Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Bwrdd y * Celt.9
Bwrdd y Celt.9 Yr oedd llu mawr wedi dod ynghyd i'r cwrdd diweddaf i groesawu y Gol. yn oj, ac 'roedd y brwd- frydedd yn gymaint a phe buasai y Cadfridog Kitchener wedi glanio yn Battersea neu rbyw borth- ladd arall. Hawddamor, fecbgyn," meddai, yn ei lais tyneraf wrth esgyn i'r gadair urddaaol. "Da genyf eich gweled mor llawen, a diau genyf mai ffrwyth yr Heddwch yma yw gloywder eich gwynebau chwi." Heddwch wir I" ebe Cwcwll. Pa les a ddeillia D Heddwch ? Onid byd i ymladd brwydrau ag ef yw yr hen fyd hwn ? ac y mae rhywbeth swynol-yn enwedig i'r awen-yn y gair araB," Rhyfel"; a thyma fel y ffrydiau fy mheiriant i wrth feddwl am yr hyn a gaed ar faesdiroedd Affrica yn yatod y ddwy flynedd a haner diweddaf:— "RHYFEL. 0 ryfel, anwar fileinig-ingol Gawr angau, sychedig Am waed, dan ei draed e' drig, Ddewrion od yn ddarniedig. Ymwriawl ferwawl fariaeth-yw rhyfel Chwareufwrdd gormesiaeth, O'i wg du yn finiog daeth Dylif ofnadwy alaeth.—CWCWLL." "Ho, ho," chwarddai Gwynfryn. Os oedd y thyfel mor erchyll a dy englynion di, yr oedd yn enbyd." Be' wyddost ti y difarf, diawen, am englynion ?" torai yr hen fardd i fewn yn sarug wrth weled ei gynyrchion yn cael eu beirniadu." "Wei" ebe Gwynfryn. "Beth yw dy farn onest di at y peth yna sydd yn I ymwriawl ferwawl'—onid yw yn ofnadwy ?" Mae bonyna frawd atebai Cwcwll yn chwydd- edig, yn haeddawl o sylw edmygawl." Ho, wel, poed felly atebai Gwynfryn yn swta, ond gwell gen i ganu yn y cywair arall, sef i:— CI HEDDWCH. Hynaws wedd duwies heddwch-a luniwyd 0 lanwedd dynerwch Mawl a chan yw mel ei chwch Yn doddion o ddedwyddwch. GWYNFRYN." Ac wedi son am Heddwch daeth pawb i drefn eto am dro. P'le mae'r Crwydryn ?" yr wytbnos yma ym- holai Curli, "oherwydd y mae arnaf fi eisieu cael eglurhad ar y gair Bettws, yn ogystal ag ar y frawddeg yna Y Byd a'r Bettws.' Mae rhai enwau mor rhyfedd, wyddoch, yng Nghymru fel nad oes bosibl deall eu hystyron, a phrin y credaf fod neb ar wyneb clawr daear a all ddeongli rhai o honynt, a chredaf mai un o'r rhai anhawdd yw'r gair Bettws." "0, na," ebe'r Gol. "Y mae hwna yn hen air cyfarwydd, a 'does angen ymboeni uwch ei ben ac am y dywediad cyffredin, Y Byd a'r Bettws,' wel, y mae pawb yn gwybod ei ystyr trwy Gymru, Lloegr a Llanrwst. Ond gwrandewch ar ddoethawr arall yn egluro y gair i chwi:— Bettws. Nis gellir yn hawdd dderbyn unrhyw un o'r damcaniaethau ynghylch tarddiad y gair. Cyfrifir ef yn gyflredin fel yn gyf-ystyr a'r Seisnig, Bede- house'—ty gweddi: ac yna olrheinir ef i'r Lladin, Abbas.' "Beth bynag am hyny, ymddengys y gair yn fyn- ych yn nbrethiad y Pab Nicolas yn y drydedd ganrif ar cdeg. Cysylltir ef yn wastad ag enw rbyw sant. Yn yr ystyr yna ceir yr eglurhad yn yr ymadrodd Y Byd a'r Bettws.' [Eitha gwir. GOL.] Ar lafar gwlad rhoddir yr enw ar le rhwng pant a bryn-man tawel, achlesog. Ac mewn rhanau o Ogledd Cymru gelwir lie llethr wedi ei hulio a bedw a drain, yn Fettws." Ar ol cael hynyna aeth Curli i'w Ie, a diau y daw yn awdwr mawr ar darddiad geiriau yn y man.
DR. MORGAN DAVIES A'R BEIRDD.
DR. MORGAN DAVIES A'R BEIRDD. Clywais y dydd o'r blaen fod y Dr. Morgan Davies wedi dyweyd yn ei araeth ger bion y Brythoniaid, nad oedd eisieu dycbymyg mewn barddoniaeth, a'i fod am ei alltudio i diriogaeth chwodlcniaeth. Wel, wel, be' fuasai y Bardd Bach-coffa da am dano-yn ei ddyweyd wrth hynyna tybed ? Chawn ni y beirdd wedyn, ddim pwt o aden i hedfan tipyn, ac ni wiw son am eryr, robin goch na bronfraitb, ond bellach, Rbaid i'r bardd fod yn ddodo—a'r awen Ber rywiog i drigo Mewn cell wag, lie bynag bo, I fwy araf fyfyrio. Wel, yn siwr i chwi, yr ydw i am ei thaflu hi i fyny. 'Does arna i ddim eisieu bod yn ddodo, er fod hwnw yn gallu dodwy pethau gwerthfawr hwyrach. Ond os clywch chwi rywbeth yn chwaneg oddiwrthyf, wedi i mi gael tori fy edyn, dyma fydd fy enw- AB IDO YR ABWYDYN.
HIRAETHGAN MAIR AR OL EI CHARIAD,…
HIRAETHGAN MAIR AR OL EI CHARIAD, A DYBIAI OEDD WEDI BODDI. (Allan o Bryddest Bdramadyddol Gwilym Pennant, 'rhon a ju yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llan- dudno, yn y flwyddyn 1864). Mawr yw'm haeth, af i'r traeth helaeth i holi Y mor cryf, pa le bu f Owen gu foddi, CeiBia'n daer gan fy chwaer Wylan glaer aden, Ddwyn heb ddig yn ei phig, ddarn o wisg Owen O, for hallt, peth o'i wallt im' heb ball dyro- Du wallt glan, lliw y fran eirian sydd arno; Eang for, oil dy ddor agor heb wgu Im' cyn tranc wel'd fy llanc ieuanc yn oysgu. Donau'r lli, cariwch chwi, 'nagrau i ato, A thrwy barch gwnewch hwy'n arch-dwfrarch am dano Yn ddi-len yn y nen, safed pen 'r enfys, Arno'n hedd, golofn fedd aurwedd fawreddus Digon gwir nad oes cur yn ei bur ddwyfron Fel myfi sydd heb fri'n tori fy nghalon Mewn modd gwiw gyda Duw, byw yw ei enaid, Codwyd ef fry i'r nef cartref cerubiaid. Cefais y ddau benill uchod gan Gwilym flynyddau yn ol, ond buont ar ddisberod hyd yn awr. Maddeued y bardd i mi am fy niofalwoh. Nid wyf yn meddwl y gallai ef ei hun gofio y penillion godidog a serch. gynhyrfiol hyn yn bresenol. Felly, yr wyf yn cym- eryd y cyfleusdra a'r hyfdra o anrhegu darllenwyr y CELT a hwy. Y mae y rhain megis dwy fricaen yn awgrymu ansawdd yr adeilad barddonol clodwych a wnaeth efe erbyn Eisteddfod Llandudno. Pe cy- hoeddid y bryddest, yr hon a gynwysai unarbymtheg o wahanol gymeriadau, byddai arno'n hedd golofn fedd," gwell na'I un fynor allesid ei chael. CWCWLL. I
Advertising
A TRIAL ONLY NEEDED, ALL Persons suffering with VARICOSE VEINS, A BAD LEGS, and the like complaints should send for a bottle of- "VARICURA" (Registered) THE NEVER-FAILING REMEDY. Full directions given with each Bottle. TO BE HAD ONLY OF THE PROPRIETRESS- Mrs. M. THOMAS, Ardwick Villa, Builth Wells, AND R. L., 4, Creighton Road, Queen's Park, London. W. IN BOTTLES AT 2/3 each, or by Post, 2/9 Testimonials received from all parts of England and Wales. 1 HUGH DAVIES'S I COUGH MIXTURE B NO MORE Difficulty of Breathing. | NQ MORE Sleepless Nights. H NO MuRE Distressing Coughs. 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for C0WJHS 1 DAYIES'S COUGH MIXTURE for COLDS H DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA 9 DAVTSS'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS H i DAVIES'3 COUGH MIXTURE for HOARSENESS R 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA ■ ■ DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS B ■ DAVIES'S CO'JGH MIXTURE for COUGES B g DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT B fi DAVIES'S COUGH MIXTURE—Most Soothing g i DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest B 3 DAVIES'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm B ■ DAVIES'S COUGH MIXTURE-for SINGERS ■ 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE—for PUBLIC B | DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS g THE GREAT WELSH REMEDY. g g 13ld. and 219 Bottles. Sold Everywhere, B g Sweeter than Honey. Children like it. 4 B I HUGH DAVIES, ChemistrMACEYNLim J London Agents- Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MORGAN, „ 34, Tavistook Place Mr. EDW. JONES" 232, Kilburn Lane,\V MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C SS3k Artificial Teeth from 5/- to 10/- Complete Sets (upper and lower) from zC4 TEETH EXTRACTED UNDER GAS AND ETHER SPRAY. OLD SETS OF TEETH REMODELLED. NO CHARGE FOR CONSULTATION. "Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunoi." GRELLIER A'I PAB, ARGRAFFWYR, 2f1, GRAY'S INN ROAD.
LLENYDDIAETH Y MIS.
yng Nghymru ?" Yn yr un rhifyn, y mae ysgrif goffa ragorol i'r diweddar Caregian, gan ei hen gyfaill- Sarnicol. Bu Caregian farw yn ieuanc, ac y mae ardal wledig Talgareg heddyw yn gal- -aru ar ei ol. Yr oedd yn un wyr ieuainc addawol Cyrr, ru, gwreiddiol a gwerinaidd; ac ysgrifenodd lawer i'r CELT pan cedd y papyr hwn ar ddechreu ei yrfa—saith mlynedd yn ol, Ni chafodd neb fywgraffydd gonestach nac a gafodd Carnegian yn Sarnicol. Diolch jam yr ysgrif dlws. Cymrv/r Plant. Parhau yn ei ddyddordeb mae'r cylcbgrawn bach pob!ogaidd hwn, ac yn rhifyn Mehefin ceir nifer o ysgrifau taraw- iadol iawn i blant. Eisieu rhagor o ddarluniau Cymreig sydd ynddo, a phe cawsid hyny deuai plant Cymru i deimio mwy o anwyldeb tauagat eu gwlad a'i chyfoeth hanesyddol. Y Diwygiwr. Dewi Môn" yw arwr y ihifyn presenol, ac y mae hyny yn hyncd addas gan mai efe oedd cadeirydd Undeb yr Anibynwyr am y flwyddyn hon, a chynhaliodd bono ei chyfarfodydd mawr yr wjthnos gyntaf o Fehefin yng N gbaernarfon. Dewi Mon yw Prifathraw Coleg Aberhonddu, ac fel yr aw- gryma ei enw, un o blant Mon ydyw, a ganwyd ef yn yn Gwenfron, ger Amlwch, yn y flwyddyn 1836. Hara o hen deulu Methcdistaidd ac aelodau o'r Cyfundeb hwnw oedd ei rieni ond pan yng Nghaergybi fel egwyddorwas, jdaeth i fynychu capel Anibynol, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1852. Y mae wedi bod yn rheng flaenaf pregethwyr Cymru ar hyd y blynyddoedd, a lleinw y cylchoedd mwyaf parchus yn ei enwad. Y mae yn fardd gwych, yn lienor da, ac y mae ei Ramadeg Cymraeg yn waith safonol er's blynyddau lawer. Mae nifer o ysgrifau pregethwrol yn y rhifyn presenol, ac y mae stori 11 Nansi yn dal yn llawn dyddordeb. Y Cerddor. Prif ysgrif y cyhoeddiad hwn yw ysgrif goffa am y diweddar Hugh Ed- wards, Canonbury, a rhcddir darlun taraw- iadol o'r gwrthryeh hefyd. Ysgrifena ei hen gyfaill, Meirionfab," rai adgofion tyner am dano, ac nid oedd neb yn ei adwaen yn well na'r hen gerddor o Gapel y Gohebydd." Yn dilyn yr ysgrif ceir ychydig o benillion tlws—penillion coffa gan Dr. Tom Phillips, Harrow, y rhai sydd yn llawn o hiraeth ed- mygcl ar ol y cyfaill tawel o Gapel Wilton Square.