Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFYDDIAI) Y SENEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFYDDIAI) Y SENEDD. Mae y Frenhines wedi rhoddi gwys a gwa- hawdd" i gynrychiolwvr y bobl gyfarfod yn Westminster dair wythnos yn gynarach nag ar- ferol, sef ar yr 17eg cyfisol, ac mae y gwahoddiad wedi peri cyffro nid bychan y nn ghwahanol gylch oedd cvmdeithas mewn caulyniad. Nid yw y oyfarfyddiad o anghcnrheidrwydd yn golygti dim drwg a difrifol, ac o dan yr amgylchiadau, mae yn naturiol i Weinidogion ei Mawrhydi fod ya awyddus i ymgynghori u'r wlad, drwy ei chynrychiolwyr, yn yr adeg beryglus bresenol. Pe na byddai dim mwy o bwys na hyny yn y gwahoddiad, ni ddylai neb deimlo yn anes- mwyth. Ond y mae llawer yn cefio i'r Senedd oael ti galw yn nghyd o dan amgylchiadau cyffelyb yn 1853, a therfynu mewn cyhoeddi hyfel yn erbyn Rwsia. Y mae rhyfyg, a dyfn- der calon Iarll Beaconsfield hefyd y fath fel na fyn rhai eu darbwyllo nad rhywbeth o'r natur ma svdd mewn bwriad eto yr adeg hon. Y mae arianwyr y deyrnas wedi ofni hyny, ac nid oes dim a deimla yn gynt oddiwrth ddaroganiad am ryfel na'r fasnach mewn arian. Gynted ag yr hysbyswyd y bwriad o alw ein Seneddwyr at eu gilydd, yr oedd pawb yn noli pa. betneedd yn y gwynt, ac ar unwaith yn penderfynu fod rhyfel wrtli y drws. Disgynodd prisoedd prif gvfl anddaliadiiu y dcyrnas gryn ddeg swllt y eant, a rhai mwy na hyny, ae ysgydwai y doethion o'r Dwyrain eu penauyn hynod 0 nod- weddiadol, fodyllewPrydeinig o'r diwedd wedi deffro, ac yn barod i ruthro ar yr hen arth o Rwsia. Rywfodd y mae'r Prif Weinidog yn llwrdd- ianus ryfeddol i osod ei hunan mewn sefyllfa i gad ei gamddeall, ac o bosibl, weithiau, i gael ei gamddarlunio hefyd. Ond nid oes ganddo neb i'w feio am hyny ond ei hunan. Pan y perswadiodd y Frenhines i dderbyn y teitl o "Ymherodres yr India" yr oedd gwahanol ddyfaliadau o berthynas i hyny; mynai rhai fod ysblander teitl ymherodrol wedi dallu llygaid ei Mawrhydi, a'i bod yn awyddus i ym- ddallgos fel ei chyroydogion; eraill a haerent fod hyny yn angenrheidiol i gynal i fyny urddas ae awdurdod y goron yn ugolwg brodorion India, ae os nad ydym yn camddeall yr oeddhyn yn ymddangos yn beth pwysig yn ngolwg Dis- raeli ei hun. Ni chaniata ein gofod i ni fanylu ar y dychmygion roes anturiaeth Camlas Suez fod iddyr.t, ae yn ddiweddarach fel yr oedd gwaith y Llywodnwith yn anfon y llynges i Besika Bay yn camarwain ac yn achlysur i Ewrop dvnu gwahanol gasgliadau oddiwrth yr Tin iini^yichiad. Ar un adpg dywedodd y Prif AVeinidog mai amcan llyny ydoedd dangos pa mor barod ydoedd Lloegr i amddiffyn ei buddianau yn y Dwyr,ân. Deallodd y Twi-c yr awgrym fod yr hen aniddiffyn tadol eto heb ei dynu oduiwrtho, ac aeth yn mlaeu i ymladd yn fwy dewr nag erioed, gan gredu y deuai Lloegr i'w cymhorth cyn bo hir. Gadawyd iddo yn ei ddygn allwybod- aoth am fwriad ein Llywpdraeth hyd nos y cyhoeddwyd y bryslythyrau, pan yr oedd y whd wedi ei chynhyrfu hyd y gwaclodion gan adroddiadau y Daily New* am greuloriderau Bulgaria. Ac i dawelu meddyliau cyifrous y bobi dyma yr hysbvsiad eysurus mai amcan anfouiad y llynges i Besika Bay ydoedd i aro- ddifFyn achos y Cristionogion gorthrymedig! "Ffordd chwithig i amddiffyn eu hachos pan ystyriwn fod y Cristionogion druain ugeiniau o filldiroedd o'r arfordir agosaf i'r lie yr oedd ein llongau yn angori; a'r Mahometaniaid yn eu croesawu fel eu talgraig mewn dyddiau blin. Ae yn gymwys yr un modd y mae gyda golwg ar oyfarfyddiad y Senedd eleni. Llamodd calon y Pashiaid yn Nghaercystcnyn pan welsant yr hysbysiad fod Senedd Prydain ar gael ei galw yn nghyd yn Ionawr y flwyddyn hon, ac yn gwybod tuedd vsbrydy prif swyddog wrth lyw y Llywodraeth, cymhellir hwy i barhau y rhyfel, Be felly i dynu amynt eu hunain fwy o ddinystr a chelanedd. Nid yw y Llywodraeth, o ran dim a wyddys, yn cymeryd un llwybr i'w darbwyllo o'u camsyniad; a nHtunol ydyw fod ofnau cyteiUion heddwch vn y wlad hon yn codi i'r un graddau ag y eodir gobeithion i'r gwrthwyneb yn mynwesau "v bobl sydd dda ganddynt ryfel." Os nad ydynt yn bwriadu rhyfel, niwyaf yn y byd ydyw y cyfrifoldeb sydd yn gorphwys arnynt yn goddef i gyfeillion y Twre gymeryd eu cam- arwain, a pharhau i ddwyn ) n mlaen ymdrech nad oes obaith iddynt am lwyddiant. A chymeryd datganiadau biaenorol Arglwydd Derby yn fynegiad cywir o farn a theimlad y Llywodraeth, gallesid tybied, gan nas gellir gwoled fod y "buddiannau Prydeinig" yn cael ymos.d arnynt, nad yw yn bwriadu cilio oddiar y llwybr ttinol y mae rheswm a synwyr moesol y gcnedl yn ei gymhell arni. Hawddach genym ni ydyw credu, er y duedd gref sydd yn rhai o brif aelodau y Weinyddiaeth i dywyllu cynghor ac i gy&oi teimladau, fod y Senedd yn cyfarfod i sicrhau eyd-ddaalltwriaeth gyda golwg ar brif begynau y Cwestiwn Dwy- reiniol, yn ei wedd newydd ar ol gorchfygiad- Twrci: ao y mae yr hysbysiad diweddaf a gaf- wyd i raddau yn oadarnhiu hyny. Y mae y Sultan yn cydnabod ei wendid; 1\0 y mae yn gofyn i Loegr, ddynesu at Rwsia ar ei ran, a mynu gwybod pa beth a gais ganddi. Dywodir fod Lloegr wedi addaw gwnoyd hyny, ac felly wedi ymgymeryd & ehyfrifoldeb mawr. Os felly, bydd yn dda i'n llywiawdwyr wrth amgen gwyr nag sydd yn cyfansoddi y pwyllgor yn Reol Downinq i ymgyngbori a hwynt; ac i'w cadw ar ganol llwybr barn, bydd yn dda i'r wlad fod yn eistedd ar y meinciau gwrthwynebol wrr o brofiad a ohraffder Meistri Gladstone a Bright, a'r Ardalydd Hartington. Gyda go;wg ar fesurau cyffredinol y Senedd- dymor agosaol, yr ydym eisoes yn gwolod, oddiwrth a ddatguddiwyd i ni gan oraclail y blaid Doriaidd, mai "megys yr osdd yn y dechreu y mae yr awrhon," a'u bod yn myned i wasanaethu dosbeirtb neillduol ar draul lies cyffredinol y wladwriaeth. Mae y tafarnwr i fod yn y feoyit, a'r biril yn uohaf. Ni fynant ddim i wneyd & chau y tafarnau ar y Sabboth yn yr Iwerddon mwy na Lloegr; ni symudant y gorthrwm o gau allan yr Ymneillduwyr o'r mynwontydd, os gallant beidio; ni chymerant arnynt glywed gwaedd eu eyfeillion yr amaeth- wyr, sydd yn llefain amyut ddydd a noa am ddileu deddfau gorthrymus helwriaeth: so wrth yr amaethwyr, druain, sydd yn dioddef y gyf- ryw driniaeth, nis gallwn lai na dywedyd, Wele eich duwiau," yn adeg yr etholiad. Soniant am osod atalfa ar ddygiad anifeiliaid o wledydd tramor, trwy adgyfodi yr hen ddiffyn- dollau, ao felly godi pris oig, a phrofl yn mhell- ach wirionedd y sylw a wnaeth Arglwydd Hartiagton yn Scotland yn ddiweddar mai gwasanaethu dosbarth ao nid corph y wladwr- iaeth ydyw SWill a sylwedd cyffes ffydd y Tori- aid. Yn lle gwueyd y daioni mwyaf i'r nifer luosooaf o ddeiliaid ei Mawrhydi, ymddengys eu bod eto am ddangos i'r byd faint cyn leied allant wneyd o ddaioni i'r nifer leiaf o bobl. Os nad ydym yn mawr gamgymeryd, ni phery eu teymasiad yn hir eto-y mae dydd eu gofwy yn ymyl. Na chaffed yr etholiad cyffredinol nesaf Gymru yn hepian ac yn. Ilaesa dwylaw.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

BRAWDLYSOEDD CHWARTEROL I…

LLIFOGYDD TRYMION YN. NGHYMRU.

Advertising

A OES HEDDWCH?

ANRHYDEDD I GERDDORION CYM.REIG.,

Y NEWYN YN YR INULA.

IBODDIAD WYTH 0 FECHGYN.

-RHYL.-

[No title]

sibygbbion ItnI.

ltgttgr xluubaia.

[No title]

I 1877.