Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

nAR Byd y Gan. t

HYN A'R LLALL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL. Bu'r Rrenin o gylch glanau Cymru y Saboth diweddaf, a chafodd amryw o'r trig- olion gyfle i'w weled. Yr oedd yng Nghaer- gybi tua dau o'r gloch y prydnawn, ac oddiyno hwyliodd i gyfeiriad Ynys Manaw. Ar ol treulio rhai wythnosau yn y wlad hon, er gweled y Coroniad, dychwelodd y Brenin Lewanika i'w fro ei hun. Cafodd ei foddloni yn fawr ar adeg dathliad y Coroniad, a thyb- iai pan glywodd y canu mai angylion oedd wrth y gwaith. Dygodd gydag ef amryw o bethau, ac yn eu mysg wisgoedd sidan i'w ddeuddeg gwraijj. Yr oedd yntau, fel pob gwr da, yn myn'd ag anrheg i'w anwyliaid ar ol bod yn Llundain. Rai o'r dyddiau diweddaf anfonodd Ynadon Amlwch fachgen o'r enw Thomas Roberts, pymtheng mlwydd oed, i garchar am chwech wythnos, gyda. llafur caled. Deallir fod yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi gorchymya fod i'r bachgen gael ei ryddhau, am fod cryn amheuaeth am ei euogrwydd. Paham na wnaiff masnachwyr Cymru ar- graffu hysbysiadau masnachol uwchbei drysiu eu tai yn Gymraeg? Myn pob crydi alw ei hun yn shoemaker, a dilledydd yn tailor. Ond bendith ar ben Mr. Evans, siopwr, Rhydy- meirch, Llanofer, canys fel hy 1 y mie efe yn myne.,u ei alwedigaeth :— JAMES EVANS. Masnachdy trwyddedig mewn Te, Trwythrawn, Trwynlwch, Myglys, &c. Caws a Bara o'r fath bura A werthir yn y Masnachdy yma. Boreu dydd Gwener yr wythnos ddiweddaf t cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad a gym- erodd Ie yn Sevenoaks y dydd blaenorol, yr hon a achoswyd drwy i Mr. H. W. Foster gael ei ddyrchafu i swydd yn y Trysorlys. Mynodd y Rhyddfrydwyr ymladd brwydr, ac fel y gwelir oddiwrth y ffigyrau buont yn fwy ffodus nag y gobeithiai y rhai mwyaf aidd- gar. Fel y canlyn yr oedd y ffigyrau j Mr. H. W, Foster (Tori) 5,333 Mr. B. Morice (R) 4,442 J MwyafrifTonaidd. 891 I Wrth weled tua phedair mit o fots wedi troi, y mae'r blaid Dorxaidd yn dechreu ymholi I am achos y fath deimlad yn eu herbyn. I Fesur Addysg y priodolir y gefnogaeth fawr a gafodd y Rhyddfrydwyr.

Advertising

Y Dyrodoi.