Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Cenhadaethaa Egengylaidd.

Llith Agored at Rhydderch.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Llith Agored at Rhydderch. Anwyl Frawd,- Os am drafod y pwnc a nodwch yn frawdol gyda mi rhaid cael hynny o dan eich enw priodol, os gwelwch yn dda. Gwn y gwyr y rhelyw o'n pobl pwy ydyw J. K., oblegyd diolchodd amryw i mi am yr ysgrif, ac yn eu plith hyd yn oed rai o waelod Deheudir Cymru. Bellach, prin y mae'n deg i chwi lecbu o dan ffug-enw, ac yn enwedig os ydych yn ymofynydd gonest am oleuni. Apeliaf, yn hyderus, at y Golygydd hynaws am drafodaeth wyneb- agored ac o dan enwau priodol. Cyn eich hateb, carwn oleuni cliriach ar eich safle, a gallwch fy ngoleuo'n llawnach trwy ateb y gofyniadau hyn, bob yn un ac un :— (1) Gan fod bron bob diwinydd diweddar o bwys yn .cydnabod y syniad o gyfyngu yng ngwybodaeth ddynol lesu Grist, beth yw ystyr eich ensyniad fod Doctoriaid diwinyddol yn anghytuno a'u gilydd ? A allwch chwi brofi y gwrthddywedant eu gilydd yn y.peth unigol hwn ? (2) Beth yw eich seiliau tros anghy- tuno gyda'r diwinyddion safonol a nod- ais ? Onid fuasai'n fwy brawdol ynnoch i ddangos hynny, yn urddasol, yn hytrach na cheisio bwrw eich gwatwar- eg rad arnynt ? Gwyddoch eu safle yn y byd diwinyddol oni wyddoch ? Gyda hwynt gallaf nodi, hefyd, Dr. Moule, Dr. de Touche a'r Parch. Owen Evans. (3) Pa fodd y bu i'r pwyntiadau, chwedl chwi, godi diffyg treuliad medd- yliol arnoch ? Hyderaf mai nid am fod eich cylla meddyliol yn rhy hen neu wan i gymeryd bwyd diwinyddol diweddar dynion fel Peake, Garrie, Mackintosh, Orr, Denney, Nolloth, a'r tri uchod. (4) Cymeraf mai ystyr eich bymad rodd di dduwio ydyw yspeilio Crist o'i dduwdod. Gan hyny, yn mha le yn fy ysgrif yr awgrymaf fod y cyfyngu yn ngwybodaeth Iesu Grist yn ei ysbeilio felly ? Difynwch yr ymadroddion os gallwch. (5) Difynais chwech o ddiwinyddion safonol yn coleddu'r syniad fod gwy- bodaeth Crist yn gyfyngedig. Gan hyny, yn mha ddifyniad y gwelwch fod rheiny trwy gredu'r syniad yn ysbeilio Crist o'i dduwdod ? (6) Neu, os mai eicb casgliad chwi ar ol darllen fy ysgrif ydyw eich syniad am ddi-dduwio Crist, ar ba sail y daeth- och i'r cassliad hwn ? Beth yw ei gwrs meddyliol ? (7) Caniatewch, yn honiadol ddigon, fod priodoli cyfyngiad yng ngwybodaeth Crist yn ei ysbeilio o'i dduwaod, ac yra disgwyliwch i mi ateb gofyniad sy'n seiliedig ar y dyb ddi-sail fod eich es- boniad yn gywir—a ydyw hyn yn deg a rhesymol ? A fyddwch garediced a phrofi gwirionedd eich esboniad i gych wyn ? (8) A ydych yn credu fod un ysbryd yn inbersionoliaett-i rhyfedd ein Gwared- I wr yn cau allan y posiblrwydd iddo hunangyfyngu ei holl wybodaeth, er mwyn meddu profiad gwir ddynol ? Os felly, pa fodd, yi eglurwoh ei anwybod- aeth o aroser ei ail ddyfodiad ? (Marc I xiii. 32). (9) Beth yw eich syniad am fan cych wyn trafodaeth fel hon ? Eich man cychwyn chwi ydyw'r dwyfol yng Nghrist, ond pam hyny mwy na'r dynol neu'r dwyfol ddynol ? Arfer diwinydd- ion safonol ydyw cychwyn gyda ffeith iau syml y Testament Newydd am Grist, beth a ddywedwch chwi am hyn ? (10) A raid i ddyn llawn ymddihatru o synwyr, gwybodaeth, a phrofiad gwr er mwyn actio'r plentyn ? Beth yw ystyr eich cyfatebiaeth—gymysglyd i'm tyb i, yn y fan yma ? -j Gofynaf, yn frawdol a charedig, i chwi i brofi, neu i glirio'i fyny yr hon- iadau (assumptions) sydd yn sail eich ymholiadau, trwy ateb y gofyniadau hyn. Yn sicr, ni ddisgwyliwch i mi ateb creadigaeth eich dychymyg chwi, ar hyn nad yw yn fy ysgrif. Dylwn gael deall eich safle yn llawnach a gwybod beth yw sail eich casgiiadau, a hyny o dan eich priod-enw. Ydwyf, eich cywir, Abergele, Abergele, JOHN KELLY. Mawrth 11, 1914. [Disgwylir i bob gair pellach ar y pwnc yma fod o dan yr enwau priodol.— GOL.]

CAREDIGION YR ACHOS.

[No title]

1-BYCHANU CRIST. I -L.

ICYNLLUN 0 LYFRGELL AR GYFER…