Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
W.WilliamsaCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea Specialities l8ct. GOLD DIAMOND, RUBN AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS GOLD AND SILVER WATCHES :;J Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am xr dd fodrwyau aur, OriadurotllLc awrleisiau, Gemau a chadwynau olaer: Yspectol gelfydd. bin-fynegydd, Gwres-fesurydd, Cwmpawd mdr Geir gan Williams, Heol y Castell Trowch i mewn i wel'd ei stor.
Advertising
Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned." AP HEFIN. CEIR MWVNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED Brynlau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANCIEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. L
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Y Oy I Y Rhyfel Tud. 1 Mr. Jonah Rees (gyda darlun). „ 2 Tramp i L¡mfabon 2 Colofn y Plant. 3 Ysgrapiau o'm Hysgrepan. 3 O Wy i Dywi 3 Llith y Gol. 4 Colofn y Bobl leuainc 4 Hwnt ac Yma 5 Giofeydd y Rhondda a Rhyfel 5 Y Diweddar Arglwydd Merthyr, 6 Eos Hafod, gan Brynfab. 6 Llith Tainant 6 Y Stori v 6 Y Rhyfel 7 ,Syiwadau Wil o'r Bont 7 Colofn Llafur 8 Yn Fan ac yn Amal 5, 8 Colofn y Beirdd 8
Y RHYFEL.I
Y RHYFEL. I G\N EIN GOHEBYDD AR- I BENNIG. Ychydig gysur geir ini yn y -1 I NEWYDDION -D1YV EDDAKAl< U I FAES Y GWAED. Tebygol yw y bydd y Germaniaid yn dechreu gwarchae ar Paris neu ynte yn darparu i'w chymeryd a rhuthr cyn bydd y llinellau hyn yn mvylo darllenwyr y "Darian." Er gwaethaf Ffrancod a Phrydeinwyr y mae v gelyn wedi carlamu yn ei flaen. Yn y frwydr hirfaith ffyrnig o gylch Namur, Charleroi, a Mons, coLoda byddin Pryden dros bum mil o wyr mewn tua phedwar diwrnod. Cyfrifir fod pum mil arall wedi eu colli o'r rhengoedd vn y brwydro ogylch St. Quentin, La Fere, Compiegne, Soissons, Laon, ac Anizy Le Chat- eau. Da fydd cofio er hynny fod ?vth o'r deng mil uchod yn cael eu cvfrtf fel ar goll, ac nid gyda'r c1wyfedigion a'r lladdedigion. J?yda r yw fod llawer o honynt yn garcharor- ion ac ereill wedi eu torri oddiwrth y fyddin ac yn crwydro. Y mae LLYWODRAETH FFRAINC I WEDI GADAEL PARIS, a chymervd ei sedd yn Bordeaux, tref dri chan milldir i'r De. Tystia 1 Y Cadfridog Gallieni, y llvwodraethwr milwrol sydd wedi ei adael a gofal y brif-ddinas arno, y bydd iddo ei hamddiffyn hyd yr eithaf. Yn ei neges at y genedl dvwed Iywydd Poincaré ei fod ef a'r Llywodraeth yn gadael Paris dros ychydig er dwyn ymlaen waith y Llvwodraeth yn well, ac fel y gallont wvlio dros fuddiannau yr holl bobl. Yr arwyddair a esyd -de o flaen y pedair cenedl sydd yn gwrthwynebu V traha Germanaidd yw "Dioddef ac ymlad. Geilw ar y bobl i fod yn ddewr ac yn deilwng o'r amseroedd enbyd presennol, a datgana ei hyder perffaith y try v fuddugoliaeth o'n plaid yn y diwedd. Tvstiolaeth yr holl arwyddion t heddvw nv fod 1 GERMAN I WEDI HEN FWRIADU Y RHYFEL hon. Nid peth sydyn fu, yn codi oddi- ar amgylchiadau dyrus ac anffodus. Yn hytrach, ffrwvth cynllun a chyn- llwyn mileinig. Nid oedd gwaith Awstria yn taro Servia yn ddim ond rhan o'r vstryw. Diau i Austria daro gyda chydsyniad os nad ar gym- helliad Germani. Gwyddid ar y pryd fod hvnhy yn golygu tynnu Rwsia i'r trobwll. Erbyn hyn gwelir fod Ger- mani vn barod i'r manylwch eithaf. Yr oedd ei gynnau, fychain a mawrion; y meirch a'u, harneis; y peiriannau cludo; y llongau awyrol (Zeppelins), a'r aeroplanes yn niferi mawrion, a phob offer rhyfel ellid ddyfalu am danynt yn berffaith barod ac mewn cyflawnder mawr, ac eithrio llongau rhvfel. Yn y fan houno safai Pryden ddigon ar y blaen, a dyna anhawster pennaf Germani heddyw. Heblaw hyn i)eiiiia f (-lei an, v mae gan ein gwrthwynebwyr FYDDIN O YSBIWYR wrth ei gwaith ers blynydoeid. Bu llawer i fasnachdy, swyddfa ac arian- dy yn llawenhau mewn cael German- iaid ieuainc fel clarcod am gyflog isel. Y chydig dybient fod holl fusnes y swyddfa yn cael ei hysbysu yn Germani. Pan hitwliodd y gorchfyg- wyr ^8,000,000-0 iawn oddiar dri- golion Brussels tyst^odd y Maer nad oedd yr arian ganddynt, ac nad oedd modd iddvnt dalu. Nid cynt y gwnaeth nag y danghosodd y Germaniaid iddo gyfrifon banciau Brussels a chyfoeth rhai o'r milwnyddion a drigant yn y ddinas. Dywedir fod yno glarcod Germanaidd yn y banciau yn gweithio am tua phum swllt yn yr wythnos, a dyna'r canlyniad Ceir eisoes vmhlith ein carcharorion rhyfel rai fuont yn gweithio ar reilffyrdd Lloegr ac yn ein gwestai. GWYR Y GELYN HANES Y GWLEDYDD hyn i berffeithrv. ydd bron. Pa ryfedd felly ei fod heddvw yn vm- cÍaith yn fuddugoli;u>thus at byrth Paris. Daliodd ar ei adeg. Ymbara- todd ymhob dim. C\«glodd ei luoedd cnfawr ar derfynau -Bel-itini yn bar- od ddyddiau cyn tyhoeddi rhyfel. Cadwodd wledydd ereill yn y tywyll- wch, ac yna tarawodd hyd adref. Yr oeddym ninnau fel Ffrainc a Rwssia yn dal i ohirio v dydd drwg jac i obeithio am heddwch. Nid oes le i ddadlu heddyw ar y pwnc, oblegid dengys papurau cyhoeddedig y Llyw- odraeth fod y wlad hon wedi ym- j drechu am heddwch hvd v foment olai. Ond yr oedd Germani yn benderfynol am rylel. Dal i ddifrodi y mae HED-BEIRIANNAU GERMANI. Y mae rhai o honynt wedi bod yn hedeg uwchben Paris ac Antwerp gan ollwng tan-belenau i lawr yn y nos. Nid yw y difrod wedi bod yn fawr hyd yn hyn, er fod rhai wedi eu lladd. Bu yn gyfyng, er hynny, ar y saw] naeth yr ymgais olaf uwchben Paris. Gwelwvd yr hed-beiriant (iermanaidd uwchben, ac aeth dau Ffrancwr i if-nv un o bob ochr iddo, ac vno y bu yn frwydr yn yr awyr am tua deng mynyd. Y n y cyfamser esgynai yr ymladdwr yn uwch, uwch o hyd, ac yn y gystadleuaeth o ddringo y German- "T a orfu, ac ehcdodd ymaith yn ddianaf. (ierllaw Champigny, er hynny, ni fmn-d mor ffodus; saethodd v Ftrancod at hed-beiriant, a thynas- ant ef i lawL Cvnhwvsai' ddau Ger- manwr, y rhai ?Jaddwyd gan y cwymp. ,.>;F:"y I Ychydig o fanylion ellir ymddiried ynddynt geir o'r gweithrediadau ar ) Y CADFEUSYDD DWYREINIOL, ] ond denllwn fod yno frwydro caled gan iyddinoedd enfawr. Dywed brysnegeseuon o Petrograd (yr enw nnvydd ar St. Petersburg) fod y R wssiaid wedi cael buddugoliaethau mawrion ar yr Awstriaid Yn nghym- dogaeth Lemburg, ac fod grym yr Awstriaid wedi ei dorri ar ol wythnos galed a chyson o frwydro. Dywedant hefyd eu bod yn llwyddo yn fawr yn erbyn y Germaniaid vm Mhrwsia Ddwyreiniol. Ar y Haw arall tystiol- aeth y Germaniaid eu hunain yw eu bod hxn-v wedi concro v Rwssiaid, ac wedi cymeryd cynifer o 80,000 o hon- fynt yn garcharorion ar ol un frwydr. Beth yw y gwir nis gwyddom, ond rhaid cofio mai cvnnar vdvw eto I ddisgwyl i Rwssia daflu ei nerth i'r ornest. Cyfrif y cvfarwydd ei bod wedi gwneud yn rhagorol hyd yn hyn. Ceir ANESMWYTHDER MA \VR YN NHWRC1 eto, ac fod caerau yn cael eu ffurno a'r fyddin yn cael ei chasglu dan gyfarwyddyd swyddogion German- aidd. Dywedir fod ysfa fawr yn meddiannu y Tyrciaid v dyddiau hyn am ad-feddiannu rhai o'r lleoedd a gollasant adeg rhyfel v Balkan, ac mai y Groegiaid sydd ar eu ffordd. Ond hvsbysodd Roumania y Twrc v byddai hithau ar y maes os tarewir Groeg. Y peth nesaf ellid ddisgwyl j wedyn fyddai gweled Itali ar y maes. iN yw y byd i gyd i gael ei ddym- chwelyd i'r ffwrnais? Nid oes ond ychydig drefi, ac hyd yn oed bentrefi, trwy Bryden riad oes ganddynt gyn- j rychiolwyr vmhlith TYRFA Y LLADDEDIGION A'R CLWYFEDIGION sydd cisoes yn hysbvs. Y mae canti- ,oedd o'r olaf wedi eu dwvn drosodd i ysbytai yn y wlad hon, ac awydda | llawer o honynt am gael dychwelyd yn fuan eto i faes y brwvdr. Cofied y rhai svdd a chanddynt anwvliaid ar y maes fod y Llywodraeth yn trefnu i'r teuluoedd wybod o flaen pawb am unrhvw beth a ddigwvdd i'n milwyr mor belled byth ag y bo bosibl. Dywed- ir fod Rwsia wedi colli tri o'i chad- fridogion, ac yn eu plith y Cadfridog Samsonoff. Collodd Germani un o'i dvnion amlycaf ym mherson y Tyw- ysog Buelow, yr hwn fu farw o'i glwyfau. Ymhlith ein meirw ni ceir enwau larll Leven, a'r Is-gadben \Yindsor-Clive, mab larll Plymouth, y ddau yn bedair-ar-ugain oed, Cyfyd angeu doll drom ar fonedd a gwreng, ac eto i gyd ceir TYRFAOEDD YN RHUTHRO II DAN Y FANER ymhob rhan o'r wlad. Cymerir y j gwaith o ymuno a'r fyddin i fyny yn aiddgar iawn yn ein prif ddinasoedd. Prysura Lerpwl yn gyflym i godi ei thrydedd fil. Y mae dros dair mil o weithwyr wedi ymrestru yn Bir- mingham, a chasglwyd dros '£:"12,000 i gyfarfod a'r costiau. Ymunodd pedair mil yn Llundain dydd Iau, yn gwneud 17,000 mewn pedair diwrnod. Bernir fod deng mil wedi uno a'r fyddin yn ninas Glasgow er pan gychwynodd y rhyfel. Ychwanegwyd dwy fil yn Manchester mewn diwrnod, ac hawlia y ddinas honno ei bod ar y blaen i holl ddinasoedd Pryden ac ystyried ei phoblogaeth. Y mae y Ijrwdfrydedi yn mhlith ein gwyr ieu- ainc yn rhyfeddol. Ymhlith y ddwy fil a hanner a ymunodd mewn wythnos yn Nottingham, ceir Ficer St. Cyprian. Deuai llawer hefyd yn eu moduron gan geisio He fel milwyr j cyffredin. Yn nhref Hull ymuna tua 700 y dydd trwy yr wythnos. Y mae v brwdfrydedd arddanghosai yn synnu yr awdurdodau. Y mae son wedi bod i am gynnal CYFARFOD CYHOEDDUS I EGLURO ACHOS Y RHYFEL a galw am filwyr i'r fyddin, ond o'r braidd y mae hyn wedi dechreu eto. Hysbvsir yn y newyddiaduron ac ar y parwydydd fod eisieu milwyr, a dyna r oil sydd wedi ei wneud. Ond vm- ddengys mai y cymhelliad cryfai i'n gwyr ieuainc yw rhamant rhyfel, y -syniad o wladgarwch, ac adroddiadau y clwyfedigion ddychwelasant am 1 greulonderau y Germaniaid, ac am ( boethder a pheryglon enbyd y brwydrau. Ofnid y buasai ymdaith fuddugoliaethus Germani at Parts ac enciliadau y Ffrancod a'r Prydeinwyr Yn lleihau yr awydd am vmuno a'r fyddin, ond fel arall y bu. Cafwyd cyfaredd yn y peryglon sydd yn peru i fasnachwyr, clarcod, meddygon, a phob dosbarth adael eu busnes a'u teuluoedd, a gwynebu ar y gelyn. Yn araf iawn a gyda llawer o surni yr etyb SYR EDWARD CARSON AC ULSTER hawliau y wlad arnynt. Y mae wedi honi llawer iawn y ddwy flynedd ddi- weddaf mai hwynthwy yw gwlad- garwyr pennaf y wlad. Ni fu pall ar eu hymKrost vn y peth hwn. Pan gyhoeddwyd rhyfel ni chollodd ?Ir. John Redmond foment cyn hysbysu y' gallent vmddibynnu ar genedlaethol- wyr Iwerddon; eu bod hwy yn ber- ffaith barod i sefyll ysgwydd yn ysgwvdd a Phryden Fawr yn nydd ei pherigl. Er syndod i bawb cilio o'r golwg yn sw rth ac yn sur wnaeth Syr Edward Carson. Erbyn hyn y mae Cyngor LTlster wedi cyfarfod ac wedi penderfynu gosod rhan o fyddin eu gwirfoddolwyr at \\sanacth y Llyw- odraeth. Pe buasai hyn wedi ei wneud ynghynt ac mewn gwell ys- j pryd, gallesid ei werthfawrogi yn weIl. Darogenir pethau anhyfryd gan rai AM YMREOLAETH A DAT- GYSYLLTIAD yn y cyfwng presennol. Ceisia rhai Toriaid ddadlu na ddylasai y ddau Fesur hyn gael pasio dau Ddeddf y Senedd, ac mai anheilwng fyddai dal mantais ar y rhyfel i'w pasio. Cyd- olygwn yn hollol na ddylid nianteisio iiie\n gwedd yn y byd ar y rhyfel, ond ar y Haw arall rhaid cofio y byddai Mesur ÍJatgysylltiad wedi ei basio cyn hvn onibai am y rhyfel. Ond y mae y Prif-weinidog wedi awgrymu y bydd yn ofynnol, dan yr amgylchiadau, ddwYll rhyw gyfnewidiadau i'r Mesur. Beth ydynt nis gwyddom. Cynhygia un eglurhad trwy ddweud mai go- hirio y trefniadau i ddadwaddoli ,wneir hyd ar ol y rhyfel. Dywedir mai anodd fydd i eglwysi gyfarfod a'u gofynion newyddion ar ol Dadwaddol- iad yn wyneb yr anghaffael a'r coll- edion berir gan y rhyfel. Beth bynnag wneir, hyderwn na ddefnyddir vr amgylchiadau presennol mewn un ffordd i osod cloc cydraddoldeb cre- lyddol yn ol yng Nghymru. Gobeith- iem weled ysbryd mvvy heddychlon yn meddiannu cylchoedd crefvddol ein gwlad, ond y mae hynny allan o'r cwestiwn hyd nes ceir cydraddoldeb cvdrhwng yr enwadau. Ychydig yn new ydd sydd i'w adrodd am Y GWEITHREDIADAU AR Y MOR. Suddwyr yr Holmwod, Hong Brr vd- or einig, o tua 4,000 o dynelli. Cludai lo, a daliwyd hi gan gyflym-long rhyfel, berthynai i Germani. Tebygol yw mai dyna un o gampau olaf ein gelvnion yn y cyfeiriad hwn. Yn ystod y rhyfel y mae Pryden wedi suddo neu gymeryd meddiant o dros ddau cant o longau (iermani ac Austria. Rhyw ddeuddeg berthynai i'r olaf. Heblaw hyn atafaelwyd gcnnym ar Iwyth rhyw 25 o longau Prydeinig, gludent ddefnyddiau i Germani. Ni chollasom ond ychydig iawn mewn cymhariaeth i hyn.
Advertising
CROEN. CNAWD, ASGWRN. AHAIO COFALU AM Y RHAI HYN. Esgeulusdod 0 unrhyw niwatf I rhai hyn drwy ddamwain man gisfyo all aakati Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Effvitbial. E" mwyn ysgol Pirygl rhaid II yiKarUt mawn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYOOIANUB A SICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn aael ei gydaakei gan filoedd fel y meddygiin mwyal sier a diogel a ddarganfyddwy# erioed at iaahau Clwyfau, Aichollion, Tardd- lantau y Cnawd. Craoh a Hid" Plant, Llooglad. au, Ysgal. danau, 5 Q U r v y, L I u gr ad P I a^h t WM&. Benywod a B \a\v I Babanod, jbmmJ Tarwden, Q 0 Cymalau Pasnus, Rheumat- los, Poen r oedd pan ty mles- Cefn, Piles. tyn mewn tt&t eohrjalom. Hynod a Gwellhaodd GomAr't Bsla affelthlol hi yn bur fuan.' at Cl WYFAU ar COESAU. Miloecld yn tystio i'w Effeithiau RhyfetMoi. RHODDWCIt 8RAWF ARNO Gweiihad sydd s/cr Ar werth gan bob Chemiat a Storea an l/H- Gofyner am Comer's Bairn. Mya- wch weled enw Jaeofe Hugliaa ar ltall blwch. Heb hyn nid yw gywir. Naa danfoner ei gwerth (P.O. nen Utampa) at Jacob Hughas, Manufaaturlng Chaa- 1st, M.P.8., L.D.B., Penarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARAlL.