Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

BRAWDLYS MOM AC ARFON. I

F,Pwyllgor Cylchwyl Gerddorol…

VWVVVVVVVVvvvvvvvvvvvvvvvvv…

Helynt Chwarel Gorddinen,I…

LLANFROTHEN.I

Cyngaws Lianrws -

Cyfarfod -Misol Qorllewin…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Misol Qorllewin hleirion. I Cynhaliwyd- Cyfarfod Misol Methodistiaid GorllewinMeirion ddydd Iau a dydd Mawrth, yn Aberdyfi, dan lywyddiaeth y Parch David Hughes, Trawsfynydd. Yr Ysgrifenydd oedd y Parck D. James, Llanegryn.-Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf boreu ddydd LInn. Ymddi- ddanwyd ar swyddogion yr eglwysi Cymraeg a Saesneg, ac ar hanes yr eglwys yn y lie, dan arweiniad y Parch E. J. Evans, Nazareth, a hanes yr achos yn y ddau le dan arweiniad Mr Meyrick Roberts, Towyn.-Amlygwyd i ad- fcyweiriadau yn nghapel Cymraeg Aberdyfi yn ngbyda'r organggostiodd £ 1,500, a bod J916 wedi eu talu.-Caed coflhad am y diweddar Mr Evan James, Pennal, a Mr Evab Jones, Arthog.—Gohiriwyd coffhad am Mr Robert Roberts, Pennal, byd y C.M. nesaf.—Yn nghyf- arfod y prydnawn, darHenwyd papyr gan y Parch E. Jones Edwards, Arthog, ar Lawen- ydd Ysbrydol." Siaradwyd yn mhellach ar y mater gan y Parch J.'H. Symonds,-Yna aed yn mlaen i ymddiddan a'r pregethwyr ieuanc yn yr ysgolion a'r athrofeydd. Darllenodd yr ysgrifenydd lythyrau oddiwrth ddau efrydydd o'r Bala yn methu bod yn bresenol yn y C. M. oherwydd y golygai hyny fwy o gost nag y gallant fforddio. Yr oedd chwech o efrydwyr yn bresenol, rhai o'r Bala a rhai o Aberystwyth. Eglurodd Mr William Jones dros eglwys Aberdyfi nad oeddynt yn disgwyl i'r efrydwyr ddod os nad oedd yn gyfleus iddynt. Yr oeddynt yn foddlon os yr oedd ganddyht esgus digonol,—Yn absenoldeb y Parch W. M. Griffith, MA., Dyffryn, ym- ddiidanodd y Parch R. R. Williams a'r efrjfclwyr, a chafwyd gair o brofiad gan bo b un.—Diolchwyd i Mr William Williams gan y Parch Gwynoro Davies, a rhoddodd air o gynghor i'r efrydwyr. Yna galwyd enwau'r eglwysi.

Advertising