Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CYNYG CAREDIG JOHN THOMAS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNYG CAREDIG JOHN THOMAS, YSW., I FED YDDWYR BEY NAM AN. MR. GOL.,—Crefwyf am ofod fechan o'ch newyddiadur clodwiw i ddiolch yn gyhoeddus drosof fy hun, a thros Fedyddwyr Brynaman, i J. Thomas, Ysw., gynt o'r Cwrt, am ei yisbryd haelfrydig, diragfarn, a haelionus, yn cynyg darn o'i dir, ar odreu Gwaencaegwrwen, iddynt i adeiladu ysgold^ neu gapel arno, a hyny am fil ond un o flynyddau, am yr ardreth fechan o un swllt yn y flwyddyn. Addawodd hefyd i osod deg punt ar y maen coffawdwr- iaethol. Hyderwyf y bydd iddynt dderbyn cynyg y boneddwr caredig ar unwaith, fel y gallo yr ychydig Fedyddwyr sydd yn byw ar odreu y Waen' gael lie cyfleas i gynal Ysgol Sabothol, &c. Diolch i Dduw am ambell foneddwr o Annibynwr, fel Mr. Thomas, i dosturio wrth enwad arall pan y gwelo ym- drech haerllug yn cael ei wneyd i lethu eu gel a'u hymdrech dros ledaenu yr egwydflor- ion a gredir ac a gofleidir ganddynt. Fe ddywedwyd wrthyf hefyd gan Mr. Edmunds, ysgolfeistr, fod boneddwr arall o Annibynwr sydd yn byw yn y gymydogaeth wedi dweyd wrtho ef y darai efe weled lie gan y Bedydd- wyr i gynal achos ar odreu y Waen', a'i fod yn barod i roi pob cynorthwy a allo iddynt. Felly, chwychwi a welwch, syr, os oedd Pio X yn tybied ei fod yn ymddwyn yn Gristion- ogol wrth enllibo a gwawdio y "Brawd Trochyddol" yn y Tyst a'r Dydd; fod rhai yn perthyn i'w diriogaeth yn rhy annibyncjl eu meddwl a'u barn i gymeryd eu harwain ganddo yn ei elyniaeth at y Bedyddwyr. Dymunwyf hir oes i Mr. Thomas, a phryd- nawn bywyd teg, a mynediad helaeth i dra- gywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hiach- awdwr lesu Grist ar derfyn ei yrfa ddaearol. —Yr eiddoch, yn gywir, Ystalyfera. C. WILLIAMS.

Y Caledi yn y Debeudir.

Y S E N E DOD.

A YDYM I FYNED I RYFEL ?

Advertising

Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch'I…

BLAENAFON.—PAJtVO AC AFONYDD.