Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
At ciii Gohebwyr. CYFEiRIER POB GOHEBIAETH- Y Ooiygydd, 14 Owyliedydd Newydd," Y OellJ, Coed-y-Flint, Flint, Qogledd Cymru. BWRDD Y GOL. ALLAN 0 DDIFFYG GOFOD.- Amlwch, Penrhiwceibr, Aberdar.
NODIADAU WYTHNOSOL.
NODIADAU WYTHNOSOL. Gwyr y Rheilffyrdd. Nid oes cyd ddeall eto wedi ei sicrhau cydrhwng gweithwyr y rheilffyrdd a'r meistradoedd yng- lyn a'r cais am 10s. yr wythnos o godiad. Cynhygiodd y meistri 3s. o godiad, ond ni fyn y gweithwyr ei ystyried. Y mae Mr Runciman, Llywydd y Bwrdd Masnach, wedi cymeryd y mater mewn 11a w, a gobeithid y sicrheir ry w gyd-ddeall. Byddai streic ar y rheilffyrdd yr adeg hon yn dwyn ar y wlad drueni anesgrifiol. Heblaw yr anghaffael a barai i'r fyddin, dygai ddyoddefaint enbydus ar y werin gartref, sydd eisoes yn cael ei threthu hyd yr eithaf gan afresymol sydd ar fwydydd, a holl angenrheidiau bywyd. Ie, peth poenus fyddai y streic hon, eto, prin y gall neb feio y gweithwyr; heddyw, yn nyddiau y dividends' mawr, a phan y mae'r bunt wedi mynd i lawr i 12s. 6c., nid yw cyf- artaledd eu cyflogau, meddir, yn nemor uwch na 25s. yr wythnos. Y mae cadw teulu bach heddyw ar y gyflog hon tuhwnt i allu y medrusaf a'r cynilaf. dit —
[No title]
Toll y Llongau. Dywedir fod pris y llefrith i gael ei godi, ac mewn llawer ardal beir yn drwm ar yr amaethwr fod pris y llefrith yn y gaeaf yn dibynnu ar bris y bwyd tramor a ddadforir i'r anifeiliaid ac y mae pris uchel y bwyd hwn heddyw i'w briodoli i'r tollau uchel a godir gan berchen ogion llongau; tynner i lawr y tollau, a daw pris y llefrith i lawr, meddir, yn sicr a diymdroi. Yn awr, y mae y ddadl hon i'r mesur y deil y prawf, yn gymhwysiadwy, nid yn unig at lefrith ond at fwyd- ydd, a phob angenrheidiau. Y feddyginiaeth yn ol rhai ydyw i'r Llywodraeth reoli y tollau a gwar- afun i r perchenogion godi y pris a fynnant Yr ateb a roddir i hyn ydyw, nad oes gennym ddigon o longau Prydeinig i gludo ein nwyddau, a'n bod yn ddibynnol i fesur mawr ar longau gwledydd amhleidgar, ac y mae tollau y llestri hyn y tuallan i gylch ein hymyriad. Hwyrach, oblegid angen fawr ein byddin nad allwn gario ein holl nwyddai yn ein llestri ein hunain, ond myn rhai y gall ein Llywodraeth wneud dau beth fuasai yn sicr o liniaru y drwg; ynghyntaf galw adref yrholl long- au sy'n tramwyo mewn dyfroedd dieithr, a gwarafun i'r oil ohonynt gludo dim ond y nwyddau sydd yn wir angenrheidiol yn ffurf o fwyd- ydd, etc. Os nad ellir trefnu hyn dylid egluro hynny yn llawn; y mae y syniad sydd ar led fod y Llywodraeth yn ddiofal ac esgeulus yn gorwedd i fesur mawr iawn odditan yr anfadlonrwydd a'r anor- ffwystra ymysg y gweithwyr. Y mae dioddef y caledi yn anodd, ond y mae dioddef y caledi a meddwl ei fod yn gamwri, ac yn beth y dylid, ac y gellid ei feddyg- iniaethu yn beth llawei gwaith.
[No title]
Y Llywodraeth a Llafur. Y mae Mr Arthur Henderson, Cynghorwr y Llywodraeth mewn materion Llafurol, wedi galw yng- hyd 15 o arweinwyr y gwahanoi Undebau Llafur yr fath ar fwrdd ymgynghorol—un y gall y LIywod raeth droi ato am gyfarwyddyd ymhob argyfwng. Y mae y Cyng- rhair Llafur yn galw er's tro am Weinidog Llafur yn y Weinydd- iaeth. Nid ym ni o'r nifer sy'n credu y daw hynny a'r mil blyn- yddoedd ryw lawer yn nes, eto, yn ¡ ddiau gall wneud ychydig o les. Y mae yr agendor cydrhwng YI Llywodraeth a Llafur wedi bod yn rhy amlwg. Croesawn yr arwydd leiaf fod y werin yn dod i mewn i'w theyrnas. Wele enwau aelOd-. au y Bwrdd Newydd :— Mri Harry Gosling, Cadeirydd Undeb Lightermen, Llundain; W. J. Davies, Cadeirydd Undeb y Brass Founders; 0. W. Bowerman, Ysgrifennydd Cyngli res Llafur; Robert Smillie, Llywydd Undeb y Glowyr Stephen Walsh, A S., Cadeirydd Adran y Gweithwyr o'r Bwrdd Cymodol Seisnig J. R. Clynes, A.S Manchester, Undeb Cyffredinol y Gweithwyr ;»J. R. Thomas, A.S., Undeb Gwyr y Rheilffordd; George Barnes, A.S., Undeb y Peirianwyr; F. S. Button, Undeb y Gwehyddion Vernon Hart- shorn, Glowyr Deheudir Cymru G. J. Wardle, Cadeirydd Plaid Llafur John Hodge, A.S., y Gweithwyr Steel; W. Mosser, Llundain, y Patern Makers; Joseph Cross, Accrington, Gwehyddion A. Wilkie, A.S., Seiri Llongau. >» » «
[No title]
Plaid Newydd. Y mae cryn siarad mewn rhai cylchoedd am Blaid Newydd Y Blaid Wleidyddol Ganol" gydag Arglwydd Derby,yn Arwein- ydd. Pwrpas y Blaid Newydd ar ol setlo y Kaisar, meddir, fydd gosod i lawr seiliau Ymherodrol newydd. Nid yw yn anodd gweled ewyn fforehog y Blaid Newydd ymgais yw i gynnal a phoblogeiddio ceid- wadaeth o dan glog Imperialism newydd ac annibynno'. Cyn y gellir uno gwyr goreu y ddwyblaid yn y cult'' newydd rhaid ail agor cwestiwn, meddir, yr Eglwys yng Nghymru, a setlo ar linellau der- byniol gan y ddwyblaid, a honnir nad yw hynny yn anodd. A ddaw yl blaid Ymherodrol Newydd i fri mawr ai peidio nis gwyddom; ond ni synem ronyn weled Arglwydd Derby a ryw bump neu chwech a dduciaid, a rhyw ddwsin o farwniaid, ac ambell Dr Lunn a Scott Lidgett yn ym- ffurfio ar ol y rhyfel yn Central Party," ac o flaen popeth yn trethu pob gewin i anrheithio mesur cyd- raddoldeb corfforol.
[No title]
Bydd yn dda gan lu cyfeillion Pedrog ddeall ei fod wedi troi ar wella.
¡BYD LLAFUR.
¡ BYD LLAFUR. Y mae Cynhadledd yr Undebau Llafur, gynhaliwyd yr wythnos o'r blaen ym Mirmingham, wedi pasio penderfyniad yn galw am ddi- ddymiad gorfodaeth fiiwrol cyn gynted ag y bo'r rhyfel drosodd. Yn sicr hon fydd y frwydr bolitic aidd fawr gyntaf wedi y can clych- au heddwch. Nid oes dim yn am lycach na bwriad y teulu milwrol i osod iau gorfod yn sefydlog ar ysgwyddau y bobl. Rhaid i'r Un debau Llafur fod yn llawer cryfach rhagllaw nag y buont ynygorffen- nol, neu ni bydd eu penderfyniadau yn weith yr anadl a'r papur a was- treffir arnynt. Y mae Pwyllgor Gweithiol Un- deb Gwyr y Rheilffordd Gogledd Cymru wedi danfon allan gylch lythyr at yr holl weithwyr, yn eu hannog i sefyll yn gadarn tros gael codiad, o ddim llai na 10/- yr wyth- nos. Dywed y cylchlythyr, tra yn cofio eu dyled i'r rhai sy'n ymladd, nis gallant anghofio eu dyled i'w plant sy'n galw am fara. Un o'r pethau a ddatguddir heddyw fod y cyfrifoldeb am brin- der cyfarpar ar ddechreu y rhyfel ar ysgwyddau y cwniau arfau-yr Armament Rings. Yr oeddynt, dy- wedir, am gadw yr holl fusnes yn eu dwylo eu hunain, ac yn tailu pob rhwystr ar y ffordd i gael cyf lenwadau o fannau eraill. Pa wa. haniaeth ganddynt hwy beth ddig- wydda i'n milwyr ac i Brydain ond iddynt hwy gael cyfle i ymfrashau. Son am feddwdod a seguryd y gweithwyr y buwyd, but truth will out." Ynglyn a'r cais am swllt o god iad, y mae Arglwydd Strathclyde wedi caniatau chwe' cheiniog y dydd o godiad i'r mwnwyr Ysgotig, yr hyn sydd yn gwneud eu cyflog yn 10s. y dydd. Mewn cyfarfod mawr o tua thair mil o weithwyr y ffyrdd haearn yn Ne Cymru a Sir Fynwy, a gynhal- iwyd yng Nghaerdydd, penderfyn wyd drwy fwyafrif mawr atal gweithio hanner nos, Medi 17, os na roddir iddynt y 10s codiad ag y gofynir am dano. Gwrthodwyd penderfyniad i adael y mater i ofal y Cyngor Gweithiol. Y mae amryw o felinau blawd Lerpwl yn segur, ac nidoedd rhag olygon pan yn ysgrifeniiu y deuid i ddealltwriaeth ynghylch cwestiwn y cyflog. ? Y mae glowyr De Cymru yn galw cynhadledd ynghyd i brotest- io yn erbyn treth yr incwm. Fel hyn y mae canlyniad y pleid leisio am ysgrifenyddiaeth Cym- deithas y Peirianwyr. Yr ymgeis- wyr oedd Mr Robert Young a Mr Tom Mann Young, 18,441; Mann, 14,245. „ Y mae llafurwyr ar ystad Ar- glwydd Meath wedi myned ar streic. Y mae ganddynt eisieu codi eu cyflogau o 15/9 yr wythnos i bunt. Ie, 15/9 yw y cyflog i'r llaf- urwyr, pan nad yw y bunt ond yn werth 12/6.
ITAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.
ITAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. Dywedir fod enw Mr Hugh Ed- wards, Lerpwl, ger bron Pwyllgor Gweithiol un o etholaethau pwys- icaf Deheudir Cymru fel ymgeisydd tebygol yn yr etholiad nesaf. Y mae Mr Edwards yn adnabyddus mewn cylchoedd gwleidyddol a chymdeithasol, ac yn Gymro 'Rhyddfrydig aiddgar. Y mae droion wedi derbyn gwahoddiad i sefyll fel ymgeisydd Seneddol, end hyd yn hyn wedi gwrthod. Dyma engraifft deg o greulondeb rhyfel a thraha militariaeth. Mewn Tribunlys yn Sheffield, gofynnai gwraig am i'w mhab,26ain mlwydd oed, gael ei ryddhau. Yr oedd ganddi bedwar o feibion gyda'r fyddin. Ffe oedd yn cadw y car- tref, gan fod ei gwr yn afiach. Nid oedd yn derbyn ond ychydig iawn o dal milwrol gan y Llywodraeth. Dywedai y cadeirydd na chania- teid yr apel. Y wraig: Yr wyf yn meddwl fod hyn yn beth gwaradwyddus i gym- eryd fy machgen olaf ymaith. Y cadeirydd: Y mae y mater wedi ei benderfynu.D Y wraig: Nid yw yn deg, beth bynnag. Y mae yna bobl yn byw o'm cwmpas gyda thri neu bedwar o feibion, a dim un o honynt wedi myned; y mae'n gywilydd. « Y maê yr awdurdodau milwrol yngwahanol barthau y wlad wedi bod yn mynychu lleoedd cyhoedd- us, ac yn atal dynion gan ofyn iddynt ddangos eu papurau cofres tru, a rhoi prawf os ynt yn yr oed priodol paham nad ynt yn y fyddin. Y mae llawer wedi gadael eu pap- urau gartref, a chymerir hwynt i orsaf yr heddgeidwaid. Nid oes gan yr awdurdodau hawl i gadw'r dynion hyn yn gaeth i aros nes gweled eu papurau. Dyma eng- raifft deg o'r hyn yw gorfodaeth," a blaenbrawf o'r hyn a gawn yn y wlad hon os na ddeffrown i ddat- wneud y traha. Acgyn yr holl firi cydnabyddir mai ychydig iawn a gaed heb gofrestru, &c. Bodlonodd tribunlys arbennig roi rhyddhad oddiwrth wasanaeth mil wrol i athraw mewn ysgol bwysig ond iddo ymgymeryd a gwaith o werth cenedlaethol. Beth, tybed, sydd o bwysigrwydd a gwerth cenedlaethol os nad yw addysg. Onibai ei bod mor alaethus, y mae ymddygiadau llawer o'r llysoedd hyn yn chwerthinllyd. Parant i ni feddwl am eiriau Byron— Of all tales 'tis the saddest, And more sad because it makes us smile." Y mae y stori yn daenedig y codir yr oed milwrol i 45. a dywedai un sylwedydd craff fod llawer o rai oedd yn uchel ei lef yn anog eraill, ac yn dyweyd yr elent eu hunain pe yn yr oed, wedi mynd yn fud. Un o'r rhai selog tros godi yr oed ydyw Golygydd y British Weekly. Tybed na buasai modd cael rhyw job i'r dyn hwn yn Ffrainc. Rhyddhawyd un a deugain o wrthwynebwyr cydwybodol o gar- char Lewes, ac anfonir hwy i drws- io ffyrdd i Newhaven. Yn sicr dyma ddechreuad trefn fwy dynol a rhes- ymol.