Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RYDW I YN SIWR Mae yn SHOP YR ERYR, Blaenau, ac yn SHOP ISAF, Maentwrog, mae y dewisiad goreu o'r Styles diweddaraf mewn DILLADAU at PENTYMOR, meddai rhyw ferch ieuangc. AC YR OEDD Hi YtJ lAWN Costumes, Ready Made Print Dresses, Blouses, Skirts. I' HEFYD 1 I I I Cotton Voiles, Sateens, a Prints o 3c. y Hath i fyny. "AE JjAYpOLE WEDI DOD," I GWELWCH EIN AGORIAD YN    ? ??s MesafS ,1 1\ LL SHOP .? E&i, BLAENAU FFESTINIOG, DYDD GWENER NESAF. Fel cymelliad arbenig i bawb i roddi prawf ar ein Ymenyn LSacihdy "maypole 7 ) 1/- y pwys, Gwarantedig o'r ansawdd goreu'n bosibl. Gydag UN GEINIOG Newydd r yn ol, yn gwneyd y pris yn YJMEfWN -FRESH, "JWEDOVA," I I C- y pwys Pob Pwys mewn Box Cardboard. Yn syth o'r Hufendal. yr wythnos hon a'r nesaf. TE MAYPOLE" ) UN GEINIOG YN OL L yr wythnos hon a'r nesaf, Y goreu oil 1/6 Paham talu mwy? i yn gwneyd ei bris yn v PWYS. 1/5 y pwys. Hefyd Cymysgiadau diguro o Un Geiniog yn ol DE "MAYPOLE" yn gwneyd y pris yn A, m 1/,4 r. a „ 4 1/i2 n y „ -Pn w y s. 1 gyda phob pwys o De am y Am 1í4 a 1/2 y Pwys. J prisiau hyn. POB PECYN YN LLAWN PWYSAU HEB Y PAPUR. Ein "MAYPOLE' BUTTER-SUBSTITUTE Enwofj, PRYDAIN-WNEUTHUREDIG, lini 6c., BCII a 10c. y Pwy 3. Rhoddir Haner Pwys ychwanegol gyda phob pwys; rhoddir Cliwarter Pwys gyda phob haner pwys; a Dwy Owns ychwanegol gyda phob chwarter pwys. Mae genym hefyd Ansawdd am 5c. y pwys. Gwarantedig i Foddhau. COFIWCH Y CYFEIRIAD- 12, CHURCH STREET, BLAENAU FFESTINIOG. MAYPOLE DAIRY CO., LTD. Dros 450 o Ganghenau yn awr yn agored.
- AT Y BEIRDD. !
AT Y BEIRDD. Eiado Glaslyn a Glan Tecwyn mewn 11 aw ac i ymddangos yr wythnos nesaf. I LLYS Ynadol.—Adroddiad llawn yn ein nesaf.
NODIADAU WYTHNOSOL. i
NODIADAU WYTHNOSOL. i Yr Anghydfod a Thwrci. Mae yr anghydfod a Thwrci yn parhau, ac y mae erbyn hyn wedi cyraedd pwynt sydd yn peri ei fod yn naturiol yn peri peth pryder. Gwelir hyn oddiwrth y geiriau a ddywedodd Syr Edward Grey yn Nhy'r Cyffredin ddydd Uun. Dywedodd fod cenadwri wedi ei hanfon at Lywodraeth Twrci ddydd lau diweddaf yn galw ami i gytuno i benodi í dirprwyaeth swyddogol i rod- allan y terfynau rhwng tmogaethau Tvvrci a'r Aipht yn mhob He y fhniant ar eu gilydd, ac yn gaiw am atebiad clir a phen- dant o fewn deg niwrnod. Hyd yn hyn md ydyw yr atebiad wedi dyfod, a pha un a ddaw a'i peidio erbyn yr amser nodedig nis gwyr neb. Mae'n amJwg oddiwrth rai o sylwadau Syr Edward Grey fod y Llywod- ratth yn cyfrif y mater yn un o bwysigrwydd in awr, ac nad yw yn ddiogel t Twrci gell- wair mwy ac oedi yn mhellach. Dywedodd fod Llvwodracth Twrci yn gwneyd honiadau y rhai, pe cydnabyddid hwynt, a fyddent yn bervglus i ddiogeKvch Camlas Suez, ac i ryddid yr Aipht, ac nas gall Prydain, wedi iddi yn y flwyddyn 1882 crymerycl gamrau I d diol-clu gymeryd meddiant milwr- L i-n I l wr- 01 o'r Aipht, fod yn awr yn ddiystyro berygl sydd yn eu bygwth. Dywedodd yn mheliach fod vr oediad sydd tisoes wedi cymeryd lie, a Loniadau Twrci, ynghyd a than a chynwys rhai o'i chenadwriaethau at Lywodraeth yr Aipht yn ei wneyd yn anmhosibl i Brydain J oddef i'r mater gael ei ohirio ddim yn ir.hellach, a'i bod eisoes wedi arfer amyncdd mawr, ac wedi bod yn dra chymedrol yn ei gofynion. Yn y cyfamser mae rhai cad- longau Prydeinig wedi myned i gymydog- aeth cartref yr anghydfod, a Hawer iawn o honynt wedi cael gorchymyn i ymbarotoi i fyn'd yno ar foment o rybudd. Da ydyw deall fod IJysgenhadon Ffrainc a Rwssia yn gwasgu ar v Swltan i wneyd yr hyn y gehvir arno i'w wneyd, a bod Llywodraeth yr Almaen wedi anfon gair i Syr Edward Grey i'w sicrhau yn y modd mwyaf pendant nad oes cysgod o sail i'r chwedl ei bod mewn an modd wedi rhoddi y cymhelliad lleiaf i Twrci i wneyd yr hyn y cwynir o'i blegid. Mawr hyderwn y deuir i gytundeb heddychol, oblegid, oni ddeuir, cyfyd yn yr Aipht gyth- rwfl yn tarddu o deimlad crefyddol a gym- hellai y bobl i gymeryd ochr Twrci, ac ymae yn bwysig rhwystro hyny rhag cymeryd lie, os gellir fodd yn y byd. Ond .-rtae'n lied amlwg fod yn rhaid i Twrci roddi ffordd onid yw yn barod i fyned i ryfel. oblegid y mae ein Llywodraeth ni wedi myn'd yn rhy bell iddi yn awr droi yn ol.
Pwy sy'n cynpychioli Llafur…
Pwy sy'n cynpychioli Llafur yn y Senedd ? Dyma'r cv.estiwn a gododd yn Nhy y Cyffrcdin nos Lun, ac y buwyd yn ceisio ei benderfynu y pryd hyny a nos dranoeth hefyd. Pan enwyd aelodau a gynygid gan y Llywodraeth i ffurfio Pvvyllgor Detholedig l ystyried darpariaethau Mesur Tai i Weith- wyr, cododd Mr, Iveir Hardie i wrthdystio am nad oedd yr un o ae!odau y blaid y mae ef yn arwt-inydd iddi yn eu plith. Y mae Mr. Vivian, cynrychiolydd Birkenhead, o'u nifer, edrychir arno fel yr awdurdod uchaf yn Nhy'r Cyffredin ar ymateT¡ oblegid y mae wedi talu syhv manwl iddo er's llawer o Hynyddoedd, ac yn ei ddeall yn wcll na neb -irall, ac etholwyd ef fel Rhyddfrydwr a Llafurwr." Ond y mae yn eistedd yn j mhiith y Rhycdfrydwyr, ac ni fyn Mr. Keir Hardie nac aelodau Plaid Annibynol Llafur fod Mr. Vi vian na neb araB sydd yn gwncyd hyny yn t. gynry(hiolydd Llafur." Yn mhiith y rhai a godasant i Uvyr gondemnio y fath syniad yr oedd Mr. Fenwick, gwr oedd yn Ae'od Llafur cyn fod nemawr neb ond ei gymydogion wedi clywed enw Mr. Keir Hardie. Heriodd Mr. Fenwick ef a'i gyfeill- ion i enwi neb a chanddo well hawl i alw ac i gyfrif ei hun yn "gynrychiolydd LIafur" nag sydd ganddo ef (Mr. Fenwick), a thyst- iodd fod gan Mr. Vivian hanes mor anrhyd- eddus fel cynrychiolydd Llafur ag unrhyw ddyn byw Y diwedd fu i welliant a gynyg- iwyd ar ran Plaid Anibynol LIafur gael ei wrthod trwy fwyafrif o 320 yn erbyn 43. Addefwn ein bod yn cyfrif fod Plaid Anni- bynol LIafur yn honi gormod trwy ddywedvd nad oes neb oddiallan iddi hi yn cynrychioli Llafur, ac nad ydym yn credu yr enilla ddim trwy ddangos yspryd fel a ddangosodd nos Lun a nos Fawrth, a thrwy wneyd y fath honiadau. Rhaid iddi beidio gofalu mwy am ei hawlian (?) ei hun nag am fuddianau Llafur, a dylai gofio nad yw yr enw ar yr hwn y geilw dyn ei hun. na'r rhan o Dy'r Cyffredin lie yr eistedda yn profi beth ydyw, iGwrthdystiad y Pabyddion. Nos Wener cynhaliodd y Pabyddion gyf- arfod mawr iawn yn Llundain i wrthdystio yn erbyn Mesur Addysg. Traddodwyd ynddo amryw areithiau, a da genym weled fod y rhan fwyaf o lawer o honynt yn cael eu nodweddu gan arwyddion o'r yspryd cym- hedrol a phwyllog at yr hwn yr ydym wedi cyfeirio fwy nag unwaith. Gwelsom mewn un newyddiadur fod Arglwydd Ripon yn mhlith y rhai ag y darllenwyd llythyrau oddiwrthynt yn datgan gofid oherwydd nas gallent fod yn bresenol. Os cywir hyn, rhaid i ni fwrw ei fod yn cydymdeimlo a'r amcan gyda'r hwn y cynhaliwyd y cyfarfod. Ac onid yw efe yn aelod o'r Llywodraeth sydd yn gyfrifol am y mesur ? Yr oeddym yn naturiol wedi casglu ei fod yn ei gymer- adwyo, ac wedi dal ar y geiriau o eiddo Mr. Morley yn y rhai y cyfeiriodd at y ffaith fod y Mesur wedi ei lunio gan Weinyddiaeth yn cynwys Pabyddion ymhlith eraill. Prin yr ydym yn credu fod yr haeriad yn gywir. Ymddengys fod y tri Phabydd sydd yn cynrychioli etholaethau Seisnig, ynghyda'r Pabydd (y Milwriad Herbert) sydd yn cyn- rychioli etholaeth Gymreig yn Nhy'r Cyff- edin yn bwriadu pleidleisio dros ail-ddar- lleniad y Mesur, a'n bod yn cyfrif ei fod yn gwneyd tegwch a'r Pabyddion. Ar y llaw arall, mae'n lied sicr y bydd y rhan fwyaf (os nad yr oil) o aelodau y Blaid Wyddelig yn pleidleisio yn erbyn. I Ymddiswyddiad y Count Witte. Yr oedd ymddiswyddiad Prif-Weinidog Rwssia yn cael ei ddarogan er's rhai wyth- nosau, ac erbyn hyn y mae wedi cymeryd lie Fel yr arferir gwneyd mewn achosion tebyg, priodolir ei ymddiswyddiad i waeledd ei iechyd. Cyhoeddwyd llythyr a ysgrifenodd yr Ymherawdwr ato. yn yr hwn yjgofidia fod ei waeledd yn gosod angenrhaid arno i gymerydj y cam yma, ac y cydnebydd ei wasanaeth gwerthfawr i'r wlad. Ofnwn, fodd bynag, mai rhywbeth arall ydyw yr achos o'i ymneillduad, ac edrychwn arno fel arwydd drwg iawn. Ni chamgymerwn wrth fwrw fod y Count Witte wedi gweled nas gall wneyd y gwaith a dwyn oddiamgylch y diwygiadau lawer sydd yn angenrheidiol fel y caffer heddwch ac yr adsefydler trefn yn y wlad. ac os yw y gwaith yn ormod iddo ef, rhaid i ni gredu nad oes yn Rwssia neb sydd yn ddigonol iddo. Pery cyfhvr y wlad yn anfoddhaol i'r eithaf. Er nad oes mewn unrhyw ran o honi derfysg mawr ac eang ar hyn o bryd. Nid oes dydd yn myn'd heibio heb i swyddogion heddgeidwadol uchel gael eu lladd. Cymer pethau felly le, nid mewn lie neu ychydig leoedd neillduol, ond yn mhob parth o'r wlad o'r gogledd i'r de ac o'r dwyrain i'r gorllewin. Er fod llai o swn gwrthryfel yn y wlad, y mae ysbryd gwrth- ryfel cyn gryfed ag erioed ac yn ymdaith yn ei flaen. Gresyn fod y Prifweinidog Witte wedi gorfod tynu ei law o'r gwaith i'r hwn yr oedd wedi ei rhoddi, o herwydd rhywbeth mwy na diffyg cefnogaeth gwyr mewn cylch- oedd uchel. Ofnwn eu bod wedi ei wrth- wynebu. ILIa; o swn a mwy o synwyr. Wythnos yn ol cyfarfu Confocasiwn Tal- aeth Cae'rgaint a Chonfocasiwn Talaeth Caerefrog hefyd, a chafodd Mesur Addysg sylw ganddynt. O'r diwedd mae yr arwein- wyr Eglwysig wedi gweled eu bod yn ddi- weddar wedi gwneyd ar y mwyaf o swn ac wedi rhoddi rhy ychydig o le i synwyr cyffredin. Er nad ydym yn cytuno a'r pen- derfyniadau a basiwyd yn unfrydol gan- ddynt yn eu Confocasiwn, yr ydym yn rhydd i gydnabod, ac y mae'n dda genym weled nad ydynt yn hollol anheilwng o honynt. Mae'r geiriau yn y rhai y traethasant eu syniadau yn ddigon gweddus, ac nid yw eu syniadau mor eithafol o gryn lawer ag oedd- ynt dair wythnos yn ol. Un peth y maent yn parhau i'w anwybyddu ydyw y ffaith fod iddynt fel Eglwyswyr gymaint rhyddid ag a fu iddynt erioed i gyfranu i blant Eglwys- wvr yr addysg grefyddol a fynant ond iddynt ei chyfranu ar eu traul eu hunain. Bu rhai o'r gwyr amlycaf yn eu plith yn condemnio "Addysg Feiblaidd syml," gan ddywedyd nad yw amgen Addysg Gref- yddol yr Anghydffurfwyr," ac aeth ambell un cyn belled a dywedyd fod bod heb addysg grefyddol o gwbl yn well na chael Addysg Feiblaidd syml." A ahvodd rywun eu sylw at yr addefiad a geir yn yr haeriad cyntaf ? Do, dybygwn. Trwy ei wneyd, yr oeddynt (yn ddiarwybod) yn addef fod dysgeidiaeth yr Anghydffurfwyr yn hollol ysgrythyrol, ac yr oedd hyny bron yr un peth a chydnabod nad yw yr eiddynt hwy eu hunain felly. Mae hyd yn nod Dr. Davidson, Archesgob Caergaint, wedi gweled yn dda gymesuro rhai geiriau a ddywedodd am werth neu ddififyg gwerth Addysg Feiblaidd syml." Yn araf, mae ef a'i frodyr yn dyfod atynt eu hunain, ac fel y maent yn dyfod atynt eu hunain y maent yn gweled fod doethineb yn galw arnynt i ddewis drwg o flaen gwaeth. Meistr Mr. Balfour. I Y mae Meistr ar Feistr Mostyn," yn o rhyw hen air boed hyny fel y bo, sicr yw fod meistr ar Mr. Balfour, a Mr. Chamber- lain ydyw hwnw. Mr. Balfour sydd yn eistedd ar orsedd Toriaeth yn y wlad, ond o'r tu ol i'r orsedd y mae Mr. Joseph Cham- berlain, ac efe sydd yn llywodraethu. Mae'r gwr sydd o'r golwg yn gryfach ac yn gyfrwysach ac yn fwy uchelgeisiol na'r gwr sydd yn y golwg. Mae ganddo ewyllys o'r eiddo ei hun, a rhaid i'r hwn sydd ar yr orsedd ei gwneyd o'i fodd neu o'i anfodd. Felly y bu y dyddiau diweddaf hyn. Ym- ddiswyddodd Dr. Rutherford Harris, cyn- rychiolydd Toriaidd West Dulwich, a brys- iwyd i gyhoeddi mai Mr. Lyttleton {yr hwn a gollodd ei sedd yn yr Etholiad Cyffredinol) fyddai yr Ymgeisydd Toriaidd. Efe oedd y cyntaf o bawb ag yr oedd yn rhaid ei gael yn ol i'r Senedd. Ond diffyndollwr claiar ydyw Mr. Lyttleton, ac nid yw yn dyfod i fyny a safon meistr Mr. Balfour. Un o'r diffyndollwyr mwyaf rhonc ac un o ganlyn- wyr ffyddlonaf ac addolwyr mwyaf selog y gwr o Birmingham ydyw Mr. Bonar Law yr hwn yntau a gollodd ei sedd yn yr Etholiad Cyffredinol; ac efe wedi'r cyfan sydd i ymladd brwydr y Toriaid yn West Dulwich. Nid yw dymuniad Mr. Balfour ddim ewyllys Mr. Chamberlain sydd rhaid ei gwneyd. Nid ydym yn beio ar nac yn cenfigenu wrth y gwr sydd o'r golwg, ond yr ydym yn tosturio wrth y gwr sydd yn y golwg. Mae gan y gwas feistr meistrolgar, ac y mae gan y meistr was gwir wasaidd. Nid yw'n sicr y dychwel Mr. Bonar Law i'w le yn y Senedd. Prin tri-chant-a-haner oedd mwyaf-rif Dr. Rutherford Harris yn yr etholiad diweddaf, mae'n anmhosibl dywed- yd pa un ai cynyddu ai lleihau ai diflanu a wna yr wythnos nesaf. Nid yw yn bwysig iawn, chwaith. Mr. Lloyd George yn y Senedd. Cymerodd Mr. Lloyd George ran yn y ddadl ar ail-ddarlleniad Mesur Addysg nos Fawrth, a thraddododd araeth a wJandawyd yn astud gan dy llawn. Ynddi ymroddodd i ddangos gwendid achos gwrthwynebwyr y Mesur, i flangellu clerigaeth, ac i bleidio addysggrefyddol yn yr ysgolion. Nis gallwn gymeryd arnom ein bod yn cymeradwyo yr hyn a ddywedodd ar y pen diweddaf o enwyd Addefwn ei fod wedi gwneyd apel hyawdl iawn-ychydig iawn yn y Senedd a allasant wneyd apel mor hyawdl. Dichon ei bod wedi cyffwrdd a theimladau llawer, ond nid oedd ynddi ddim i argyhoeddi neb. Dywed- odd fod y bobl wedi gwneyd eu meddyliau i fyny i sefyll yn mhlaid ac i ymgasglu o amgylch y Beibl. a'n bod yn awyddus iddo gael ei roddi yn nwylaw eu plant" (yn yr ysgolion, wrth reswm). Gyda phob dyledus barch i Mr. Lloyd George, rhaid i ni gredu yn wahanol iddo. Mae'r bobl yn gwahan- iaethu yn fawr mewn barn a'r y mater, yn enwedig yn Nghymru. Mae genym resym- au cryfion dros gredu na fu erioed gynifer yn dal na ddylid cyfranu addysg grefyddol yn yr ysgolion ag sydd yn dal hyny yn awr, ac fel y mae wythnos ar ol wythnos yn myn'd heibio ychwanegir at eu nifer. Ein cred yw -ac y mae'n gred heb ynddi ddim amheu- aeth— mai dyna farn y mwyafrif o Anghyd- ffurfwyr Cymru. Dichon nad yw hyny yn wir am Anghydffurfwyr Lloegr mae'n debygol nad yw eto. Ond bydd cyn bo hir iawn. "Multum in Parvo." Llawer mewn ychydig," ydyw ystyr y geiriau hyn, a daethant i'ri cof wrth ddarllen araeth draddodwyd gan Ddeon Bangor yn y dref hono nos Fawrth. Rhaid i ni addef nas gwyddom pwy ydyw y gwr sydd yn dal y swydd hono. Heblaw nad ydym yn ei adwaen, nid ydyw hyd yn nod ei enw yn hysbys i ni. Ond un peth a wyddom wedi darllen ei araeth, a'r un peth hwnw ydyw ei fod yn alluog ragorol i roddi llawer mewn j ychydig—h.y. i roddi "llawer o ffolineb mewn ychydig eiriau." Cymerer un fraw- ddeg o'i araeth. Gan gyfeirio at Fesur Addysg dywedodd, lI,y mae yn ysbeilio yr Eglwys er mwyn gwaddoli anghydffurfiaeth" Os nad yw y Deon yn gwybod mai ffolineb digymysg ydyw peth fel hyn, yr ydym yn rhyfeddu at ei anwybodaeth. Nid yw yn I wir, a rhaid fod y Deon yn gwybod hyny. N i raid dyweyd chwaneg. Sedd Wag Eifion. Heddyw (dydd Mercher), ydyw y dydd i Gymdeithas Kyddfrydol Eifionydd ddewis ymgeisydd am y sedd a waghaodd M r Bryn Roberts. Frbyn hyn mae'r Cymdeithasau lleol wedi pleidleisio, ac y mae cryn lawer wedi plcidleisio dros un o dri—y Mri Ellis Davies, T. E. Morris, a D. e. Williams. Yr ydym yn ofni yn fawr y cymer ymraniad yn mhiith y Rhyddfrydwyr le. Dvwedai gwr cymhedrol o'r etholaeth-gwr nad yw yn gofalu mwy am y naill na'r tiat) o'r gwyr hyn, nac yn gofalu llawer am yr un o honynt fod ymraniad yn anocheladwy.
ETHOLIAD EIFION (Diweddaraf).
ETHOLIAD EIFION (Diweddaraf). Cyfarfu y Pwyllgor Gweithiol Rhyddfrydol, ddydd Mercher, yn Mhwllheli, i'r diben a dderbyn llais yr etholaeth ar yr enwall i fyned yn ol am ddewisiad terfynol. Yr oedd Mr. Ellis W. Davies wedi cael 60 o bleidleisiau, Mr. D. P. Williams, 30, Mr. T. E. Morris, 17. Ni chafodd Mr. Howell J. Williams bleidlais a gwbl. Yr oedd Mr. D. P. Williams wedi tynU yn ol ar gyfrif y dull anfoddhaol y cariwyd pethau yn mlaen. fel mai y ddau enw sydd i fyned o flaen yr etholaeth yn awr ydynt Mr. Davies a Mr. Morris.
Cymanfa Ysgolion Dosbarth…
Cymanfa Ysgolion Dosbarth y Dyffryn (M.C.) Cynhaliwyd y cymanfaoedd eleni yn Aber- maw, dydd Llun, Ebrill 30ain, ac ynNhalsarn- au, Llun, Mai 7fed. Llywyddwyd yn yr Aber- maw, yn nghyfarfod y prydnawn gan Mr. J. R. Jones, Pentremawr, a'r hwyr gan Mr. Robert Roberts-Jones, Cefntrefor Fawr ac yn Nhal- sarnau gan Mr. Richard Davies, Lasynys, a Mr. Rhys Jones, Abermaw. Arweiniwyd y canu yn y ddau le (yn absenoldeb Mr. ReeS Jones, yr hwn sydd wedi cyfarfod a phrofedig- aeth trwy golli ei frawd) gan Mr,. John Roberts, Ripon House, Barmouth, a chafwyd datganiad da iawn o'r tonau a'r anthem Yr Arglwydd yw fy Mugail," (Dr. Parry). Aeth y prif wob- rwyon i ran ogleddol y Dosbarth. Y wobr laf yn y dosbarth hynaf i Mri. Samuel Williams a Robert Owen, y ddau o Harlech ac yn gydradd. Y laf yn y dosbarth ychwanegol oedd Mr. S- Williams. Y laf yn y dosbarth dan 21 ydoedd Miss Gwladys Arthur, Llanbedr, yr hon sydd hefyd yn gydradd laf trwy y Sir. Y laf yn Y dosbarth dan 16eg oed ydoedd Mr. W. WatkiU Davies, Abermaw, a'r laf yn y dosbarth nesaf ydoedd Lewis Evans, Egryn, yr hwn hefyd YW y cyntaf yn y Sir. Y cyfeilyddion yn AberrnaNv oeddynt Miss Jennie Richards, Craig-mynach, a Miss Evans Penymount: ac yn Miss Laurall Jones, Cefntrefor a Miss Gwladys Arthur. Llanbedr. Gwnaed casgliad yn y ddwy Gym. anfa at Gronfa Ysgoloiiaeth Eliazer Roberts, a chafwyd swm sylweddol yn y ddau Ie. Yr oedd yr Holwyddori ar y cyfan yn dda, yn enwedig felly y dosbarth dan 21 a'r dosbarth hyns.? Cafwyd gair calonogol am y gwaith da a wnaed y flwyddyn ddiweddaf. Teimlem ar ddiwed y Gymanfa ein bod wedi ein llwyr foddhau ya mhob rhan o'r gwaith. Rhanwyd mwy 0 dystysgrifau am farciau Ilawn eleni nag  amser. Golyga hyn fod yr Arholwyr we 1 cael eu boddhau yn n gwaith y safonau. Siaf" adai yr arholwyr, Mr. Thomas, Talsarnau 3 Mr. Roberts, Dyffryn. yn uchel iawn am dry, lwyredd y gwaith trwy y dosbarth.
- - - - - -..-. -...- -.-.…
Beddgelert a'r Cylch. d< Nos Wener diweddaf, yr oedd Mr. E. W. Davies, yn cynal Cyfarfod ianerch yr Etholwyd" Cafodd ef ei dderbyn gyda chymeradwyae"1 urddasol. Cymerwyd y gadair lywyddol garJ y Parch R. P. Ellis (M .Cq) ymdriniodd• Davies a llawr iawn o fanteision tra pwvsig yr oedd yn amlwg, ei fod yn gwneyd argraff ar Y gwrandav/yr Nos Sadwrn anerchodd Mr. D. P. vViJliarns. yn Etholwyr, y llywydd ydoedd Mr. Wm Pierce. Ffridd trafodaeth maith ar ei ddygiad i fyny. ag ar faint o bwyllgorau a Cynghorau, y bl1 ynddynt a gafwyd gan Mr. Williams. Dywed. ir wrthyf gyda sicrwydd, fod rhai o Geidwad. wyr yr ardal wedi derbyn llythyr oddi vvrt- Mr. Williams iddynt wneyd eu goreu drosto, Sicr genym nad dyna y ffordd i ddangos fai'^ o Ivhyddfrydw3rr ydoedd. Mae digon o Rhydd frydwyr yn yr ardal, heb ofyn i Geidwadwr 1 weithio drosto. Yr oedd y Person a'r llytbyr ganddo yn y Cyfarfod nos Sadwrn. Cyfarfod yn dilyn. Llywydd Mr. Part? Williams Rhyd-ddu. Dewisiwyd Mr. Da"*d Jones, Emrys House yn drysorydd y Pwyll§° Rhyddfrydol. Gwnawd casgliad at dalu aD' fenthyg yr ysgoldy. d. Bu llawer o siarad, yn y cyfarfod ar teinlia d, au yn tueddu at fod yn frwd, Pasiwyd i a°!? hymeradwyo gwaith y Pwyllgor yn Pwllheli ag anog am y Test Ballot yno, pan y pleidlelslWY ar yr Ymgeiswyr. Cafodd Mr. Davies, 5.4 enwau a Mr. Williams 30.
Family Notices
PRIODASAU. ,OWEN-H.OBERTS.-Dydd Llun, Ebrill 30aio. yn Nghapel Caersalem, Tanygrisiau, gan IV Wm. Humphreys, yn mhaesenoldeb Mf- J{. Jones, y Cofrestrydd, Mr. Thos. vV. 0-eil, Maenofferen, a Miss Eliz. Roberts, Frondeg- I'w haelwyd hwy, hwyliau da,—byd dedwydd» Boed aden Duw'n noddfa Tom yn braf, mi goeliaf, ga Hwyl oesol gyda 'Liza. Hughes-Williams.-Mai 5ed, yn nghapel, Gilgal. Maentwrog, gan y Parch. Wilhain Williams, yn mhresenoldeb Mr. Richar" Jones, Cofrestrydd, Mr. John Hugh Hugbe" Albert House, Lord Street, Blaenau F?sttH iog, a Miss Maggie Williams, pedware? merch Mrs. Mary Hugbes, o'r un l!e. MlS^ Lizzie Hughes (chwaer y priodfab) oedd Y Forwyn, a Mr. David Roberts, Rhydsarn yM Was. Llwybr goleu lie bu'r galon,—a'r hyder 0 odiaeth fyd gwiwlon,— Fudai'r gred yn y fodrwy gron I foreu ddedwydd freuddwydion. I deg amod dau gydymaith, Gwen Duw fo'ngwynu y daith. Cole-Roberts.-Mai 9fed, yneglwys St. DeNvi, Blaeuau Ffestiniog, gan y Parch. Benjaro? Thomas, Mr. George H. Cole, Wolkcte? Thomas, Mr. Geor!le H. Cole, Manchester, a Miss Catherine MyfanwyR0 erts, Glyn House (gynt Glynllifon Hote Blaenau
Diolchgarwch.-,-I,
Diolchgarwch. I Dymunaf drwy hyn ddatgan fy niolchgar cynhesaf i bawbam eu cydymdeinlad a', ared- igrwydd anmhrisiadwy tuag atom ni fel teul yn yr amgylchiadau cyfyng a'n cyfarfyddo ni trwy golli Anwyl Briod, a Thad tyner. Nis gallwn ddiolch i bawb yn bersonol, ond bydde i bawb dderbyn yr arwydd hwn o'n diolchg-^ wch.—Ydwyf, yr eiddoch yn gywir. 8, Benar Road. SARAH HUGhr->3>