Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I Y stori. ! i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y stori. NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MON. GAN J. TYWI JONES. GAN J. TYWI JONES. PENNOD X. (Parhad.) PENNOD X. (Parhad.) Gollyngwyd Sian a Ned ei gwr i fewn. Dyma ninna," meddai Sian, wedi | dod i ddangos ein gwyneba i chi yn ych trallod," a cheisiwyd gan y ddau roddi eu pwys i lawr. Wel, ma'r hen frawd, Huw Benja, druan, wedi'n gadal ni," meddai Ned. Ydi mae o, gwaetha'r modd." meddai Rebeca. 0 doedd dim arall i ddisgwyl, a dyna oedd ora iddo fo dan yr amgylch- iada. Felly bydda i'n deud bob am- sar," meddai Sian, Nid hynny ydy 'nheimlad i. Mrs. Huws," meddai Rebeca. Taid annwl, ond fydd llai o helbul i chi o lawar, a fydd gynnoch chi fwy dan ych dwylo," meddai Sian. Rydw i'n clywad gormod o siarad felna, Mrs. Huws," meddai Rebeca. a bu distawrwydd tra fu Sian yn meddwl am rywbeth arall fyddai o erth i w ddweyd. Mae o wedi gneud i wyllys, yn reit siwr," meddai Sian o'r diwedd. "Sut mae o wedi gneud hefo'i arian deud- weh Nanno," meddai Rebeca, tyd- hefo mi o'r swn," ac aeth y ddwv i ystafell arall. Wyddost ti, Mathew, a ydy o wedi gneud i wyllys?" gofynnai Sian. Ys- gydwodd Mathew ei ben, a thybiodd I Sian y golygai hynny nad oedd ewyllys wedi ei gwneud; cododd ei dwylaw fel pe mewn dychryn a dywedodd: Dyma ddryswch eto, rydw i'n i weld o'n dod. Gresyn na fasa fo wedi gneud trefn ar i betha. Sut bydd hi ar Nanno rwan. a dyna Huw Morus!" Taw, Sian, rhag cywilydd i ti," meddai Mathew, cofia mai yn nhy galar wyt ti. Ma'r fam a'r ferch wedi methu diodda dy gleba di." Rydw i'n deud am dy dafod di o Rydw i'n deud am dy d,af..od ? hyd, Sian!" meddai Ned. Ma'n well i ti gadw dy dafod i ti dy hun, Ned. A thyd yn dy flaen m awn ni os hyn yw'r diolch ydan ni'n gael am ddod i gydymdeimlo a rhai yn'u trallod, os ydi o'n drallod hefyd. Tyd yn dy flaen, Ned," meddai Sian. a bu raid i Ned ufuddhau fel aifei. Bu cryn ddadlu yn ystod y dyddiau canlynol ynghylch ewyllys Huw Benja. Gyrrodd ysgydwad pen Mathew Martin pan ofynnodd Sian iddo yr ardal i gyd ar gyfeiliorn. Taerai Sparcer iddo weled yr ewyllys. Taerai Sian o i tu arall nad oedd yno ewyllys, fod Mathew Martin wedi dweyd hynny'n bendant wrthi yn nhy Huw Benja. Pan aw- grymwyd iddi y gallai Mathew fod wedi ei chamarwain, nis gaUjii gredu y y beiddiai hyd yn oed Mathew ddweyd celwydd yn nhy galar. Un diwrnod pan oedd dadlu poeth wedi bod ynghylch y mater yn y pentre, a Tomos Sparcer a Sian Huws wedi mynd yn fygythiol tuag at eu gilydd, ddigwydd- odd Maethew ddod heibio a'r offer torri beddau ar ei ysgwydd. Aros, Mathew," meddai Sian, ond ddeudast ti pan ofynnis i i ti yn nhy Huw Benja na toedd yr hen lane ddim wedi gneud i wyllys J Na ddeudis i mo'r fath beth. Sian meddai Mathew. Mathew! Ofynnes i ddim i ti yn y ty?" gofynnai Sian. Do." "A mi ddeudast titha na toedd o ddim wedi gneud i wyllys." "Rwyt ti'n deud gormod rwan; Sian, ysgwyd 'y mhen ddaru mi." meddai Mathew. Pa wahaniaeth ma hynny n neud. Mathew?" "Llawer iawn, Sian? A wyt ti'n cofio be ofynnist ti i fil- li Mi ofynnis i ti a wyddet ti a oedd Huw Benia wedi gneud i wyllys Eitha gwir, Sian, a mi ysgydwas inna mhen i roi ar ddeall i ti na wydd- wn i ddini; dydd da, rwan," ac aeth Mathew yn ei flaen gan adael Sian am ennvd yn sur a siomedig, am ei bod wedi colli yn y ddadl. Gan fod tystial- aeth Sparcer o hyd yn sefyll nid oedd bellach amheuaeth ynghylch bodolaeth yr ewyllys, a chan ei bod ar gael nid oedd gan neb lawer o amheuaeth gyda golwg ar ei darpariadau. Tybiai pawb y byddai Huw Mcrus yn "wr bynhedd- ig," ac y byddai ei gael ef yn wr yn gaffaeliad uawr i Nanno. Brynhawn dydd yr angladd daethai hynnv fedrai'r ty ddal o bob! ynghyd. a Huw Morus a'i dad yn eu plith. Eis- teddai Huw Morus yn ymyl Nanno. ac yn cydymdeimlo'n ddwys a hi ellid feddwl, a'i osgo yn dweyd mai ei eiddo ef ydoedd hi a'i heiddo. Eisteddodd Morgan Rhys wrth y bwrdd, torrodd > sel, darllenodd yr ewyllys. ac aeth pawb yn fud gan syndod a siomedig- aeth' fl barhau.)

Y Rhyfel.I,

Anrheg. I

I Treherbert.

"Yr Ychydig Sylwadau Hyn."

[No title]

Advertising