Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

FICER WAKEFIELD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FICER WAKEFIELD. GAN OLIVER GOLDSMITH. [Oyfieithiad ndllduol i'r GWL ADGARWR. ] PENOD XXVI. Diwygiad yn y carchar.-Er gwneyd cyfreithiau yn gyflawn, dylent wobrwyo yn gystal a chosbi. BOREU dranoeth deffrowyd fi yn foreu gan fy nheulu, y rhai oeddynt yn tywallt dagrau wrth ochr fy ngwely. Yr oedd ymddangosiad pruddaidd pob peth o'm cylch, mae'n debyg, wedi eu tristau. Cer- yddais yn dirion eu haofyd, gan sicrhau iddyrst na chysgais erioed gyda mwy o dawelweh ac yn cesaf ymholais am fy merch hyuaf, yr hon nid oedd yn eu plith. Hyebysasant fi fod anesm wythdcr a blinder y dydd blaeriorol wedi gwaethygu ei thwymyn, ac ddarfod iddynt dybied yn ddoeth ei gadael hi ar ol. Fy ngofal nesaf ydceid i anfon fy mab i sicrhau ystafell neu ddwy er lletya fy nheulu ynddynt mor agos i'r carchar ag y gellid yn gyfleus eu cael. TJfuddbaodd, ond nis gallai gael ond un ystafell, yr hon a rentwyd ar draul fecban i'w fam a'i ehwiorydd, gan fod y carchar-geidwad, gnla ilaweroddynoliaeth. yn caniatau iddo ef a'i ddau frawd bach i orwedd yn y carchar gyda mi. Parotowyd gwely felly iddynt yn nghongl yr ystafell, I in .,r hwn, feddyliwn, a atebai y dyben yu dda. Yr oeddwn, fodd bynag, yn ewylhsio gwybod yn flaenorol, pa un a cedd fy rhai bach yn foddlon gorwedd mewn lie a ym. ddangosai fel yn eu dychrynu wrth ddyfod i mewn iddo. "Wel, fy mechgyn da," meddwn i, sut yr ydych yn hoffi eich gwely new- ydd ? Gobeithiwyf nad oes arnoch ofn gorwedd yn yr ystafell hon, er mor dywell yr ymddengys." "Na, fy nhad," meddai Die, "nid oes arnaf ofn gorwedd yn unrhyw le lie bydd- wch chwi." A minau," meddai Bill, yr hwn nad oedd eto ond pedair mlwydd oed, wyf yn earn pob lie yn oreu lie mae fy nhad." Ar ol hyn cyfarwyddais bob un o'r teulu pa beth oeddynt i'w wneyd. Erchwyd fy merch yn neillduol i wylio dros iechyd edwinol ei chwaer; yr oedd fy ngwraig i fod gyda mi;— Ac am danoch chwi, fy mab," meddwn i, trwy lafur eich dwylaw y rhaid i ni obeithio oil i gael ein cynaliaetb. Bydd eich cyflog fel dydd-lafurwr yn gyflawn ddigon, gyda chynildeb priodol, i'n cadw oil, a hyny yn gysurus. Yr ydych yn awr yn un-ar-bymtheg oed, ac y mae genych nerth, arhoddwyd efichwi, fy mab, er dy- benion defnyddiol iawn, canys rhaid iddo achub rhag newyn eich rhieni a'ch teulu analluog. Darperwch ynte heno i edrych am waith erbyn yfory, a dygwch adref bob bob nos yr yehydig arian a ellwch enill er -ein cynaliaeth." Wedi eu hyfforddi felly, a threfnu y gweddill, aethum i lawr i'r carchar cy- ffredin, lie y gallwn fwynhau mwy o le ac awyr. Ond nid oeddwn wedi bod yn hir yno cyn i'r llwon a'r cableddau a'm cyf- archent o bob cyfeiriad fy ngyru yn ol eto i'm hystafell. Yno eisteddais am gryn amser yn myfyrio ar oferedd ac anfoesoldeb y trueiniaid, y rhai pan yn cael breichiau agored holl ddynoliaeth yn eu herbyn, oeddynt yn llafurio i wneuthur iddynt eu hunain elyn dyfodol a dychrynllyd. Yr oedd eu hannheimladrwydd yn cyn- hyrfu fy nhosturi penaf, ac yn dileu fy an- esmwythder fy hun o'm meddwl. Ym- ddangosai fel yn ddyledswydd orphwysedig arnaf i geisio eu hadferu. Penderfynais felly i ddychwelyd unwaith yn ychwaneg, ac yn ngwyneb eu holl sarhad i roi iddynt gynghor, a'u gorchfygu trwy ddyfal-barhad. Aethum felly i'w plith eto gan hysbysu Mr. Jenkinson o'm bwriad, wrth yr hyn y cbwarddodd yn iachus, ond hysbysodd hyny i'r gweddill ohonynt. Derbyniwyd y cynygiad mewn tymer dda, gan ei fod yn debyg y rhoddai adnawdd newydd o ddifyr- wch i bersonau ag nad oedd ganddynt ddim ffy,nonellau digrifwch ond o wawdiaith ac oferedd. Darllecais iddynt folly ran o'r gwasanaeth mewn ton uchel, a chefais fy nghynulleidfa yn hollol Javren ar yr achlysur. Sibrydion gwagsaw ac ocheneid- iau gwenog, winciadau a phesweh, a barent chwerthin yn ami. Fodd bynag, parheais gyda fy nifrifwch arferol i ddarllen yn mlaèD, yn ymwybodol y gallwn, efallai, ddiwygio rhai, ond nas gallwn lygru neb. Wedi darllen, aethum i roi gair o gynghor iddynt, yr hyn oedd megys yn eu difyru yn hytrach na'u ceryddu. Sylwais yn flaenorol nad oedd un amean ond eu llesiant yn fy nhueddu i wneyd hyn, -fy mod i yn gydgarcharor a hwynt, ac nad oeddwn yn awr yn cael dim oddiwrth bregethu. Dywedais fod yn ddrwg genyf eu bod mor gableddus, canys nid oeddynt yn enill dim trwy hyny, ond gallasent golli llawer. Canys yn sicr, fy nghyfeillion," medd- wn i (canys yr ydych fy nghyfeillion, pa fodd bynag yr annghydnabydda y byd eich .cyfeillgarwch), er pe byddai i chwi dyngu deuddeng mil o Iwon mewn un dydd, ni I wnai hyny ddwyn un geiniog i'ch cod. Yna beth o werth yw galw bob moment ar y diafol, a chroesawu ei gyfeillgarwch, gan y gwelwch mor druenus y trinia chwi ? Nid yw wedi rhoi dim i chwi yma, fel y gwel- wch, ond llonaid safa o lwon a bol gwag, ac yn ol yr hanesion goreu gefais i am dano, ni rydd i chwi ddim gwell yn ol llaw." Wedi i mi orphen, derbyniais gyfareh- iadau ty cgwrandawyr, a daeth rhai ohon- ynt i ysgwyd llaw a mi, gan dyegu fy m'jd yn ddyn goriest, a'u bod yn dymuno ym- gydnabyddu yn mhellach a mi. Addewais felly i roi anerchiad iddynt y dydd canlynol, a dechreuais obeithio yn wir y gallwn effeithio rhyw ddiwygiad yno. Pan foid- heais fy meddwl fel hyn, aethum yn ol i'm hystafell, lIe yr oedd fy ngwraig yn dar- paru pryd o fwyd syml, tra y deisyfodd Mr. Jenkinson gaol ychwanegu ei giniaw ef at yr eiddom ni, a bod yn gyfracog o'r pleser o'n hymddyddan. Wedi i'r teulu dd'od i'w olwg, ac iddo weled fy merch ieuangaf, dywedodd :— "Ah! Doctor, y mae y plant hyn yn rhy brydferth a rhy dda i'r fath le a hwn." Beth! Mr. Jenkinson," meddwn i, "diclch i'r nefoedd fod fy mhlant yn gymedrol mewn moesftu ac os ydynt yn dda, nid oes wahamaeth am y gweddill." Yr wyf yn tybie j, syr," ebe fy nghyd- garcharor, "éi bod yn rhoddi llawer iawn o gysur i chwi i gael yr holl deulu hwn o'ch cwmpas." Cysur, Mr. Jenkinson meddwn, "ydyw yn wir y mae yn gysur, ac ni fueswn hebddynt am y byd, canys gallant wneyd daeardy i ymddangos fel palas. Nid oes ond un ffordd vn y byd hwn i glwyfo fy nedwyddweh, a hyny ydyw trwy eu niweidio hwy." "Yr wyf yn ofni ynte, syr," ebe ef, "fy mod i ryw fesur yn euog; canys yr wyf I yn tybied fy mod yn gweled yma (gan edrych ar fy mab Moses) un ag ydwyfwedi niweidio, a chan yr hwn yr ydwyf yn dymuno cael maddeuant." Darfu i'm mab yn uniongyrchol adgofio ei lais a'i wedd, er iddo ei weled o'r blaen mewn dullwedd ffugiedig; a chan ysgwyd ei law gyda gwen, maddeuodd iddo. "Eto," ebe fe, "nis gallaf lai na rhy- feddu pa beth allech weled yn fy ngwyneb fel yn nod tebygol i un gymeryd ei dwyllo." "Fy anwyl syr," ebe'r llall, "nid eich gwyneb, ond eich hosanau gwynion a'r rhiban du yn eich gwallt a'm denodd i. Ond hob ddweyd dim yn ddiraddiol i chwi, yr wyf wedi twyllo callach dynion na chwi yn fy amser, ac eto, gyda fy holl driciau, y mae y penbwliaid wedi bod yn rhy ami i mi o'r diwedd." Yr wyf yn tybio," ebe fy mab, y byddai adroddiad o fywyd fel yr eiddoch chwi yn hyfforddiadol a difyrus i'r pen." "Dim llawer o un o'r ddau," ebe Mr. Jenkinson. Y mae y perthynasau hyny a ddesgrifiant driciau a llygredigaethau dynolryw yn unig, trwy fwyhau ein drwg- dybiaeth mewn bywyd, yn atal ein llwydd- iant. Y teithiwr ag sydd yn gwanym- ddiried yn mhob person a gyferfydd, ac yn troi yn ei ol ar ymddangosiad pob dyn a edrycha fel ysbeilydd, anfynych y cyr- haedda mewn pryd i derfyn ei daith." Yn wir, yr wyf yn meddwl oddiwrth fy mhrofiad fy hun, mai y gwybodus yw y person mwyaf gwirionffol dan haul. Yr oeddwn i yn cael fy nhybied yn gyfrwys o'm plentyndod; pan ddim ond yn saith mlwydd oed, yr oedd y boneddigesau yn fy ystyried yn ddyn bychan perffaith; yn bedair-ar-ddeg oed, yr oeddwn yn codi fy het ac yn earn y boneddigesau pan yn ugain, er fy mod yn berffaith onest, etc yr oedd pawb yn fy nhybied yn gyfrwys, ac ni wnai neb ymddiried i mi. Felly gor- fyddwyd fi o'r diwedd i droi yn gyfrwys- ddyn er hunan-amddiffyniad; ac yr wyf wedi byw byth oddiar hyny a'm pen yn euro gan gynlluniau i dwyllo, a'm calon yn ymlenwi gan ofnau i mi gael fy nal. Arferwn yn fynych chwerthin wrth eich cymydog gonest Flamborough, ac un ffordd neu'r llall arferwn ei dwyllo unwaith yn y flwyddyn. Eto, ai y dyn gonest yn mlaen heb un drwgdybiac-th, gan ychwanegu cyf- oeth, tra yr oeddwn inau yn parhau yn fy nhriciau a'm twyll, heb y eysur o fod yn onest. Yna adroddodd y Doctor wrtho gyfres fawr yr anffodion a'i harweiniodd i'w garchariad presenol; ac wedi gwrando y 'stori, dywedodd y ceisiai ddyfalu pa beth ellid wneyd yn ei achos.

Advertising

Cyfarfod Llenyddol Elim, Mynydd-Cynffig.

Advertising

Ymosodiad ar Heddgeidwaid…

Marwolaeth Mr. Geo Dawson.

Ysbeiliad beiddgar ger y Fenni.

Advertising

Y Llofraddiaetli yn Sheffield.

Helbul yn Llwynrhydowen.

INodiadau Cymreig.