Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

DEIGRYN PARCH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEIGRYN PARCH •&r farwolaeth y brawd hoff a'r Cristion gloew, WILLIAM HUGHES, Seion, Ffestiniog, yr hwn fu yn ddiacon ffyddlon, ac yn arwain y gan, ac yn ysgrifenydd yr eglwys yn Seion am flynyddau, yr hwn a hunodd yn 52ain mlwydd oed dydd Sadwrn, Ionawr 22, 1910. Derbyniais y newydd prudd yn America, pan ar daith yma. Mor brudd-felus yjyw teithio Dros y cefnfor eang, maith, Ar adenydd fy myfyrdod Tua'th fedd. a llygaid llaith Er fod miloedd o filldiroedd Rhyngwyf a'th orphwysfa brudd, "Gallaf blanu arno dusw- Gyda deigryn ar fy ngrudd. 'Gwc mai myned o'th flinderon Wnaethost at dy goron wen- Wne'st dy hun, drwy bara'n ffyddlon I'r Hwn waedodd ar y pren; Gwn i'th fywyd fod yn ymdrech Ddyfal. ddiwyd, ar ei hyd; Gwn i'th farw dloi yn elw Mwy ei werth na'r ddae'r i gyd. Cefaist gyfle i gofleidio Crefydd, yn moreuddydd oes, Cefaist ras i ddal dy afael Yn mhwerau lawn y Groes; Ceiaist ddoniau anghyffredin A'u cysegru bob yr un; Cefaist flas ar ddilyn camrau Dwyfol-ddenol Mab y Dyn. Yn yr Eglwys—gwne'st dy gaitref, Yno byddai'th hoftus le, Yno byddai dy gerddediad Pe bai angel yn y dre'; Gwnest weddio yn anhebgor Wrth yr allor-Duw a wyr Faint o ddagrau pur a gollaist Ar ran eraill fore a hwyr. tFel cynghorwr mewn cyfeillach, Cywir oeddyt, fel y wawr Hoffed gerdded i gyfeiriad Canol dydd y gwynfyd mawr Byddai gair i'r bobl ieuainc Ar dy fin fel diliau mel, A bydd ftrwyth dy ddoeth gynghorion Eto'n byw y blwyddau ddel. Fel arweinydd y Swyddogaeth Am fiynyddau-gwnest dy waith Heb roi draenen mewn un ystlys Nac i deimlad roddi craith Yn yr Ysgol-gyda'r dosbarth, Byddet fel tywysog cryf, Yn agoryd yr Ysgrythyr Gyda dewrder dwyfol, hyf. Yn dy deulu-megis brenin, A'th gymdeithas yn fwynhad; Ni bu 'rioed gywirach priod Nac i blant hoffusach tad; Ac yn nghyfrin gylch y cyfaill Byddet fel Jonatnan fwyn, Gallet mewn ystorm ddioddef, Ac a gelyn gydymddwyn. Hoffaist gwmni can ag awen, Hoffaist gwmni gweision Duw, Hoffaist son am gyfrinachau Pethau mwyaf dynoiryw < Cefaist brofi, erbyn heddyw, Beth yw bod yn nghwmni saint- Wedi eu cannu a'u perffeithio I'r drågwyddol-ddwyfol fraint. Cwsg yn dawel. yn dy feddrod; Mola'r lor, ar ucbaf dants; Ti enillaist yr orseddfa Sydd yn ol i'r ffyddlon blant; Deuaf finau, pan gaf gyfle, Gyda deigryn, at dy fedd, 1 -I roi blod'yn parch—mewn hiraeth Am dy wylaidd siriol weddv R. JONES (Perorfryn). (O Bethlem, Pa,, Chwefror 12).

ETHOLIAD MAENOFFEREN.

GWERTHFAWREDD CRISTI A'l ABERTH.

I'R PARCH. J. T. PHILLIPS.…

Cyfarfod Ysgol Undeb Anibynwyr…

Advertising