Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

NODION WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION WYTHNOSOL. Y mae yn dda genym i gael arddeall fod Mr. Behenna, Abertawe, wedi cymeryd ei sedd, am y tro cyntaf, ar Ymddiriedaeth y Porthladd dydd LIun diweddaf, fel un o'r Ymddiriedolwyr. Estynwn iddo ein 110n-: ?yfarchiadau mwyaf gwresog, a llongyf'archwn ?etodauyr Ymddiriedaeth hefyd am eu bod wedi bod mor Sbrtunus a sicrhau gwasanaeth Mr. Behenna ar y Trust, ac wedi llwyddo i gael ganddo i gymeryd dyddordeb yn y dref ar porthladd. Hyderwn y caiff fyw am flynyddati lawer i hyrwyddo llwyddiant y dref a'r porthladd. --0- Dichon y bydd i'r llongyfarchiadau hyn sWllio yn rhyfedd ar glustiau llawer o'n darllenwyr, ae, fel canlyniad, y bydd i ofyn- iadau tebyg i'r rhai hyn ruthro i'w meddyilau 0 berthynas i Mr. Behenna :—(1) Pwy yw y r. Behenna hwn o Abertawe (2) Pa hawl sydd ganddo ef i sedd ar yr Ymddir- iedaeth ? (3) Ar awdurdod pwy yr eistedda feI un o Ymddiriedolwyr y POrthladd1 ac yn (4) Pwy y mae yn gynrychioli 1 Y mae yr oil o'r gofyniadau yn eithaf teg, ac yn hollol naturiol, ac y mae gan bob Trethdalwr yn y dref berffaith bawl i'w gofyn, ac hefyd i I ddysgwyl atebiad teg a chyflawn i bob un o honynt, ac yn y nodiadau canlynol ymdrechwn I wneuthur hyny. I —0— 0 barthed i'r gofyniad cyntaf, dywedwn ttai un o'r allforwyr glo mwyaf, os nid y I mwyaf, yn Abertawe yw Mr. Behenna. Perthyna i'r cwmni a adwaenir yn Abertawe -ac yn Llanelli hefyd ar yr adeg bresenol- ¡ wrth y teitl Thomas Williams, Sons an d Behenna, Shippers and Coal Exporters. Yn yr ardaloedd hyn yr ydym braidd yn ddieithriad yn adwaen Meistri Thomas Williams a'i Feibion. Hwy yw perchenogion gweithiau glo Talyclyn a Pengellyddrain. Y cyfran-ddalwyr mwyaf yn ngweithiau alcan y Morlais, Llangennech; a'r Teilo, Pontardulais; gwaith priddfeini Talyclyn; a chreigiau meini calch Llandebie, &c. Mr. Behenna yw cynrychiolydd y Owmni yn Abertawe, ac arno ef y mae y gofal o allforio boll lo y Cwmni hwn, yp nghyd a glo amryw lofeydd ereill. Gwelir felly fod Mr. Behenna yn ddyn sydd yn cario yn 1 nalaen drafnidiaeth ar raddfa eang iawn rhwng y wlad hon a boll wledydd Cyfandir Ewrop. Gallasem feddwl wrth ei enw mai estron (foreigner) yw, ond pa genedl bynag ( yr hanai ei gyndeidiau o honi ganwyd I Mr. Behenna yn y Mumbles, ac felly o ran genedigaeth y mae yn Gymro, beth bynag. Fel broker, credwn na fyddem yn mhell o'n lie pe dywedem fod Mr. Behenna yn allforio o filiwn i ddwy filiwn o dunelli o lo yn flynyddol o Abertawe, a hwn yw y Mr. Behenna sydd yn awr yn aelod o Ymddiried- aeth Porthladd Llanelli. 0 berthynas i'r ail ofyniad, dywedwn fod hawl gan Mr. Behenna, fel Trethdalwr yn Llanelli, i eistedd fel Ymddiriedolwr y Porthladd. Ond nid fel Trethdalwr yn unig y mae ganddo hawl i eistedd ar yr Ymddir- iedaeth. Ychydig fisoedd yn ol, ymddi- swyddodd Cadben John Williams o fod yn aelod o'r Trust, ac ar awgrymiad Mr. John Rees, Goruchwyliwr y Porthladd, gwahodd- wyd Mr. Behenna gan yr Ymddiriedolwyr i gymeryd ei le. Derbyniodd yntau y gwa- hoddiad, ac etholwyd ef yn unfrydol gan yr Ymddiriedolwyr i'r sedd wag. Dichon fod rhai yn barorl i gollfarnu yr Ymddiriedolwyr am wneuthur hvn, gan ddadleu mai dyled- swydd yr Ymddiriedolwyr oedd cynyg y sedd i un o Llanelli. Efallai y byddai hyny yn fwy cydweddol a mympwy rhai, ond lies y Trethdalwyr yn gyffreiiinol oedd mewn golwa, gan yr Ymddiriedolwyr, ac nid an- rhydedd un person unigol, a chtedwn y cytuna pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn llwyddiknt y dref a'r porthladd fod yr Ymddiriedolwyr wedi rhoddi cam i'r iawn gyfeiriad pan ddarfu iddynt wahodd Mr. Behenna i gymeryd sedd ar yr Ymddiried- aeth. -0- Yr ydym wedi ateb y trydydd gofyniad wrth geisio ateb yr ail, ac felly awn yn mlaen at y pedwerydd. Cynrychiola Mr. Behenna y fasnach lo yn Neheudir Cymru. I Aliforwr yw wrth ei alwedigaeth, ac i borth- ladd fel Llanelli y mae hyny mor bwysig i ni I ag unrhyw gynrychiolaeth fedrwn gael. ^Grwyddom fod tuedd y dyddiau rhai'n i ofalu fod Llafur yn cael cyflawn gynrychiolaeth. Y mae gan Lafur ei hawliau, yn ddiamheu, ac nid yw ond teg a chyfiawn fod yr hawliau hyny yn cael eu cydnabod yn briodol. Credwn yn gydwybodol fod y duedd hon yn cael ei chario i eithafion mewn llawer cylch, ac, yn ddiamheu, y mae Ymddiriedaeth y Porthladd yn un o'r cylchoedd hyny. Nit..( Cynrychiolwyr Llafur sydd eisieu fwyaf ar yr Harbour Trust, ond Cynrychiolwyr Cyfalaf. Nid dynion i ofalu fod pob gweithiwr ar y Doc yn cael chwareu-teg, fe ofala eu hundebau hwy am hyny,-ond dynion fedrant lywodraethu a dwyn masnach i'r Porthladd, fel y bydd y gweithwyr yn cael digon o waith, a'r Trethdalwyr gyllid ychwanegol o'r Doc. Un o'r rhai hyn yw Mr. Behenna. Dydd Llun diweddaf, dywedodd 4f Rhowch i mi bedair troedfedd o ddyfnder o ddw'r yn ychwanegol wrth y goleudy, ac yr wyf yn addaw i cbwi yn Pendant y bydd i mi allforio o'ch porthladd cyn pen dwy flynedd dros ddau can mil o dunelli o lo yn flynyddol. Nid wyf yn J gwybod beth sydd yn angenrheidiol er cario allan eich cytundeb a'r Bangc, ond yr wyf yn gwybod eich bod yn cael cynyg rhagorol peidiwch ar un telerau ganiatau iddo slipio drwy'ch bysedd. Os ydyc-h am fod yn boithladd llwyddianus, peidi weh oedi mewn unrhyw fodd i gario allan y cytundeb a'r Bangc, fel y byddwch mewn sefyllfa i ddyfnhau y sianel, a sicrhau drwy hynv borthladd fydd yn fendith i'r dref." Y roa(-r addewid hon yn weith ei chael, ac 0 id iwi th ein hadnabyddiaeth o Mr. Behenna bydd yn sicr o'i chyflawni os gosoda y dref ef mewn safle i wneuthur hyny. -0- Golyga allforio 200,000 o dunelli. o lo yn ychwanegol o'r doc, el w uniongyrchol o £ 3,500 yn flynyddol i'r dref, heb gyfrif y dadforion ddichon y llongau hyny ddwyn i fewn i'r porthladd, na'r arian a werir gan y morwyr yn y dref. Rhwng y ewbi, ciedwn y byddai y cyllid dderbynir o'r porthladd yn ddigon i dalu holl hawliau y Bangc ar y dref, ae ychydig dros ben i ysgafnhau y beichiau llethol sydd ar ysgwyddau y Trethdalwyr yn bresenol. Yn fuan, cynelir cyfarfod cyhoeddus er ystyried y priodoldeb o fyned yn mlaen a'r Bil Seneddol er sicrhau y cytundeb a'r Bangc, ac hyderwn na fydd i'r Trethdalwyr gymeryd eu hudo gan unrhyw un sydd yn cymeryd amo ei fod yn deall y cwhl, a thrwy hyny atal y dref i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan yn nglyn a'r porthladd. Dywedwn yn ddibetrus ein bod heddyw mewn safle na fuom ynddo erioerl o'r blaen, ac os caniatawn iddo slipio drwy'n dwylaw, na fydd i ni gael y fath fantais fyth mwy. Yr ydym yn cael cynyg X237,000 yn 01 3 punt y cant, tra y maent yn Abertawe yn gorfod talu 3 am bob X97 10s. dder- byniant. Y mae llwyddiant dyfodol Llanelli yn ymddibynu ar yr hyn a wnant yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

 Clywedion o'r Pedwar Gwynt.…

I FELINFOEL.

Y Tabernael, Pontyates.

IClywfedion o'r "Ty Pwyso."…

Capel Emmanuel, y Doc Newydd,…

Yehydig Linellau er Cof I

Advertising

I Coroniad " Morleisfab."

Atebion i Ddychymyg ' Myrddinfab.'I

IThe Beat-a-ll The Beat-ali…

Advertising

IMaescanner, Dafen.I