Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

V LLYTHYR 0 -AFFRICA. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

V LLYTHYR 0 AFFRICA. j Derbyniodd Mr. R. C. Evans y llythyr ] hwn oddiwrth Evan Edward Jones, South > Street sydd gyda'r Fyddin yn Durban, ) Natal. i Annwyl Gyfaill, Just air neu ddau atoch, gan ob- ( eithio y bydd iddo eich cael oil yn Einion < mewn iechyd da, fel ac yr wyf finnau ar hyn o bryd. Gwelwch oddiwrth y pen- awd ymha le yr wyf heddyw, er nas gwyddom ymha le y byddwn yfory, o herwydd Rest Camp ydyw, ac nid yma mae pen ein taith. Yr ydym yma er y Sul diweddaf, a chawsom dderbyniad brwdfrydig gan y trigolion. Maent y tu hwnt o garedig wrth y bechgyn; gwa- hoddant hwy i'w tai, a phan yn cerdded yr heolydd, taflant cigarettes, fel cerrig atynt, a rhvdd rhai hyd yn oed arian idd- ynt. Mae Durban yn le prydferth eithriadol, yr oeddym yn meddwl pan yn Cape Town, fod yn amhosibl curo y fan honno mewn prydferthwch, ond gwnaethom gamgymer- iad dybryd, nid yw i'w gymharu a Durban wrth edrych ar y dref o'r mor, gallech feddwl eich bod yn edrych ar goedwig fawr, a'r tai gyda'u toau cochion fel pe I wedi tyfu yn ei chanol. Mae golwg tlws eithriadol i'w gael o hono. Nid wyf yn credu fod yng Nghymru na Lloegr fan i'w gymharu ag yma, er ei fod yn am- ddifad o'r mynyddoedd o'i gwmpas fel sydd yn yr hen wlad. Y tebygrwydd yw, fod yma ganoedd o'r bechgyn wedi eu swyno gan gyfareddd y fan, fel na bydd iddynt aros mwyach yn ei hen gynefin, ond y bydd iddynt aros yn y wlad hon. Mae yn amlwg fod yma le rhagorol i'r dvn gwyn, y gwaith caletaf q. wna yw ed- rych ar ol y Blacks, yr hyn sydd yn hynod o hawdd. Mae arnynt ofn dyn gwyn yn arw. Druan o honynt, nid ydynt ond caethion mewn ystyr eto. Gwnant bob budr waith yn y gwersyll a'r dref, a chant eu cau allan o bob cymdeithas a'r dyn gwyn. Mae gan y dyn gwyn ei le iddo ei hun yn y Restaurants, yn y Train, ac yn y Tram, ni wiw i'r du druan sangu ei droed yn y lleoedd cysegredig hyn rhag eu halogi. Maent hwy eu hunain rhywfodd yn edrych ar y dyn gwyn fel rhyw fod uwchraddol, gwelir ar y cerbyd- ) au by chain sydd ganddynt, a elwir Ricksha rhyw sign fechan, ac arni "Europeans only-" Mae yn amlwg fod gan Gristion- ogaeth lawer eto i'w wneud yma, er dysgu y wlad fod dyn yn ddyn, beth bynnag yw lliw ei groen. Lie drud ryfeddol sydd yma i fyw, dy- wedir wrthym fod y nwyddau yn costio yma dair gwaith yn rhagor i'r hyn gost- iant yn Lloegr, mae yn debyg fod y cyflog- au yn cyfateb i hynny. Mae yma bar ieuanc o'r Bermo yn byw yma, daethant yma rhyw 5 mlynedd yn ol; nis gwn pwy ydynt, ond gwelais hwy a bachgen o'r Bank, Bermo ddywedodd wrthyf am danynt, mae ef yn eu hadwaen yn iawn. Adeilad hardd yw y Town Hall sydd yma, deil filoedd o bobl ac mae Organ hardd tu fewn iddo, ond un peth rhyfedd iawn os rhyfedd hefyd, mae y Corporation wedi gwahardd i un math o German Music ( gael ei chwarae vnddi, ac nid yn unig yn y Town Hall, ond ymhob man arall trwy'r I ddinas. Mae y Saeson sydd yma yn I hynod am eu tcyrngarwch. Yr oedd ] cyfarfod mawr yn cael ei gynal yma y I nos o'r blaen, er ceisio pwyso ar y Llyw- odraeth i gau i mewn pob German, ma I yma laweroedd o honynt ffordd hyn, ac maent oil yn rhyddion. Yr oeddwn yn son am garedigrwydd y trigolion, mae yma Neuacld fawr yn perthyn i'r Wesleyaid wedi ei hagor er budd y Milwyr. Cewch ddigonedd o fwyd I ynddo, y bob peth ellwch ddymuno, ffrwythau, cacenau a the &c., o ddeg yn y boreu hyd 10 y nos. Cewch eistedd yno trwy'r dydd os mynwch. Bum yn y Zoological Gardens yma, lie diddorol iawn, a'r Park yr hwn sydd yn hynod o brydferth. Mae pob man a phob peth i'r Milwyr yma. Credaf fy mod wedi dweud y cyfan y tro yma, cewch air eto pan gaf hamdden wedi cyrhaeed pen y daith. Nis gwn pa bryd y symudwn o'r fan hyn. Cofion goreu atoch i gyd. Tebyg fod I popeth yn mynd ymlaen yn hapus rhwng Salem a Phendref, y Saboth yw'r unig ddiwrnod wyf wedi ei golli o'r wyth- nos. Collasom y Saboth ar ol gadael Litherland, ond credaf y daw yn ol cyn hir. Cofion cynes, Eich cyfaill, EVAN.

LLYTHYR 0 WLAD 'CANAAN. I

Advertising

CYFARFOD DOSBARTH M.C. DOLGELLAU.,

IGWERTHU, LLONGAU.