Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

rAMLWCH. t

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r AMLWCH. t Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylehdaith yn Ysgoldy Bethel, Amlwch, prydnawn Mercher, Ionawr 9fed, o dan lywyddiaeth ein parchus Arolygwr-y Parch David Roberts. Yn bresennol Mri. W. J. Thomas a Robert Owen (Goruchwylwyr), Mrs Brindle, Mri H. "Williams (Lay Agent), E. Pritchard, James Williamson a Capt- Gibbon. Yr oedd y tywydd blin wedi lluddias eraill o'r wlad i fod yn bresennol. Dechreuwyd trwy weddi gan H. Wil- liams. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol. Derbyniwyd rhif yr aelodau a'r eyfrif- on o'r gwahanol eglwysi, a chaed fod popeth yn bur foddhaol ag ystyried yr amgylchiadau. Drwg gennym fod rhai o'r aelodau wedi colli trwy farwolaeth yn ystod y chwarter. Pasiwyd pleidlais o gydym.- deimlad a'r rhai canlynol yn eu profed- igaethau o golli eu hanuwyliai(I :Mr a Mrs Michael, Caersalem, o golli eu hannwyl fab, Pte. David Michael, yn rhywis yn yr Aifft; hefyd a Mrs Amelia Roberts, Amlwch, o golli oi hannwyl briod, Pte. Roberts, yn rhywie yn :Ffrainc hefyd a Mis Thomas, a Miss Jones, Cerrigman, pa rai sydd yn aelodau ffydaJon o'n heglwys yn Caer- salem o golli mereh i Mrs Thomas ynghydai mab yng nghyfraith, a hynroy o fevm mis i'w gilydd, sef Mr a Mrs John Davies, Penmaenmawr, y ddau yn hynod o ffyudlon yn y naill le a'r Hall ynglyn ag achos yr Arglwydd, a bydd colled fawr ar eu boI; hefyd cyd- ymdeimlad a Mr Evan Jones, Burwen. yn ei brofedigaeth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad hefyd a Mrs Jones, Tyn- ygate, Cemaes, a Mrs Rowlands, Pen- rorsedd, yn eu gwaeledd, gyda dymuniad cywir am adferiad buan. Diolchwyd i'r rhai canlynol am eu gwasanaeth yn y gorffennol ac ail-ethol- wyd hwy:—Mri. W. J. Thomas ac R- Owen, fel Goruchwylwyr; Genhadaeth, y Parch David Roberts, a Mr E. Pritchard Mr Jones, Eleth Cottage, Ysgrifennydd y Capeli; Mr J.H. Tyrer, Ysgrifennydd Addysg; Mrs Brindle, Ysgrifennydd yr Eglwys; a H. Williams, Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Amlwch, Ebrill 3ydd. Terfynwyd y cyfarfod trwy weJdi gan yr Arolygwr. X.

I CORWEN.I

CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH ABERGELE.

CYLCHDAITH MYNYDD SEION, LERPWL.

j CYLCHDAITH BEAUMARIS.

I CYLCHDAITH PORTHMADOG.