Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Bismarck yn Ymweled a Ohymra.

JIWBILI VICTORIA.

Y DATHLIAD YN AMERICA.

LLENITDDOL A OHERDDOROt.

Y Ddamwain Angeuol i Rees…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Ddamwain Angeuol i Rees Thomas, Hyde Park, Pa. HYDE PABK, Meh. 24.-Nos Iau, yr 16ag cyfisol, aeth Rees Thomas a'i frawd-yn- nghyfraith, Isaao Evans, at eu gorchwyl fel arferol yn nglofa yr Old Forge Co., ger Lackawanna, heb feddwl dim yn ddiau am yr hyn oedd i gymeryd lie y noson hono. Tua haner nos daeth careg i lawr o'r nen- fwd ar Rhys, a chafodd ei bartner gryn oroh- wyl i'w gael yn rhydd. Wedi ei dynu yn rhydd, oymerodd ef ar ei arffed, a'i ben yn pwyso ar ei fynwes, pryd y rhoddodd och- enaid gan ddweyd, "O yr ydwyf yn marw," meddai, a bu farw yn mhen yohydig fynyd- au. Nid oedd neb yn y gwaith ond hwy i'll dau, a bu raid i'w bartner adael ei gorff i orwedd yn y fan hono, tra bu yn myned allan i ymofyn help i ddod ag ef allan. Yr oeddent yn byrddio gyda Mr. Thomas M. Davies, sydd yn byw wrth ben uchaf y oanal. Dygwyd y ooiff yno y noson hono, ond aeth ei ewythr, Mr. Philip Thomas, a cherbyd dranoeth i'w gyrchu i'w dy ei hun yn Hyde Park, ac oddiyno cymerwyd ef i dy ei hir gartref yn Forest Hill Cemetery, Scranton. Dydd Lluu yr 20fed, y oladdwyd ef, er ei fod wedi marw oddiar nos Iau. Ofnid nas gellid ei gadw dros y Sabboth, Nid oedd ei ewythr a'i fodryb am ei gladdu ary Sabboth, ao yr oedd yntau ei hun yn wrthwynebol iawn i'r arferiad hwnw. Oafodd gladdedig- aeth anrhydeddus. Yr oedd yr arch wedi ei I hamdoi a brethyn du rhagorol, a'r arddurn- ia i -u yn hardd a gweddus. Yr oedd rhes hir o gerbydau yn yr angladd, fel yr oedd yn hawdd oanfod fod dyn o barch yn cael ei gladdn. Yr oedd amryw o weinidogion yr efengyl yn ei angladd. Bu y rhai oanlynol yn siarad gair ar yramgylchiad: R. F. Jones, Wm. E. Morgan, E. R. Lewis (A.), Hyde Park, John T. Morris, Bellevae, a D. Davies, Nelson, N. Y. Ganwyd Rhys Thomas yn y College Row, I' Ystradgynlaia, D. 0., tua 31 o flynyddoedd yn ol. Enwau oi dad a'i fam oeddynt Lewis (Lawis y Filler) a Sarah Thomas, teulu cref- yddoi iawn yn hen eglwys an yl Owmgi- edd, felly cafodd Bhys bob manteision cref- yddoi c'i gryd. Daeth i'r byd a ohrefydd yn ei gylchynu, ao aeth o hono yn ei gafael. Ni eh&fwyd dim o'i brofiad yn y giya, ond gadawodd beth mwy i brofi ei fod yn un o blant Dnw, sef ei fywyd duwiol. Nid oedd wedi bod yn y wlad hon yn hir, ao yr oedd ei deulu heb ddod o Gymru, saf ei wraig a'i dri phlentyn. Bydd yn newydd trwm i'w fam a'i briod pan glywant, ond bydd yn gys- ur mawr iddynt ddeall fod Mr. Philip Tho- mas a'i briod wedi ei gladdu mor anrhyd- eddus a pharchus, heb arbed dim traul. Hafyd bydd yn gysur iddynt ddeall fod ugeiniau o bobl Ystradgynlaia yn ei ang- ladd, efallai fwy nag a fnasai o honynt yn Birch Grove, Llansamlet, lie y mae ei deulu yn byw yn bresenol. Derbynied ei deulu yn yr Hen Wlad, yn nghyd a'i anwyl fam, fy nghydymdeimlad, fel eu hen gym- ydog. Dymunaf i'r wasg Gymreig wneya yn yr Hen Wlad, yn nghyd a'i anwyl fam, fy nghydymdeimlad, fel eu hen gym- ydog. Dymunaf i'r wasg Gymreig wneyd sylw o hyn yn Nghymru.— W. E. Morgan. < .u.

[No title]

SEFYDLIADAU NEW YORK A VERMONT.

Engedi, Wisconsin.

GWEITHFAOL A MASNAUHOL.

PRYDAIN FAWR.

MANTON PELLENIG,

Hyde Park, Scranton, Pa.

[No title]

NODION PERSONOL, -0