Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

. GWLEIDYDDIAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWLEIDYDDIAETH. Mae y byd yn symud, yn anianyddol a moesol, ac mae y golygfeydd symudol yn aneirif ac amrywiog, fel mae yn anhawdd gwneud detholiad buddiol i'w osod lhwng colofnau y Mercury er adlewyrchiad cym- deithas; a cban fod tudalenau y Mercury" yn berffaith foddlon i ddangos i'r byd ei wrthddrychau fel y maent, efallai y bydd i fy ngwael bethau i, fod yn fanteisiol i fod ya gyferbyniol i ohebiaethau rbagorach, am mai yn ymyl y gwa-el ymaeyn hawddaf gweled rhagoriaethau. Pe bawn yn un o feibion athrylitb, byddai yn hyfrydwch genyf ddy- ddori darllenwyr y Mercury a chynyrchion ar amrywiol symudiadau a byddai yn dda genyf pe bawn yn medru dethol y pethau mwyaf cyfaddas a llewyrchiol er adeiladaeth y werin-bobl yn gyffredino!. Mae yn rhes, niol iawn i ni, ar brydiau, i geisio olrbain a dyfalu tynged ddyfodol ein gwlad, ond eto teimlwyf yn wylaidd i draethu ar destyn mor fawr, eang, dyrys, a dirgeledig, i'r cyhoedd, o flaen pobl ddiwylliedig ac athronyddol. Ond beth bynag, gan fy mod yn ddinesydd, gan gadw fy a'm cltjstiaii yn agored i S3 Iwi ar ddulliau, ac egwyddorlun, à symudiadau pobl mewn gwahanol ddosbartbiadau 0 gym- deithas-yn neillduol yr amser presenol, %i,edi sylwi gyda dyddordeb ar y prif symudiadau yn y byd gwleidyddol trwy gyfrwng newydd- iaduron y gwahanol bleidiau—dyiwn fedru eich dyddori am ychydig wrth geisio rhoddi barn mewn perthynas i ddeddfwriaeth ein gwlad, ac yn arbenig felly yn ngwyneb y ffaith ein bod yn byw mewn gwlad ag y mae ei deddfau a'i cbyfreithiau yn hawlio ac yn gorchymyn i'w boll ddeiliaid fod yn gyfranog o'i ffurfio chyn y gallwn gael unrhyw fath 0 ddirnadaeth o sefyllfa ddyfodol ein gwlad, mae yn rhaid cymeryd cylchdroadau olwynion y cynoesau, yn ogystal a'r presenol, i ystyr- iaeth, ac er gwneud hyny, nis gall y meddwl mwyaf treiddgar gyrhaedd sicrwydd am y dyfodol,—y tebygolrwydd yn unig ydyw terfyn eithaf y meddwl ain ffeithiau dyfodol mewn ystyr wladwriaetbol. Fel mae yn wybodus i bawb, trwy Ysgrif Diwygiad 1867 y daeth yr etholfraint i fedd- iant y dosbarth gweithgar i'w defnyddio, ac yr oedd rboddiad yr etholfraint iddynt yn weith- red o iawnder gwleidyddol, ac yn gosod yn eu meddiant yr hyn a deilyngant fel deiliaid heddychlawn. Yr oedd hyn yn deilwng iddynt gael ar amryw gyfrifon. Yn un peth, am mai hwy, trwy eu llafur a'u diwydrwydd, sydd yn cynyrchu golud y deyrnas; ac hefyd y maent, dan wahanol amgylchiadau, wedi rhoddi profion amlwg eu bod yn ddynion o anrhydedd ac o ymddiried, ac hefyd eu bod yn hyddysg mewn gwleidyddiaeth eu bod yn caru pa bethau bynag sydd gyfiawn a chan- moladwy. Mae meddu y fath nodwedd, dybygid, yn gymhwysder hanfodol i etholwr, a chredwyf eu bod yn meddu y cyfryw nod- wedd; a chan eu bod, yn y cyffredin, o olygiadau rhyddfrydig, ac yn bleidiol i'r hyn sydd gyfiawn, teg, ac anrhydeddus mewn llywodraeth, credwyf eu bod yn hollol deilwng o fod a rhan yn ngwneuthuriad deddfau eu gwlad. Fel y tybid, y mae y Llywodraeth Bry- deinig yn unbenaeth derfynedig, yn cael ei cbyfansoddi o dri dosbarth, sef y teyrn, y bendefigaeth, a'r cyffredin. Mae y tri dos- barth hyn yn cymeryd eu hawliau a'u breintiau arbenig. Mae y teyrn yn gofalu am fuddianau y teyrn, Ty yr Arglwyddi yn gofalu am fudd- ianau y bendefigaeth, a Thy y Cyffredin yn gofalu am fuddianau y werin-bobl yn gyff- redinol, a thybygid mai yn y Ty hwn y dylasai fod yr awdurdod i wneuthur deddfau, ac i osod trethoedd a'u tynu ymaith, yn ol fel y byddo angen am hyny er lies y wlad yn gyffredinol, am mai yn y Ty hwn y mae cyn- rychiolwyr etholedig y bobl yn cwrdd am hyny, mae yn ymddangos yn beth hollol iawn fod gan gynrychiolwyr y bobl allu dirwystr yn nhrefniad a gosodiad allan yr arian hyny mewn modd cynil, gweddus, ac effeithiol. Ar 01 cael allan y fath gymhwysderau yn nghyn- rychiolwyr y bobl, gellir tybied fod Ty y Cyffredin yn Senedd wirioneddol, heblaw mewn enw, ac fel rhai yn cyfyngu arnynt am eu rhyddid a'u hawliau i ffurfio a chyhoeddi y cyfreithiau dan ba rai y llywodraethir y deyrnas yn ol eu teimladau a'u golygiadau bwy. Bu amser pan oedd gweinyddiad y llywod. raeth wladol yn gyfyngedig i'r dosbarth uchaf, neu yr arglwyddi. Pwy feiddiai ddweyd gair yn erbyn Ty yr Arglwyddi ? Dyma'r Ty mwyaf pendefigaidd, Did yn unig yn Mhrydain Fawr, ond yn yr holl fyd. Dyma Dy 0 dywysogion, duciaid, ieirll, arglwyddi, ac esgobion. Yma mae mawredd, cyfoeth, dysgeidiaeth, ac aw- durdod wedi cyd-gwrdd. Yma mae hufen creadigaeth Duw, urddasolion y ddaear, pre- swylwyr y palasau, perchenogion yr etifedd- iaethau, meistri yr afonydd, meddianwyr y mynyddau, ac etifeddion coluddion y ddaear. Mae yn y Ty hwn archesgobion ac esgobion, y rhai a hdnant eu bod yn olynwyr i'r Apostol- ion. Dywedir fod lluaws 0 geiliogod ac ieir heddyw yn Rhufain yr honir eu bod yn olynwyr i'r ceiliog hwnw a ganodd nes argyhosddi Pedr. Y mae mor rhwydd i gredu hyny â bod llawer o gymeriadau yn olynwyr i'r Apostolion. Yn y Ty hwn, y mae gallu i rwystro unrhyw Fesur rhag dyfod yn ddeddf gwawdio cynhwrf y bobl, a chwerthin am ben ymdrechion politicaidd Rhyddfrydwyr. Nid oes ymenydd, egwyddor, na gras gan neb ond ganddynt hwy. Ty y cyfoethogion-duwiau y byd hwn Ty y deallyddion. Nid oes wahaniaeth yn y byd pa mor wag ydyw yr ymenydd os bydd y boced yn Hawn. Mae annhraethol fwy 0 bwys yn cael ei osod ar y boced nag ar yr ymenydd. Mae y dyn sydd a llogell lawn ac ymenydd g-A Aa yn athronydd ond mae'r dyn sydd ag ymenydd Hawn a llogell wag yn ffwl. Nid oes neb yn dalentog ond y cyfoethog. Nid oes neb yn ddylanwadol ond perchen daear a pbreswylydd palas. Yn nwylaw hwn y mae gallu i roddi a chymeryd. Braidd na eUir ei alw yn hollalluog. Druan o'r dyn t'lawd nis gellir ei gymeryd ond islaw sylw. Edrychir arnynt gan lawer o'r dosbarthiadau uchaf fel peirianau, neu fodau defnyddiol a gwasan- aethgar, yn debyg i'r Gibeoniaid gynt yn Israel—yn rhai defnyddiol fel cymynwyr coed a gwehynwyr dwfr i'r gynulleidfa felly yn yr oes hon-edrychir gan lawer o'r uwch- raddolion ar eu his-radd yn unig fel rhai da i I wrteithio'r ddaear, adeiladu tai a llongau, clcddio glo a mwnau, i doddi haiarn, plwm, a chopr, a gwneud gwahanol orchwylion ereill 0 ddefnydd i gymdeithas. Ond nid ystyrir hwy yn gymhwys, o ran gallu, deall, gwybodaeth, barn, a chydwybod, i fod a rhan mewn gwneuthur deddfau gwladol; ond trwy yr etholfraint sydd yn eu meddiant, a chynydd eu dealldwriaeth a'u gwybodaeth o'u hiawn- derau gwleidyddol, gallant honi eu hawl mewn awdurdod i ddwyn yn mlaen achosion y llyw- odraeth trwy eu cynrychiolwyr. Oddiar helaethiad yr etholfraint trwy Ysgrif Diwygiad y flwyddyn 1832, mae amryw o Fesurau daionus a rhyddfrydol wedi eu cael- oud nid heb ymdrech galed-y rhai ydynt, yn mblith lluaws ereill, Ddilead Treth yr Yd, trwy yr hyn y ceir bara am bris isel; Dilead Treth y Newyddiaduron, trwy yr hyn y daeth y newyddiaduron o fewn cyrhaedd y gweith- wyr; Gostyngiad y Llythyrdoll, trwy yr hyn y mae y gweithwyr yn alluog i ohebu trwy lytbyrau am ychydig 0 draul; Dilead Treth y Papyr, trwy yr hyn y daeth mantaisi'r gweith- wyr gael newyddiadur a llyfrau rhid. Yr holl Fesurau daionus a fwynhawn, er gwaethaf y dosbarth uchaf y cawd hwynt. Wedi i'r wlad etbol mwyafrif o aelodau Rhyddfrydig, a'u ffurfio yn Wladwriaetb, ac wedi i'r aelodau hyny dreulio amser i gynllunio Mesur diwygiadol—os bydd hwnw yn tueddu at gydraddoldeb, mor fuan ag yr anfonir ef i'r Ty Uchaf, bydd yr Arglwyddi yn gwneud byr waith o hono. Byddant yn ei daflu i'r gwynt i'w chwythu ar wasgar. Un Ty yn casglu, a'r llall yn gwaegaru un Ty ar ei oreu yn ceisio ysgafnhau y beichiau, a'r llall yn eu trymhau un yn ceisio goleuo y bobl, a'r llall am eu cadw yn y tywyllwch. Edrychwn ar eu hanes yn yr oesoedd aeth heibio: maent wedi profi eu hunain yn gasbawyr symudiadau daionus, yn amddiifynwyr gormes, ac yn gefnogwyr traws- arglwyddiaelh. Meddylier am gaeth-wasan- aeth-y gyfundrefn fwyaf ormesol fu ar y ddaear erioed bu hon yn cael ei phleidio am flynyddoedd. Dyna Agoriad y Prifysgolion, Dadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig, a llawer o Fesurau ereill a gawd yn y gorphenol. Onid trwy lawer 0 rwysfrau y cawd hwynt ? Pa Iês ceisio gwleidydJao dan y fath amgylchiadau-a hyn ? A ydyw yn rhesymol fod rhyw ychydig 0 gyf. oethogion i gael lly wodraethu miliynau o ddeil- iaid Prydain Fawr, a'r rhai hyny heb eu hethol trwy lais y bobl i gynrychioH na sir, na thref, na phentref ? A'r unig reswm ei fod yn arglwydd yw am ei fod yn fab i'w dad. Ond eto mae yn rhaid addef fod yna ddynion egwyddorol, pur eu cymeriadau, a dynion o ddysgeidiaetb, ac hefyd ddynion a garant les eu deiliaid. Ond pwy maent yn eu cyn- rychioli ? Onid yw yn rhyfedd mai y dynion na chynrychiolant neb yw y rhai a honant fwyaf o awdurdod ? A ydyw pethau fel hyn i barhau ? Ai y bobl sydd i gael eu dymun- iadau, neu ynte yr Arglwyddi sydd i barhau yn eu hawdurdod ? Os yr Arglwyddi sydd yn myned i'n llywodraethu, cider drysau Ty y Cyffredin am byth ond os mai cynrychiolwyr y bobl sydd i'n llywyddu, ymaith a phob rhwystr oddiar ffordd cerbyd diwygiad i fyned yn mlaen gyda rhwyddineb. Fel y mae yn hysbys i bawb, y mae adeg yr etholiad ar y drws, ac y mae yn adeg bwysig i etholwyr i deimlo yn ddigon gwrol i ddefoyddio yr etholfraint sydd yn eu meddiant yn newisiad un i'w cynrychiou yn y benedd yn unol a chyfarwyddyd eu barn a'u cyd- wybodau eu hunain, ac nid i ymollwng dan ddylanwad trais a gorfodaeth. Rhy fach o'r hunan-barch a'r ysbryd annibynol hwn sydd wedi bod gan lawer i etholwr yn y gorphenol, fel yr oedd awdurdod y tir- feddianwyr a meistriaid gwaith yn gryfach o lawer na llais eu cydwybodau eu hunain. Yr oeddent yn anmharchu eu hunain gymaint ar ddydd yr etholiad fel yr oeddent yn pleidleisio yn groes i'w golygiadau eu hunain, er mwyn cael gwen neu rhag ofn gwg eu meistriaid. Dylai pawb etholwyr geisio deall y ffordd orea i ddefnyddio yr etholfraint yn newisiad cynrychiolwyr, fel y byddo Ty y Cyffredin yn gynrychioliad teg a gwirioneddol o'u teimladau hwy: yna bydd iawnder,rhyddid ac heddwch cyffredinol yn teyrnasu yn y I Wladwriaeth, a bydd cydweithrediad y tair plaid mewn awdurdod cyfartal yn gwneuthur y Llywodraeth yn gyfiawn a chadarn. 1- Talybont, Trimsaran. T. E. I

ICwrdd Cystadleuol Hebron,…

ICymdeithas Cymrodorion Llanelli.

Clywedion o Bontyates a'r…

.CYFARCHIAD I

Advertising

I DYCHYMYG.

Advertising