Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
(byfeirier y Farddoniaeth i Eifiooyda, Caernarfon.)
[No title]
Yr oedd morwyn yn Llundain yn chwyrnu cymaint fel na allai ei chyd-forwynion gysgu. Aethant i gwyno wrth eu meistres, a t-hro- wyd ymaith yr un oedd yn chwyrnu. Rhodd- wyd y feistres yn y ewrt bach am gael cyflog yn He rhybudd, ond rhoddwyd dyfarniad o blaid y feistres. Oherwydd y son fod rhyfel i dori aUtm rhwng yr Unol Daleithiau a'r Hispaen,ac ofn i I rn g j y wl? olaf danbelenu'r trefi ar lan y mor yn yr America, y mae lluaws o dai yn. yr ymdrochleoedd ar yr arfordiroedd yn wag.
GWEDI BRAD A GOFII) II
GWEDI BRAD A GOFII) II i GAN T. GWYNN JONES, DINBYCH. PENNOD XXIV.—Parkad. I Daliodd Myfanwy ei hanadl tra gwrandawai am atteb ei thad, ac attebodd Mr. Bowen gan dyngu a tharawo'r bwrdd nes oedd y gwydrau yn dawnsio,— Ydi'r syniad ene byth wedi mynd o'ch pen chi ? "Nac ydi, a 'deiff o ddim," oedd yr atteb cwtta, didaro. Ba ennyd o ddistawrwydd; yr oedd yn eglur fod Mr. Bowen yn petruso drachefn. Ni wyddai Myfanwy o'r blaen fod Frank a'i fryd ar ei chaol hi yn wraig iddo 'i hun, er y sylwasai lawer gwaith ei fod yn talurhyw fath o,siddi bob Go y doi efe i Dan y Bryn. Ni wyddai hi na'i mam pwy oedd Frank, amgen na'i fod yn un o gyfeillion ei thad, a phan ddeallodd hi fod ar ei thad ddyled o bum' cant o bunnau iddo, a'i fod yntau yn defnyddio ei ddylanwad i geisio ei chael hi i'w feddiant, suddodd ei chalon, a bu agos iddi weiddi dros y lie, ond cofiodd fod ei thad heb atteb etto, a gwrandawodd. "Wel," meddai Mr. Bowen, ac yna bu'n ddistaw am beth amser. Fedra i ddim gorfodi'r eneth i gymryd y rhwfun f/nna i." Twt! ebai Frank, 'dydech chi ddim wedi byw i'r oed yna heb wybod fod yn bossib i ddyn wneyd fel y mynno fo hefo merched o fath Mrs. Bowen a'i merch. Rwan, ydi hi'u fargen ai nag ydi ? Cofiwch fod dwy ochr i'r ddalen, ac na fyddoch chi 'eh hun ddim ar y'ch colled. Rwan"* Curai calon Myfanwy mor uchel fel yr ofnai i'r ddau glywed ei swn, ac aeth yn ddiymwybod pan glywodd hi atteb ¡ reulon ei thad,- Bargen Gorffennodd y ddau ddyn yfed y chwisgi mewn distaw- rwrdd ac yna euthant allan o'r ystafell yn drystlyd ag afrosgo yr oedd y gwirod yn dechse cael effaith. Cyn gynted ae y cafodd hi'r lle'n glir, cododd Myfanwy oddiar y sofa, a chan ddianc yn ddistfiw i'w llofft, gorweddodd ar ei gwely ae wylodd yn dorcalonnus. Yn y cyfamser, euthai Mr. Bowen a'i gyfaill i'r gegin, lie gwnai'r ddau ar y mwyaf o drwst, a chlywedd Mrs. Tomos hwy, a daeth i lawr. Gyda fod Mrs.: Tomos yn y gegin, edrycbodd Mr. Bowen yn graff arni am eiliad neu ddau, ond troeB yn sydyn a gofynnodd yn lied sarug iddi pwy oedd hi. Eglurodd Mra. Tomos yr amgylchiadau, a I lied awgrymodd y blasailn weddus i'r daau foneddwr gadw Uai o swn gan lod Mrs. Bowen mor sal. Gorcl.mynnodd Frank i Mrs. Tomos fynd i fangre dra phoeth rhag blaen, a decbreuodd ganu rhyw hen faled Seisnig uiiafat, ond yr oedd Mr. Bowen, er ei fod wedi yfed Hawn cynjaint A'i gyfaill, yn gliriach ei ben, ac ar ol rlioi taw ar Frank drwy beth traffertb, 1 Oell Yu hynod fcefgw 16+, Mrs. lomva, a gofyanodd iddi lie j yr oedd Myfanwy. Attebodd Mrs. Tomos ma; yn y parlwr yr I oedd hi yn ol pob tebyg. I "Be, ym rnha barlwr?" ebai Mr. Bowen bruidd yn sydyn. Tn y parlwr chwith," ebai Mrs. Tomos, ac aeth Mr. Bowen tuag yno ar unwaith, ond daeth yn ei ol yn fuan, a dywedodd— Na, 'dydi hi ddim yn y parlwr. Mae'r eneth druan wedi I mynd i'w gwely, mae'n siwr. Sut mae Mrs. Bowen heno, Mrs. Tomos," ebe'r foneddiges honno. Ie, Mrs. Tomos,—sut mae Mrs. Bowen heno, ydi hi'n esmwyth, Mrs. Tomos ?" Wel, mae hi wedi cael gwell noson hyd yn hyn, syr," meddai Mrs. Tomos, ond a deyd y gwir, fmae hi reit ddrwg, mewn gwendid mawr, syr." Yr oedd Frank erbyn hyn wedi cysga, a chan droi ei olwg arno, dywedodd Mr. Bowen- "Mae'n ddrwg iawn gen i, Mrs Thomas, ynte?—na wyddwn i ddim fod Mrs. Bowen yn wael, ne mi faswn wedi ceisio dwad adre 'nghynt, ond wyddwn i ddim, ydeeh-chi'n gwel'd, a 'doeddwn i ddim wedi cofio gyrru i ddeyd lle 'roeddwn i'n mynd. Mae'n ddrwg iawn gen i hefyd y'n bod ni wedi dwad i fewn: mor hwyr beo-er yn bod ni i fewn era tippyn bellach-a bod y cyfaiU yma wedi yfed tippyn mwy nag a ddylse fo—ddaru mi ddim meddwl nes gwelis o'n de- j chre mynd. Ond 'does mo'r help, mae ychydig iawn yn gneyd 'i dro fo, gan mai pur anamal y bydd o'n yfed, ydech II r chi'n gweld. Unrhyw beth ac unrhyw help fydd amoch chi eisio, Mrs, Tomos, mi fydd i'w gaol, dim ond i chi ofyn i mi, ac yr ydw i'n siwr ar y'ch golwg chi, er y'ch bod: chi'n berffaith ddiarth i mi, y ceiff Mrs. Bowen bob chware teg gynnoch chi. Mae'n ddrwg gen i—ond 'rydw i'n y'ch cadw chi—mae'n ddrwg gen i fod y gwr boneddig yma yn y cyflwr y mae o, ond mae dyn fel fi, wyddoch, yn gorfod gneyd busnes efo pob math o bobol, ac yn wir, welis i mono fo fel hyn 'rioed o'r blaen. Mae o mewn tippyn o helynt hefo busnes, a feder pawb ohonnoru ni ddim dal profedigaeth 'r un fath, wydd- och, fel ond, mae hi'n hwyr, a waeth i mi heb y'ch cadw j chi oddiwrth Mrs. Bowen druan, a chan y'ch bod chi'n deyd 'i bod hi'n cael noson esmwythach, hwyrach mai gwell fydde i mi beidio dwad i aflonyddu tan y bore, be ydech chi, Mrs. Tomos—mi wela'ch bod chi wedi cael profiad mewn pethe fel fel hyn-be ydech chi'n feddwl ? 'Rydw i'n meddwl yr un peth a chi'n union, syr," meddai Mrs. Tomos, gan deimlo yn ei chalon ddarfod iddi wneyd cam a Mr. Bowen drwy feddwl ar y dechre ei fod yntau hefyd wedi meddwi, "mi fydde'n well peidio ationyddll arni tan y oore'n siwr. Fynuwch chi damed o rwbetb, syi- ? Ga i alw ar Jano, y forwyn ? "Na, dim, diolch yn fawr i chi, ebai Mr. Bowen, "fyn- nwn i er dim y'ch cadw chi'n hwy oddiwrth velv claf, nac ailonyddu ar Jane chwaith. Mi wnawn i'r Vo'u tiawl, Mio. I Tomof. Nos dawch, nos dawoh, ma'm." I Aeth Mrs. Bowen ymaith, a chan dynnn ei siacced, sisialai Mr. Bowen wrtho'i hun-I I Lle gwelis i'r gwyneb yna ? Dim lawer o bwys. Pryd y ca 1 wared o'r gwyneb yma—(gan edrych ar Frank)--dim llawer o bwys am hynny chwaith." Yna ymaflodd Mr. Bowen am ganol ei anwyl gyfaill, a chariodd ef yn ddidrafferth i un o'r lloStydd, taflodd ef ar wely yno, ac wedi rhoddi hulin drosto, clodd y drwa ac aeth i lawr i'r parlwr. Yno llanwodd wydryn a chwisci, taniodd ei bibell htr, a dechreuodd ysmygu'n fyfyrgar. Yr oedd erbyn hyn tua phump o'r gloch y bore, a bu Mr. Bowen wrthi'n yfed ac yn ysmoccio hyd oni tharawodd y cloc saith o'r gloch. Yna cod- odd ar ei draed, a rhoes dro oddiamgylch yr ystafell, safodd yn sydyn, a sibrydodd yn chwyrn-I I Unwaith etto!" Yr oedd ei wyneb yn welwlas a'i lygaid yn gochion fel gwaed, ond cerddai mar ddiysgog ag erioed. Safodd o flaen y drych, ac edrychai ar ei lun ei hun ynddo, aeth math o wen dros ei W/neb, a throes ar ei sawdl, ac aeth i'w wely. Cysgodd yn drwm, ac yr oedd tua hanner dydd pan ddeffrowyd ef yn sydyn gan lais Myfanwy, yr hon a gurai'r drws, ao a alwai, "Nhad!" "Nhad!" Cododd Mr. Bowen yn sydyn a gofynnodd beth oedd y matter. Brysiwch! mae mam yn darfod!" ebai Myfanwy, a thorrodd i wylo dros y ty. Gwisgodd Mr. Bowen am dano yn frysiog, edrychodd yn ofalus yn y drych, a gwelai fod ei lygaid yn gochion anghyffredin. Agorodd y drws yn ddistaw a gwrandawodd fel pe buasai'n disgwyl clywed llais rhywun. Yn y man, clywai Ddr. Dafls yn siarad a'r Parch. Rhydderch Huws. "'Roeddwn i'n meddwl," meddai wrtho 'i hun, ac aeth yn ol at y bwrdd ymdrwsio, a chan leithio 'i wyneb a dwfr o'r ddysgl ymolchi, cippiodd afael ar gadach pocced, ac aeth ym mlaen tuag ystafell ei briod. Tno safei Mrs. Tomos wrth un ochr i'r gwely a Dr. Dafis wrth yr ochr arall. Safai y Parch. Rhydderch Huws ger llaw, acyr oedd Myfanwy ar ei gliniau ar lawr a'i phen ar erchwyn y gwely yn wylo'n dorcalonnus. Ni ddywedodd neb air wrth Mr. Bowen, ond plygodd pawb eu penn au, a throisant drachefn i edrych ar Mrs. Bowen. Yr oedd swn taglyd yng ngwddf Mr. Bowen fel y dynesai at y gwely, ac edrychodd Mrs. Tomos a'r Parch. Rhydderch Huws gyda chydymdeimlad arno, ond ni choiodd Dr. Dans ei olwg oddiar y ddynes oedd ar fin marw. Safodd I Mr. Bowen gerllaw'r gwely, ac edrychodd ar ei briod mewn distawrwydd. Well i chi beidio deyd dim yrwan," sibrydai Dr. Dafis, ac yn ol pob golwg yr oedd Mrs. Bowen druan I wedi mrnd yn rhy bell i adnabod neb na dweyd gair byth mwyach. Yn y man, sut bynnag, agorodd ei llygaid, ac edrychodd yn tlinedig o'i chwmpas. Gwelodd Mr. Bowen, ond ni ddywedodd air wrtho, eithr edrychai o gwmpas yr ystafell, a cheisiai ddweyd rhywbeth. Prin yr oedd ei llais i'w glywed, ond deallodd Mrs. Tomos mai "Myfanwy" a geisiai hi sibrwd. Aeth Myfanwy at erchwyn y gwely, a llifai ei dagrau dros ei gruddiau ar wyneb gwelw ei mham. Cuodiiodd yr eueth hi yn dyner, ond daeth golwg o boeu a gofid dros wyneb Mrs. Bowen; sdrychodd ar yr oneth, ac yna ar Mr. Bowen, a sibrydodd, 11 Doyclwch, deydwch fel y bu!" Plygodd Mr. Bowen uwch ben y gwely, a dywedodd — Mae nhw wedi deyd, Gwladys bach, mae nhw wedi deyd wrtha i." Aeth Myfanwy allan o'r ystafell bron methu I ymgynnal, a dywedodd Mr. Bowen, Gwladys bach, Sarwel!" ond yr oedd llygaid Mrs. Bowen wedi cau, aeth cryndod trosti' ac yna llonyddodd yn sydyn. "Mae 'r cwbl drosodd," meddai Dr. Dafis yn drist ei wedd. Torrodd Mr. Bowen i wylo, ac arweiniodd y Parch. Rhydderch Huws ef allan o'r ystafell, ac euthant i lawr i'r parlwr.. Profedigaeth chwerw, Mr. Bowen druan," ebai 'r gweinidog, yn llawn cydymdeimlad. Ie, Mr. Huws, mae 'n anodd, yn wir mae 'n ammhosib i neb ddychmygu gymmaint o brofedigaeth ydi hyn i mi. Pettaswn i gartre, ac wedi cael oyfle i neyd rhwbeth iddi hi, cael gwyliea wrth 'i gwely hi, a helpio a chydymdeimlo gore gallwn i, mi fase 'n haws diodde 'r dyrnod. Ond dyma fi, 'roedd hi 'n hwyr iawn neithiwr pan fedris i gyrredd adre, 'roedd Mrs. Tomos, ie,roedd Mrs. Tomos yn deyd 'i bod hi 'n dippyn esmwythach, ac yn meddwl y base well peidio 'i hanonyddu hi tan y bore. Mi es inne i geisio gorSwyso tippyn. ond fel y gallwch chi feddwl, ddoi geisio ddim, ac 'roedd hi 'n fore glan pan gysgais i, a'r canlyniad fu na ches i ddeyd gair wrthi hi ond yr hyn a glywsoch chi, ac wedyn, attebodd hi ddim! Cuddiodd Mr. Bowen ei wynob a'i ddwylaw, ac edrychai r gweinidog arno 'n bruddaidd, a dagrau yn ei lygaid. vVel, Mr. Bowen bach," meddai 'r gwr parchedig yn y man, "peidiweh a rhoi ffordd i ormod tristweh; ceisiwsh ymorffwys ar yr Arglwydd, a deyd, Dy ewyllys Di a wneler. Y Fo, fel y gwyddoch chi, frawd anwyl, wyr beth sy ore ar y 'n cyfer ni yn y byd yma, a'n dyledswydd ni ydi ceisio ymfoddloni i'w ewyllys Ef, er mor galed ydi hynny n amal. "Ie, diolch ichi am y'ch cydymdeimlad, Mr Huws," meddai Mr Bowen yn ddrylliog, heb dynu ei ddwylaw oddiar ei wyneb, 'rydw i 'n ceisio boddloni i'r drefn, ond mae'n anodd. Mi wyddoch be' ydi gofid y'ch hun, Mr Huws, ac mi fedrwch ddallt y nheindade fi, 'r ydw i'n siwr. Mi faswn yn licio treulio tippyn o amser ar ben fy hun, ac etto, rhaid I gneyd trefniade-hwyrach y byddwch chi cystal ag aros tan y I prydnawn, ne ddod yma etto, os oes rbwbeth yn galw Unrhyw beth, Mr Bowen anwyl, unrhyw bath fedra i neyd, mi g'naf o a chroeso, ac mi fydd yn dda gen i ueyd j y ngore hefyd. Mi ddof yma etto yn y prydnawn. Ceisiwoii ymgynnal,Mr Bowen bach, ac yr ydw i'n siwr y cewch chi gymmorth gan yr Hwn ay'n rheoli pob amgylchiad yn y byd j yma i'w ddibenion doeth ei hun." Ymadawodd y gweinidog, ac wedi cloi drws y parlwr arno dechreuodd Mr Bowen lwytho 'i bibell hir ac eystyn pottel < chwisci, gan sibrwd wr(ho 'i hun, Fu ond y dim!" (I barhau).
GWERTH ABIAHOL GWEITHIWR.
GWERTH ABIAHOL GWEITHIWR. Achos Dyddorol. Y mse y gweithiwr sydd aan^do iechyd da ac mawnjgwaith cysonfynjmeddii cyfalaf. Ei iechyd yw ei gyfalaf, obiegid tra yr etifedda iechyd. fe ddylai enill i y cant o log ar ddwy In o bunnau bob blwyddyn. Y mae i nerth enoilio yo golygu fod PI eiddo yn mynd yn llai ei werth. Yn hyt- raoh na bod taliadau wyttnosoi yu cael eu gwneyd, y mae yna golledion yn y Hurt o filiau meddyg. Y wae Mr Howell, 64, Norfolk street, Skerton (ebai y liSncnBter Guardian'), y.hydi^ dros ddeng mlwydd ar hugain oed, yn gadarngryf, o dulrtra ar ferol,igydag yswyddau U-ydain, 101 pe wedi arfer a gwaith owed. Fe adroddodd stori hynod ddyddorol. Hyd o fewn tair blyv- edd yn ol yr oedd yn gweithio yn y Lan- caster Waggon Works, fel bolder-up" i rhai yn taro yn adran y gofaint, tc fel y cyfsyw yr oedd yn aelod o'r Boilermaker*' Society. A beth barodd i chwi roddi i fyuy yr alwedigueth hono?" gofynai yrjvsgrifeu- ydd, gan wybod fod yr ysgrifenydd mewn gwaith yn awr YN MOWASAKAETH FFACTRI LINOIJIUM AKOLWYDD ASHTON) hyn oeddwn yn mynd i ddweyd," oedd yr atebiad. Yn Chwef- ror, 1895, cymeryd fi ju wael yn sy 1yu yn y waggon Works. Llwyddais i fyned adref «rbyn amser oinio, ond ni ellais 9yusnd ar nl hyny. Ni wyddwn beth oedd y mater amltf, ac aufonau am y meddyg. DyweJ- odd y meddyg wrthyf fy mod wedi can] clefyd crydcymalau. Bu y meddyg yu gweinyddu arnaf am fis, oed teimlwn fy hun yn mynd yn wanach wrth fyw ar lef- rith a soaa water, a thybiais yr hoffwn fymi i Ysbytty Lancashire. Cytunodd y m»1dygon y byddai yn well i mi fynd. Bum ya yr ysbytty ami bedwar mis, ac am- fonwyd fi i ysbytty Buxton, swydd Devon. Daethum yn ol, a cheuiais waith ysgafcach hyd ues yr eDillWD nertb. Fudd, bynag, gwaeth oedd y boen yn mynd, ac o'r diwedd cacthiwyd ti i'.r ty. Nis gallwn gerdded o pbI. Yr oedd fy aelodau wedi eu lliwio g-n h tions, a wadin weal en rhoi o'n ham- gylch; oiid ychydig o esmwythyd a gafais. ¥r oecd y boen yn anaioddefol. Cymer- wyd fi silwaith i'r ysbytty, i arcs lie gwag yn t st,yty Buxton. Yno yr aethum am yr Pil waith Medi 23, 1896. Bum dan drin- ilteth y taddonau dracheto, a gollyngwyd fi oddiyno Hydref 14, 1896. Hwy a rodd. asiut LOJJCI i mi yn darlunio fy sefyllfa, pan y bum adref, ao yr oedd yn ddrwg I or'fod ytgrifena heb wella.' Mi geisiais fy ii gorou. ddilyn fy ngcrchwyl, ac ni ellais ond gweithio un diwrnod adref am dden- ddydd, hyd nes yr aethum yn ddigaloo. Tybiais na ddown byth yn well, oud un d'wriiod darilenodd fy mam baragiaff yn mhapyr Lanciiatt-r am yr adferiad a roddei Dr Williams' Pink Pills for Pale People, ac a iogodd fi i roddi prawf arnynt. Ni wnaeth y blychaid cyntaf ddim lies i mi, ond mi roddais brawf ar un arall; a theim- laie yn well., Mi gymerais YI1 yr oil chwe blychaid, ao erbyn hyn yr oedd y boen wfdi diflanu. Cymerwyd un blwch arall fel finishing touch," ond yr oeddwn eisoes yn teimlo fel dyn newvdd. Y mae hyn era dros bymthecg mis. Ni theim'ais unrhyw boen er hyny, a chan fy mod wedi I myned bron drwy ddau auaf, credaf fod fy ixchad yn barhaol. Arferwn ddioddef yn ddyebrynllyd pan newi i.i y tywydd. Yr oeod fywehos yu dra adnabydrius yn Sker- ton, ao yr wyf wedi argvmhell y pelenau i lawer, y rhai a ga- sint ieshad drwyddynt. Gwnaeth Dr Will ams' Pick fills i mi yr hyi y methodd pob peth arall. Yr wyf yn p»yso 12st 81bs Yn ystod fy ngwa ledi ni phwyswn ond 8st 91bs! Cafodd y gohebydd ei foddloni fod yr hyn a adroddwyd uchod yn gywir. Y UIKe Dr W lliams' Fink Pills yo ymosod ar sylfemi afiechyd, ac yn eu diwreiddio o'r cyfansoddiad; ond er hyny nid ydynt yn ei wanychu, fel y gwna meddyginiaethau ereill. Y roaent yn ategu ac yn cryfhan y gwaed. Dyner rbeswm paham y maent Yg .7 gwella cynifer 0 afiechydon, megis t"n- eudra neu ddiffyg gwaed, crydcymaku, sciatica, cymalwst, afkchyd y galon, dar- fodedigaetb, clwyr brenin, tan iddwf, parlys, locomotor ataxy, niwrolgia, St Vitus' dance, a chur yu y pen. Y maent i'w (IW gan bob fferyllydd, a chan Dr Willigbms"gedicine Couipuny, 46, Holbom Tiaduot, London, am ls 9c y bocs, neu chwe boos am 13s 9o: ond gofaler fod yr elJw yn llawn, Dr Williauis' Pink Pills for Pale People. Nid Piik Pills a werthir yn rhydd nen mewn Ilestri g,vydr yw y Dr I Williams' Pink Pills.
A NEW L yOvADE. I
A NEW L yOvADE. I 2 GALLONS FOR 4d. ) Many people suffer from extreme thirst during the hot weather. Messrs Foster Clarke and Co. have supplied the want that has so long been felt by making a. concen- trated lemonade, which is by far more economical than the ordinary lemonade. It is made from the finest lemons, and the great advantage is that it is partly manufactured in Italy, it the midst of the lemon orchards. The lemons are taken direct from the trees to the factory to commence their transformation into the Eiffel Tower Lemonade. You can get thirty- two tumblers (or two gallons) for fourpence halfpenny. If you cannot get it from your grocer, send sixpence to G. Foster Clark and Co., No. 552, Eiffel Tower Factory, Maid- stone. Sole manufacturers of Eiffel Tower Lemonade. j
DALIER StLW. !
DALIER StLW. Dylai personau sydd yn dueddol I i anhwylderau y llygaid wybod I y gellir gwella y cyfryw gan ( Singleton's Golden Eye Oint- ment, ond rhaid i chwi edrych eich bod yn cael enaint Single- ton. Gwerthir gan fferyllwvr a'r drug stores am 2s y pot. 300 mlynedd o enw da. An- fonir llyfr bychan o werth i bob I teulu ar Sut i gadw golwg y llygaid i unrhyw gyfeiriad gan Stephen Green. 210. Lambeth <<>. i.AJfldOlL
Advertising
ALL TUDWC Y 3ILY >I I GWNEWCff EICH CORPH [)[cI'.{.'¡-l. t-. VjHUCHESSUi x BLOOD PILLS MAE HUGHE S;S BLOOD PILL& Yn Bruluu a Phuro y Gwaed, yn Cr fhau a Bheo!eiddio yr Ystum?g Yn Go?d yr AfYa ?6wn g=dO ¡)bJ:iOjfw!hn CynhYrtu i -Weithrediad yr Arenau, ya CaUrnhm y Nerves, yn Cymhell L.iW 1,3chu?l o'r Bile, J Clirio y Croen o bob nam, yn Rheoleiddio y Coluddion, ac yn Flodau Iechyd i'r Gni'1di»n. YN ATxAl, A \iI1A" l I &f?ty, Croen-doiiadm, IUB Corntcydon, Eczema, ScroMa, ? '?' F???'? ?<<), '?M-?'? HUGHES'S .A ?t-My, J!A??<?, G6e dxd Nt" BlintÚr rM?t?<<M, BLOO lel&l k'?b,-yhd, I riT=: fethiant, A- tcy Ider y Arm- P ILL c aw, Guynegon, Diffyg Trmti P I L L S Di (I ?dige,-tioi), i iowwss, ? Cen-B?e?. SYLWCH A TRADE MARK HWN- 1- SEF, LLUN I AR BOB Y GALOY BLWCH. HM HWS TWILL YDYW. Wn A. Y mae y PILLS hyn yu Gyfaddas F GWRAOEDD, ac Anmhrisiadwy i MKIBIOK I A MEBCBXS. RY maent yn iachau ar ol i bob peth anU ?S Heb oedi danfonweh am Flwch o HUGHES B.OOD PILLS. p Gweitlur hwynt gan bob Chemist a Gwerthwyr Patent Medicines am Is He, ?s 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. O. i'r GwDeuthnrwr, JACOB HUGHES, Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff, i Ar Werth yn America gan R. D. Williams, Chemist, Plymouth, Penn. z COMERS B lLM I ELI AT BOB CLWYF! GOMER'S BALM a iacha Glwyfau ar y Traed, Cluniau, Pen, Gwddf, Erysipelas, Manau Llidiog, a Digroenedd, Cornwydon Crawnllyd. GOMER'S BALM a iacha Fronau a Phen- Bronau Dolurus, Piles, Traed Chwysedig, Toriadau allan, Crach yn Mhenau a Gwyneb- au Plant, Lygriadau a Llosgiadau yn mhob rhan o'r corff. GOMER'S BALM a Iacha Ddwylaw Tor- iadol, Llygaid ac Amrantau Dolurus, Crafu, Scurvy, Gwynegon, Cymalau Poenue, Chwyddiadau, Tarwden, Malaethau, Ac. Y mae GOMER'S BALM yn hynod effeith- iol at pob math o Glefydau allanol y Corph. Rhodder prawf arno. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine, am Is lie y blwch, nea danfoner eu gwerth mewn Stamps, at y dar- gmfyddwr,- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, P:iNAnTH, CARDIFF, I. GRAMMAR SCHOOL, MENAI I BRIDGE. DUAL SCHOOL: BOARDERS AND DAY SCHOLARS. Head-Master: REV E. CYNFFIG DAVIES, M.A., L.T.S., Teacher of Elo- cution. Ladies' Schoolroom under the charge of MISS EIRENE DAVIES (Preliminary Medical Certificate). Mostly successful in coaching for Exami- nations-Medical, Pharmaceutical, the col- leges of Music,Theoretical and Instrumental, Pitman's Shorthand. For further particulars apply to REV. E. CYNFFIG DAVIES, M.A. ALLAN O'H WASti. Pris, Is. 6c. MYNYDD PARYS (GYDA R>ARLTJNIAU\* OAS Ya EENADUR 0. GRIFFITH, PENSARN. Pob archebion i'w danfon yn uniongyrchoi at yr AwdwT, HOLWYDDOEG AR l EFENGYL MARC YN HANESYDDOL,DAEARYDDOL AC ATHRAWIAETHOL. Ar gyfer pob Dosbarth. I'w gael o Swyddfa'r Genedl," Caer- narfon, a chan yr Awdwr, Parch. G. HUGHES, Penygroes. PRIS TAIR CEINIOG. Y TADAIT ANIBY-NOL.-rydd rhifyn pumed—S. R. gan y Parch Keinion Tho- mas allan o'r wasg yr wythnos hon. Hefyd ail-argraffiad o'r rhifyn cyntaf-Dr Arthur -Jones, Bangor, gan y golygydd, yr un pryd. Yr oil i'w cael o Swyddfa'r "Genedl." I ttiiiij I FOOD For INFANTS* ) INVALIDS, and THE Aos&. I Balmoral Castle, Sc&tlatvl# pt" 18<)6. "StN,- Pka^c forward to B.1{morAt Itlt oct dozeD ;;M. (*?.' 7ia? Be??< ?edf?°Ht.M.T)M ?P? :t' fiUMta, ad4ress<d to =¿:I:eeE= the bo* ordered ;rom Peterboff. Y"n trutv P COSTBB.  (Publixhsdby sftcialpermission oft** C**rt.) I &?M 7'?.'? ?/? C??? ,<atT<?<? 04
[No title]
AT Y liETRDD Kl hysbysiad yn unig y darnau Uenydtlol felly i ystyriaeth. Am cyhocddir anerchiudau priodasol, coffad- Viiaethol, rfe. \i chymer toilyngdod, y te Umu, ymofyiiev a'r cyboeddwyr.
" TltOI Y BY () YN RAMA DRISTI…
TltOI Y BY () YN RAMA DRIST I ALKE EFKMGYL IESU GRIST."— I GWILI. Pam y ccnaixt ti fel hvn I Am efengyl Itwu gwyn! Onid yw'r "ncwyddion braf" Fyth yn ngetwu'r lion a'r Onid ydyw Hwaed v Groes" | Y n sirioli canu'r oes? Pam y ceitiisf ti mor drist Am efengyl Ie'u Grist! Onid cnnu yw v reddf" Ddont hwy "fyth o'r cywair Heddi I" Ti gei wybod, pan ddoi'n hyn, Mai'r rhagrithwyr udant," ddyn! Dim ond emyn ddysgaist ti, A'r emynau mor ddi-ri ? Olli chlywaist lawen let Am Ragluniaeth fawr y Nef ?" Beth yw soiniau'r weddw dlawd, A'r amddifad llwm, di frawd, Onid canu am v wlad' Lie mae 'mhriod lie mae IN-had Fit Onid ydyw teulu'r ffydd Yn molianu nos a dydd, Nes deffroi rhosvnau pt>r, A goleuo santaidd ser. Balmio briwiau'r gweithiwr t-aer Mae efengyl Mab y Saer! Gwella hanes dynol ryw Mae Efengyl gwir Fab Duw! Mae gorfoledd ryth ynglyn Ag Efenayl 31ab y Dyn! Llawenhau v ddaear drist Mae Efencvl Iesu Grist! J. R. TRYFANWY. I
NAill CHWANEN.I
NAill CHWANEN. I [Darllen a wnaethym rywbryd mewn rhyw lyfr. nad wyf yn cofio pa lyfr, fod yn rhaid i ddyn fedru neidio tros dair milldir-ar- ddeg o bellder i gyfateb a pbellder naid chwanen, vn ol ei maint a'i nerth. Ad gofio hyni a esgorodd ar y ddau englyn a ganlyii.] Y chwanen fach ewynol,—a'i holl nawd, All neidio'naruthrol! Trydd hi filldiroodd o'i hol- Dyna liaid un hynodol! Pe'n maint dyn hydyn a hoewdeg,— a'i nwvf Un wedd yn cvdredeg, Hi neidiai yn ei hades Trwv'r ddeddf dair milltir-ar-ddeg! MEIRIADOG.
MARWOLAETH "ALA W."I
MARWOLAETH "ALA W." Plentyn bach Gwylfa, Mawrth 20, 1898 Hob dy "Alaw," heb delyn,—anedwydd Ydwyt yn y dyffryn Ac hefvd ni raid gofyn Ai gwelw oil yw y glyn. Mwy, heb boen, yma beunydd—rhyw le oer Yw'r Iwys aelwyd ddedwydd A'i cliofion hovwon newydd Yn glwyf i serch Gwylfa sydd. Ond yn ieuanc Eden Awen-y mae Merch fach y bardd addien, rweh ignocdd a thawch angen Vn Aliiw" DllW mewn nwlad wen. Bangor. ATHRON.
Advertising
Yn Rothesay anfonwvd ineistres i garchar am ddeuddeng mis am guro ei morwyn a'i rhwystro iddi fy* ned allan o r ty. Yn Rattersea bu farw tri o blunt o'r tan- iddwf ar ol cael eu buchfrechu oddiar fraich Dlontvn arall. TE Dl'LCEMOXA TE DFLCEMOXA I TEDFLCEMOXA ileuanc. Newydd. Adfywiol. Is fie i 3s y pwys gan Grocers. Dyfarnwyd dwy fedal aur anfburdeb a rhag- oroldeb. Cafodd dynes a dderbyniodd 1030 o lythyr- Su earn ac a wariodd 28p ar ei dillad priod- 88 150p o iawn oddiar un a drodd yn anffydd- Ion iddi. TE DVLCEMONA TE DrLCF31ONA TE DrLCEMOXA Ileuanc. i Newydd. A(Ifvwiol. Is oc i os y pwys gan grocers. Dywed ''The Queen": Tra rhagorol a hollol bur.
- r .- -..-__-=:::.:- . -…
r -=: IdGOFION AM JOHN ELIAS. 1 "Mewn perthynas i'r Parch John Eliaa, ni chododd yn nihlith plant gwragead ei gyff- elyb yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Bum lawer yn ei gwmni, a gwrandewais ef ynpre- gethu ddegau o weithiau ac yr wyf yn awr yn fy 85ain mlwydd, a'm cynheddfau medd- yliol mor berffaith ag oeddynt yn adeg canol oed, yn tystio nad oedd dim math 0 atal dwedyd yn anurddo ei draddodiad. Er i mi gael cyneustra i wrando y pregethwr penaf yn mhlith y Cymry, a rhai pregethwyr enwog vn mhlith y Saeson, ni chlywais neb yn mhlith y Cymry na'r Saeson a fedrai rwymo sylw ei wrandawyr, a dylanwadu arnynt, i'r graddau y medrai Mr Elias wneyd: ac yn ol fy mam ddi-duedd i, y mae yr holl bregeth- wyr enwog ereill a wrandewais yn fy oes yn sefyll amryw orsingau yn is nag ef yn mhob ystyr. Yroedd fynhad,yrhwnoeddynnai i Robert Jones, Rhoslan, wedi ei eni yn yr un flwyddyn ag ef, ac aethant i'r society eu dau yr un noswaith; a chlywais fy nhad yn adrodd llawer am dano yn yr adeg pan oedd yn gweithio ei gelfyddyd fel gwehydd yn Ynys y Pandy gyda Gruffydd Jones. Yr oedd Gruffydd Jones yn dipyn o gynghorwr, fel y gel wid dosbarth neillduol o bregethwyr y dyddiau hyny; ac yr oedd y gwehydd ieu- anc yn awyddus i fyned i deulu ag ydoedd yn grefyddol a selog gvda'r Diwygiad. Bydd- ai fy ewythr, Robert Jones, yn cynal cyfar- j fod nos yn y Gell,ger Llanystumdwy; byddai y llanc o Ynys y Pandy yn arfer myned iddo, ac yn dyfod heibio j'm tad, yr hwn a ddihang- ai gydag ef heb yn wybod i fy nain, yr hon oedd yn Eglwyswraig selog, ac yn dra gwrth-1 wynebol i'r "grefydd newydd:" ac i'r Gell Siyda'u gilydd felly yr aent; ac, fel y cry- bwyUais, ymunasant a'r seiat ill dau yr un noson. Yr oedd cryn amheuaeth yn medd- yliau yr hen frodyr Piwritanaidd yn nghylch y gwehydd ar y cyntaf, am nad oedd ei ym- ddangosiad mor bruddaidd a thrwmfrydig ag y dylasai fod, yn ot eu tyb hwy: ond pan y clywsant ef yn gweddio, toddwyd eu rhag- farn yn IIwyr, Byddai yn darllen ac yn gweddio yn yr adeg hono nes synu pawb. Yr oedd cyrchu mawr y pryd hwnw i Bron 'I y Fool, hen balasdy Syr Hywel y Fwyell gynt, yn yr hwn yr oedd neuadd fawr, hel- aeth; ae yr oedd caniatad i bob pregethwr fyddai wedi derbyn urddau Eglwys Loegr i bregethu yno, megis DanielRowland; Jones, Lhingan; Griffiths, Xefern; a Peter Wil- liams. Clywais fy nhau yn dweyd ddarfod j iddo wrando Daniel Rowland yn pre- gethu yno unwaith. Bydda i John' Elias yn dyfod yno o Ynys y Pandy, yn llafn pur ddiolwg; ac yr oedd hen wrBron y Koel yn garedig iawn yn parotoi crochan- aid 0 gawl ar gyfor y dieithriaid f?-ddent yn d?fod i'r cyfarfod; a Iwai allan, pan welai fachgen Gruffydd Sit:i—'Rhowch bicynaid o gawl i Sionvn yma,—mae o yn flFyddlon iawn.' Beth bynag oedd barn y cymydogion am y gwehydd ieuanc, yr oedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono. Hytrach yn wyl- aidd a chyndyn ydoedd ar y dechreu, i ym- gymeryd a dyledswyddau cyhoeddus. Aeth gyda Gruffydd Sion i uarn Dolbenmaen un- waith, lie y disgwylid clerigwr dieithr o'r DeheubaKh i bregethu. Wedi i Gruffydd Sion ddcchrou yr odia, a chanu drachefn,ac heb weled un argoel am y gwr dioithr, dy- wedodd Gruffydd Sion, 'Rhaid i ti, Sionyn, ddweyd tipyn wrthyn nhw yr wyt ti yn fwy dy dalent na mi.' A gorfu iddo wneyd, er yn dra anfoddlawn; a mawr oedd syndod boddhaol yr holl wrandawyr oedd yn nghyd yn ei wrando; ond ofnai ef y cawsai ei alw I i gyfrif am yr hyn a wnaeth; ond meddai I Gruffydd Sion, 'Paid ofni aim, Sioni-ii, mi I safaf fi wrth dy gefn.' Cymerodd Gruffydd ef i'r Cyfarfod Dau-fisol: [obiegid bob deufis I y cynhelid hwy y pryd hwnw, ac nid yn fisol fel yn awr). Ü oedti son mawr am y pre- gethwr isuanc erbyn hyn drwy'r holl ardal- I oodd; a phregotiw a gweddiai gyda rhyw j afael anarferol. Gofynodd John Jones 0 I Edeyrn iddo yn y cyfarfod, pa un ni gogon- iant Duw, neu ynte lies eneidiau, oedd nesaf at ei galon. Atebodd yntau, 'Y ddau yn eu lie.' 'Mae ganddo ddoniau mawr,' meddai y Parch Evan Richardson. 'Oe?; atebai Gruffydd Sion, a Robort Jon, Rhoslan, 1 ac mae yn weddiwr mawr licfyd.' Felly, i yn ei flaenyr aeth, a'r gwaith mawr yn myn- ed drymach drymacji ar ei feddwl: credai 1 ei fod wedi ei alw yn arbenig i ddeffroi peclnuluriaid. Dywedai fy nhad, yr hwn oodd ei gydymaith mwyaf mynwesol yn ys- tod ei arosiad yn Lmonydd, y byddai yn gofyn iddo ei wyho, a sylwi yn fanwl arno pi pregethu; a phan y gwelai ynddo un- i livw ddiffygion, am iddo eu nodi allan iddo. Ymroddai a'i holl egni, y pryd hwnw, i tudio areithj'ddiaeth, ae i ddiwygio ei hun yn mhob peth. Pan ddechreuodd ddyfod i tfafr y cvnulleidfaoedd a myned yn bol)log- aiuu, aeth i deimlo ei anghvmwysder i gýf- lawni y gwalh" oherwydd diffyg addysg, ac aoth am ysbaid i ysgol Mr h.chardson, im o j ysgolion blaenaf yn y wlad hon yn yr adeg hono a bu hyny yn foddicxn i berffeithio llawer arno. Y pethau hyn a glywais gan fy nhad, yr hwn a fu yn fiaenor yn mhlith y Methodistiaid am tua detigain mlynedd. Yr wyf yn barnu mai tua deuddeg oed oeddwn i pan welais Mr Elias gynt&f i'w gofio: yr oedd yn pregethu y pryd hwnw yn ffenestr capel bach Cnocieth. Yr oedd, erbyn hyny, yn cael edrych arno fel tywysog y pregethwyr, nid yn unig oherwydd ei hy- awdleddd mawr, o?d hefyd oherwydd pwys igrwydd ei eiriau a'i ddifrifoldeb dwys, yr hyn oedd ya rhoddi iddo y fath awdurdod ar bawb a phob peth. Yr oedd y pryd hwnw newvdd gyhoeddi pregeth i bobi ieuanc ar y geinau hyny, 'Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd;' a'r tro cyntaf ar ol ei chy- hoeddi y bu yn fy nghartref i, Tyddyn 101- yn, i'r hwn le y byddai pregethwyr yn dyfod i letya IIOS Sadwrn pan yn pregethu yn yr amgylchoedd, rhoes gopi o'r bregeth i mi, yr hon sydd ?enyf yn awr; a buasai ail-ar- graphiad ohoni yn llesol iawn i ieuentyd gwamal a difeddwl ein noes ni. Ond yr wyf yn myned yn rhy amgylchog. Yn y flwyddyn 1834 (yr wyf yn credu mai hono cedd y flwyddyn) cefals fy anfon o Bwllheli i Fangor ar neges neillduol; ao yr oedd yn ad<? Sassiwn: aethum inau i'r odfeuon, y rhai a gynhelid ar faes y Friars. Yr oodd Mr Elias yn pregethu am ddau o'r gloch. Wedi i'r pregethwr cyntaf orphen gwelwn ef yn dyfod yn mlaen, yn ddyn tal, lied denau, gyda gwyneb hir, twyU, talcen uchel, llygaid nmwrion, treiddgar, boch- gernau uchel a theneuon, golygiad bywiog, syml, gwefusau hardd a lluniaidd, y wefus isaf yn 11 wl ymollyngol. ir oedd yr olwg arno yn ua.i^c ci fod mewn gwasgfa meddwl ond, er hyny, yn llawn awdurdod. Gweled- iad brenhin oedd iddo. Yr oedd torf an- ferth o bobl o'i flaon-tuag ugain mil; a mynai rhai ei bod yn ycl'.waneg. Yr oedd y diwrnod yn deg; ond yr oedd yno awel gref o R-ynt, a hono, yr wyf yn cofio, yn chware a chudynau gwallt gloew-ddu y pregethwr. Rhoddodd y penill canlynol allan—ei hoff bonill- Ipwy wrendy ruddfan f'enaid gwan? Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan ? Pwy garia. 'maich fel brenin No, ? Pwy gydymdeimla fel Efe ?' Eisteddodd am ychydig yn ystod y canu, gan osod ei ben i orphwys ar ei law; a phan gododd ar ei draed yr oedd ei lygaid yn wlyb gan ddagrau tryloewon. Taflodd ed- rychiad dros y dorf enfawr, fel pe i gymeryd ei mesur; a goleuai ei llygaid disglaer ei holl wynebpryd. Darllenodd ei destun yn hy- glyw ae yn bwysleisiol. 'Nid yw yr Ar- glwvdd yn ein gweled; gadawodd yr Ar- 1 glwydd y ddaear.' Ni wnaf geisio yn awr roddi darnodiad o'r bregeth ryfeddol, nac i vchwaith ddysgrifio y pregethwr, heblaw dweyd fod ysgydwad bys ei law aswy, a dyrchafiad ei lais nerthol, treiddgar, fel o flaen fy llygaid, ac yn fy nghlustiau, yn awr pan yn ysgrifenu. Dysgrifiai annuwiaeth y galon, gan ddynoethi yr anystyriol a'r rhag- j rithiol yn ddiarbed: ae unwaith, trodd ei gefn at y srynulleidfa i weddio ar Dduw am oleuni, am 'lewyrch;' ac yna trodd ei wyneb yn ol drachefn; ac yr oedd dyrchafiad ei lais fel bloedd ruddfancs yn ymdaenu dros a. thrwy yr holl dorf. Bwrlymiai ei hyawdl- edd allan; ac yr oedd gorlawnder y drych- feddyliau a ruthrent arno yn peri iddo ar ran aros, fel pe yn pryderu pa fodd i esod allan ei feddyliau yn ddigon grymus: a dyna yr 'atal-dweyd' sydd gan Eben Fardd yn y farwnad. Ie, pause, fel y dywedweh chwi, oedd yr atal-dweyd, ac nid stuttering, nac unrhyw fath o impediment yn ei lefer- ydd, 1 Y tro diweddaf y clywais Mr Elias yn pregethu oedd yn 18,18-dair blynedd cyn I ej farwolaeth. PregethHi yn ffenestr y I capel ac yr oedd yr adeilad yn orlawn, ae i befyd y lawnt o'i flaen. Yr oedd boneddwr o'r enw Dr Carreg, Crwner Sir Gaernarfon, wedi cymeryd cyfeillion o Saeson iddo i'w wrando; a dywedai wrthynt ar y diwedd na chlywodd y fath hyawdledd erioed, ac nad oedd yn t?imlo ei draed dano. Testun Mr J Elias oodd, 'Ymarfer, atolwg, ag ef.' Dyar grifiai y credadyn yn ymwneyd a Duw, yn cyfrinachu ag ef, ae yn trafnidio a'r Nef- oedd trwy wahanol ddyledswyddau ac or- dinhadau crefydd; ac yr oedd ei gymhwys- iadau a'i anogaethau vn y rhan olar o'i bre- J geth yn afaelgar iawn: ac am ei dclefnydd I mynych o'r gair, 'Ymarfer, atolwg, ag ef,' nid anghofiais byth, ac nid anchofiaf chwaith tra byddwyf.—(O'r "Geninen" am Ebrill.)
Advertising
) DARKEN THE HAIR t jt when taming gray, wtth a Condy's Fluid. z II J recommend Condy's Fluid as a hair stain." Tie Lady's Pictorial. SOlD EVERYWHERE, 8 OZ. 1/ 20 OZ. 21- I CONDY'S FLUID." t yint
TY'R AROLWYDDI I
TY'R AROLWYDDI I I) i-DD LLTJN. I Cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd, ei sedd am chwarter wedi pedwar. Gofynodd Iarll Armn pa bryd y ceid adroddiad dir- prwyaeth Syr Edward Fry, a fu yn ymholi sut yr oedd Cyfreithiau'r Tir vn yr Iwerddon yn gweithio, ac a fwria"r Llywodraeth ddwyn Mesur i fewn i roddi eu hawgrymiad- au mewn grym. Atebodd yr Is-iarll Cross fod yr adroddiad ar fin gael ei gyhoeddi, ond fod i'r Llywodraeth gael amser i'w ystyried. Hysbysodd Due Devon ei fod yn gobeithio I y cai'r arglwyddi ollyngdod ddydd Gwener I dros wvliau'r Pasg. I DYDD MA WRTH. I Cyfarfyddodd yr arglwyd^jC heddvw am ddau o'r gloch i glywed (ItYnLfBrr- hinol yn cael ei roddi i dri neu bedwar 0 Fesurau. Daethant at eu gilydd drachefn am chwarter wedi pedwar, ond nid oedd gan- ddynt ddim i'w wneyd,gan i larll Carrington, ar gais y WeinyddiMth, ohirio cynyg ail- dd,L fta Mesur yn ymwneyd a rhanddal- iadau yn Llundain. DYDD MERCHER. Seibiant. I DYDD IAU. ) Daeth Iarll Penfro a chenadwri oddiwrth ei Mawrhydi yn dweyd ei bod yn gwrando ar lais T/r Arglwyddi, ac yn gwrthod rhoddi ei chydsyniad i gymHun ysgol Berriew, .4r DreMdwyn. Darllenwyd am y waith gyntaf Fesur y Benthyc i Groeg a Mesur arian treuliau, y awyddfeydd newyddion i'r Llywodraeth yn Llundain. Galwodd Arglwydd Stanmore sylw at ysr tad pethau yn Uganda, a gofynodd beth oedd Biatur y gorchymmon a anfonwyd allan gan y Llywodraeth. Mewn atebiad, dywedodd Due Devon fod ymchwiliad trwy- adl i gael ei wneyd i'r hyn achosodd y gwrth- ryfel diweddar yno. Yna darllenwyd Mesunau Groeg a'r swydd- fevdd newvddion yr ail waith. DYDD GWENER. I Rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol I R esur- au y Benthyg i Groeg a'r Swyddfeydd New- I yddion, ac amryw ereill.
TY'R CYFFREDIN :
TY'R CYFFREDIN DYDD LLUN. I Mewn atebiad i gwestiwn gan Mr iynonaei Davitt, dywedodd Mr Curzon fod P»Pyrau jti cael eu darparu o berthynas i ddigwydd- ladau yn China, ac fe'i gosodid berbron y Ty mor gynted ag y byddai yn bosibl. Bydd- ent yn gynwys nysbysrwydd o berthynas i geisiadan y Galluoead Ewropaidd. Gofynodd Syr E. A. Bartlett i'r Is-ysgrif- enydd Tramor a oedd efe wedi derbyn cad- arnhad i'r mynegiad fod llywodraeth China wedi derbyn hawliau Rwsia, y rhai oedd yn cynwys rhoddi prydles ar Borth Arthur fel gorsaf lyngesol ddiffynedig, rhoddi prydles a* Ta-Lien-Wan fel terfyn le y ffordd haiarn ar draws Siberia, a'r hawl i wneyd ffordd haiam o Petana i Borth Arthur.—Atebodd Mr Curzon fod y gweinidog Prydeimg yn Pekin wedi gwefrebu fod y cytundeb Rwssi- aidd a China wedi ei arwyddo ddydd but. Nid oedd y Swvddfn Dramor yn gwybod yn iawn eto pa beth oedd y telerau. Cynygiodd Mr A. J. Balfour fod y Ty i eistedd yn y boreu ar y 29ain o &9 Mawrtb, y 5ed o Ebrill, a'r Meg o Ebnll. Dywedodd Syr W. Harcourt ei fod yn dymuno ar i Mr Balfour wneyd trefniadau i alluogi y Llywodraeth, cyn gwyliau y Grog- lith, i ddyweyd pa beth oedd eu gwladwein- iaeth vn y Dwyrain Pell. Dywedodd Mr A. J. Balfour fod yn an- mhosibl cael adolygiad digonol ar yr holl fater cyn i'r Ty ymwasgaru dros wyliau y Groglith, oherwydd na byddai yn bosibl idd- ynt, cyn hyny, roddi y papyrau angenrheid- iol ar gyfer y ddadl yn nwyla.w yr aelodau. Yr oedd, pa fodd bynag, yn gwbl angenrheid- I iol dyweyd rhywbeth cyn i'r Ty ymwahanu; I a'r unig gwestiwn ydoedd, pa bryd y byddai yr amser mwyaf cyfleus. Wrth gwrs, po I bellaf y gellid gohirio y mynegiad, mwyaf yn y bvd a fyddai siawns y Uywodraath i sLarad yn rhydd, a rhoddi i'r Ty pob hys? bysrwydd yn nghylch y peth; ac felly fe fyddai yn ddymunol gohirio y mater cyn belled a dydd Mawrth, EbriU 5ed. I YR ECHWYN GROEGAIDD. I Wedi peth trafodaeth, cytunwyd ar y cyn- ygiad i ail ddarllen Mesur yr Echwyn Groeg- aidd. MESUR TREULIAU ADEILADAU CYHOEDDUS. Ar y cynygiad i ail-ddarllen Mesur Trenl- iau Adeiladau Cyhoeddus, amcan yr hwn ydyw awdudodi gwario dwy filiwn a haner o bunau ar swycidleydd newydd i'r Llywodr- aeth yn Llundain, cynygiodd Mr Dillon wrth- odiad y Mesur. Cefnogodd Mr T. P. O'Connor y gwelhant. Ymranodd y Ty fel y canlyn:- Dros y gwethant. 1\1 Yn ei erbyn 202 1 Mwyafrif yn erbyn 183 Awd yn mlaen gyda'r ddaui ar au-aaar- I lleniad Mesur y Carcharau, gwrthodiad yr hwn a gynygiwyd gan Mr Atherley Jones. Wedi i Mr Dillon, Mr Michael Davitt, Mr John Redmond, Syr J. T. Brunner, Syr Ho- ward Vincent, a Mr J. 0. Pease gymeryd rhan yn y ddadl. Cynygiodd Mr T. P. O'Connor fod y ddadl yn cael ei gohirio, yr hyn a gariwyd, I DYDD MAWRTH. I Gofynodd Syr W. Priestley i lywydd Bwrdd Llywodraeth Leol, yn ngwyneb yr hanes fod y clofyd typhoid wedi tori allan o ganlyniad i waith rhyw rai yn bwyta wystrys heintus a oedd efe yn bwriadu gwneyd rhyw beth i rwystro cymeryd wystrys o leoedd heb fod yn IanP Atebodd Mr Chaplin ei fod yn ystyried y mater, ond nis gallai roddi addewid bend- ant. Mewn atebiad i Syr W. Wedderburn dy- wedodd Arglwydd G. Hamilton fod deddfau newydd ter?sg yn yr India wedi e upasio yn ddyladwy; ac ar 01 cael cydsyniad v Rhag- law, yr oeddynt eisoes yn rfi. n F-ith yr India a phaxhaent felly oni byd ai iddo ef (Arglwydd G. Hamilton) gynghori y Goron i wrthod eu cadarnhau. Ee orchymynai efe eu cyHwyno ?r Senedd cyn gynted ag y der- byniai gopiau awdurdodedig o'r deddfau.. Gofynodd Dr Tanner .Y if nydd y 1ref- edigaethau a o4,?d helynt difnM yn bodoli yn New Zealand, wedi ei achosi drwy i Mr Seddon, y prif weinidog, cynwyno bU am 1700p, traul ei ymwehad a Phrydain ynglyn ¡ a Jiwbili y Frenhines. i Dywedodd Mr Chamberlain nad oedd I ganddo unrhyw hysbysrwydd swyddogol ar y pwnc; ychwanegodd nad oedd materion yn perthyn i weinyddiaeth gartrefol y tref- edigaethau hunanlywodraethol "yn meddu unrhyw ddyddordeb gwirioneddol i Dy'r i Cyffrodin. I Gofynodd Mr Flynn a fyddai i'r Galluoedd gymeryd a mabwysiadu mesurau gorfodol fel ag i sicrhau penodi Llywiawdwr Cristion- ogol i ynys Creta yn ddioed. Dywedodd Mr Curzon nad oedd unrhyw lywodraeth wedi cynyg hyny, ac 'nid oedd 1 yn gwestiwn ag yr oedd y Llywodraeth yn dueddol i fynqd i fawn iddo. Pasiodd Mesur yr Echwyn Roegaidd drwy y pwyllgor heb gyfnewid dim arno. Pan ymffurfiodd y Ty yn Bwyllgor i ys- tyried Mefeur Treuliau yr Adeiladau Cy- hoeddus, I Cynygiodd Mr W. Redmond ostwng 8000p i ar y swm a gymerid drwy y meaur, fel gwrth- I dystiad yn erbyn y draul gynygiedig, pryd yr oedd llawer iawn o ddioddef yn nghanol barthau yr lweradon. I Gwrthodwyd y gwelliant drwy 294 o bleid- leisiau yn erbyn 31. Ar atodlen y Mesur, cynygiodd Mr Her- bert Lewis ostwng 100,000p ar y swm o 800,000p y cynygid ei roddi tuag at Greirfa South Kensington. Nid oedd Mr Lewis, meddai, yn grwgnach un geiniog o'r swm hwn i South Kensington, oherwydd yr oedd cyflwr pethau yno ar hyn o bryd yn warth i'r genedl. Ei amean wrth gynyg y gwelliant hwn oedd galw sylw at y modd y dosiberthid y rhodd- ion hyn at adeiladau at amcanion addysgawl, ac yn arbenig at y ffaith nd oedd yn Nghymru ddrpariaeth o gwbl gyffelyb i'r hyn a gaffai Ysgotland a'r Iwerddon at ddybemon creirfa. Yn Nghymru yroedd ganddynt gyfundrefn o addysg ganolraddol a phrifathrofaol, ac yr oedd ganddynt yn mhellach eisieu creirfa- oedd ac orielau celf. Dywedodd Mr Akers Douglas fod y Llyw- odraeth yn cydymdeimlo yn fawr a golygiad- au Mr Lewis o berthynas i roddi rhagor o arian i Gymru at ddybenion gwyddor a chelf. Yr oeddid wedi penderfyuu gwneydamryw gyfnewidiadau yn South Kensington. Gofynodd Mr Lewis genad i dynu ei well- iant yn ol. Rhoddwyd y cenad, a thynodd Mr Lewis ei welliant yn ol, a chytunwyd ar yr atodlen. Yna gorohymynwyd rhoddi y mesur o flaen y Ty heb welliant arno. Gohiriwyd y ddadl ar Festir y Carcharau hyd ddydd Iau. Ataliwyd yr eisteddiad ychydig cyn saith o'r gloch. I Pan adgynullodd y Ty yn hwyrach, galw- I odd Mr Vicary Gibbs sylw at gyflwr anfodd- haol presenol materion arianol yr India, a I chynygiodd "Fod Pwyllgor Dewisedig neu Ddirprwyaeth Freiniol i gael ei phenodi i ystyried eyflwr arianol yr India, ac effaith cau y mint Indiaidd yn erbyn arian ar y lill 1% bud d l-intu y gwahanol ddosbarthiadau a buddiauau y mae hyny yneffeithio arnynt, i gyflwyno ad- roddiad ar yr awgrymiad i sefydlu safon aur yn y wlad hono, ac i anog yr hyn a ystyrient yn briodol." Cefnogodd Mr Maclean y cynygiad. Fel gwelliant cynygiodd Mr Wylie: —"Fod y Ty hwn, gan ymfoddloni fod llywodraeth yr India yn rhoddi ystyriaeth ddyladwy i gyflwr arianol yr India, yn disgwyl rhagor o ohebiaeth oddiwrth llywodraeth Indiaidd cyn gwneyd dim ynglyn a'r mater hwn." Wedi peth dadl, addawodd Arglwydd G. Hamilton ymchwil gan wyr cyfarwydd parth cyflwr arianol yr India, a chynygion y Llyw- odraeth i sefydlu safon aur. Wedi i Syr William Harcourt siarad, tyn- wyd gwelliant Mr Wylie yn ol. Negyddwyd y cynygiad gwreiddiol heb ym- ranu, a chytunwyd ar gynygiad Arglwydd G. Hamilton. Gohiriodd yTy oddeutu deuddeg o'r gloch. DYDD MERCHER. I Cynygiodd Mr Flavin ail-ddarlleniad Me- sur i ddiwygio deddfau'r tir yn vr Iwerddon. Cwynid fod y deddfau presenol, ac yn ar- benig y dull y gweinyddir hwy yn bresenol, yn llawer rhy ffafriol i'r landlordiaid.—Cefn- ogwyd y mesur gan Mr Dillon. Ar ran y Llywodraeth, gwrthodai Mr Gerald Balfour, Ysgrifenydd yr Iwerddon, ail agor cwestiwn y tir yn yr Ynys Werdd. Rhauvryd y Ty: 0 blaid iil-ddarlleniad 128 I Yn erbyn 243 Mwyafri f 115 Felly, taflwyd y mesur allan. Gofynodd Syr Charles Dilke i Mr Balfour afuasai yn caniatau amser i ddadleu pender- fyniad y rhoddasai efe rybudd yn ei gylch i'r perwyl fod y dull y cariwyd gwleidlywiaeth dramor y wlad hon yn nghorff y deuddeng mis diweddaf yn profi nad yw yn ddymunol i swyddi yr ysgrifenydd tramor a'r prifwein- idog gael eu dal gan yr un person. Nid oedd Mr Balfour yn foddlawn, a bu raid i Syr Charles adael y mater hyd nes y gellir ei godi pan ddaw'r amser i dalu cyflog Ar- glwydd Salisbury. DYDD IAU. I Treuliwyd yr eisteddiad i ddadleu ar ail- ddarlleniad y Mesur i wella'r dull yr eir yn mlaen gyda. Mesurau preifat perthynol i Ysgotland. Yn ol y Me.sur hwn y mae Ys- grifenydd yr Ysgotland a phedwar aelod Sen- eddol a enwir ganddo ef i ffurfio llys i eistedd Ysgotland i edrych i fewn i Fesurau preifat. Os y byddai gwrthwynebiad i fesur, fe gyn- kelid ymchwiliad lleol i'r mater. Condem- nid y Mesur gan rai o'r aelodau Ysgotig, tra y canmolid ef gan ereill o honynt. Ei I gohirio gafodd y ddadl. DYDD GWENER. 'u J Hysbysodd Mr Unamberlain too cynuun y Llywodraeth i gadw gwell rheolaeth ar Gwm- ni Siarteredig Deheudir Affrica ar fin cael ei osod o flaen y Ty, ac y ceid cyfleusdra i'w drafod pan ddeuid a'r amcangyfrifon yn mlaen. Dywedodd Mr Curzon fod gohebydd ar- benig y "Daily Chronicle" yn Cuba wedi cael ei gymeryd yn garcharor gan yr Hispaeniaid, a'i fod yn awr ar ei ffordd i'r Hispaan. Fe ofelid edrych na wneid yr un cam ag ef. Galwyd sylw at y cwynion yn erbyn ewmiii y pellseinydd, ac addawodd Mr Hanbury, ar ran y Postfeistr Cyffredinol, y penodid Pwyllgor Seeneddol i edrych i fewn i'r pri- odoldeb o ganiatau i gorphoraethau gario allan waith y pellseinydd. Boddlonodd hyn y rhai anfoddog. Gofidiai Mr Long nas gallai ganiatau yr un rhyddid i beidio rhwymo safnau cwn I defaid mown ardaloedd neillduol ag a rodd- id gyda golwg ar gwn bela.
,I I MAWRTH A LADD, EBRILL…
MAWRTH A LADD, EBRILL A FLING. Un o'r hen ddy wediadau ar lafar gwlad sydd yn cael eiwirio ynbarhausywyrhouddil:eb uchod. Mae y gwynt dwyreiniol. oer a llym sydd yn ffynu yn gyffre^.n yn ystod y mis- oedd hyn mor niweidiol a deifiol i bob bywyd fel y mae mwy o afiechyd yn y wlad y mis- oedd hyn nag hyd yn nod yn y gauaf, ac y mae y gwyntoedd hyn yn ami yn profi yn angeuol i rai gweiniaid ac i ben bobl. Rhodd- odd y ffaith hon fodolaeth i hen ddywediad arall a glywir mewn rhai parthau o'r wlad, sef, "gwynt o'r dwvrain, gelyn miiain." Yn ystod y tymhor llaith a6 afiach aydd wedi myned heibio, mae lluaws wedi bod dioddef gan Anwyd, Peswch, Bronchitis, yr Anwydwst, ac anhwylderau gauafol ereill. Cryfhewch y cyfansoddiad i wrthsefyll peryglon ac anhwylderau y tymhor hwn o'r flwyddyn trwy gymeryd meddyglyn llysieuol rhinweddol ac adgryfhaol fel Quinine Bit ters Gwilym Evans, yr hwn sydd yn cynwys elfemiu iacbaol a gweitbgar y prif lysiau meddyginiaethol adnabyddus trwy yr holl fyd, y rhai ydynt ddarpariaeth natur ar gyfer pob afiechyd. Tystia pawb sydd wedi rhoddi prawf ar Bitters Gwilym Evans, ei fod yn Feddygin- iaeth Deuiuaidd anghydmarol, yn gyfaddas i bob oed, ac yn hynod effeithiol i atal neu I liniaru ymosodiadau o afiechyd, a chryfhau y gwan a'r nychlyd sydd yn dihoeni ar ol cystudd. Gocheler efelychiadau o hono. Mae ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu trwy y post n. prisiau hyn oddiwrth y perchenogion,- Quinine Bitters Manufacturing Co.. Lt?. I Dane)! South Wales.