Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

0 CAIRO I HELWAN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 CAIRO I HELWAN. I [GAN MR. J. R. ARTHUR.] I PARATOI. UN boreu yn mhorth yr Eden Palas Hotel, yr oedd tri ci honom wedi colli'r secret pa l betb i wneyd a ni ein hunain y diwrnod hwnw. Yr oeddym bellach wedi gweled, drwy lafur dirfawr, yn ystod y dyddiau a basiodd, prif wrthrychau hanesyddol dinas Cairo. Ond ni fuom yn hir cyn cael ein cyflwyno i arweinydd diogel a chymeradwy a ddigwyddodd ddod i ddanfon Germanwr a'i wraig i'r Hotel o dref Helwan-yr hon sydd oddeutu pymtheng milldir i'r de o Cairo. Ac wedi i fy nghyd- deithiwr gael ymgom a'r Germanwr caredig o berthynas i'r hyn oedd i'w weled yn Helwan, y diwrnod hwnw. Yr oedd y Germanwr a'i wraig yn ymadael am Alexandria-yr oedd ei wraig o linach Americanaidd ac yn bur ffraeth. A phan ddeallodd hi ein bod am fyned i Helwan:—" Ah," meddai, I am sorry for you —the tea there was very bad." Fe aeth y sylw heibio, wrth gwrs, yn ddisylw oblegyd nid doeth codi dadl un amser, ar bwnc o chwaeth. Awgrymwyd digon gan y wraig dda hono i beri i ni gredu mae ei phrif hyfryd- wch hi oedd "tapio trwyth y tepot." HYNODRWYDD Y DRAGOMAN, PRIF nodweddion ein guide oedd :—Tafod rymus, saes- oneg hwylus, dwylaw medrus, traed hcenus, a thri o archollion ar bob ochr I w wyneb o dan ei dalcen, Gofynwyd iddo beth fu yr achos o'r fath archollion dyfn- ion ar ei wyneb. "O meddai, i gadw draw cur yn y pen." Felly, nid ydych yn awr yn cael cur yn eich pen ?" ebe ninau. 0 vdw syr, ond nid i'r un graddau ajphe y bawn heb y stripes yma ar fy ngwyneb." "Sut y gwyddoch ?" ebe fy nghyfaill. "Am fod fy nhad," ebe yntau, wedi dweyd wrthyf, ac am fod pob Arab yn gwybod ac yn credu hyny." Yn credu ac yn gwybod fod yr arch- ollion ar eich gwyneb yn diogelu rhag y cur ynypen?" ebe fy nghyfaill. "Ie," meddai yntau. "Pa bryd y gwnawd hwy ?" "Pan oeddwn yn blentyn," ebe yntau. Fel yna, goddefai ei gateceisio heb gysgod o anfoddlon- rwydd. Yr oeddym wedi sylwi fod pob Arab yn meddu yr archollion hyny ar eu gwynebau. A sylwyd fod archollion cyffelyb ar wyneb cerflun o ddyn ar feddrod Ti" ac eraill yn ngladdfa Mempliks-Beddrod fel y cawn achlysur i sylwi eto, sydd yn 6500 oed. Wel, dyna ddigon byth i ategu y dywediad mai bwndel o arferion ydyw dyn, ac fod of argoel- iaeth, fel rhagfarn, yn anhawdd ei hymlid a'i iladd. Dylasem ddweyd mai galwedigaeth ein guide, y rhan gyntaf o'i fywyd, oedd cadw corph ac enaid yn gymydogion. A chan mai Meddyg oedd ein cyd-deitbiwr, symiwyd i fynu wybodaeth feddygol y guide i gylch siwgr a spice, a phobpeth nice, fel cyffyriau anffael- edig at bob anhwylder sy'n etifeddol i'r corff dynol. Yr unig rym tu ol i'w M.D. oedd Money Down." Dyna y fath un oedd ein guide y daith hon, ryw charlatan o feddyg a ddarllenir yn y geiriau hyny If people sick do come to me, I purge and bleed, and sweat them If after that they like to die, What's that to me ? I let them. CHWARELAU HENAFOL. WEDI codi tocyn yn Station Bab-el-Luk yn Cairo, esgyn- wyd i'r train, chwibanodd y peiriant, cychwynodd y ger- bydres, ac wele ni ar amrantiad yn chwyrnellu i waered am Helwan. Ar y chwith, yn ystod y daith hon, yr oedd cadwen o fryniau noeth- lWID, ac ar y dde yr oedd y Nilus, a gwlad swynol a phrydferth. Wedi cefnu ar Station Turra gyda'i gorsafoedd milwrol eang, ac a fewn ychydig i Helwan/ceir cipdrem o'r train ar resi o gamelod a mulod yn cludo cerrig adeiladu o'r chwareli sydd yn y cymydogaeth- au hyny i lan y Nilus. Dyma y chwareli hynaf ac hefyd y chwareli eangaf o'r natur yma y gwyddis am danynt. Dyma'r chwareli o ba rai y cloddiwyd cerrig i adeiladu y Pyramidiau. Cloddia yr Arabiaid yn bresenol yn yr awyr agored, ond dull miners y Pharoahau gynt oedd gyru lefelydd i galon y bryniau, a lledu a ryffiio gan drefnu yn getfydd agorydd anferth, a gadael pileri i gynal y roof. Dyna eu cyn- Hun hwy dair a phedair mil o flynyddoedd yn ol os y digwyddent daro ar graig hwylus, weithiadwy, a defnyddiol. Gyda chynorthwy canwyllau a matches, geilir treulio amser dydd- orol yn mhlith yr agorydd rhyfeddol hyn. Teimla y teithiwr wrth grwydro drwyddynt on bod yn gyssegredig gan henafiaeth, ac fod rhyw barchedig ofn yn ei feddianu wrth gan- fod, yn ngenau y lefelydd henafol, arysgrifau yn dweyd iddypt gael eu hagor drwy orch- ymynion Brenhinoedd oedd yn teyrnasu 4030 a flynyddqedd yn ol. Gelwid y chwarelan hyn yn Royan gan yr Aifftiaid gynt, a gelwid hwy yn Troja gan y Groegiaid. Gadawodd y Groegiaid, fel yr Aifftiaid gynt, argraff i ddynodi y manau hyny lie y buont hwy yn sioddio. Yn awr, crybwylla yr hanesydd Strabo fod y Pentre sydd gyferbyn a'r chwar- elau hyn yn drigfan Groegiaid a gymerwyd yn garcharorion amser brwydr Caerdroia. A dyna paham y galwyd y chwarelau hyn yn Troja." HELWAN. SAIF Helwan 145 milldir i'r de o I, Alexandria; 15 milldir i'r de o Ddinas Cairo; 3 milldir i'r dwy- rain o'r Nilus. Mae Helwan wedi ei hamgylchu gan Anialwch tywodlyd, ac nid oes un math o dir llafur yn nes na milldir a haner. Ei rhagoriaethau ydynt Ffynhonau naturiol o Saline, Chalybeate, a Sulphur, a ystyrir gan Feddygon yn gyfoethocach eu hansawdd na ffynhonau fel Llandrindod a Threfriw. Mae purdeb rhyfeddol yr av,yr- gylch drachefn yn cyfranu adnewyddol adnoddau i deulu dyn dan wahanol ac amryw- lol anhwylderau corphorol. Dyna ragoriaethau Helwan Ei atdyniadau ydynt;-Baddonau M cyhoeddus, Golf Links, Tennis Courts. Mae yn gychwynfan hwylus am Memphis a Phyr- amidiau a Beddrodau Sakkarah pa rai sydd yn ganfyddadwy yr ochr arall i'r afon. Gan fod Helwan wedi ei hadeiladu ar yr Anialwch, a thywod yn ei hamgylchynu i bob cyfeiriad gwelir yma ac acw ar hyd a lied yr anialwch tywodlyd, ymwelwyr mewn tywodfeuau neu gieir llusg yn cael eu tynu gan feirch a rhai mor bell ar yr anialwch fel yr ymddanghosent i ni o Helwan fel trychfilod ar y tywod. JAPANIAID. YN ngwesty Twefic Palace yn I Helwan, daethom yn ddam- weiniol i eysylltiad a dau Japaniaid, dau ddyn bywiog "five foot nothing" o hyd, ac yn enedigol o rywle yn agos i Yokohama. Yr oedd y ddau wedi bod mewn rhyw fath o ysgol yn Llundain, ac yn galw yn yr Aifft ar eu taith adref i wlad eu tadau. Er fod eu Saesoneg braidd yn garpiog-daethom i ddeall ein gilydd yn rhyfedd iawn. Pender- fynwyd ein bod yn bedwar mewn nifer-dau Brydeiniwr, dau Jap—yn myned am daith i lan y Nile. Cychwynai y ddau Jap o'r Hotel, guide book yn un Haw, geiriadur yn y llaw arall, a'u clustiau a'u llygaid yn effro a chraff, er mwyn o bosibl casglu briwsion o ddysg a ddigwyddai syrthio i'w sylw. Dyma rai o sylwadau y Japanese fu yn ein cwmni:— Japanese have beef and no mutton; Chinese mutton and no beef Bells have no tonges Cherries have no stones; Oranges have no pips Snakes have no poison Music has no Harmony; They have no Forks, Spoons. Tablecloth and they have no Bedsheets, no glass, and no Tumblers. Casglwyd hefyd nad oedd gan fasnachnwyr y Rising Sun yr hyn a elwir ya gydwybod, ond, i wneyd i fyny am y diffyg, ymddengys nad oes gadddynt y fath beth a llwon a rhegfeydd yn eu hiaith. PLANT RHEUB- US; MERCHED GOLYGUS. TRA yr oeddym yn ceisio cymeryd i mewn y bywyd prysur oedd ar acoddeutu glanau yr afon, yr oedd coryn bach yn aflonyddu yn barhaus arnom ac yn daer iawn am gardod. Bygythiwyd ei daflu i'r afon yn fwyd i Crocodile-pan ddeallodd hyny, bwriodd ei hun mor sydyn a cheiliog y rhedyn, ar ei ben i'r dwr. Wedi peth nofio daeth atom dracbefn gan hawlio cardod (backsheesh) gydag awdurdod. Llwyddodd yn ei amcan, a bu byny yn achlysur i ddwsinau o'i gymrodyr, yn fechgyn a merched, neidio fel llyffaint i'r afon a chwareu ar y wyneb fel pe y baent ysglodion. A difir oedd ei gweled felly, yn splashio, plungio, a nofio fel britbilliaid. Amheuaf a oes boenusach a bywiocach mercbed na'r cludyddion dwr welwyd hyd lanau y Nilus. Yr oedd y merched hyny mor heini fel mai anhawdd oedd peidio sylwi arnynt. Cyfrifir am harddwch a llunieidd-dra eu cyrff yn benaf i'w harferiad o gludo pobpeth ar y pen. Priodolir dracbefn eu bywiogrwydd a'u boenusrwydd i'w hamddifadrwydd o'r dillad baglog sydd yn achosi i'w chwiorydd gorllewinol ddangos y fath afrwyddineb a thrwstaneiddiwch wrth geisio gwneyd unrnath 6 ymarferiad corphorol. Prin y ceir neb yn Ffestiniog allai gystadlu a hwy yn y science o gludo pwysau ar y pen. Wrth rodio hyd lan yr afon, gwelsom enethod yn divio i'r dyfroedd gyda'u costrelau. Wedi dychwelyd i'r lan, a gosod y gostrel ar y pen, canfyddent y gostrel yn rhy drwm. Yn awr, i gyfaddasu y pwysau i'w gallu corphorol, gwelsom y cyfryw yn rhoi jerk sydyn a deheug a'r pen, a thrwy hyny, yn gwagbau y gostrel o gyfran o'r dwr, heb gyffwrdd llaw, na cholli dyferyn am ben y dillad. Gwelsom un arall yri dod i fynu o'r afon gan gludo padellaid anferth o ddwr. Caofyddodd yr eneth hono un Teithiwr yn taflu ymaith fath o rosyn o'i got. Aeth bithau yn mlaen at y rhosyn, a gwelsom hi yn ei godi a bawd ei throed yn fedrus ddigon, ac yn ei drosglwyddo gyda'r rhwyddineb mwyaf, yn hwylus i'w dwylaw, ac yn ei arogli. Wedi cael bwyd, rboi ein cyfeir- iad i'r Japaniaid, awd i'r station yn Helwan, a chyfeiriwyd yn ol am Cairo.

I NODION O'PE-UnHYiNDr-UDRAF-TH.

[No title]

DEDDF Y MAN-DYDDYNOD.

.ADDYSG YN PENMACHNO.

CREFYDD CYMRU YN Y GLORIAN.

-BEDDGELERT.

TREFN OEDFAON Y SUL

Family Notices