Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I. NODIADAU WYTHNOSOLI

BETH SY'N DEBYGOL.I

V DDAU, ETHOLfflD.I

I Y CANGHELLOR A THlODI.,*

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Y CANGHELLOR A THlODI. O'r braidd yr el wythnos heibio heb i ni gael achos i gyfeirio fwy nag unwaith at Mr. Lloyd George. Nid oes modd peidio gan mor amlwg y saif, a chan mor fawr ydyw'r lie a leinw ym mywyd cyhoeddus y deyrnas, a'r gwaith a wna mor egniol ac effeithiol. Nos Lun diw- eddaf bu yn anerch cyfarfod a gynhal- iwyd yn y City Temple ynglyn a'r Cyngrair Cristionogol Rhyddfrydig a sefydlwyd yn ddiweddar gan y Parch. R. J, Campbell. Sylwer ar y gwahan- iaeth rhwng "Rhyddfrydig"—gair nad oes sawr plaid boliticaidd arno-a Rhyddfrydol." Yr oedd a wnelai gol- ygiadau duwinyddol Mr Campbell lawn gymaint-a mwy hefyd-a ffurfiad y Cyngrair yma nag oedd a wnelai ei sel dros Sosialaeth, Pan wybyddwyd ei fod wedi cael addewid gan y Canghellor i anerch cyfarfod ynglyn a'r Cyngrair brysiodd rhai i fwrw fod ein cydwladwr hoff yn cytuno neu yn cydymdeimlo i ryw fesur, beth bynag, a golygiadau duwinyddol Mr Campbell. Dichon ei fod; dichon nad yw. Nid oes yn ei araeth air a ddyry i neb wybodaeth ar y pen yna. Tlodi oedd testyn yr araeth Yn gymaint a bod tlodi mawr yn y gwledydd sydd yn glynu wrth ddiffyn- dollaeth a thlodi mawr yn Mhrydain, cartref Masnach Rydd, daliodd Mr Lloyd George ar y ftaith nad yw tlodi yn codi o'r naill na'r Hall o honynt. Ni chaniata gofod i ni fanylu ar ei araeth ragorol iawn, a rhaid i ni ymfoddloni ar ddywedyd ei fod yn/ priodoli y tlodi anaele sydd yn ein gwlad i'n cyfundrefn dirol, i ddjogi cyfoethogion yn ogystal a llawer o'r werin, ac i ddiffyg darbodaeth ynghyd a gwastraff. Dywedodd fod yr amser wedi dyfod i ni edrych yng ngwyneb cyflwr cymdeithasol y bobl ac ymroddi i'r gwaith o ad-drefnu cym- deithas i fesur helaeth iawn, a dywedodd mai niwed a dinystr yn unig a ddichoQ ddeilliaw o oedi gwneyd y gwaith ang. enrheidiol am ei fod yn fawr ac anhawdd Wedi darllen ei araeth, credwn fod y Canghellor yn well ac anrhaethipl ddoVthach Sosialydd na miloedd o'r rhai a alwant eu hunain yn Sosialwyr ac a ddrygant achos rhagorol trwy draethu ffolineb sydd yn dyrchrynu llawer o bobl ddiniwed.

RHYFYG NID GWROLDEB.--