Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

I GOHEBIAETHAU.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I GOHEBIAETHAU. [Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr]. I ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I Mri. Golygwyr, Mae rhai pethau ynllythyr yr adolygydd yn eich rhifyn diweddaf nas gellir gadael iddynt basio yn ddisylw. 1. Awgryma fy mod yn noddi gwallau, ni rydd fy llythyr yn y "Gwyliedydd New- ydd le i neb diragfarn dynu y casgliad hwn. Ameu yr wyf hawl undyn i alw pob un yn ddwl," neu yn ddiog fydd yn sillebu geiriau yn wahanol iddo ef. Ysbryd adol- ygydd galluog, mewn sylw ar lyfr yn y Drysorfa," fydd yn fy meddianu,—" Ni ddyblir y cydseiniau fel y gwneir yn gyff- redin, ac ni ellir beio am hyny, gan uad oes reol sefydlog ar y mater." Mor wahanol ydyw adolygydd y Drysorfa i adolyg- ydd y "Winllan"! "Ni ellir beio am hyny," ebe un, "dwl neu ddiog," ebe'r llall! Condemnier faint a fyner (ond mewn modd boneddigaidd), wallau nad oes am- heuaeth yn eu cylch, megis a yn lie a., mae yn lie mai, &c., ond na alwer neb yn ddwl,' os yn peidio dyblu y cydseiniaid mewn geiriau ag y mae eto amrywiaeth barn yn eu cylch. Nes y ceir rheol sefydlog gyd- nabyddedig, goddefgarwch sydd yn gweddu oreu i adolygwyr, ac nid ysbryd barnol anffaeledig. Dyblir y cydseiniaid yn y "Winllan" fel y myn y Gohebwyr, pan y gofynant am hyny. Gwyr yr adol- ygydd hyn o'r goreu. Pan na wneir apel felly, yn naturiol dilynir orgraff arferol y misolyn a dyna sydd yn cyfrif na ddyblwyd y cydseiniaid yn ysgrif Mr. Tegla Davies, Bydd gan Mr. Davies ysgrif dlos yn y "Winllan" am Mai, ac yn hono dilynir yn fanwl orgraff yr awdwr, ar ei ddymuniad. Prawf hyn nad yw y rhai sydd yn gyfrifol am y misolyn yn ystyfnig na mympwyol. Bwriadaf cyn bo hir newid cryn dipyn ar yr orgraff. Nis gellir gwneud cyfnewidiad- au mewn un-dydd, un-nos. Ond gwar- eder fi rhag galw y rhai a wahaniaethant mewn barn oddiwrthyf yn rhai dwl na diog." Gwrthdystiad yn erbyn hyn yw fy llythyr, fel y gwel pob darllenydd diduedd, ac nid "nodded" i wallau fel y myn yr adolygydd. 2. Nis gallaf ystyried beirniadaeth ddi- niwedyr adolygydd ar frawddeg neu ddwy o fy llythyr yn ddim amgen nag ymgais i daflu llwch i lygaid y darllenwyr. Cyfeiria at Pedr Hir fel ei awdurdod dros gondem- nio mynych arfer y ffurf cael fel berf gynorthwyol. Ond ni ddywed fy hen gyfaill fod yr arferiad yn wael, nac i'w feio bob amser. Dyma ei eiriau, Y mae'r gair cael, er hyny, yn gwneud gwaith rhagorol yn fynych pan elwir arno i gynorthwyo berf arall." A chyd- nebydd mai tueddol iawn wrth siarad neu ysgrifenu yw tra mynychu'r gair." Nid wyf fi yn cymeradwyo yr arferiad, cofier, ond mater o arddull, ac nid orgraff ydyw hwn. Eto, Dechreuir y frawddeg olaf yn ei lith yn y rhif unigol, ond di- weddir hi yn y rhif liosog temtlr fi ond ymataliwn' Ac ymor- foledda, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, uwchben y darganfyddiad mawreddog hwn o'i eiddo Mewn difrif, gellir disgwyl i beth fel hyn fod (isla w sylw gwr Ilai dysgedig na'r adolygydd. Hawdd i rai heb fod yn nodedig am eu craffder ganfod mai sliP ydyw "fi" yn lIe" ni." Yn sicr y mae'r ffaith ei fod wedi'i demtio i droi am swcwr i'r fath ffynhonell yn eglur ddangos ei fod wedi myn'd yn bur fain arno." Tybed nas gwyr erbyn hyn mor anhawdd ydyw cael pob brawddeg, a gair, a llythyren, yn hollol gywir mewn ysgrif. Ni raid iddo ond edrych dros ei ysgrif ddi- weddaf ei hun i weled hyn. Dyma ddwy n mewn ysgrifenodd unwaith, a dim ond un dro arall. A dyma hyd yn oed hwnw a hono heb ddwy n vnddynt Ond gwn mai slips yw y rhai hyn, ac nid wyf yn ddigon plentynaidd i wneud capital ohonynt, er mwyn ceisio tanu llwch i lyg- aid y darllenwyr. 3. Rhaid i'r adolygydd faddeu i mi am gyffesu i mi fethu peidio gwenu pan welais ei restr o wyr grymus a disglaer." Yn anffodus iddo ef nid yw yr holl vvyr hyn yn eu gweithiau yn ei ochri, beth bynag am eu Hadroddiad. Dyma'r Athro J. Morris Jones, M.A., Ysgrifenydd "Pwyllgor yr Orgraff" yn defnyddio cerrig," ac nid cerryg." Dyma un o gyhoeddiadau Owen M. Edwards, M.A., (aelod pwysig arall o'r Pwyllgor) o'm blaen, a "cherrig," sydd yn hwn. A dyma ysgrif o waith y Parch Dciniel Rowlands, M.A., y gwr a symudodd gyntaf tuag at gael y Pwyllgor crybwylledig, ar waith y Pwyllgor, a cherrig" sydd yn hon At bwy felly, y cyfeiria yr adolygydd, pan y gofyna mor fostfawr, Pwy dybiech chwi sy debycaf i fod yn gywir—y dynion hyn, ynte Golyg- ydd y Winllan ?" Oblegid dyma rai-ac ar lawer o gyfrifon y rhai pwysicaf—O'r gwyr grymus a disglaer hyn yn wahan- ol iddo ef, a gall fod chwaneg ohonynt, pe cawn hamdden i chwilio i mewn i'w gweithiau. Dealled yr adolygydd nad wyf fi yn penderfynu pwy sydd gywir nac anghywir. Fy mhwynt 'i o hyd yw, tra y bydd amrywiaeth barn hyd yn oed ymhlith gwyr grymus a disglaer," mai chwerthinllyd i'r eithaf ydyw gwaith un- rhyw feirniad yn condemnio i ddinystr y rhai a ddigwyddant wyro i un ochr. 4. Cardota'r cwestiwn yn hollol a wna'r adolygydd yn wyneb y cyhuddiad o an- nhegwch a ddygwyd yn ei erbyn. Ni awgrymwyd nad oedd wedi canmol y "Winllan," ae wedi nodi gwallau yn yr Eurgrawn." Mae gan yr adotygydd allu rhyfedd i ffoi yn barhaus oddiwrth y mater mewn dadl at rywbeth arall. Y gwyn a ddygais yn ei erbyn oedd, ei rod yn dweyd fod clod yn ddyledus i un, ac yn cyhuddo y llall o fod yn ddwl neu yn ddiog tra'r ddau yn gyfrifol am wallau cyffelyb. Dealla pawb mai nid am y clod yr wyf yn ei feio, ond am y gwa- haniaeth a wna rhwng dau sydd yn yr un camwedd. Beth yw amddiffyniad yr ad- olygydd ? Fod un Cyhoeddiad yn "llawer mwy" na'r llall!! Felly yn ol maint Cyhoeddiad y penderfyna ar ddylni neu ddiogi, ac nid yn ol ansawdd y gwallau!! Os digwydd gwallau "hyll iawn (megis mae yn lie mai) mewn Cy- hoeddiad mawr, gellir yn ddibetrus ddweyd clod sydd yn ddyledus," ond os digwydd- ant mewn cyhoeddiad llai, bydd hyny yn arwydd o ddylni neu ddiogi! Dyma athrawiaeth ddiethr, bid sicr, a safon newydd o farnu. Cyfeiria yr adolygydd at ryw ymddidd- an a fu rhyngddo ef a minau ychydig o wythnosau yn ol ynghylch y Winllan." Perthynas anuniongyrchol a ddaliai yr ymddiddan hwnw a'r pwnc sydd yn awr o dan sylw, ac nid yw cyfeiriad yr adolygydd ato yn ei helpio ddim yn ei amddiffyniad. A dealled y darllenwyr mai ymddiddan cyfrinachol ar yr aelwyd ydoedd hwnw Os yw yr adolygydd yn foneddwr, gwn y gofidia yn ddwys oherwydd ei ymddygiad, pan fyfyria yn ddifrifol uwch ei ben felly ni ddywedaf chwaneg ar y mater. Gwell genyf roi barn cariad arno, a chredu mai yn ddifeddwl, o dan gynhyrfiad y foment, yr ysgrifenodd ei lith. GOLYGYDD Y "WIXLLAN." AT OLYGWYR Y GWYLIEDYDD. Mri Golygwyr. Er nad wyf am gymeryd rhan yn y ffrae lenyddol, fel un sy'n hoffi Cymraeg, carwn ofyn i Parch. Tecwyn Evans sut y mae'n cysonir" hwnw yn ail linell ei lythyr di- weddaf hwnnw yn yr ateb cyntaf i'r cy- huddiadau. Onid yw efe'n anghyson. Eto, gan y cymer adroddiad Pwyllgor yr orgraff fel safon, sut y mae efe'n sillebu fel safon, sut y mae efe'n sillebu gwnn" gyda dwy n tra nad oes ond un yn y rhestr geiriau geir ar derfyn yr adroddiad uchod' SYLWEDYDD. Mri. Golygwyr. Teimlaf yn ddiolchgar, os bydd i chwi ganiatau congl fechan o'ch Newyddiadur at fy ngwasanaeth, addawaf na fydd i mi eich blino a meithder. Yr wyf yn Dderbyn- iwr cyson or "Gwyliedydd Newydd," ac yn cael mwynhad mawr yn y darlleniad o hono, yn arbenig felly yr Adgofion gan Egwest, yr wyf yn adnabod Egwest yn dda ac yn gyfaill mawr ag ef, teimlo yr wyf na ddylai gwr o'i safle ef, ymguddio fel hyn rhag y werin o dan gochl ffugenw,—gan ei fod yn gymeradwy gan bawb a'i hadwaen- ai. Os caniata Golygydd y Gwyliedydd i mi fynegu ei enw, bydd hyny yn gymerad- wy gan lawer a ddarllenodd yr Adgoflon sef Mr. John Whittington, Bodfari Tref- nant, Flint-shire. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i Mr. Whittington am ei nod- iadau, amserol, melus moes mwg, gan fod y lie y soniweh am dano yn agos iawn at fy nghalon ac felly wrth fy modd, nis gwn am neb yn ardal Penygroes heddyw a allai roddi bywargraffiad mor ardderchog a manwl a Mr. Whittington, gan ei fod ef, fel finnau wedi ein geni yn Penygroes, er mae pentref bychan ydyw Penygroes y mae iddc hanes godidog,—cewri fagwyd yma, gadawaf i Mr. Whittington y gorchwyl o fynegu ramantau yr ardal, a'u rhyfeddodau yn y gorffenol, oddeithr i mi ddwyn ar gof, mae yma y ganwyd Eos Morlais, disgwyl- iwn wrth Egwest roddi ychydig o hanes y gwr clodfawr hwnw, fel ag y bydd i ardal fechan Penygroes ymffrostio yn ei chewri, fel ag y nodais mae yma y ganwyd Eg- west ,y mae yntau yn enwog iawn fel Cer- ddor, y mae wedi cyfansoddi clarnau lied faith, ac mae wedi bod yn Athraw Cerdd- orol am lawer blwyddyn, hefyd mae yn bregethwr enwog gyda y brodyr Wesley- aidd. Dangos yr wyf yn hyn o ysgrif, fod hanes ardderchog i'r ardal y sonia Egwest dani. Efallai y bydd i Egwest cyn rhoddi ei ysgrifell ar. dudalenau y Gwyliedydd roddi tro mewn adgof i Abergynolwyn am ei fod ef wedi bod yno ers yn agos i 40 mlynedd. Diameu y caem lawer o fwyn- had. I DORA.

[No title]

Advertising

,DEFOSIWN CREFYDDOL.

[No title]

Family Notices

Marwolaeth y Parch. T. Manuel.

Adgofion Kelly.

YR HOLL EGLWYSI.

GWASANAETHU YR AR-GLWYMX BETH…