie yn dangos ol llafur a gofal, ac yn cael ei drin yn dda, a phriodolwn hyn i'r ffaith mai Cristnogion sydd vn ei berchenogi. Ar ol gadael Bethlehem yr oeddwn yn llawn awydd a chwilfrydedd i gael yr olwg gyntaf ar Jeriwsalem, y ddinas Santaidd. Ni allaf ddisgrifio fy nheimladau pan ddaeth i'r golwg. Wrth edrych ami bron o bob cyfeiriad, dinas ar fryn ydyw, neu'n hytrach ar nifer o fryniau. Euthom iddi trwy ddyffryn Hinnom, a thnvv bortb Jaffa, ar hyd ochr Mynydd Seion, a hynny pan oedd llenni'r nos yn dechreu ymdaenu dros y ddinas. Rhaid oedd myned i weled rhyfeddodau a golygfeydd y ddinas. Yn gyntaf oil euthum i chwilio am safle y deml henafol ar fynydd Moreia. Gyda golwg ar yr hen deml ei hun, y mae proffwy dol iaeth yr Arglwydd Iesu wedi ei chyflawni i'r llythyren,—" ni adewir yma garreg ar garreg ar ni ddatodir." Ar hen sylfaen y deml saif heddyw deml orwych Fahometan- add Omer, a adeiladwyd yn 637 O.C. Saif ar fryn Moreia, ar y graig gysegredig, y lie yn ol traddocliad Iddewig a Mahometan- aidd y cymerwyd Isaac gan ei dad Abraham i'w aberthu. Lie hefyd y safai allor y poeth- offrwm yn yr awyr agored o du y dwyrain i'r deml. Cawsom y ffafr fawr o fynd i fewn i'r He cysegredig hwn, wedi i ni ddiosg ein heygidiau oddiam ein tiaed. Adeilad nodedig arall yw Eglwys y Bedd Santaidd, lle'r addola pob cenedl yn ei ffordd ei hun, gan gredu eu bod yn ymgrymu ar le bedd yr Arglwydd Iesu yn ymyl dangosir llu o bethau i ymwelwyr, cynyrch traddodiad, megis ol traed yr Iesu ar Ei ffordd i le'r I Benglog, y lie y coronwyd ef a drain, etc. Pan wrth borth St. Steffan, gwelem y ffordd a arweiniai dros afon Cedron, ac i fynydd yr Olewydd, ac yn union ar ei cyfer yr oedd gardd Gethsemane, lle'n awr y saif Eglwys Rwsiaidd. Wrth ddyehwelyd i'r ddinas cerddem ar hyd y Via Dolorosaffordd bren, y dywedir i'r Iesu ei cherdded pan yn dwyn ei groes i Golgotha. Ar ein ffordd yr oedd f; Maes Wylofain" yr Iddewon. Ymgynullant yno bob dydd Gwener i vfylo oherwydd dinistrio eu teml a cholli eu hetifeddiaeth, a rhyfedd meddwl, y rhai a arferai gau allan y Cenhedloeddo fangre gysegredig y deml, eu hunain yn awr yn cael eu cau tu allan i furiau'r ddinas. Ond rhaid ymatal. Os caf y fraint o ddyeh- welyd i'm gwlad a'm cartref bydd gennyf lawer yn ychwaneg i'w adrodd. Hvd hvnnv. cofion goreu, cofion goreu, Wax. JOXES, I 31 Derby Road, Birkenhead.
Advertising
For HOME-MADE Bn-ad, 1 Eeonomicai and Reliable. BUg'"RWICK'S aL BAKING POWDER. MJ f Tht Baat in the World. j
[No title]
-0 Yr oedd Pte. F. Green yng ngharchar Llandrindod-i fod am fis-aiii ladrata chweugain ond jTmyddodd rywfodd o'i gell, clodd y cwstabl i fewn fel na fedrai hwnnw ei ddilyn, a ffwrdd a fo nerfch ei draed. Ond fe'i daliniy(-i Ond fe'i daliwyd yn Craven Arms, ddeng milltir ar hugain o Landrindod; a fo a wyr ei deimlad. oreu. Bu Mr. W. Llewelyn Preece, M. Inst. C.E., mab y diweddar Syr Wm. Preece, K.C.B., farw yn Llundain, ac fe'i cleddid ym myn- went Llanbeblig, Caernarfon, ddydd Iau diweddaf. Gweinyddwyd gan y Parch.— Prichard (Llundain) a'r Tad Southam. 'D oes neb am wrthwynebu Mr. Lloyd George ym mwrdeisdrefi sir Gaernarfon yn yr etholiad y mis nesaf. Y mae rhvw son fod Undeb Llafurwyr sir Fon a'u bryd ar ddod ag ymgeisydd yn erbvn Syr Ellis J. Griffith. A welsoch chwi Gof-Gerdyn Lliwiedig Hedd Wyn ? Cyhoeddir yn Swyddfa'r Brython oddiar Oil Painting yr Arlunydd enwog o Flaenau Ffestiniog—Mr. Kelt Edwards. Os na ddo, ymholwch yn ei gylch. Dylai fod yn nwylo pob Cymro a ghr ei wlad a'i hanea.
9% W4" tim v 9% II DDBETHI…
9% W4 tim v 9% II DDBETHI DIIEOD rtmlug I yn y frvvidr fawr rhwog Gormes a Rhyddid, I -rhwng I)rwg a Du,, Gofynasom am bwt o jam a theimlad rhai o'n darllenwyr parth y Rhyfel a'r hyn sy'n de,.yg o'l ddilyn; wele'r SíVp cyntaf; daw swp arall yr wythnos nesaf. GWAREDER Nl RHAG GORMES i NEWYDD. J HEDDWCH Heddwch i bell ac agos. Y mae pawb yn llawenhau ac yn gorfoleddu yn wyneb y fuddugoliaeth. Bu y frwydr yn galed, a chostiodd yn ddrad, ond mae'r fuddugoliaeth yn debyg o greu cyfnod new- ydd yn hanes y byd. Ni feddyliodd neb am y fath chwyldroad, ac y buasai'r cryf arfog yn cael ei ddymchwelyd mor llwyr. Ond un peth yw gorchfygu'r gelyn, peth arall yw cael y byd i drefn. Yr ydym yn liawen- hau mewn ofn a dychryn, rhag i'r byd golli ei hunan-feddiant, a throi y rhyddid a enillodd yn ben rhyddid dilywodraeth. Mae peryglon buddugoiiaeth, weithiau, greuloned a pheryglon rhyfel, a gresyn fyddai i'r wlad anghofio hynny yn y cyfwng hwn. Rhaid wrth bwyll, arafwch, a doethineb mawr i wastatau pethau, ac i hyfforddi byd newydd ym mhen ei ffordd. Cadwed gwerin Prydain hyn mewn cof, rhag iddi gael ei harwain i dryblith diobaith Rwsia. Mae gwerinoedd y gwahanol wledvdd ar eu ffordd i'w hetifeddiaeth, a'r unig ffordd i'w chadw ar ol ei chyrraedd yw eadw trais a gormes newydd allan ohcni. Cosher pawb sy'n haeddu, ond ffrwyner pob math o ddi- aledd. Anodd dweyd beth fydd dy lan wad y fuddugoliaeth ar foesoldeb a chrefydd y wlad. Ond dylai saint a phroffwydi fod yn effro, a theimlo'u hawl ar y byd yn giyfach nag erioed.. Dylent hefyd lynna mwy o le yn llvwodraeth y gv/ahanol wledydd, oblegid egwyddorion teyrnas nefoedd wedi'r cwbl a sicrha clangnefedd ar y ddaear. DYFED. M YN D I LESMAIR 0 DORIAETH. At Olygydd Y BRYTHON. ASNWYI SYB,—'Yn ateb i'ch ymholiad, yr wyf fi fel pawb gorioleddu yn y Saf- arfau, ac vn llwyr hyderu mai bwrw-arfau a fydd oi ddiweddef. "O'r Arglwydd y mae hyn, a rhyfedd yw ein golwg ni." Ond yr ydych yn lied awgrymu y carech gael cyffes fy ffydd ar yr holl fater. Yn fyr, dyma hi. Y mae tangnefeddwr yn edrych ar ryfel o ddau safte.sa-fler gwladwr a safle''r mihvr. 0 safle'r milwr, nid oes ond canmoliaeth ddi-gymysg a di-warafun i'r bachgyn dewr a ymaberthodd i gadw carictor y Fyddin: a'u galwodd hwy i'w gwasanaeth. Nid rhaid i filwyr Prydain ostvvng pen o'u eyferby-miti a milwyr un- rhyw wlad. Fe aiff eu gorchestion i lawr rhyw, 'A 19? yr oesau mewn hanes—eu gwrhydri ar dir a mor ac yn yr awyr. 0 safle cenedl, wedyn, y mae rhyfel yn ynfydrwydd. Bu Rhaglun- iaeth yn arddel rhyfel gynt; ond y mae wedi hen ddangos ei hanghymeradwyaeth ohono. Ni fu ond ychydig iawn o ryfel- oedd yn y tair canrif diweddaf yn werth y degwm o'r aberth a wnaed erddynt. Yn hanes Prydain, er enghraifft, yehydig iawn o honynt a enillodd ddim o werth nad allesid ei gael yn well hebddynt. Ofni yr wyf na fydd y Rhyfel yma, er ei holl ogoniant, ddim yn eithriad i hyn. Wedi i'r Rhyfel lwyddo, yr ym yn dechreu cael gwybod sut y dechreuodd ef. Y mae pobl eisoes yn dechreu hawlio'r clod am benderfynu fod rhyfel i fod yn Awst 1914. Er siampl, dyma Mr. E. J. Maxse, Golygydd dawnus y National Review, yn ymffroetio mai efo, a rhyw nifer fechan o gyffelyb fedd- wl, a gyffrodd feddwl puraidd y Blaid Undebol ac mai ffyddlondeb y blaid honno i'w chynddelwau ymerodrol a fu'n foddion i ddirwyn Mr: Asquith a'r Blaid Ryddfrydol i'r penderfyniad o gyhoeddi rhyfel. Da chwi, gyfeillion, ymffrostiwch dipyn rhagor ni gawn wybod y cwbl toe. Yn awr, os oes rhyw wir yn yr ymffrost hon, golygu y mae mai un o'r rhesymau cryfaf a'n hys- gogodcl ni i helpu Ffrainc a Rwsia yn y Rhyfel hwn oedd y Doriaeth ddi-ledryw sy'n tarter bod wrth wraidd pob symudiad o'r fath. Dyna un elfen fawr yn y berw a gychwynnodd y Rhyfel hwn. A fydd ei ffrwyth yn llawer amgenach na'i wreiddyn ef ? Digon o waith. Y mae'r Llywodraeth sydd yn lied, debyg o fynd a'r maen i'r wal yn yr etholiad yn addaw pethau mawr. Yr ydym i gael diwygiadau cymdeithasol, megis tai gwell i weithwyr, ac yn y blaen ac yr vvyf yn credu fod y Prif Wemidog yn Pthyddfrydwr mor drwyadl ag y bu erioed ar gwestiynau o'r fath yn a ond ar gwestiyn- iau ymerodrol y mae cystal Tori ag a fu 'J oseph Chamberlain erioed. Beth a dal sôn am Gynghrair Cenhedloedd, ac am Ryfel i ddibennu rhyfel, a ninnau'n hwylio at hau hadau anghydfod cyn arwyddo amod- au heddwch ? Ymddengys fod ffafraoth fasnachol y tu fewn i derfynau'rYmerodraeth, ar brogram ein Llywodraeth nj. Do, fe gychwynnodd y Rhyfel mewn llesmair o Doriaeth eithafol, a Thoriaeth eithafol fydd un o'i ffrwythau fo hefyd. Diau y gwna Rhagluniaeth ddefnydd o'r afiwycld hwn er daioni, ac y bydd y da a ddaw ohono'n fwy na'r drwg ond nid i ni y mae'r diolch am hvnnv. v v J. PULESTON JONES. Llanfair Caereinion. IE, D Y-UA GYFLA. WNDER YR I AMSEROEDD. ADEG yw hon i fod yn ddistaw gerbron yr Arglwydd, i ddiolch am Ei gysgod rhyfedd, ac i ddisgwyl am ei iachawdwriaeth. Daw'r amser i roi clod i'r rhai y mae clod yn ddyledus am yr oruchafiaeth hon. Ond ymlaen pob peth, bydded i ni gydnabod gwaredigaethau Duw. Y cyngor goreu yw'r un sydd yn yr Ail Salm "Ymlawenhewch mewn dychryn." Ni allwn lai na llawenhau. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethaa mawr- ion, am hynny yr ydym yn llawen." Er na ddaeth Heddwch hollol, yr ydym yn liawenhau am fod y brwydro drosodd, ni a hyderwn am byth. Ac hefyd am fod yr amcanion oedd mewn golwg gennym wrth fynd i'r Rhyfel wedi eu sicrhau mor llwyr, ac am ddarfod i'r terfyn ddod mor sydyn ac mor dawel. Ni fu dim yn hanes y byd yn cael ei ddisgwyl yn fwy: eto daeth yn gwbl annisgwyliadwy. Methem a chredu ei fod yn wir. Er hynny, llawenhaer mewn dychryn." Adeg ofnadwy i wlad yw pan y mae Rhyfel ar ddod -adeg Ilawn mor bwysig yw pan y mae Rhyfel newydd der- fynu. Ni allwn lai na dychryn gan faint y waredigaeth a gawsom, ac ar yr un pryd gan faint yr aberth a wnaed i'w sicrhau. Gwerth gwaed yw'r heddwch hwn. Ac yr ydym i bara i weddio am iddo gael ei berffeithio mewn modd na fo'n gadael gwreiddyn chwerwedd ymhlith cenhedloedd. Hyderaf na fydd y wlad yn anghofio fod y gwaith o ailadeiladu gwareiddiad a chrefydd Ewrob eto heb ei gychwyn. Bydd peryglon moesol y ,milwyr yn hytrach yn cynhyddu ar ol i'w peryglon corfforol ddiflanna. Ac nid oes ond Duw all dynnu o galon y wlad hon yr ysbryd milwrol sydd, o anghen- rheidrwydd, wedi ei feithrin ynddi ers blynyddoedd. Rhaid ein geni ni drachefn ond yr wyf yn gwbl sicr, wedi'r cyfan., fod y cyfnod uchaf yn hanes y ddynoliaeth yn awr yn gwawrio, ac mai dyma gyflawnder yr amser oedd. Menai Bridge. T. CHARLES WILLIAMS LLOYD GEORGE DDAR'U YN ANAD NiCB DYN. Y TEIMLAD dyfnaf yn fy nghalon, fel mil- iynau eraill, yw diolchgarwch diffuant i'r Duw Goruchaf am fod y Rhyfel Mawr" ar ben o'r diwedd, a bod y Fuddugoliaeth yn un mor llwyr a digamsyniol ar du iawnder a rhyddid a chwarae teg. Credais o'r dechrou fod y Rhyfel hwn, o ochr y Cynghreiriaid, yn Rhyfel yn erbyn galluoedd y tjpvvylhvch, a dyfnhaodd y gred honno fel yr ai'r Rhyfel ymlaen. Ac yr oedd gennyf ddigon o ffydd yn Nhrefn Foesol yr Hollfyd i gredu y caem Fuddugoliaeth yn hwyr neu'n hwyrach. Y mae ein dyled i'r gwyr dewr- ion fu'n vmlarld t.rosorin vn rlrlifocviT. oV _u- "o- ,v' 'A..L'J'I., <.41 L cydymdeimlad a'r teuluoedd lluosog a gollodcl eu hanwyliaid yn yr heldrin mawr yb. ddwfn a thyner odiaeth a dylem fel gwlad, yn anad dim, ofalu na chaiff y milwyr a ddaw n ol ddim anfantais heb son am gam. Fel Cymro ni allaf lai na llawenychu'n cldir- fawr mai i fedr ac ynni a dylanwad digymar Mr. Lloyd George, yn anad yr un dyn arall mewn unrhyw wlad, y mae'r Fuddugoliaeth i'w phriodoli. Ni wyr pawb mai iddo ef yr ydym i ddiolch am osod terfyn i'r graddau y gwnaethpwyd ar y Ddiod Feddwol, heb son yn awr am ei holl wrhydri arall, Diolch hefyd i'r Unol Daleithiau a'i Llywydd mawr am fod yn gefn mor gryf inni yn y Rhyfel ac allan ohono daethant i mewn nid am fod ganddynt unrhyw fwyall i'w hogi, ond o gariad pur at ddynoliaeth a gwareidd- iaeth. Y mae'n deg dywedyd,rnair Ym- erodraeth Brydeinig a ddaliodd bwys a gwres y dydd, ond ysgafnhaodd America lawer iawn ar y pwysau, lliniarodd lawer ar y gwres, a byrhaodd lawer ar y dydd,— neu'n hytrach y nos. Yng nghanol ein gorfoledd, cadwer ni hefyd rhag ysbryd dial er mwyn dial, onite awn i goledd ysbryd a ffordd yr Almaenwyr a'u cymheiriaid. Nid ydym ni na'r byd ddim wedi gorffen ein gwaith yn hytrach clirio'r awyr a wnaeth y Fuddugoliaeth, a rhoddi ail gynnyg inni oil. Gwelwn eisoes rai pethau'n gliriach nag erioed. Gwehvi). fod gan y byd o hyn allan un o ddau beth i ddewis rlly-ngddynt,-naill ai bywyd heb Ryfel, neu fywyd a dim ond Rhyfel ynddo. 0 dan Ragluniaeth y Nef, Cynghrair y Cen- hedloedd yw unig obaith y byd, a dylai pob Cristion a dyngarwr ffiaroio gan frwd- frydedd o'i blaid. Ardderchog hefyd fyddai llesteirio rhagor ar y Ddiod Gadam, ie, a'i diddymu o'r byd. Gwers fwyaf y Rhyfel i mi yw U chaflaeth y Moesol, neu'n well, mai'r Arglwydd sydd yn teymasu,— nid doethineb y byd hwn, nid cyfoeth, ac nid grym anifeilaidd. Ac angen cyntaf a dyfnaf dynoliaeth heddyw fel erioed yw Duwioldeb yn ei grym. Wele, Ofn yr Arglwydd, hynny ydyw Doethineb p, chilio oddiwrth ddrwg sydd Ddeall." A ydyw'r byd am ddysgu'r wers ? Os nad yw, gwae mwy fyth a'i herys. Os ydyw, yna,—ac nid cyn hynny-y bydd Heddwch fel yr afon a Chyfiawn der fel tonnau'r mor. Nid yw Democratiaeth annuwiol ddim gwell nag Unbennaeth neu Aristocratiaeth annuwiol. Ac ofer diorsedda brenhinoedd os na fydd Urenin y brenhinoedd yn cael Ei le,—sef y-lle cyntaf ym meddwl a bywyd yr holl genhedloedd. D, TECWYN EVANS. DYMA BUMP 0 BETHAU. I ADNODAU o'r Hen Lyfr fedr fynegi oreu fy nheimlad parth y Fuddugoliaeth Fawr a'm dymuniad gyda golwg ar ei ehanlyn- iadau. Dyma eiriau priodol am y Fuddugoliaeth "Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd,. canys Ef a wnaeth bethau rhyfeddei ddeheulaw a'i fraich santaidd a barodd iddo fuddugoliaeth" (Salm 98; 1.). "Bloedel- iwch, cyd-genwch, canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, Ef a waredodd Jeriwsalem; diosgodd yr Arglwydd fraich ei santeidd- rwydd yngolwg yr holl genhedloedd; a holl gyrrau'r ddaear a welant iachawdwr- iaeth ein Duw ni (Esaia 52; 9, 10). Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion, ac a'n hachubodd ni oddiwrth ein gelynion, oherwydd ei dragaredd sydd yn dragywvdd" (Salm 136 17, 24). Hyn hefyd am gwymp y Caiser "Pa fodd y syrthiaist, Lusiffer, pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedldedd|! Ai dyma y gwr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnas- oedd, a osododd y byd fel anialwch Tydi a fwriwyd allan fel cangen ffiaidd fel celain wedi ei mathru." A dyma'r dynged. a haedda, ef a'i fab—" Darperwch laddfa (iddo ef a'i fab) rhag codi ohonynt a goiesoyn. y tir" (Esaia 14; 12, 19, 21). Gynghrair y Cenhedloedd i gadiv heddwch Dyma'm dymuniad am y Dvfo(tol A chenhedloedd lawer a ant, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd. Ac Ef a farna rhwng pobloedd lawer a throant eu cleddyfau vn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau, ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddvsg- ant ryfel mwyach." Dyma alwad y gwladgarwr ar bob plaid ym Mhrydain yn wyneb yr ail-adeiladu sydd yn anghenrheidiol-galwad y Gwron o Gricieth heddyw Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur yn y fan lie y clywoch sain yr udgorn (yn yr etholiad sydd wrth y drws) yno ymgesglwch atom (Neh. 4; 19, 20). A dyma'r gair i wýr cyfalaf a gwyr Llafur "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefycl" (Phil. 2 4). Porthmadog. W. O. EVANS. GORUCHAFIAETH YR YSBRYDOL. HRWYDR egwyddorion oedd yr Armagedon hon. Dyna roddai iddi ei hystyr ddyfnaf. Yr hyn a oiweddai o dan bob ystyriaeth arall ccdd y ewestiwn-Prtin ai cyfiawnder ac uniondeb, ai grym a nerth arfau, pywerau ysbrydol ai galluoedd anianyddol, oedd i fod yn oruchaf ym mywyd cenhedloedd ? A chyfiawnder a orfu. Llwyddasom am fod ein hachos yn dda. Gyda'n buddugoi- iaeth ychwanegir yn ddirfawr at ein eyfrif. oldeb. Wynebwn gyfnod newydd a dis- gwylir i'r cenhedloedd cynghreiriol gymryd y blaen yn yr ymdrech i "iachau y cen- hedloedd," ac i ddwyn oddiamgylch v ddaear newydd y mae cyfiawnder i gartrefu ynddi." Gwisger hwy ag iawnder, ac na fydded idclynt ojighofjo gwers y rliyfel- mai cyfiawnder a ddyrcheif genedl, ac a'i gwna yn alia er da yn y byd. fD. D. WILLIAMS. CYMRO OEDD CAPTEN LLONG PRYD- AIN" YN Y DYMESTL FAWR. !-)YR,—lr wyi yn ymfnlchïo fy mod wedi cael y fraint o fyw mewn cyfnod o hanes mor ardderchog a'r presennol. Mae r iuddugoliaeth odidog a therfyn gogoneddus y rhyfel wedi profi dau beth yn amlycach nag y profwyd hwynt erioed or blaen. Yn gyntaf, fod y Duw Mawr, santaidd, a chyfiawn eto yu teymasu yn y Nef acar y ddaear. Ac yn ail, mai nid gallu milwr- ol ydyw gwir nerth cenedl, end dilyn egwydd- orion cyfiawnder a rhyddid. Dyma ddwv wers fawr y rhyfel a'i ganlyniadau. Gyda golwg ar y dyfodol, mae hanes Germani a'i thynged yn dangos fod gwneud eilun o genedlaetholdeb yn dwyn dinistr i'r genedi ei hun a gwae i'r byd i gyd. Meithrinwn genedlaetholdeb ar bob cyfrif, end cofiwn, fod hawliau'r ddynoliaeth yn mvch iia hawliau unrhyw genedl unigol. Os yw heddwch i deymasu yn yv oescedd i ddyfod, rhaid rhoddi cenedlactholdeb yn ei hiawn le, i wasanaethu syniad mwy, sef cyd- genedlaetholdeb gyffredinol. Mae fy nghalon yn ymlosgi o lawenydd wrth gofio mai Cymro o waed coch cyfan i'fti wrth y llyw yn dwyn Prydain drwy'r tymhestloedd i hafan buddugoliaeth a heddwch. Bydded i Gymru fod yn deilwng ohono. Mae hithau wedi aberthu ei goreuon ar allor rhyddid a chyfiawnder, a fy ngweddi i ydyw am i Dduw, nid yn unig ddwyn heddwch di-dor rhwng cenhedloedd y byd, end am Iddo hefyd ddwyn heddwch i Gymru. Fel oddiar sail gwaed ei dewrion y cyfyd cenedl unedig yn eirias o ysbryd brawdoliaeth, cenedi gwerth marw drosti.—Yr eiddoch yn gywir MAURICE JONES. H_enl7 ey-on-Thames. Peppard Rectory, Y GERMAN MELLTIGAID "HYD YMA YR AI, A DIM YMHELLACH RHWNG y ddau ddiwrnod bythgofiadwy— Awst 4, 1914, a Tachwedd 11, 1918-dydd cyhoeddi y Rhyfel Mawr a dydd y Fuddug- oliaeth fawr—arweiniwyd ni fe gwlad trwy'r amgylchiadau rhyfeddaf mewn hanes. Gofynnwch i mi roddi mewn ychydig linellau rai o'r argraffiadau a wnaed arnaf gan yr amgylchiadau hyn, ac y mae'n hyfrydwch gennyf gydsynio a'ch cais. Dymunaf yn gyntaf oil ddweyd fy -mod o'r cychwyn yn gwbl -irgyhoeddedi-,d.darfodi'n Llywodr- aeth fynd i'r rhyfel oddiar y cymhellion uchaf mewn bod, ac fod y cam a gymerodd yn gwbl anocheladwv, ac y buasai ei ysgoi y gwaradwydd pennaf y gallasem byth fod yn euog ohono. Ni bu Prydain Fawr erioed mor fawr, a'r diwrnod byth- gofiadwy hwnnw y dywedodd wrth yr Hun melltigaid, "Hyd yma yr ai a dim ym- hell; ch. Aeth i'r Rhyfel nid am fod yu hoff ganddi Ryfel, ond am iddi ddeffro yn fwy nag erioed i werth iawnder a gwirion- edd. Oblegid hyn ni allwn lai na liawenhau yn y modd ardderchog yr atebwyd gwys y Brenin gan filoedd dynion ieuanc goreu ein cartrefi a n heglwysi. I mi, y mae meddwl am ein bechgyn dewr yn gadael eu cartrefi elyd, a'u galwedigaothau enill- gar, yn torri eu hunain ymaith oddiwrth eu cyfeillion a'u perthynasaa o'u gwirfodd i anturio eu bywyd yn Ac-hos Rhyddid a chyfiawnder, y bennod odidocaf yn holl hanes ein cenedl. Cwbl deilwng o'r bechgyn dewr fu arwriaeth mamau a thadau y bechgyn. Credaf na ddaeth ein cenedl erioed allan o unrhyw amgylchiadau yn fwy teilwng o'i delfrydau uchaf, ac o'i thraddodiadau crefyddol goreu, nag y daeth o amgylchiadau cwbl eithriadol y Rhyfel Mawr; ac y mae hynny i i mi yn rhywbeth i fod yn ddiolch- gar iawn amdano, yn llawen iawn o'i blegid, ac yn hyderus obeithiol ar ei sail am y dyfodol. Gwelais dyrfa fawr o'm pobl ieuanc yn fy Eglwys fy hun yn gadael eu cartrefi yn yr ysbryd mwyaf gwrol ac hunan.
Advertising
BE RF, kDY FOR COAL CONTROL by having a "Ormonde" Barless Fire. Slow Combustion with perfect radiation of heat is achieved- Double the heat. Half the fuel. Can be fixed to your old fashioned] grates. Call and nspect same. JAMES CHEW & Co., Ltd., 58-60 Paradise Street, Liverpool.