Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Gwahannod Llyfroniaeth y "…

[No title]

Advertising

Jiwbili'r Tabernacl yn Nhreforis.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Jiwbili'r Tabernacl yn Nhreforis. ARAETH SYR BRYNMOR JONES. Yn Saesncg y siaradodd ef. I Diolchai am dderbyniad mor groes- awgar. Yr oedd yno nid fel A.S., ond fel un o honynt eu hunain. Ganesid fcf lai na milldir o'r fan. Pan yn chwech oed y lie addoli yr elai iddo oedd Libanus, lie y pregethai ei dad. Teimlai yn ddwys wrth wrando ar y geiriau caredig am y rhai a acthant o'r blaen. Gresyn nad arbedasid Mr. Joseph Da vies, Glyncollen, i weled Jiwbili'r Tabernacl. Gwnaeth gyfeiriad diddorol at j iwbili'r I uddewon bob hanner can mlynedd, a dychweliad eiddo a wystlasid neu a werthasid yn ystod y tymor hwn i'w berchenogion cyntefig neu eu teulu- oedd. Jiwbili o nodwedd arall oedd yn v -Tabernacl; llawenhau oeddent hwy wrth gael eu traed yn rhyddion o lvfetheiriau'r ddvled. Ceisiai rhai A-awdio Ynineillduaeth trvvv ddweyd nad oedd iddi orffennol, ond ymestynai gorffennol pob eglwys rydd a democrataidd yn ol at y democrat o Nazareth. Llwyddasai crefydd oreu lie y codasai'r bobl eu hunain yr achosion. Sarhad ar grefydd oedd dweyd y byddai dad- waddoliad yn rhwystr iddi. ARAETH MR. W. LLEWELYN WILLIAMS. Iechyd i'n hysbryd oedd clywed parabl Dyffryn Tywi mor groew ar ei dafod ef, ac ar faterion Cymreig nid oes mo'i well am greu brwdfrydedd. Y mae ef yn dal i garu Cymru a'i phethau. Teimlai yn gartrefol iawn yn y Tabernacl. Cymru, meddai ef, yn y canoloesoedd oedd y wlad fwy- af diwylliedig. Wedi hynny diryw- iasai yn fawr, erbyn dyddiau'r Ficer o Lanymddyfri, mewn moes a diwyll- iant, a'r Gymraeg mewn cyfhvr gresynus. Beth a ddigwyddasai ? Chwalu'r mynachdai oeddent yn gymaint gallu er daioni yn y wlad, a thraws-feddiannu eu heiddo gaia hynafiaid y rhai sy'n gwrthwynebu Dadwaddoliad heddyw. Argraffesid y Beibl Coron-llyfr rhad y pryd hwnw yn 1631 er budd y Cymry, ond yn 1851 yr oedd 1,500 o'r ddwy fil a argraffesid ar ol. 0 ba le y daeth i Gymru ymwared o'r cyflwr gresynus oedd ynddo? Nid o leoedd uchel ond o'r werin ei hun. Deffrodd gwerin Cymru i ymladd ei brwydr ei hun. Peth cymharol hawdd yw cael diwygiad yng Nghymru. A'r hyn 'sydd yn hynod yn hanes ein gwlad yw, er fod y tan yn rhwydd ei ennyn, y mae yn amhosibl ddiffodd y fflam. Yr oedd dvlanwad dynion fel John Elias a Herber ar gynulleidfaocdd yn annileadwy. Cychwvnodd un gcn- hedlaeth o Gymry wedi eu tanio symudiad na ddiflanna byth. YMNEILLDUAETH AT HAN- I FANTEISION. Bu adeg nad oedd hawl gan swyddog gwladol i fod yn Ymneill- duwr. Nis gellid cael trwydded hyd yn oed i werthu carrai esgid heb fod yn Eglwyswr. Bu holl allu'r wlad yn erbyn yr achosion Ymneillduol. Llwyddasant drwy'r cwbl. Ymfalch- ient yn awr mewn ysbryd o fen- dithio'r gwaith da ar fywyd a chym- eriad y genedl. DYLED CYMRU I YMNEILLDU- AETH. Ymneillduwyr roddasant fywyd mewn cerddoriaeth. Nid oedd canu corawl yn y wlad cyn eu cyfodiad hwy. Deuddeg rifai cor mawr yn Eisteddfod y Fenni yn 1830. Ym- neillduaeth eto roddes fywyd newydd yn llenyddiaeth y wlad. Nid oes genedl dan haul wedi gwneud y gwrhydri llenyddol a wnaeth Cymru. Yr oedd diwylliant yma yn eiddo'r werin. Canasai Telynog rai o'r darniau perffeithiaf, ac yr oedd ef yn 12 oed yn forwr; yn 17 oed yn lowr, ac yn y bedd pan yn un-ar-hugain. Gwenffrwd eto cyn ei fod yn 22 oed yn eyfansoddi can na fydd farw tra bardd yn bod. Beth a'i gwnaeth yn bosibl i greu fel hyn?—eu meddyliau oedd wedi eu symbylu, a'u diwvllio, a'u heneinio gan grefydd rydd Ym- neillduol. Heddyw yr oedd Cymru yn uwch ei breintiau nag unrhyw I wlad. Edrychai ar Jiwbili'r Taber- nad fel cysgod symudiad mawr a I chyffredinol. Diwedodd ei araeth ragorol trwy annog y bobl ieuainc i gofio aberth y tadau.

Gelli, Rhondda.I

Tabernacl, Treforis.

It ; BeirniadaethI

lMarwolaeth I I

Advertising