Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HARLECH A'l OLEU. I

MASNACH RYDD: PA BETH YW,I…

ADQCFION ..DYDDOROL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADQCFION DYDDOROL. Parha Plenydd i dynu'r trysorau o "Gell y Cof" yc y rhifyn diweddaf o'r Geninen, Bydd y difyniad a ganlyn o ddyddordeb mawr yn y cylch yma:- Nid gweddu3 feallai groniclo gormod o ddigwyddiadau y cyfnod, ac gtto daw i'r cof rai pethau ântar ddifancoll dni wneir hyny. Yr Uwch Demi gyntaf yn Ffestiniog a adawodd yr argraff ddyfnaf ar fy nghof. O! y llu o hen frodarion anwyl oeddynt yn perthyn iddi, ac yn teimlo yn gynes ati, y pryd hwnw Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ynglyn a'r eisteddiad yn nghapel mawr Tanygrisiau mae gofal yr hybarch ddiweddar S. Owen-gwr y gwnaeth y Nefoedd ei dalcen megys dur i wynebu rhwystrau, gwrthwyneb- iadau, a difrawder. Yr oedd yr ymladdwr gonest yn y llysoedd gwladol; ac ni adawai gareg heb ei tbroi: cleddyf llym deufin fyddai ei eiriau. Beth bynag gymerai ef mewn llaw- cau y Tafarnau ar y Sul," "Local Option," neu arall, elai ati galoin ^ac enaid. Yr oedd ei arabedd yn orchfygol ar brydiau. Pan gyda'n gilydd yn Bethesda, Ffestiniog, ar y Sul, un tro, yn cadw cyfarfod dirwestol am bump o'r gloch, a'r hen wron cywir a debeuig. Mr Robert Jones ("Yr hen Gaeclyd," fel eu hadwaenir), yn y gadair, dechrauodd Samuel Owen siarad, ac aeth i'r hwyl, a thros ei ben i bwnc y Local Option; a gwaeddodd. Rhaid ini gael yr hawl i gau y tafarnau i'n dwylo ein hunain:" acmeddai yn mhellach, "Yroedd Dafydd Dafis o Gywarch yn pregethu unwaith am y tad elai a'i fab at yr Iesu i fwrw cythreuliaid ohono ac wrth ymdaith yno, mi greda i, ebki Dafydd Dafis, machgen i. Caet ti 'madael a rhai or cythreuliaid yna mi laciet beth. Felly ninau, ebai Samuel Owen, caem ninau 'madael a rhai o'r tafarnau yma mi lacien beth. Ond yn nghapel Tanygrisiau nos yr Uwch Deml yr oeddym, fe gofir: noson rhyfedd oedd y noswaith hono,; brwdaniaeth goreu Ffestiniog lond yr awyr. Yn y set fawr vn mhlith llu yr oedd Yr Hen Sir," fel ei hadnabyddid ef, sef William Williams y Blaenor. Ar y gadair dØe i'r pwlpud eisteddai Thomas Jones y Rhosydd (tad y dynion clodwiw, Dr Jones, Harlech; a Thomas Humphrey Jones, Liscard): efe y dyn mwyaf neillduol yn yr holl le, mi gredaf, y noswaith hono. Ei fafr hirllaes; ei lygaid treiddgar, nofiadwy; a chroen ei wyneb is y llygaid. megys ystorfeydd arabedd o bob natur, melus a chwerw, hyfryd a gerwin a'i gwnelai yn un o'r cymeriadau mwyaf dyddorol ac arbenig yn Meirion. Cefais y fraint o siarad yn y cyfarfod hwttw o flaen gweinidog o'r sir, y diweddar Barchedig David Jones, Llanbedr gynt (y, Garreg Ddu wedi hyny)—gwr a berchid" yn fawr. Eiddil, llawn ofnau, y teimlwn fy hunan y noson hono ofn y bobl, ofn yr araeth, ac ofn Thomas Jones yn fwy nEA'r,, cyfan. Digwyddodd mai rhediad dipyn yn dyner gymerais yn fy anetrhiad ac wrth wneyd apel am gynorthwy yr hen bobl defnyddiais air fy nain am Demlyddiaeth Dda, a chymwysais Thf Campbells are Coming at yr amgylchiaid, Gwelwn ddwylaw Thomas Jones i fyny; ac meddai dros y He, Clyw di, 'Rhen Sir, dydu nhw ddim am neud hebddo ni, weldi." Chwysais gan fraw; canys ni welswn y gwr erioed hyd y nos hono-dim ond clywed am dano. Dilynwyd fi gan David Jones mewn araeth ddifrifol; a thueddai i fod braidd yn ymosodol, am na ddelai veterans fr hen Ddirwest yn mlaen i'n cynorthwyo yn fwy selog. Eisteddwn yn awr yn y set fawr gyferbyn a Thomas Jones, yr hwn, o dan athrawiaeth lem David Jones, a ddechreuodd dynu ei fysedd hirion megys crib bras drwy ei fafr hirllaes, gan ymddangos braidd yn anfoddog. Ar y terfyn cododd y Parch Samuel Owen, y cadeirydd, a gofynodd i Thomas Jones gynyg diolchgarwch i'r areithwyr. Daeth i fyny yn sydyn ddigon a llygadai arnaf finau nes gyru iasau ofnus ?  drwof; ac meddai wrthyf, Macbgen anwyl i, mi gaet hancas wen gen i heno a throes at Samuel Owen, ac ymaflodd yn ei wallt du crychlyd; a chan ysgytian ei ben dywedodd, "Yn gae o, yr hen grych ?'' Credais ei fod wedi colli ei ben—ac yn andwyo pen Samuel Owen hefyd. Yr oedd y gynulieidfa wedi llwyr ymgolli mewn afiaeth a gorfoledd chwareus. Esboniai y cadeirydd yn y ty capel yr amgylchiad-mai dull yr hen law o ddweyd mai genyf ft y dylasai y cadach gwyn fod, ac nid gan David Jones; yr hwn, mae'n amlwg, a'i digiodd wrth fod yn rhy lawdrwm ar yr hen bobl. Vwch Deml ryfedd oedd hono :-ugeiniau o feddwon diwygiedig yn dilyn gorymdeithiau, a gwyr blaenaf Gogledd a Deheu Cymru yn gwneyd i fynu yr eistedd- iadau. Cariwyd brwdfrydedd Ffestidiog drwy Gymru o'r Uwch Demi hono. Glania hyn fy meddwl yn awr yn nghapel Harlech, mewn cyfarfod Undeb Temlyddiaeth Dda a Chymanfa Ddirwestol y Sir. Saif Meirion, ar lawer ystyr, ar y blaen mewn dirwest o holl sifoedd Cymru, a bu yn galon yr achos yn boliticaidd yn gystal ag yn y canghenau eraill. Peth arall yn hanes y sir hon hyd hed4yw ydyw, y daw mwy o bregeth- wyr a diaconiaid o bob enwad i'r gwyliau dirwestol na'r un sir arall, hyd y gwelais i: a godidog o beth yw yr olwg ar haner llond capel o arweinwyr crefyddol o ddifri am sobri eu gwlad. Yn y cyfarfod uchod yn Harlech, 35ain mlynedd yn ol, y digwyddodd yr hyn a ganlynNos cyn y gymanfa yr oedd y capel yn orlawn a'r set fawr o dan ei sang o bregethwyr. Yn nghanol y dyrfa eisteddai hen gymeriad hynod o'r enw Griffith Pugh, o Dowyn Meirionydd un arall o hen garchar- orion y ddiod gref, ond wedi cael tro gwirioneddol. Cyn diwedd y cyfarfod galwodd y cadeirydd am air gan Griffith Pugh. Codai yntau yn araf: ac yn ei ddillad ffustian llwyd symudai yn bwyllog tua'r set fawr: wedi cyrhae4d safai yn syn am foment neu ddwy a'i ddagrau yn treiglo; ac meddai, Pwy feddyliodd erioed y gwelsid Guto'r Tywyn yn nghanol pregethwrs fel hyn. Mi ddarllenais i, y dydd o'r blaen, hanes Gloptra I yna sydd yn Llnndain; [y Cleopatra's Needle feddyliai] a deud y mae nhw mai rhyw engineer mawr aeth i brocio'r tywod yn yr Aifft draw ryw dro, ac mi dinciodd yr hen Gloptra;' a wedyn mi dorwyd sianel atti, a daeth y dwr i mewn a rhyw ddiwrnod dyma stemar fach yn nofio i fynu atti; a chydiodd yn mhen yr ben Gloptra, ac mi sythodd hi ond 'roedd y stemar fach yn rhy wan i dderbyn yr hen gareg ar ei bwrdd: ond yn mhen dipyn dyma stemar fawr i fynu y sianei; ac fe rowd yr hen 'Gloptra' yn safe ar fwrdd hono; a dowd a hi drosodd i Lunden a dyna lie mae hi, medde nhw, ar ei cholyn yn canmol yr engineer ddaeth o hyd iddi yn y tywod." Yna dechreuodd wylo drachefn, a gwaeddodd, Pan oedd Guto'r Tywyn yn ngwlad yr hen Aifft feddwol, mhobl i, ryw ddiwrnod mi ddaeth Engineer mawr y Cyfamod Gras heibio i brocio'r tywpd, ac mi dinciodd yr hen Guto; a dyma stemar fach Temlyddiaeth atto fo mi 'nionodd o dipyn ond yr oedd hi yn rhy wan i gymryd yr hen vputo, er gwaethed oedd o, ar ei bwrdd. Ond rhyw nos Sul, yn y capel Methodus acw, dyma stemar fawr yr Iachawdwriaeth i mewn, ac mi haliwyd Guto ar ffwrdd hono: ac ar y fordaith map o rwan: ac os bvddwch chwi yn y Nefoedd, bobl, yn y Brif Ddinas mi gwewch chi weld yr hen Gloptra yma yno yn canmol yr Engineer ddaeth o hyd iddo yn y tywod." Tyrfa yn wlyb o ddagrau oedd tyrfa y noson hono.

Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans,I…

- - - - - - - - - - - - PENRHYNDEUDRAETH.…

[ LLANRWST.

Family Notices