Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

CYMMRODORION LLANELLI. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMMRODORION LLANELLI. I Galwyd gan y Cymmrodorion am Symbylau a Hoelion," ac atebwyd hwy yn llawn gan y ffraeth Mathryfardd, Crosshands, nos Fercher, Ionawr 27ain. Nid oes angen dweyd wrth neb sy'n gyfarwydd a Mathryfardd ei fod wrth naturiaeth yn ysmala. Dangosodd i ni ei symbylau a hoelion, a choeliwch ni, yr oedd graen ei fferylliaeth yn ddwfn arnynt. Yr oeddent yn bywiocau pob yni sy'n werth ei 'sparduno i gyrhaedd camp urddasolaf bywyd. Yr eedd yr hoelion, drachefn, yn gryf i ddal y banau. Diareb Feiblaidd awgrymodd y testyn, ac er mai "Parchedig" oedd yn traethu arno, eto athrylith a hyawdledd yr areithiwr oedd yn swyno fwyaf. Ni raid iddo liffygio dangos ei arfau sy'n gyru yn eu blaen y saw l sydd am dynu gwys bywyd i dalar dyrchafiad. Ffigwr i osod allan foddion i esgynllethrau bryn enwog- rwydd, yn ogystal ag argae o gwmpas y llecyn gwyrddlas sydd megys gwobrwy am ei gyr- haedd, feddylir wrth symbylau a hoelion. Ategodd ei osodiad yn odidog iawn yroedd yn ei feddiant lu mawr aesgynasanti entryehion enwogrwydd o bob gradd. Moesoldeb a chreyfdd oedd pegwn uchaf ei ymdrafodaeth. Rhoddodd le amlwg i'r man- teision a gyfyd wrth ein traed, o afael ynddynt yn iawn, a'n cyfodant i orseddau anrhydeddus. Gadawodd y gynulleidfa a'r gwres-fesurydd yn codi, gydag I fyny b'o'r nod." Diolchwyd yn gynes i Mathryfardd gan Mr. Penry Davies, brethynwr, Stepney Street, ac eiliwyd gan Myfyrfab. Talwyd pwyth cyffelyb i Miss Gwenny Williams, St. George, am ganu mor eglur gyda'r delyn, gan Cynghorydd D. C. Parry a Mr. Richard Davies, Emporium. Llywyddwyd gan Henadur Joseph, a therfyn- wyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Da genym hysbysu y bydd arlunydd y Graphic," Mr. T. R. Thomas, yn traddodi darlith, ac yn cael ei egluro ar ganfas hen gelfau Celtaidd, nos Fercher, Chwefror 17eg.

"IOAN" A SWEDEN BORG.

PITMPHEOL.

NODION 0 PONTYEATS A'R CYLCH.

I.-BETHANIA, LLANON.I

I PONTYBEREM..I

LLONGYFAROHIAD PRIOD-I ASOL:

I ELIAS AR BEN CARMEL. i

PENILLION (

Jjiyfr Newydd i'r leuenctyd…

Advertising

DIWYLLIANT.