Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y CYNGHORAU PLWYFOL AI! THREFOL.

CAPEL ANNIBYNOL LLOYD ! '-STREET,LLANELLI.…

TUMBLE. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TUMBLE. I MR. GOL.Y diwrnod y daeth eich newydd- iadur, y Mercury, i'r lie hwn, nid oedd dim i'w glywed ond pawb yn holi eu gilydd pwy oedd Shoni Tanwr Tyllau, yn enwedig yn y gwaith, ac yr oedd pawb yn dweyd mai bachgen bndr oedd, os mai bachgen ydoedd. Y mae bechgyn a dynion "cloi" yma yn y Tumble, ond er eystal ydYRt, y maent yn methu yn deg a ehael allan pwy yw Shoni, er fod llawer ffordd ganddynt o holi. Ond yn lie myned yn groes i fy addewid yn fy llith diweddaf,cewch ychydig o hanes y lie. Y mae yn sefyll t ua haner y ffordd o Gaer- fyrddin i Lanelli, ac eddeutu milldir a haner o Croszhands, a dwy filldir a haner o bentref Llanon. Felly, fe welwch ei fod yn sefyll mewn man dymunol. Y mae yn y lie hwn hefyd weithfa i pynal tua chwech neu saith cant o weithwyr, a dyna sydd yn dda genyf, nid oes, yma durn o golled braidd byth. Y mae y lie, fel pob lie arall yn y wlad, yn burion, ac nid oes He i'w feio, ond aui y dynion sydd yn byw yma, nid wyf yn gwybod beth i'w ddweyd, yn yr ystyr foesol. Nid oes dim yn y byd i'w weled yma ar y Sul ond dynion a bechgyn yn sefyll yn regiments ar yr heol, gan dyngu a rhegu, a hefyd nid ydynt yn gadael llonydd i'r rhai sydd yn ewyllysio myned i'r addoldai. Nid yn unig y bechgyn a'r dynion a welir allan yn y 'stryd ond benywod, y rhai a welir ar y drysau, o foreu hyd hwyr, yn llygad-rythu ar bawb a fyddant yn myned heibio, ac fe fyddai, fel y dywedodd Shon o'r Wlad, yn ddefnyddiol iawn i berchen- ogion y tai oaod dan bost wrth bob drws, fel y gallent bwyso arnynt yn lie eu bod yn blino wrth sefyll. Y mae yn warth i'r lie fod y fath bethau yn cael eu gwneuthur ar y Sabbath yn yr oes oleu hon. Byddai yn dda i breswylwyr y Tumble gofio eu bod yn tori y gorchymyn mwyaf—" Coiia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath." Gobeithiaf y diwygiwch heb fod yn hir, neu bydd yn rhaid i mi eich argyhoeddi ar I dudalenau y Mercury.—Yr eiddoch, SHONI TANWB TYLLAU.

YR ETHOLIADAU LLEOL. i

CROSSHANDS A'R CYLCHOEDD

CADWEN ODLEDIG -

.....j "FY NHADCU:"

♦ I ANERCHIADi

I CYFLWYNEDIG

Advertising