Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
COR MEIBION Y MOELWYN.II
COR MEIBION Y MOELWYN. II Gan Perorfryn. I Nos Lun, yr oeddym yn Providence, Scran- ton, mewn Opera House, ac yr oedd y lie yn llawn, a'r Cymry yn frwdfrydig. Yr oedd amI: i ogleddwr vma, ac ambell un o Ffestiniog, Yr oedd Ellis Jones (brawd John Jones, Peny- cefn) a'i wraig, a Will bach Ellen Hughes," ac amryw o rai adnabyddus yma. Mae Will bach yn cofio at y boys i gyd vna. Yr oedd pawb wrth eu bodd yn y Cyngherdd, a'r Cor a'r Unawdwyr a'r Delyn, y Piano a'r Canu peniUion yn cael eu dybIu, ac fe orfoleddai y Gogieddwyr yn llwyddiant y Cor. Dan nawdd un o Eglwysi y lie yr oeddym, yr Ysgrifenydd yn un o Penygroes, brawd caredig iawn a bu yn ofalus iawn o honom. Cawsom ein clorianu vn mhapurau Scran ton, a daethom o'r ffwrn heb gymaint a llosgi blewyn," a'r ganmoliaeth yn uchel iawn. Gwelais ran o'r Report yn y gwahanol bapurau y cylchoedd fel advertise- ment i'r Cyngherddau. Daethom o Providence i Pittston. Lie gweithfaol, ac mae yma afon yn rhanu y lie yn West ac East. Mae yma rai Cymry er's blyn- yddau. Nid oedd y cynuliiad yma yn y Cyngherdd yn fawr. -Dan nawdd yr M,E. yr oedd y Cyngherdd. Yr oedd yma ryw show yn denu y to ieuaingc. Yr oedd cenad wedi ei anfon gan y Druids" i'n csroesawu. Bu raid i ni ail ganu droion yma, ac felly yr Unawdwyr Er mai Saeson cedd y mwyafrif, yr oeddynt yn enjoyio yr holl Gymraeg, ac rri gafodd y Delyn a'r Penillion encore byddarol, er na ddeailent ddim o'r geiriau. Gwelais rai yma fu yn canu hefo Cor Cadwaladr Roberts, sef J, Parry (Lord Street) a'i briod (Miss Edwards, High- stone gvnt) Coffa da am y Sopranos gydganai a hi yn yr hen Gor er's talm, gwraig einparch- us Arweinydd, a Llinos Gwaenydd, &c. Ed- rychant yn dda, ac aeth rhai o'r boys i'w cartref boreu dranoeth. Nos Fercber yr oeddym yn Miners Mills. Cawsom Gyngherdd tebyg yma eta, a'r cyn- ulliad yn llawer gwell yn tchob vstyr. Mae yma eto ami un o blant Ffsst'nlog. Prif symudwyr y Cyngherdd yma oedd Mri, Hugh a John Price, gynt o Bethania. Ac mae Hugh wedi dringo i safle anrhvdeddus yma yn y pwll glo, mae yn un o'r Foremen, ac mae iddo frawd yn un o'r Cymru mwyaf dylanwadol yn Wilkesbarre o'r enw Tom Price. Daeth am- ryw atom i siglo Haw, a chacmol ar y diwedd, Cawsom gystal Report yn mhapurau Pittston a Miners Mills ag uamsm. Nos Ian, yr oeddym yn nghsrtref un o'n trefnWyr-Sef yr enwog Cynonfardd. Yr oedd- ym vn canu mewn lie o'r enw Nelson Mem- orial." Un o'r yststfelloedd mwyaf dymunol, a digon o le i ganoedd 0 bobl ynddo. Cawsom Gyngherdd llwyddianus iawn, gan belled ag yr oedd v canu yn myn'd, ond siomwyd ni gan y cynulliad. Teneu oedd, ac edrydd y papurau boreu dranoeth, fod pawb na fu vno wedi colli un o'r treats goreu gafwyd yn Kingston erioed Ac mi roedd Cynonfardd wedi mwy na'i sicmi. Cawsom de bach yn nhy Cynonfardd ar 01 y Cyngherdd, a bu math o noson lawen yso, a Cynonfardd a'i briod a'i ferch ag eraill yn cario cwpansd o de wrth eu bodd. Wel, nos Wener, daethom i Jerusalem y parthau hyn, saf Wilkesbarre, a theimlem yn fwy na chartrefol bron, Yr oedd liu ofechgya Ffestiniog yma, ac yr oeddvnt, yn tanio y dyrh gyda'u bloeddiadau brwdfrydig. Yr oedd Dan Baker ag rail1 ar en huchelfanau, a Owen Evan (land), a Guto Bach Sarah Morris, a mab Dafydd Jones yr hall, a llu o'r bechgyn nad wyf yn cofio eu hentvau yn cymeryd trafferth i'n gwneyd yn gartrefol. Ysgrifenydd y clwb rwy'n credu cedd Lewis Davies, mab William Davies, Uwchlaw'rffynon, ac yn y Y.M.A. y cyohaliwyu y cyuyw. Gwnuem pyn gofiem am ystafell stklw y Y.M A yna, wrth weled y rhai hyn. Digon yw dweyd fod y brwdfrydedd yn ofnadwy yma, a'r eccorio yn fyddarol. Yr oedd Miss King Sarah yn tyou y He i lawr, a bu yn rhaid iddi ai1;anu dair gwaith yn olynol. Canodd yn encore Unwaith eto" a bu yn rhaid iddi deod yn ol, a thynodd ddagrau fyrdd wedyn hefe "Pa bryd cai fyn'd adref yn o! Felly yr oedd y ddeuawd hefo hi a Con's; mae myn'd sr y deuawdau Hywel a Bloawen" gtin Miss Sarah a Cotis, a Tell me gentle Stranger" gan Miss Sarah a Ffestin. Cafodd y Peniihon gan Ffestin eu hancorio, a'r Velyn yn galoaog, Ac yr oedd y derbyniad gafodd Coris, Ted, ag Evan Morris yn frwdfrydig. Nid oes gwell gwell desgrifiad i'w roddi sm y Cyngherdd hwn na'i fod yn deilwng i'w grcniclo yn yr un bwndel ag eiddo v rhai y senilis am danynt yn Granville ag Utica. Bu y Ffestmogidd yn groesawus iawn yma, a pbawb eisiau i rai o -hono-.i aros gyd* nwy. Arcsodd rhai yma i dreulio nos Sadwrn, ag ant yn ol heno ar 01 y Cyngherdd. Neithiwr ncs Sadwrn, yr oeddym yn canu yn yr Opera. House yma (Nanticoke) dan nawdd yr M.C. Cy" mreig, Nid oeddym yn teimlo fed ext?a hwyl. Yr oedd y He yn weddol lawn, ag ambell Gollar yn llefaia well done, nes peri hwvl dialw am dano. Mi roedd y piano yn isel ei tbraw (pitch), ec yn dwend dipin a'r yspryd, Er hyny bu raid i ni ail ganu bob tro bion, ac mi ganasom hedilyw prydnawn a'r nos yn y Capal Cymrc'g, a hwyl dda dsn yramgykhiad, Bu amryw o'r boys yn y capel boreu, yn en j oyio y bregeth Gyrnreig. Y Parch J. E. Davies bregethai yn y cspel Batis, ac enjoyais ef yn dda. Awn boreu foru yn mhell iawn i le o'r enw Ashland. Byddwn yn cychwyn cyn wyth y boreu ac yn cyraedd rywbryd ganol y grydnawn. M&e hwyl dda ar y boys i gyd. Da genyf ddeall am bob peth da welf yn y pspurau, ac rwy'n beodigo enw Cymru ac yn yinffrostio yn ei safiad di-droi yn-ol befo'r legsiwn, Gresyn fod crack yn asgwrn cefn Maesyfed a Bwrdeis- fod crc-,c,, .,?yrn eel drefl Dinbych. Diolch I Feirion am ei gwrol- deb a'i ssl er gwaethaf y dylsnwadau aiglwydd- iaethol, a'r ym^f is b-vdr i ddallu y v.e ia. Buasa-i m-,vyafrif:tIaydn vn fwy p bai Cor y JMoelwyn yna, o amryw Votes, Drwg genym yw deall am y profedigaethau mynych sydd yn goddiweddyd ein cyfeillion. Syda gofid a siom y derbyniasom y newydd 3doe am ddistawrwydd cynar y delyn ber, W. r. Jones, Manod Road. Anfonwn bleidlais o'n cydymdeimlad a'i deulu. a phe gallem anfonem angel i'w godi heno, Mawr yw eingalar a'n colled ar ei ol. Mawr ofid i mi oedd derbyn y newydd am farwolaeth y brawd hoff a'r Cristion I addfwyn William Hughes, Ty capel Seion (gynt), gwn iddo ciderbyn ei goron erbyn hyn. Taened y nefoedd fyrdd o flodau ar eu beddrod- au, a boed y teuluoedd oil dan gysgod yr aden- ydd dwyfol. Cofion lu, a pheidiwch poeci am neb o honom. mae y boys yn allright, ond fod mws- tash amball un wedi ei ddwyn*.
MAENTWROO.vvvvvI
MAENTWROO. v v v v v I Boreu Sabbath, Mawrth 63d, cyffrowvd teimladau nes lleithio gruddiau llu yn yr ardal hon gan waith angau yn cymeryd oddiwrthym y siriol a'r lednais Jane Catherine (" Jennie"), anwyl briod Mr. Robert Evans, 2, Frongoch, yn yr oedran cynar o 24ain mlwydd. Nid ces end ychydig gyda dwy flynedd er pan gofnodem I y ddau wrth all or Hymen, ac y dymunem 0 galon bur iddynt ffurfafen oleu a llwybr esmwyth yn eu bywyd newydd; a hyny a gawsant am dymor. Yn Ebrill diweddaf, ychwanegwyd at eu dyhuddiant per trwy enedigaeth mab bychan, Bobie," yr hwn heddyw (yn anymwybodol o hyny) sydd iddo enw newydd, a wisga hyd fedd—amddifad! Nid oedd ein chwaer yn gryf ei hiechyd ar y goreu, ond meddai ar linweddau cryfion ac edmygol neillduol. Wedi ymbriodi asefydlu yn y Brifddinas, ymaelododd yn eglwys King's Cross, dan weinidogaeth y Parch. Eifed Lewis, ac enillodd iddi ei hun le cynes iawn yn serch- iadau yr'eglwys a'r gweinidog, a theimleut fod gefynau tynion gofid yn gafael ynddynt pan fu raid ei gollwng ymaith, ddiwedd y flwyddyn 1909, am wlad ei genadigaeth, er ceisio adferiad iechyd- Cafodd gystudd caled, ond yr oedd yr afael sicraf fry," a thrwy hyny gallodd oddef y cyfan heb rwgnach a phregeth rymus oedd ei hvmddiddan serchog ar wely oer cvstudd. Nid oes ond pum' wythnos er pan alwyd ei thad, Richard Hughes, Bull Street, ymaith, a danghosodd ddoethineb eithriadol yn y cyfwng hwnw Os na chafodd ei weled mewn amdo, na thalu y gymwynas olaf iddo, y mae yn ddiaraeu genym ei bod erbyn hyn yn mwynhau ei gymdeithas gyda'i Gwaredwr fel y maent." Cleddir dydd Gwener (yfory) yn Mynwect St. Twrcg, yn cychwyn am ddau o'r gloch. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i mam a'r teula, ac Addewidion Duw fyddont fel cestvll i'w hanwyl briod a'i Bobie bach ar eu ffordd drwy'r anial ati i'r Ganaan nefol, ac na chyffyrdded dim a thawelwch parchus man gorwedd ei llwch hyd ganiad yr udgorn yw ein dymuniad cywir.—CYFAILL.
BEDDGEP-ERT.vvvvyy'I
BEDDGEP-ERT. v v v v y y 'I Gwneir gwelliantau yn Prince Llewelyn Hotel fydd yn hwy!usdod i'r Tenant gario y busness yn mlaeu. Dylasid fod wedi dechreu yn gynarach, -gan fod y Pasc yn ymyl, pryd y disgwylir Hawer o ddieithriad i aros trcs yr wyl. Deallwn fod y Lodging Houses a'r Hotels wedi gosod yn dda yn barod. Dy-ved (Carn), Mae'n syndod meddwl nad oes feddyg na mamaeth yn trigianu mewn ptwyf mor efeng a Beddgelert (gwir o fienhio). Mae yn syndod, ynghyd a lluaws o bethau cyffelvb yn y plwyf, megis Gwáith Dwfr a Charthffosiaeth. Lie mae y Sanitary Inspector ? A ydyw ef yn gwneyd ei waith fel y dyiasai? Gcfynwn gyda (Carn), am s'r botieddigesau gymeryd trosodd y cyfan gYùi.1,.i giiyud. Coder bonsddigesau ar em Cynghor Plwyf a'r Cyng- hor Dcsbarth, gwnant well gwaith yn ddh,u Sonia llawer am newid ae!odau y ddau Gynghor. Enwir yn barod enwau newyddion i fod yn aeloSau 0 Gynghor Plwyf (la iawn). Bu y Cynghor Plwyf diweddaf mor farw a phenogyn i ddim gwaith, a chan ei fod mor farw, cladder ef allan o'r golwg, a choder Gynghor byw at y blynyddoedd nesaf. Llongyfarchwn Miss Maggie Roberts, Peny- bryn, Gwynant, am ddod yn oreu yn y gystad- Isuaeth Unrhyw Solo yn Rhyd-ddu nos Sadwrn diweddaf. Siomwyd ardalwyr y. Bedd na buasai y cor yn dod yn fuddugo!, ond curfa dda gafodd gan gor Rhyd-ddu, Bydd Ysgcl ddyddiol newydd yn cael ei hadeiladu yma yr baf sydd yn ymyl. Disgwyl- iwn weled ysgol hsrdd ar lecyn iach adymunol yierbyn a Vestri M.C. Drwg iawn genym ddeall fod, y Parch Wil- liam Williims, Bodygof, Llanberis, yn wael Brysicd wella yn fusn. Methodd a dyfod i'w gyhoedoiad y Sabbath diweddaf i'r Bedd.
DOLVt/YDDEL £ K.
DOLVt/YDDEL £ K. Prydnawn ddydd LIun, yn yr Ysgoldy, yr oedd y Parch. J, Llewelyn Richards, Ficer, Mr O. E. Parry, Arfun House, a Mr Robert Parry Hughes (Clerc y Cycgor Plwyf), o dan gyfarwyddvd y Cyngor Plwyf yn rhanu am y pedwerydd tro gymunrodd y diweddar fonedSwr William BIeddyn Lloyd, U.H i tuJ. haner cant o weddwon ac craill, y rhaia. gawsant bawb eu pum' swllt yr un. Yr oedd sirioldeb y derbynwyr oil yn arddangosiad cryf o'r teimladsu diolchgar at y Cymun roddwr anvhydeddus, ac at y gweinyddwyr caredig yn gofalu am danynt o dan amgylc^iadau mor bynod wasgedig. Nis gellir byth angaeio ca;edigrwydd at y gwir dlawd.
LLANBEDR, MEIRIONYOD.T'
LLANBEDR, MEIRIONYOD. T' DYMUNA Richard Griffith, Llanbedr, wneyd yn hysbys i Amaethwyr, Gardd- v/yr, ac eraill yn y dcsbarth yma ei fod wedi cael Stop 0 Hadau newydd at y tymor hwn. Hadau gwair. Clover a phob math o Hadau Gerddi am brisiau rhesymol iawn,—ADVT.
T ANYGRISIAU. I
T ANYGRISIAU. I MARW—Dydd Iau diweddaf, bu farwbrodor adnabyddus a chymydog i ni o'r ardal hon, sef David Hughes, Crydd, ar ol dioddef cystudd blin yn 65 mlwydd oed. Mab ydoedd i'r di- weddar D. Hughes, Crydd, a brawd i'r Mri Richard ac Own Hughes, Cryddion, Tany- grisiau. Yr oedd y tri yn dwyn yn mlaen fusues yn yr ardal ar ol marwolaeth eu tad yn hynod o lwyddianus, ond dyna un o'r rheng wedi ei gymeryd ymaith. Yr oedd D. Hughes yn hen langc caredig a chymwynasgar, ac yn ddarllenwr mawr bob amser, ac yn un deallus. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Traws- fynydd ddydd Sadwrn diweddaf. Cydymdeim- lwn yn fawr a'i ddau frawd. Hefyd bu farw plentyn bach i Mr a Mrs Simeon Jones, TreUwyn, ac y mae yr un cydymdeimlad a hwythau yn eu profedigaeth. O'R AMERICA.—Drwg genym glywed i Mr Humphrey Parry gyfarfod a damwain mewn pwll glo, yn Colarado drwy i lwmp o lo ddisgyn ar ei gefn. Ond y mae yn dda genym ddeall nad yw y niweidiau yn drymion. WYLAW BLEWOG.—Deallwn fod yma ryw rai a dwylaw blewog yn ymwelead a'r ardal, c yn symud pethau nad yn eiddo iddynt. Cymered y cyfryw rybudd, a chadwart eu dwylaw yn llonydd, neu byddant yn disgyn i drap yn ddisymwyth rai o'r dyddiau nesaf. CYFARFOD CYSTADLEUOL BETHEL (M c) — Dymunwn adgoffa y Llenorion a'r Cerddorion y bydd y cyfarfod uchod yn cymeryd lie nos Wener a nos Sadwrn nesaf. ac y mae rhagol- ygon am gyfarfod da. TEML DUFFWS.—Cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd yr uchod nos Wener diweddaf, yn nghapel Bethel. Llywyddwyd gan William J. Jones. Dechreuwyd trwy ganu ton gyffredin- ol (Marchog Iesu yn llwyddianus). Yna adroddwyd y Salm gyntaf gan Dilys Evans a Maggie Davies, ac aeth Griffith Thomas Wil- liams, Leeds Street, i weddi. Caed adroddiad- au gan John Morris Jones, Robert Owen Jones, Trefeini, Maldwyn Thomas, E. Tecwyn Rob- erts, Annie Jane Davies. Cafwyd dadl gan dair 0 ferched (Niwed Nofelau), ac ymgom Peryglon yr Oes gan ddeuddeg o ferched dan arweiniad Mrs. D. G. Williams, Bronallt, yn hynod darawiadol. Hefyd unawdau gan Mrs Stoddart, Jennie Humphrevs, a Kate Mary Williams, a deuawdau gan Mrs Stoddart sg Annie Griffiths, Jennie Humphreys ag Annie Roberts. Hefyd ton gron gan barti Robert Thomas, Datganodd y plant amryw weithiau dan arweiniad Robert Thomas, a diweddwyd trwy i'r plant adrodd Gweddi yr Arglwydd.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CYNGHERDD PLANT YSGOL,-Anaml y ceir perfformiad mor brydferth ac addysgiadol a'r un gafwyd gan blant y Lian nos Iau diweddaf. Aethpwyd trwy raglen faith a dyddorol yn bynod o lwyddianus. Llanwyd y neuadd yn mhell cyn amser dechreu, a phan wnaeth y Llywydd ei ymddangcsiad yr oedd y lIe yn Or- lawn. Wedi cael ychydig sylwadau gan y Llywydd a'r Prif-ath<aw, dechreuodd y plant ar eu gwaith o btrfformio Cinderella." Caf- wyd agoriad hapus iawn gan Buddug Jones a Maggie Evans. Gwnaeth y ddwy eu gwaith ^n ganmoladwy iawn. Dora Foster ddewiswyd i gynrychioli Cinderella a haedda yr eneth ieuangc hon ganrnoliaeth uchel am y gwaith rhagorol a wnaeth o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd 'ei hufudd-dod a'i gostyngeiddrwydd fel morwyn yn darawiadol iawn, a bron nad oedd ei liais cvvynfanus ac ecfyniol tra yn ei cbarpiau yn rhoddi geiriau "Godmother" yn ngenau pawb cyn i Annie G. Edwards ymddapngos. Haedda hithau fel "Godmother" glod mawr gan iadi gyflawni ei gwaith gyda medrusrwydd nodedig. Gofid mawr i lawer oedd gweled y Scene" gyut^f yn terfynu gan mor effeithiol y gwnelai pawb eu rban ynddi. Wedi ychydig seibiant gwnaeth y Prince, R. Charles Jones, argraff dda iawn pan yn ceisio llaw Cinder- ella" oddiar ei weinidogion Joseph Williams a Robert Jones. Yisddangosai y bechgyn ych ydig yn ofnus ar y dechreu ond buan y daeth- snt i fyny a disgwyliadau pawb oedd yn bres- enol a chausant ganrnoliaeth gyfffedinol, Caf- wyd amryw engreifitiau o actio rhsgorol yn y Scene hon. Pan darawodd y gloch a phan ddaeth Cinderella i sylweddoli ei bod wedi anghefio rhybudd y Godmother," hawdd oedd canfod oddiwrth y cyuhjrSad yn ei !1 is a'i hys gogiadau ei bod wedi llwyr anghon.a y dyrfa lawr o'i blaen, Yr oeddedrychiad Proudie yn ami yn fwy effeithiol nag hyd yn nod ei liais cyfoetbog, a pharai naturioldeb symudiadaii Crosspatch foddionrwydd mawr. Yn yr rhan olaf gwelwyd pawb ar eu goreu. Yr odd y bechgyn yn llawer mwy cartrefol a chafwyd Cydgan y Fairies yn swynol i ddiweddu per- fformiad gwir ragorol. Treuliwyd y gweddiil o'r amser gyda'r Song Games Cymerwyd rhnr ynddynt gan lu maws* o blant a chafwyd amlygi.ad !la.wn o fedr ac yni y Prif-athraw, Mr J R. j s, ynghyda ffyddlondeb gwerthfawr ei gvn i-ijH > "v^yr. Nid heb lawer iawn o lafur year wyd e ■« 7 plant i wneyd y "Spinning Song," y F'.irius Dance" a'r Merry Xmas," gyc'a'r f'.th berRdthrwydd. Yr oedd cyflymdra y rhsi bychain a'u cyd-symudiad hapus gyda'r gerddoriaeth o da.:1 ofal Miss Laura Pritchard, yn dwyn tystiolaeth uchel i lafur yr athrawon, yn enwedig gyda'r babanod. Mae clod mawr hefyd yn dayledus i'r rhieni am y drafferth gymerasant 1 wisgo y rhai bychain a chredwn fod v, mwjrnhad a gawsant yn ddigon 0 da; ganddynt. Mae yn llawn bryd i'r rhieni syl- weddoli gymaijft eilir wpeyd pAn geir y Cartief a'r Ysgol i gydweithio er dyrc-hafu syniadau y plentyn am yr hyn sydd brydferth a phur. LLWYDDIANT.—Da genym weled am iwydd Mr. 11. L Fosta, Carnedui, Bethesda (mab i Mr. E. Foster, Llan), fel Datganwr. EniiJodd ar y Ddeuawd gyda Miss Hughes, Pad, yn Eisteddfod y Plant, Bethesda; ac ychydig ddyddiau yn gynt enillodd ar yr Unswd Baritone gyda chymera.dwyaeth uchel, o dan feirriadaeth Mr. J. T. Rees. Llawenydd i ni yw clywed fod ein pobl ieuaingc yn dringo i fyny yn rnyd lien a chan,
PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I Nos Wener, cafwyd Gobeithlu dyddorol dan lywyddiaeth Mr R. T. Jones. Adroddwyd gan y rhai canlynol :-Willie Owen, Robert Ivor Owen, Robert Elias Davies, Sarah Owen, Lizzie E. Davies, Katie Owen, Lizzie E. Jones, Brynsaethon, Gwennie Davies. Canodd Cor Plant dan arweiniad Deudraeth Williams. Rboddwyd gwers ar y Modulator a Sain Glust, gan Mr John C. Owen. Nos Iau, yr oedd Cymdeithas Ymdrech Grefyddol Nazareth yn mwynhau gwledd oedd wedi ei pharotoi gan chwiorydd y Gymdeitbas yn yr Ysgoldy. Mae y Gymdeithas yn arfer ar derfyn tymhor y Gauaf, cael Swper, ond fe drefnwyd yn gynarach y tro hwn, am fod y Llywydd yn ymadael. Ar ol i bawb wneyd ei ran gyda'r danteithion, yr oedd cyfarfod wedi ei drefnu, a chafwyd cyfarfod rhagorol dan lywyddiaeth Mr R. R. Williams. Yn gyntaf, cafwyd unawd gan Miss Kate A. Edwards, a bu raid iddi ail ganu yna anerchiad barddonol ar ymadawiad y Llywydd (Mr R. T. Williams) gan Mr Johnie Parry Jones, Pen lan- (BaIa yn awr) unawd gan Mr Henry J. Richards; cafwyd gair gan amryw o'r aelodau, a'r oil yn datgan eu colled yn ymadawiad y Llywydd ynglyn a'r Gymdeithas cystadleuaeth dweyd ystori, Mri H. J, Richards a G. J, Jones yn gyfartal. Terfynwyd yr ol): trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau," Mr G. J. Jones yn arwain, Ar derfyn y cyfarfod, pasiwyd pleidlais o ymdeimlad a Mr a Mrs Jarret Davies yn eu profedigaeth o golli ei mham. Nos Sadwrn, yn y Neuadd Drefol, cynhal- iwyd Cyngherdd rhagorol dan lywyddiaeth Mr Owen Jones, Church Street, yn absenoldeb Dr Hughes. Arweiniwyd gan Mr Thomas H. Jones. Cafwyd agoriad gan y Band adrodd- iad gan Mr Thomas Owen unawd, Ar y traeth," gan Miss Griffiths, Talsarnau; unawd gan Mr John Lloyd, Treijiadoc; deuawd gan Miss A. E. Davies, Penrhyn, a Miss Griffiths, a bu raid iddynt ail ganu cafwyd dadl ddydd- crol ar "Pa fath ddyoion a wnant wvr goreu," gaa Miss Griffith a Miss Jones, Minffordd; unawd, "Y nyth a'r aderyn," gan Miss Davies; unawd gan Mr Mariner, Ceinewydd anerch- iad gan y Llywydd unawd, Tit for Tat," gan Miss Griffith; adroddiad gan Mr T. H. Jones; can gan barti 0 ferched, Tra bo dau" unawd gan Mr Mariner; unawd, Cenwch imi yr hen ganiadau," gan Mrs Hart Williams can gan barti 0 ferched, a bu raid iddynt ail ganu unawd gan Mr John Lloyd. Rhoddwyd diolchiadau gan Mr Owen Jones a Mr Wm. Jones, Ty Fry. Diweddwyd y Cyngerdd trwy i Gor Mr John Roberts ganu Pa fodd y glanha llanc ei lwybr." Yr elvV er cynorthwyo Mr John Evans, High Street. Boreu dydd Iau, bu farw Mrs Ellen Davies, Osmond Terrace, priod Mr John Davies (Crydd). Daeth y diwedd yn sydyn, wedi cystudd byr, ond caled. Claddwyd ddydd LIun yn mynwent yr Eglwys. Gwasanaeth- wyd wrth y ty gan y Parch Morton Roberts (W.), ac yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y Parch J. Hughes, Vicar. Cydymdeimlir a'r teulu oil yn eu profedigaeth fawr. [Dymunir ar i'r papyrau Americanaidd gofnodi yr uchod] —Boreu Sadwrn, bu farw Mr Edward Evans, Sardis, yn 58 mlwydd oed. Bu am flynydd- oedd yn N gwallgofdy Dinbych, ac yr oedd wedi dod gartref er's tro, ac yr oedd yn mwyn- hau iechyd gweddol hyd yn ddiweddar. Cladd- wyd dydd Mawrth yn mynwent yr Eglwys. Gwasanaethwyd gan y Parch J. Hughes, Vicar. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. Yn sydyn ddydd Iau bu farw ceffyl Mr Robert Lloyd, Cariwr, Penlan, Cafodr3 golled fawr, Mae cydymdeimlad yr ardal yn fawr ag ef yn ei golled, ac oberwydd y gwaeledd mawr sydd yn y teulu. Da genym fod symud- iad ar droed i wneuthur rhywbeth i'w gynorth- wyo yn y cyfwng yma Yn y Deml, nos Wener, dan lywyddiaeth y Prif Demlydd, Mr J. Moses Jones, cafwyd gan Mr Thomas Evans, Penlan, Hanes ei daith i'r Aipht." Cafwyd gair gan amryw, a chafwyd cyfarfod dyddorol, Dewisiwyd aelodau ych- wanegol ar Bwyllgor y Llyfrgell. Boreu Mawrth, derbyniodd Mr. John Parry Jones, Penlan, y rhodd haelionus 0 /30 oddi- wrth Mr. Davies, Llandinam, tuag at yr achos yn y Fron (M c ). Nos Fawrtb, cynhaliwyd Cwrdd Plwyf blynyddcl y Penrhyn yn y Neuadd Drefol, dan lywyddiaeth Mr. Joseph Humphreys, Llywydd y Cyngor P!wyf. Darllenodd y Clerc, Mr. John Jones, London House, y cofnodion, a phasiwyd hwy, YIH darllenodd ycyfrif arianol, ac yr oedd yn weddill wedi talu yr boll dreuliau £ 9 4s. 2c Yr oeddynt wedi en harchwilio gan Mr. Morris Roberts, Pensarn, Pasiwyd i'w derbyn. Cafwyd adolygiad ar waith y Cynghor gan y llywydd. Aed trwy raglen fsith; cynifer ag ugain-o wahanol bethau ag oedd y Cynghor wedi bod yn ceis'o eu gwneyd a'u gwelia, sc wedi llwyddo gyda rhai pethau, sc amryw bethau eraill ar eu canol, fel ag y mae gwaith mawr yn aros y Cyngor newydd. Cyfeiriwyd at yr Hall wedi ei gwneyd i fyny, a holl swm y draul ydoedd £21 14s, 3c. Fe dderbymwyri trwy ei gosod i wa-hanal gyfar- fodydd [10 14s. a bod Mr. John Wiiiiams, School Street, i ofalu am daci. Yr oedd eisiau dewis dau Warcheidwad. Gofynodd y llywydd pa gynilun oeddynt am ei gvnier,l,d i'w dewis, a ph ;siwyd wedi amryw o gynygton i'w dewb yn y cvf»rfod, ac i'r rsifer fyddai yn barod i sefyli fyned o flaen y cyfarfod, ac yna ceisio dewis dau o honynt Enwyd 10, ond fe wlthodai4 i'w henwau gsel eu rhci i'r cyfarfod, ac yr cedd un o'r chwech arall yn anmharod i foddloni i lais y cyfarfod. Yr oedd teimlad cryf yn v cyfarfod i geisio osgoi Etboliad os .yn bosib!, thag ychwanegu costnu ar ad eg mor wasgeriig, Pasiwyd i gaol "Test Ballot" nos Sadwrn, y 19eg cyfisol, saf dydd y "Nomination," a bod Mri. Bennett Jones, Joseph Humphreys, IJewelyn Williams. John Jones (clerk), i ofalu am y "Test Ballot," a bod yr hall ymgeiswyr fyddai yn caei eu nominatio i gyfarfod y pedwar uchod yn y Neuadd Drefol j nos Iau cyn dydd y Ballot," fel ag i geisio cael yr holl ymgeiswyr i foddloni i'r Ballot."
Marwolaeth Mrs. Elizabeth…
Marwolaeth Mrs. Elizabeth Jones: FrOndejg. Blaenau Ffestiniog. Y mae yn brudd iawn genym gofnodi marwolaeth y wraig ragorol Mrs, Elizabeth Jones, pried Mr. John Jones, Frondeg, Blaenau Ffestiniog (gynt, Ysgoldy. Tanygrisiau). Cymerwyd hi ymaith pan ydoedd bron yn ngolwg ei phedwar ufrain mlwydd oed, wedi bod yn briod am dras 53 o flynyddoedd. Ganwyd hi yn Mhant Mawr, Harlech, a daeth v teuln i fyw i ardal y Rhiw pan ydoedd hi tua 7 mlwydd oed. Merch ydoedd i'r diweddar Owen Williams, hen flaenor ffyddlawn gyda'r Bedyddwyr Albanaidd. Derbyniwyd hi ynaelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd pan ydoedd tuag 21 oed, a bedydd- iwyd hi gan y Parch. Edward Morgan, y Dyffryn.-gwr yr oedd ei goffa yn anwyl iawn ganddi. Aeth amryw o blant vr Owen Williams a enwyd i'r America-Griffith Owen Williams, Fairhaven, ac Owen Williams, Pensylvania, a Mrs. Moses 0, Evans, Vermont. Erbyn hyn y Mrs. Evans uchod yw yr unig un sydd yn aros. Bu i Mrs. Jones un-a'r-ddeg o blant. Yr oedd wyth ohonynt wedi ei rhagflaenu i'r byd a bery byth. Merch iddi hi oedd Mrs. William Hughes, Peniel, gymerwyd ymaith rai blynyddoedd yn ol. Gwryig ieuanc ragorol yn mhob ystyr. Hefyd merch iddi hi oedd Miss- Janet Jones, fu farw flwyddyn yn ol—un loew ivwn yn ei holl ragoriaethau. Nid oes ond tri o'r plant yn aros-Mrs. Lloyd, Glyndyfrdwy, Mrs. Rolant Edwards, Liverpool, a Mrs. Owen W. Jones, Neenah, Wis, America. Yr oedd Mrs. Jones yn aelod yn eglwys y Tabernacl, .,n un o'r aelodau ffyddlonaf a rhagoraf yn i! jb ystyr. Cadwodd hi a'i phriod aelwyd {oew ac anrhydeddus iawn am dros 53 0 flynydd- oedd. Ni cbaed amgenach aelwyd yn y fro. Yr oedd Mrs. Jones yn wraig oleuedig, synwyr- lawn, ac ol dygiad i fyny da arnt. Yr oedd llawer o Buritaniaeth iach yn ei hysbryd—yr oedd yn groew iawn ei lleferydd yn erbyn pob ysgafnder a gwagedd. ac yn dwyn mawr sel dros grefydd bur. Yr -oedd yn wraig ofalus, drefnus iawn gyda'i hamgylchiadau tymhorol, ac yn Hawn mor ofalus gydag achos crefydd. Prin y collodd fis erioed heb ofalu fod ei chasgliad misol yn cael ei dalu. Rhoddai yn gyson a rhoddai yn hael. Bu yn ffyddlon iawn i foddion Gras. Daeth i'r Capel lawer gwaith dtwy lawer o anhawsder oherwydd llesgedd iechyd. Er ei bod, er's blynyddoedd, ar adegau yn llesg ei hiechvd. daeth y diwedd, i fesur yn ddisymwtb. Yr oedd yn y Cyfarfod- ydd Gweddio wythnos gyntaf y lfwyddyn. Nid oes amheuaeth nad oedd marw yn elw iddi; a diau iddi gael mynediad helaeth i mewn i'r gwynfyd pell. Llwybr gwyn oedd ei bywyd ar ei hyd. Bu yn garedig iawn i'w haelwyd ei hun. Bu yn garedig iawn i achos crefydd, a tbrwy yr oil bu yn llawn caredigiwydd i'w Gvtaredwr. Huned yn dawel, fel un a ragor- olion y ddaear, Y mae ein cydymdeimlad yn fawr a Mr. John Jones yn ei unigedd. eto Did yw efe yn unig. Nid oes neb ar wyneb daear a chanddo gwmni gweli. Caded ef3 ar plant sydd yn weddill ar teulu oil flas newydd ar y cwmni hwnw yn yr amgylchiad hwn, a nawdd y nef fo'n aros drostynt.—CYFAILL.
-TORONTO, CANADA.
TORONTO, CANADA. Nos Safebotb, Chwefror 6ad, cawsom Gyfar- fod arbenig i sefydlu eglwys anenwadol yn ein mysg fel Cymru ar wasgar. Arweiniwyd y cyfarfod gan ein hanwyl frawd Mr. David Williams, Pears 'Avenue, mewn iiawn ysbryd a theimlad. Cawsom afael neillduol i ddechreu trwy ganu hen emynau anwyl, teimlo fod Ysbryd y Duw byw yn rhedeg trwy y He yn Temperance Hail, Bathurst Street, Yn ein hanerch daeth Dr. Thomas o Crirnsby, peHder ffordd.- Cymro o Ddehaudir Cymru ydyw y Parch. Dr. Thomas, ond wedi dod allan i'r wlad hon er's llawer blwyddyn, ac wedi bod yn Weinidog am dros ugain mlynedd ar eglwys Bedyddwyr Seisnig Jaivis Street, Toronto. Nid oedd yn gailu ein hanerch yn Gymraeg, ond diolcb fod yr hen Ysbryd Cymraeg yn fyw iawn ynddo. Cymerodd ei destyn yn fwyaf arbenig Gweithiwch allan iachawdwriaeth eich hunain." .Rboddodd anerchiad rhagorol. Yn dilyn cododd 30 ohonom ar ein traed, i ddanglJls ein bod yn barod i weithio. Canodd yr Ysgrifenydd, Ap Gelert Hapus Ddydd," a phawb yn uno yn y Cydgan yn ardde chog. Cafwyd gan Mr. Potts anerchiad yn addaw rhoddi pob cymhorth. Siaradwyd yn mhellacbi gan Mr. O. M. Wiiiiams, George Street, ei Hatolygwr, am i ni gofio mae dechrau gwaith oeddym, ac yn gobeitoio y cawn ,ymborth,gan Dr. Thomag i symud yn miaen, Er dirfawr syndod i lawer dywaded.d y Llywydd fod y clock yn dweyd fod amser diweddu wedi dod, yr oedd wedi naw o'r gloch. Ond csnasomr ac offrymwyd y weddi gan y Parch Dr Thomas. Mi fuasem fel Cymry ar wasgar yn teimlo yn dra diolchgar amgael rhyw air o anogaeth oddiwrth Cynghrair Eglwysi Rhyddion. Yr ydym fel defaid ar wasgar yn y fan hOIl. Ni dderbyniasom cymaim a gair oddi wrth Cynghrair Eglwysi Rhyddion neu rhyw Cynghrair arall. Mae yma ohonom pob plaid ac enwad. Ai tvbed nad ydym ri yma yn wirth edrve h [Or till ho;¡,u? Ond. diolch fod un rr,,A: y n alr no Cycgbrair yn gofalu am danom, sef, yr hwn sydd yn ein gwylied ar bob Haw. Ml fyddce: Cyfufod yn ei gwmni ya Bathiitst Street li&wer nos S«bboth yn feodigeafg. Y mae yma amryw wedi troi eu ond diolch fod Duw yn arcs yn ein mysg. dyna sydd aruom eisiau i ofalu am braidd y Bugail Da. Yr ydym yn teimlo ein bod wedi symud cam pwysig iawn, Gobeithio y bydd llwyddiant yn d|lyri. Mi gredaf ond i ni fod ya uafrydol y bydd llwyddiant ar eia hachos bach di-sylw. —AP GELERT. A A A A
Advertising
v VVVVV VVVVVVV"VV" FFAITH.—Nid oes unrhyw Optician yn y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau owch sr ol pasta Arholladau mewn Profi y Golwg, Sc., na Mr. Hugh Jones, Med- [ ical Hall, Blaenau Festiniog.