Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR ARSYLLFA. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ARSYLLFA. Gweled fod Wesleaid, Aberdyfi, yn j cynnal eu gwyl enwad flynyddol yr wyth- J nos hon ar ei hyd. Mae'r Gymanfa yn I dal cysylltiad ag Eglwysi'r De a'r Gogledd 1 fel yr wyf yn deall, ac mae disgwyliad I am dyrfa fawr o Weinidogion a lleygwyr o bob rhan o'r wlad i'r cyfarfodydd, ac yn eu mysg yr enwog Gibsy Smith. Mae'r brodyr y Wesleaid i'w canmol am yr an- turiaeth, ac mor bell ag y clywais, y mae digon o llettydai ac ymborth i bawb gan fod y gwahanol enwadau crefyddol yn cynorthwyo. Trodd ffydd y brodyr crefyddol hyn yn olwg sylweddol i'w gweithrediadau; ac yn hyn y maent wedi dvsgu gwers fawr i enwadau eraill, llawer cryfach pan y maent yn rhoddi eu huchel wyliau i fyny a'u ffydd mor wan. Deallaf fod y cyfarfodydd oil yn troi yn llwydd- I iant mawr. Dilyned bendithio* lawer.. 1 Gweled fod Annibynwyr dosbarth Towyn wedi cynnal ei Cymanfa Ysgolion, ac wedi cael cyfarfodydd eithriadol o dda, a'r dosbrthiadau ieuainc wedi gwneud gwaith ardderchog yn ystod y flwyddyn. Yr Arweinydd ydoedd Mr. Glyndwr Rich- ards, ac mae ei enwi ef yn sicrhau fod y canti yn yr hwyr yn uwchraddol. Gweled fod y bardd a fy nghyfaill Ab Hevin, yn diddori trigolion glanau y Ddyfi a'i ddarlith boblogaidd "Y Ddwy Wraig o'r Wlad." Cyhoeddodd lyfr o dan y teitl yn ddiweddar, ac mae darllen y I cyfryw (er yn dal cysylltiad uniongyrchol ag ei ef hun), yn rhamant wirioneddol, ac yn angos gallu mawr i ddisgrifio mewn iaith goeth a barddonol. i Daetb a nifer helaeth o'r gyfrol gydag ef a gwnaeth fasnach rhagorol iawn. Bydd hen ber- thynasau Ab Hevin, er wedi marw, yn trigo mewn llawer bwthyn ar'hyd y glanau, am lawer blwyddyn i ddod. Gweled mai y Parch. S. Roberts, Llan- brynmair fu yn gwasanaethu Eglwys y Glasbwll, Llyfnant Valley, a thynodd gvnulleidfa gref ar ei ol, a phregethodd yntau yn gryf a dylanwadol. Gweled fod Parch. O. Davies, Pennal, I wedi tori tir newydd ynglyn a chyfarfod- ydd gweddio. Mae ganddo gyrddau yr wvthnos hon i ofyn am fendith yr Arglwydd ar yr had a roddwyd yn y meus ydd. Creda ef fod eisiau gweddio am gvnhauaf da, fel yr ydys yn gweddio ar ei gael. Drwy y drychfeddwl hapus yma, y mae y cyfarfodydd yn fwy Iluosog o lawer. Gweled fod gwr a gwraig ym Mrawdlys Caerfyrddin, wedi cael eu traddodi i bum mlynedd o benyd wasanaeth am esgeuluso amaethu plant. Yr oeddynt yn magu plant i ferched dibriod a derbyniant o /10 i £ 15 yr un am eu magu. Dadleuwyd rhai pethau rhyfedd o flaen y rheithwyr, a chredai y Barnwr Sankey fod y ddau wedi cario y gwaith yn mlaen am gryn amser, er mai achos un plentyn na wyddid pwy ydoedd ei fam, oedd ger bron y Frawd- lys. Gweled fod Y riadon Bangor wedi arfer doethineb mawr ynglyn a Miss Hughes, merch y ddiweddar Awdures enwog Gwyn- eth Vaughan. Ymddengys fod y ferch ieuanc hon wedi cael meddiannu gan iselder ysbryd mawr yn ddiweddar, fel yr ofnai gwrdd a phobl, am y credai fod pawb yn ymlid ar ei hoi. Ni fu yn dda ei hiechyd er pan gollodd ei mam, a phwys-, odd hynny yn drwm iawn ar ei meddwl yn enwedig ar ol cael cymaint o siomedig- aethau. Gwelwyd hi mewn pryd yn y Fenai, ac achubwyd hi, a gollyngwyd hi yn rhydd yn y Llys. Bydded i Dad yr Amddifaid fod yn dyner o honi. Gweled fod Detholiad y Tonau a'r Emynau gogyfer a Chymanfa yr Eistedd- fod Genedlaethol allan o'r Wasg. Mae yn odiaethol o dda; ac yn rhad neilltuol o ran ei bris. Diau y ceir canu a bendith arno yn Mhabell yr Eisteddfod, ac mor belled ag y darogener, fe fydd Eisteddfod fawr Birkenhead yr un mor llwyddiannus ag eiddo Aberystwyth y flwyddyn ddi- weddaf. Gweled fod Gweinidogion Machynlleth yn dechreu paratoi gogyfer a'r tymhor nesaf. Mae nifer o brif lenorion y Genedl. wedi eu henwi i wasanaethu, a dichon y gellir eu henwi y tro nesaf, yn nghyda'u testynau. I (iWE LEDYDD.

LLYT HYRAU 0 WLAD CANAAN.I

I LLYS APEL MEIRION. If