Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Undeb Cenedlaethol Eglwysi…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Undeb Cenedlaethol Eglwysi Efengylaidd Cymru, Y mae Cymru heddyw, fel y gwydd- och, ar y groesffordd, a chyda dyfod- iad Mesur Datgysylltiad yn Ddeddf, bydd y genedl yn wynebu ar gyfnod newydd Hawn o bosibilrwydd. Sicr yw ei bod yn wynebu ar gyfnod a gwaith eilw am brofiad a chyngor ei goreuwyr ei hun yn yr eglwysi. Eithr gyda chydraddoldeb crefyddol yn sylfaen, ceir gwell cyfle nag erioed i weithio allan ein hiachawdriaeth ar linellau cenedlaethol. Yr ydym o'r farn, gan hynny, fod yr adeg wedi dod i ffurfio Undeb Cenedlaethol o holl Eglwysi Efengyl- aidd Cymru. Ein bwriad cyntaf yd- oedd ffurfio undeb o'r fath ynglyn a Cynghor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion. Eithr ymwrthyd y Parch. Parch. F. B. Meyer a'r Cyngor Cen- edlaethol yn Llundain yn bendant ag unrhyw gorff cenedlaethol i Gymru, ond yn unig fel Is-bwyllgor o'r Pwyllgor yn Llundain, gyda'r swydd- ogion yn y Memorial Hall yn swydd- ogion iddo. Gwrthododd y Parch. F. B. Meyer gyflwyno adroddiad yr Is- bwyllgor i ystyriaeth y cynghorau yng Nghymru, er fod yr Is-bwyllgor (a hwythau I yn cynrychioli pob Cyngrair yng Nghymru) yn unfrydol wrth dynnu allan y cynllun, a mwy- afrif y rhai oedd yn bresennol yn derbyn yr adroddiad yn ffafriol iddo. Gan yr etholir gan y Cyngor yn Lloegr ran fawr o'r Is-bwyllgor Cym- reig osodir i fyny ganddynt, golyga mai pobl adnabyddus i Loegr, ac nid arweinwyr Cymru, ddewisir; a chan fod pynciau o'r pwys mwyaf i ni yng Nghymru i gael sylw yn y dyfodol agos, megis y Saboth, Dirwest, Addysg, Purdeb a Moes, heblaw yr agweddau crefyddol neilltuol i Gymru mewn canlyniad i Ddatgysylltiad, anodd boddloni rhoddi awenau y Pwyllgor Cymreig yn nwylaw'r ar- weinwyr yn Lloegr. Ni chawsom fawr cymorth gan y Cyngor Cenedlaethol yn y frwydr i gael Datgysylltiad; ac ynglyn a'r Ddirprwyaeth i wneud ymchwiliad i gyflwr yr Eglwysi (Free Church Commission), anw^byddwyd yn gwbl ganddynt benderfyHiad unol y Ddir- prwyaeth fod y Cynrychiolwyr Cym- reig i ffurfio adran ar wahan, ac i roddi adroddiad arbennig i Gymru.' Yr ydym, gan hynnv, wedi pender- fynu galw Cynhadledd o Eglwysi a Chynghorau Efengylaidd Cymru yn Ll £ nymddyfri, Medi i6eg-i8fed nesaf, i benderfynu y pwnc o gael Undeb Cenedlaethol i Gymru, ac 1 fabwysiadu'r cyfansoddiad, a threfn'r llinellau ar ba rai y gweithredir yn y dyfodol. Dydd Gwener, rvIedi i8fed, cynhelir Cymanfa fawr wrth Ogof Castell Craig-y-Wyddon, pryd y pregethir gan bedwar o brif bregethwyr y ped- war enwad yng Nghymru. Hefyd y mae'r Canghellor (y Gwir Anrhvd. D. Lloyd George, A.S.) ac ereill o brif arweinwyr Cymru wedi amlygu eu bwriad i fod yn bresennol. Bydd yr achlysur yn fythgofiadwy ar adeg nodedig yn hanes Cymru. Dymunir arnoch, gan hynny, i ddewis cynrychiolydd ar unwaith. Gwneir ymdrech i baratoi llety i bawb ac i gael tocynau am "fare and third." Ond gan y disgwylir nifer fawr, er- fynir arnoch anfon yr enw yn ddi-oed. (Llofnodir y cylch-lythyr hwn gan nifer fawr *o arweinwyr y gwahanol enwadau.) Yr ysgrifehnydd yw y Parch. James Evans, B.A., 5 Partridge Road, Caer- dydd. Perthynas y Pwyllgor Canolog a'r Cyngor Cenedlaethol yn Llundain. Mewn atebiad i gylch-lythyr y Cyngor Cenedlaethol yn Llundai.1, gyrwyd datganiad i'r Cynghorau Cymreig gan y Parch. James Evans, ysgrifenydd yr Undeb Cenedlaethol Cymreig, yn galw sylw at y ffeithiau a ganlyn:- (1) Mae cyfarfod o'r :idau bwyllgor- mewn bod eisioes gyda Dr. Meyer a 1 chynrychiolwyr y "National Council," ac nid cyfarfod o gynrycholwyr ethol- edig y "Federations" gynhaliwvd ym Mai, 1912. Cytunwyd ar gyfansodd- lad, ond wrth ei anfon i'r "Federa- tions," gadawyd allan yr Hran sydd yn rhodi iddo swyddogPf. ei hun yn gystal a llywydd ac ysgrifennvdd y "National Council. Yn y cvfar- fod cyntaf, Hydref xieg, dilynol, gul- wyd sylw at hyn, a gwrthodwvd de- bvn y pwyllgor newydd am fod Dr. Meyer yn hawlio fod rhaid i'r awenau fod yn y Memorial Hall. Gan na chafwyd llais y "Federa- tions ar hyn, y mae'n anghywir honni fod eu hawdurdod y tu ol i Bwvllgor Dr. Meyer. (2) Ar Mawrth 23ain diweddaf gwrthododd Dr. Meyer gyflwyno i ystyriaeth y "Federations a r Cynghorau y "draft" o gyfansodd- iad dynesid allan i gael Undeb Cen- edlaethol i Gymru mewn cysylhutd a'r Cyngor yn Llundain, ond gyda i swyddogion ei hun. Gwrthodwyd ei -dderbyn. (a) Er fod y cyd-bwyllgor ym Medi, 1913, wedi cytuno yn unfryd i gael corff o'r fath, a Dr. Meyer ei hun wedi codi ei law drosto y pryd hwnnw. (b) Er fod yr is-bwyllgor fu'n ei dynnu allan, yn cynnwys cynrychiol- wyr o'r pump "Federation yng Nghymru yn unfrydol yn ei gyflwyno. (c) Ac, ar wahan i ysgrifenyddion Federations y Gogledd, Canol- barth Cymru, a De-ddwyrain Cymru, j y rhai, gan eu bod yn derbyn tal gan j y "National Council, ydynt wedi teimlo o dan rwymau i gefnogi polisi j Dr. Meyer, yr oedd pob cynrychiol- I ydd o Ogledd Cymru (gan gynnwys > llywydd y Cyngrair), pob cynrychiol- j ydd o Ganol-barth a Gorllewin Cym- j ru, a chydag un eithriad, yr oedd pob ) cynrychiolydd o'r Eglwysi Cymreig o Gyngrair Caerdydd a De-ddwyrain Cymru o blaid y "draft,' ac yn erbyn cynllun Dr. Meyer. Y penderfyniad hwn i wrthwynebu I llais mwyafrif y "Federations," ac anfoniad y llythyr trannoeth i'r" Cynghorau Cymreig sydd yn gyfrifol am yr ymraniad presennol. (3) Ar ol i'r sawl a anghytunent a Dr. Meyer adael yr ystafell, ym- I gymerodd ef a'r dyrnaid cefnogwyr I oedd ganddo i ddifodi yr "Advisory Committee," a gosod i fyny bwyllgor newydd. Cadarnhawyd hyn gan y Pwyllgor yn Llundain. (a) Er nad oedd ganddynt awdur- dod o'r "Federations i wneud hyn; (b) Yr oedd dealltwriaeth glir fod cyfansoddiad unrhyw bwyllgor new- vdd i'w anfon i'r "Federations cyn penderfynnu arno yn derfynol. Ni roddwyd Ilais iddynt ynglyn a hwn er fod ei gyfansoddiad, dull dewisiad ei aelodau, a'i waith yn wahanol. Yn unig hysbyswyd y Cynghorau fod y peth wedi ei wneud heb ofyn ei barn arno o gwbl. Archwyd i ysgrifen- yddion y "Federations alw y pwyll- gor gweithiol yngbyd ar unwaith i ddewis cynrychiolwyr iddo, ac os na allent eu cael ynghjfd, i enwi personau eu hunain, fel y gallai y pwyllgor fod mewn llawn gwaith cyn bod y "Fed- erations yn cael cyfle i roddi ei barn arno. (c) Honir fod y pwyllgor yn ddem, ocrataidd. Eithr etholir neu dewisir mwyafrif y Pwyllgor gan y "National Council," ac fe welir, wrth gyn- rychiolaeth Cymru ar hwn ar hyd y blynyddoedd, na fydd gan neb o'r Eglwysi Cymraeg un cyfle, os nad yn adnabyddus yn LIoegr. Cymer yr Eglwysi Seisnig eu rhan o'r rhai eth- olir gan y "Federations," fel y bydd yr Eglwysi Cymraeg mewn lleiafrif parhaus ar bwyllgor yn cynrychioli > Cymru. (d) Y pwnc 'mewn dadl ydyw a gaiff Eglwysi Efengylaidd Cymru hawlio corff cenedlaethol i ddatgan eu barn ar bynciau cyhoeddus y Genedl; i wasgu hawliau Cymru am ddeddfwr- iaeth ar wahan i Loegr ynglyn a'r Saboth, Dirwest, Addysg, etc., ac i ganoli egnion y Genedl ymhob ym- gyrch genedlaethol; neu a gawn i roddi i fyny y Pwyllgor sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yn y gor- ffennol ac wedi cael cefnogaeth yr Eglwysi, ac ymwrthod a hawl yr Eglwysi Efengylaidd yng Nghymru i lywodraethu eu polisi eu hunain, a rhwymo ein ffawd wrth Loegr, tra y mae Ysgotland a'r Iwerddon yn gweithio allan eu hiachawdwriaeth ar 1inenau cenedlaethol eu hunain. (5) Oblegid y creda y Pwyllgor fod egwyddor bwysig mewn dadl, ac na foddlonant i ryddid yr Eglwysi i gael eu gwerthu tu ol i'w cefnau, y gwa- hoddir yr Eglwysi a'r Cynghorau i anfon cynrychiolaeth i Lanymddyfri i ystyried a phenderfynu y pwnc.

IGohebiaethau.!

Er Cof. I

-Cyfarchiad. I

Colofn y Beirdd. I