Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
LLAIS Y WASG.
LLAIS Y WASG. CHWARELWBR Y PENRHYN. Y Wrexham Guardian a ddywed:- Bydd i'r bobl yn y cyrau hyp sylwi gyda galar ar amlygiadau o ysbryd anesmwyth yn mysg chwarelwyr Goededd Cymru. Y mae hyn yn gyfnewidiad llwyr ac anhapus yn nghymeriad hanesiol y dynion. Hyd yma y maent wedi cadw draw oddiwrth gynhyrfiadau ymranol sydd wedi bod yn aflonyddu y eyssylltiad' rhwng cyfalaf a llafur mor alarus mewn parthau ereill o'r wlad, ac yn sicr nid ydynt wedi colli dim drwy gymmedroldeb a boddlonrwydd. Y mae eu meistriaid wedi gwneud mwy erddynt yn wirfoddol nag a allesid ei ddirwasgu drwy unrhyw allu gorfodol. Y mae y meistriaid yn wastad wedi amlygu dyddordeb teimladwy yn amgylchiadau a llwyddiant y dynion, ac y mae y telerau hapus hyn wedi bodoli er lies- had y ddwyblaid. Nis gallent fodoli, modd bynag, ond tra yr oedd cyd- ymddiried a chyfeillgarwch, pan yr ym- ddygai y ddwy echr yn rhydd tuag at eu gilydd mewn symlrwydd a didwylledd, a phan y trafodai y rhai a fynent.a'r pwngc unrhyw annghydwelediad a ddigwyddai gyfodi yn uniongyrchol. Mor gynted ag yr ymyrodd estroniaid, yr oedd bodolaeth y cydgordiad yn anmhossibl. Daeth canolwyr a theimladau newyddion i weith- rediad, a chychwynwyd ymreibiad oer, dideimlad, am gyflogau, a dinystriwyd yr hen gydymdeimlad a fodolai, oherwydd gorweddai y gwir benderfyniad yn nwylaw dynion nad oedd ganddynt y cydymdeim- iad lleiaf a lies y naill ochr na'r Ilall. Yn wir, tueddai eu lies ar brydiau tuag at annghydfod ac ymrafael, fel cyfiawnhad o'u ymyriad fel cynhyrfwyr. Mor bell ag yr ymddygo y meistriaid yn deg a chyf- ia^n tuag at y dynion, y mae doethineb yn cymhell ar fod i'r ddwy blaid bender- fynu eu trefniadau heb gynnorthwy allan- ol. Unwaith y daw mesurau dirwasgol i mewn, a chychwynir dyeithrwch ag sydd yn rhwym o brofi yn ddinystriol i'r ddwy ochr. Ymdrechasom i wneud hyn yn eglur yn nglyn i'r annghydwelediad yn chwarelau Dinorwic. Yno mewn awydd am aflonyddwch yn unig, bu i'r dynion sefyll ar eu bawl i ffurtio undeb. Nid oedd ganddynt gwynion i'w gwastattau na hawlion i'w mynu; cymmerasant yn eu penau yn unig ffurfio undeb y chwarelwyr, a gwnaethant lawer o ddrwg iddynt eu hunain wrth gyflawni eu hamcan. Yn ofer y gwrthwynebai Mr Assheton Smith eu cwrs byrbwyll, ar y sail y byddai iddo dori y berthynas gydgordiol ydoedd hyd hyny yn teyrnasu yn Llanberis. Gydag yehydig gyfnewidiad caniattawyd iddynt y fraint o ymuno, a chredwn fod y dynion yn foddlawn ar eu buddugoliaeth ddi- ffrwyth. Pa iawn a gawsant am eu colled o bedair wythnos o golli gwaith a chyflog nj s gaUwn ddirnad; dyrysai hyd yn nod hwy eu hunain i egluro. Ond os nadoes unrbyw ffrwyth sylwedd- 01 yn amlygedig yn Llanberis, y mae ffrwyth chwerw yr un cynllun i'w ganfod yn chwarelau cymmydogol Bethesda. Y mae yr amgylchiad yn meddu ystyr taraw- iadol, fel yn egluro yr yspryd ymosodol sydd yn awr yn gyffredin yn mysg gweithwyr yn y cylcli hwn. Os oes dyn yn teilyngu ymddygiad ystyr- iol a pharchus oddiar ar law ei weithwyr, yn sicr y mae Arglwydd Penrhyn ymysg y nifer. Etto, pa beth yw ei ad-daliad yn y cyfwng hwn ? Y mae undeb gweithiol ymysg ei bobl, neu yn hytrach y maent yn offerynau bylaw yn nwylaw estroniaid nad oes ganddynt un syniad am rwymed- igaethau gwasanaeth teyrngarol; pa fodd y mae y swp hwn o gynhyrfwyr ac aflon- yddwyr wedi cyfarwyddo y dynion ac ym- ddwyn at Arglwydd Penrhyn? Y maent wedi neidio yn fyrbwyll i strike, heb gym- maint a diwrnod o rybudd, neu hyd yn nod feddu digon o foneddigeiddrwydd i ymohebu yn flaenorol a'u meistr. Syrth- iodd y ddyrnod yn gyntaf, a daeth rheswm yn olynol. Hyd yr adeg y bwriasant i lawr eu harfati ac y taflasant y chwarel- au eang i gyflwr o segurdod, nid oedd cymmaint a sill o gwyn wedi ei an- fon at Arglwydd Penrhyn; nid oedd- ynt wedi gwneud unrhyw ofynion, ac felly nis gellir dwyn ymlaen wrthodiad i gyfiawnhau defnyddio mesurau eithafol. Ond wedi i'r strike gychwyn, ac i elyn- iaeth gael ei achosi, bu y dynion mor dda a gwneud eu gofynion yn hysbys i'w meistr. Anfonasant deleran terfynol, gan kysfey8to pa Iriri It gfflog yr jm rhaid iddo dalu i'r dynion a bechgyn yn y chwarelau, a'r dyddiad pennodedig ar ba un yr oedd yn ofynol iddo wastattau ei gyfrifon. Pa mor bell yr oedd yr hawliad manwl hwn yn oddefadwy o dan yr am- gylchiadau nid ydym yn barod i ddyweud, ond yn y dull o'i gyflwyniad ar yr am- gylchiadau presennol nid oedd yn ddim amgen na hunan-hyder haerllug. Yr oedd y dynion eisoes wedi eyhoeddi rhyfel yn erbyn eu meistr, heb roddi iddo rybudd neu ofyn iddo ddyfod i deleran & hwynt cyn defnyddio mesurau eithafol. Yr oedd yn lied ddiweddar i agor goheb- iaeth pan yr oedd y frwydr wedi ei chychwyn, a hyny hefyd heb ail mewn an- foneddigeiddrwydd. Y mae y dynion wedi dewis eu gwely, a rhaid iddynt orwedd arno. Y maent wedi dewis segurdod yn hytrach na diwydrwydd, rhyfel na heddwch, a dichon y bydd iddynt gael hamdden i edifarhau oherwydd eu ffolineb. Nid oes amheuaeth na fuasai i Arglwydd Penrhyn roddi ystyriaeth ddi- frifol a ffafriol i unrhyw ddeiseb a gyflwyn- asid iddo gyda pharch. Y mae gwyr Bethesda wedi taflu eu hunain, tuallan i gylch cydymdeimlad drwy eu byrbwylldra a'u poethder. Y mae eu* cwrs annoeth wedi gwneud yn dra anhawdd i Arglwydd Penrhyn i ymdrafod & hwynt, llawer llai i wneud ffafr & hwynt, tra y gorfyddir y cyhoedd i gondemnio ysbryd rhyfelgar y dynion. Ymae hyd yn nod y newydd- iaduron a arferant gymmeryd plaid y gweithwyr yn awr yn gorfod eu ceryddu, a rhaid fod yr hyn a gondemnia cyfeillion yn ddrwg mewn gwirionedd. Eu bai ydyw canniattau i gymmeryd eu twyllo gan rai sydd yn byw wrth y drwg a gyn- nyrchant, a rhaid iddynt ddyoddef am eu bygoeledd. Os nad oedd cynllun dichell- gar i greu strike, yr oedd diffyg eglur mewn rhagystyriaeth er ei osgoi. Y mae fod y dynion wedi sefyll allan heb rybudd, cyn hyd yn nod gynnyg eu gofynion i ystyriafcth, yn agwedd newydd ar undeb ag sydd, yn ffodus, yn brin yn Ngogledd Cymru, a gobeithiwn y bydd iddo ddyfod yn brinach byth. Bydd i'r dynion ennill yn hytrach na cholli drwy y fath ganlyniad, ac felly gall daioni ddeilliaw o ddrygioni yn chwarelau y Penrhyn. Byddai yn beth caled orfodi dynion sydd wedi bod yn ngwasanaeth Arglwydd Penrhyn drwy eu hoes i chwilio am wasanaeth newydd. Nid oes ganddynt ond eu hunain i feio am wahanu cyfeillion a dinystrio cartrefi. Gadawsant eu gwaith heb esgusawd nac ystyriaeth, ac os ydynt, fel yr hysbysir ni, yn ymfudo i faesydd newyddion, nid ydyw ond cosp eu byrbwylldra. Yn hyn y maent yn elynion iddynt eu hunain. Dylent gofio y gall Arglwydd Penrhyn hyfforddio cad w ei chwarelau i sefyll yn well nag i'r dynion aros mewn segurdod. Pa mor bell y bydd i'r meistr estyn allan ei law i wared ei ddynion oddiwrth. eu ffolineb eu hunain, nid oes genym un moddion i benderfynu, ond rhaid cofio y bydd i ba beth bynag a wnelo yn y cyfeiriad hwn darddu oddiar garedigrwydd ac nid gor- fodaeth.
IY CYHUDDIAD 0 LOFRUDDIAETH…
Y CYHUDDIAD 0 LOFRUDDIAETH YN ST. HELENS. Ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, cynnaliwyd trengholiad ar gorph Peter Leicester. Yr unig dyst i'r ffeithiau yd- oedd gwraig y trangcedig, yr hon a ddy- wedodd ddariod i'r carcharorion Henry Twist, James Leyland, a Peter Webb, ddod fit ei thy a W cheisio myned i fewn y nos Sadwrn blaenorol. Gwrthododd Twist fyned o'r drws, ac aeth priod y tyst i lawr atto. Gwelodd Twist yn codi ei law i daro, and nis gallai ddyweud a ddarfu i'w law daraw ei gwr a'i peidio, ond syrthiodd ei gwr -i lawr wedi rhoddi tro neu ddau. Diangodd Twist ymaith, a dilynodd hitban ef, pryd y bygythiodd hi. Tystiod4 Dr Martin ddarfod i'r trangcedig farw oddi- wrth appopley, a daliai Twist i ddyweud na ddarfu iddo daraw y trangcedig o gwbl. Daeth y rheithwyr a dedfryd yn unol A, thystiolaeth y meddyg, a hysbyswyd g,,in ddynt nad oedd tystiolaeth i ddangos fod marwolaeth wedi ei brysuro gan darawiad Twist. Y mae'r carcharorion er hyny yn nwylaw yr heddgeidwaid yn disgwyl prawf ychwanegol.
YMGAIS I LOFRUDDIO.
YMGAIS I LOFRUDDIO. Nos Sadwrn, gwnaed ymgais i lofruddio dyn yn Jarrow-on-Tyne. Cymmerodd cweryl le rhwng Patrick Kelly a James Lyons yn y porthladd hwnw. Cymmer- wyd Lyons i fewn i dafarndy gerllaw, ar ol yr hyn trodd Kelly at ddyn o'r enw James Devaney, labrwr, ac annelodd ddryll llwythog atto, gan fygwth ei ladd. Taniodd yn ebrwydd, ond yn ffodus ni wnaeth iniwed. pwysig i Devaney. Yna gafaelodd ynddo, a thaniodd ddwy ergyd i'w wddf. Y mae Devaney mewn cyflwr peryglus, a Kelly yn y ddalfa.
[No title]
Cyrhaedda derbyniadau eisteddfod ddi- weddar Bangor dros ddwy fil a thri chant o bunnau, a bernir y bydd o bedwar i bum can* o bunnau yn ngweddill 'wfedL Muyvmdrnm.
TY-DORIAD YN CAPEL CURIG.
TY-DORIAD YN CAPEL CURIG. Torwyd i mewn i'r Royal Hotel, Capel Curig, nos Sadwrn, gan ladron. Llwydd- asant i gael mynedfa i mewn drwy ffenestr uwchben y drws, ac aethant drwy amryw ystafelloedd, a lladrattasant swmmawro nwyddau gwerthfawr. Y prif golledwr ydoedd Mr J. B. Dasent, yr hwn a goll- odd dros werth pum' cant o bunnau o nodau arianol, &c., a llawer o bethau ereill, 0 ystafell arall lladrattawyd bocs arian bychan yn cynwys 24p., modrwy werthfawr, a Ituaws o wrthddrychau gwerthfawr o ystafelloedd ereill. Anfon- wyd hysbysrwydd am yr anfadwaith i Bethesda a Bangor, a gwneirymdrech gan yr hcddgeidwaid i erlyn adal dau berson a ddrwgdybir o feddu cyfran yn y ty- doriitd. •
------..---.....--:;¡¡-CYHUDDIAD…
-¡¡- CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYH GORUCHWILiWR. Yn Jlys ynadol y Wyddgrag ddydd Mawrth, cyhu^dwyd Charles Roberts, goruchwyliwr y Mold Mountain Quarry y I Company, o dderbyn gwahanoi symiau o arian heb roddi cyfrif o honynt i'w feistr. Cybuddwyd ef yn mhellaeh o wneud false entry In y llyfrau gydar bwriad o dwyllo ei feistr. Yr amddiffyniad ydoedd fod dealUwriaeth yn bodoli fod y Yvhaddedig i gael ei wnend yn bartner yn y gwaith, a bod yr erlynydd yn dal .Yn ei dO'wylaw ar y pryd y swm o gan' punt oedd vn ddy- ledus i'r amddiffynydd. Wedi gv. randaw y tysiiolaethau gohiriwy.d yr achos hyd ddydd Mawrth nesaf, mewntrtfn i icrhau tystiolaeth bellach.
,CYFLAFAN AR Y MOn
CYFLAFAN AR Y MOn Torodd. gwrthryfel oina clwy allftii fwrdd y llestr Groegaidd Socrates, yr hyn a derfynodd yn llofruddiad y cadben gan ei frawd ei hun, yr hwn oedd yn un o'r dwylaw. Cafwyd y Socrates mewn r analluog gan agerlong o Abertawe, yr'hon a'i harweiniodd i Mumbles Roadstead. Cafwyd fod saith o'r dwylaw yn analluog i gyflawni eu gwaith, gan eu bod yn di- oddef oddiwrth afiechyd. Cymmerwyd y dwylaw i feddygdy, ac y mae yr hwn a gyhuddiro lofruddiey cadben mewn dalfa.
Family Notices
GENEDIGAETB AU. Aw-b 14, yn Monmouth, Polk County, Oregon Xorth Americ*, priod Mr R. Fonlkee, gynt 6 FRngar, ar faH. Awst 30, priod Mr Hugh Thomas, Hn. Llir-fair. feoVisp, ar fab. Medi 3, priod Mr Thomas Davies, paiuter, U Haet Parade, Rhyl, ar fab, Awst 31, priod Mr Mosea Jonee, 98, Peuton-street, Lerpwl, ar fab. Meôi i, priod Mr George T. Morris, Mid lleton Senven, ger Bridgnorth, ar fab. Medi 5, priod Mr R. H. H ngh^s Jones, York Villa. Letherland Road, Bootle, Lerpwl, ar ferch. Medi 6, priod Mr Thomas Da vies, 29, Fishguard, street, Everton, Lerpwl, ar fab. Medi 6, priod Mr Ellis Roberts, Fountain R, ad, Higher Tranmere, Lerpwl, ar fab. -kwist 23, yn Nantremenyn, ger P„nt Shon, Llaa- dysaul. priod Mr Thomas Thomas, ar ferch. PRIODASAU. Awat 86, trwy drwydded, yn Swyddf*'r C»tVe«trydd Mr John Jones, ft Misss Williams, Half-moon, Bjynsiea' cyn, Llanidan. Medi 3, yn EglwYB Llanfachreth, gan y Parch. R. Ro- berta, ficer, Mr Silvan us E. Pugh, Aston Clinton Tring Berkshire, ft Mary, merch hynsf Robert I'avies, Ysw. Ty Canol, Llanfachreth, Bir Feirii nydd. Medi 4, yn Llangefni, Mr Owfo Robert, P Illfgwyn, & Mr8 E. Williams, Bryn-y ddan o Llanbedrgocb. Medi 2, yn Llangefni, Mr Richard Williams, a Mfes Margaret Davies, Dinorben Hotel, Amlwcli. Medi 2, trwy drwydded, yn Eglwys Cerrig-y-diiiidiozi, Mr Rvan Jones, Llan, ft Miss Jane Davies, merch hvnaf Mr Willlatn Dalies, Ysgoldy. y Awst 25., yn Eglvcys Llanychaiarn, jer Aberystwyth, gan yParch. J. Lewis, John Davies, Taliesyn, ft Misa Anne Rowlands, mereh hynaf Mr Joel Rowlands ernfc o Tanr;d!t, Llanilar. f Medi 5, yn Dinbych, Mr William Cock Turner clothier, iiarwen, ft Miss Mary Avn Parrv, ny :< k %r Robert Parry, Ysgrifenydd Cymdeithacs Ad. i (\1'1 O,)g- leddbarfh eir Dçlinbyeh. MARWOLAETHAU. t'. Medi 3, yn 21ain oed, Eura Davies, nif Jones, stfition-master, Rhewl. Meli 1, yn 28 mlwydd oed, rm Jane, a Mrs Wi'liam Jones, Penyparc, Llanelidan. Medi 3, yn dair blwydd oed, John Jones mab Mr John Japheth Janes, Garnedd Wen, Fe&tlnipg! Mt-dt 1, yn 7 mlwyda oeil, w-ec-i lNi g^stiudd Eliza, march Mr Henry Parry, Ongi-y-wat* Festiniog. Awat ii7, yn 13 mis oed, Kate Winifred, ",«tch ieu« engaf Mr J. Roberts; Manchester HOU"(1 L 'bfoi. Awst 2C, yn 34 mlwydd oed, vu n l,. '<wy!fod. Oxford-street, Lerpwl, Mr Robert R bu in:lb i'r di- • weddxr Mr Richard Roberts, Brych • f» v ,an glyn. N Awst 2R,yn 81 mlwydd oed, eti, Roberts gweddw y diweddar Mr J. Rabfr-f, {J ,ior, NRDtIYD. Medi 1, yn 56 mlwydd oed, Mrs Hi: 0, j^th Pen. tre Berw. Medi yn 80 mlwydd oed, Owen 0-er». asiedrdd Ty Miffr, Llaudegfan, Mfin, ,r ,lai -iedigaeth! Gadav. odd weddwieuangc a dau u M r t, j '<Ata ar ei ol Awst. 28, yn 88 mlwydd o. .i,„e pH(rv Ardd Felen. Porthaethwy, gweddw v di»-e %irtr U'obe'rtParrv ceidwfi'^ helwriaeth y diweddar J !uj Pr: e Yaw pif' Cadnant 5 Awst 27, yn «T mlwydd «ed, .1>¡!1P, p Mr Owet Joner, eq, rier, Lsncantar Square, (' nw~ Medi 3, yn ? mis oed, nLJh J r os, i.lentvn Mr Mor- m Roberta, growr, High-street, a e Conwv, i » p.S'a'tS,S, pnmed r Medi C), yu gant oed and \1'1' m", M Elizabeth ■Jones, Dr^fach, Llanwnnen n-u f-j rs Hir hi oreu, l'oftv Elias, diwerirlar o Ow.tne. y L uiwenog. Aw-fc 16, yn naw mlB,,eH, Margaret, mercli (eel,an ag unig l> entt-u Mr John Thornw, o Uvthvrdr T 1 «, sv tyd, diweddar o B'aenanerch, Ceredigion
[No title]
-u Gwe i-thwyd mwnglad d aur Casteil.Cam Docnan, yn nghyd a'r peiriannau, yr [wythnos o'r blaen, y* Nqjgellan, gan Mf Xffriman Step, i Mr gm
CRYNNODEB WYTHNOSOL.
Drwy geisio ymgymodi ag ef ei hun, ar 1 ol ei aflwyddiant fel athraw cyunrychiol- wyr y wasg, y mae Mr Bulkeley Hughes wedi llwyddo i gyfia wni y gwrhydri o neidio o'r badell i'r t&n. Yr wythnos o'r blaen awgrymwyd i'r gohebwyr swyddol y buasai eubabsennoldeb yn fwy dymunol na'u presennoldeb, gan fod y bwrdd ar fedr ymdrin a phyngciau o dan y ddeddf newydd, yr hyn oedd, gyda Haw, yn ddim amgen na thwyll. Yn hytrach nag i'r cadeirydd gael mantais i roddi ei fygyth- iad blaenorol mewn gweithrediad, tybiodd cynnrychiolwyr y wasg yn ddoeth ym- neullduo yn wirfoddol. Wedi cau o honynt y drws, aeth y cadeirydd drwy y gorchwyl babanaidd o adrodd ei brofiad yn ngwyneb yr adolygiad a wnaed yn y Vasg ar ei ymddygiadau, ac erfyniai ar i'r bwrdd ddatgan annghymmeradwyaeth 9 n o feiddgarwch ei adolygwyr. Wrth gwrs, cafodd gefnogaeth dau neu dri o gynffon- wyr gwasaidd, ond gwrthodai cyfangorph yr aelodau gydsynio a'i gais hyd onis teimlodd ar ei galon sori deirgwaith ac ymneullduo o'r gadair. Dichon fod rhai o drigolion Llandudno yn credu fod rhyw urddas annirnadwy yn nglyn a'r cynffon- 'lythyrenau A.S.; ond, mewn difrif, dy- munem ofyn a ydynt am. ymostwng yn dawel i adael i'w cynnrychiolwyr, pa rai sydd yn rhwymedig i ddefnyddio eu hamser er lleshau y dref, i droi y bwrdd Ileol yn chwareufwrdd i gecraeth personol a phrangciau babanaidd ? Yn ein tyb ni, dylai y trethdalwyr alw cyfarfod cyboedd- us er gwrthdystio'yn erbyn y fath wastraff ar amser, esgeulusdra o leshad y dref, a r^^pbrangciau gwaradwyddus, heb son am yr, ymosodiadau parhaus ac anwrol ar I y;gynnrychiolwyr diwyd a gonest y wasg yn eu bymgai3 annibynol i wasanaethu cyhoedd. y Ymddengys Mr Watkin Williams, yr aelod dros fwrdeisdrefi Dinbych, fel pe yn cael ei ddirdynu rhwng y gwynt a'r Ilif yn ei ansefydlowgrwydd poenus rhwng Radi- caliaeth a Cheidwadaeth. Yr wythnos ddiweddaf cafodd y fraint o annerch Od- yddion Gwrecsam, ar yr hwn achlysur y oymmerodd fantais i ddatgan ei farn fod carlamiad deddfwrol y Badicaliaid yn y blynyddoedd diweddaf wedi bod yn dra cbyflym a thost, a diolchai am ychydig mwy o gymmedroldeb o dan lywodraeth y Ceidwadwyr. Cydnabyddai nad oedd y senedd-dymhor diweddaf wedi bod yn ddi- ffrwyth, a datganai ei farn yn ddifloesgni ddarfod i gymmaint o ddaioni ag a ellid yn deg a rhesymol ei ddisgwyl gael ei gyn- iiyrchu. Prin y bydd i syniadau mor gymmedrol gael derbyniad gan bleidwyr eithafol Mr Williams; ac yn wir, rhaid i ninnau gydnabod ein syndod ddarfod iddo ryfygurhoddi datganiad iddynt. Ond- diamheu nad yw efe heb ddeall a4heimlo i ba gyfeiriad y mae y gwynt yn cbwythu, ac nid rhyfedd os ydyw yn bradychu awyddfryd am aberthu cyssondeb ar allor llwyddiant. Drwy fwyafrif o ychydig bleidleisiau, llwyddodd i gael mynedfa i St. Stephan yn y frwydr ddiweddaf, ac os parha i ddiwygio mor gyflym yn y dyfodol, ni syrid ni ronyn pe gwelid Mr Watkin Williams yn yr etholiad nesaf yn ymgeisio am eisteddle seneddol fel Ceidwadwr trwyadl. Drwy y mwyafrif prin o ddeg-ar-hngain o bleidlesiau y llwyddodd y Radicaliad yn mwrdeisdrefi Dinbych i sicrhau dychwel- iad eu hymgeisydd, yn erbyn yr An- rhydeddus G. T. Kenyon, yr hwn a ym- laddodd frwydr y Ceidwadwyr gyda'r fath wroldeb a phenderfyniad. Byth oddiar hyny, teimlwyd fod yn ddyledswydd cyd- nabod ei wasanaeth pwysig i'r blaid gyfan- soddiadol, a dydd Mawrth ymgycnullodd miloedd o'i gefnogwyr selog yn Cefn Park, ger Gwrecsam, i'r dyben o dalu teyrnged o barch, a gwneud cyflwyniad iddo. Yr oedd yr holl drefniadau ar raddfa eang, ac am- lygai.y cynnulliad enfawr y brwdfrydedd mwyaf. Tra yn dychwelyd ei ddiolch- garwch; addawodd y boneddwr poblogaidd y byddai iddo eu harwain i'r frwydr etto pa bryd bynag y gelwid am ei wasanaeth; a chan fod Ceidwadaeth yn oynnyddu mor gyflym yn y bwrdeisdrefi nid oes ynom unrhyw ammbeuaeth na ddaw allan yn fwy na choncwerwr. Tra yr ydym yn ysgrifenu, tywyllwch sydd yn amdoi sefyllfa pethau yn ardal Bethesda. Cyrhaeddodd ei arglwyddiaeth i'r castell nos Fawrth, a deallid y byddai iddo dderbyn dirprwyaeth o'r chwarelwyr ddydd Me^cher; ond hyd yn hyn nis gwyddom a ddaethpwyd i ryw ddealltwr- iaeth derfynol. Yr ydym yn tueddu i gredu na ddaethpwyd, gan fod ymchwil- iad trwyadl a swyddogol yn cael ei wneud i gyhuddiadau y gweithwyr yn erbyn rhai o'r goruchwylwyr, modd y gallo ei ar- glwyddiaeth ymddwyn attynt yn ol eu haeddiant. Gyda golwg ar y ffeithiau a b ae ti c> ddygwyd i'r golwg yn yr ymchwiliad, gweli genym beidio ymddiried mewn sibrwd, gan ddewis aras am hysbysrwydd s'wydd- dgol. Yr ydym- ni yn gwbl hyderus y dygir jt achos i derfyniad boddhaolcyn, nad allesid dwyn hyny oddiamgylch yn gynt, gan fod colli cbwech wythnos o am- ser yn golled fawr nid yn unig.i'r gweith- wyr, ond hefyd i fasnach y gymydogaeth. -Y Ceisiwyd taenu chwedl ychydig ddyddiau yn ol ddarfod i ymgais gael ei wneud er tanio ty un o'r dynion sydd yn parhau i weithio yn y chwarel, ond da genym dde- all nad oes sail i'r fath gyhuddiad. Yn wir, mor bell ag yr ydym ni yn deall, y mae y dynion wedi ymddwyn yn dra gweddaidd, ac yn deilwng o'r sefyllfa uchel y mae chwarelwyr Cymru wedi ei hennill yn mharch y cyhoedd.