Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
C. RUSSELL & CO., 64, 66, 68, 68a, & 70, DENMARK HILL, S.E. General Drapers. First SPRING SHOW of NEW MILLINERY, FEB. 13th.
Am Gymry LluncHin.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
chan ei fod bob amser yn nghanol y mudiadau Cymreig, mae'n sicr mai yn y bywyd Llundeinig ei gwelir ran amlaf o hyn allan. YN Y CHANCERY.—Oherwydd rhyw ddiffyg yn y trefniadau, y mae eiddo'r diweddar Thomas Williams, Gwaelodygarth, Merthyr, wedi ei osod yn Nghwrt y Chancery. Fel mae'n gofus i lawer, gadawodd swm mawr o'i gyfoeth at achosion crefyddol, yn benaf ynglyn a'r enwad Annibynol, yn Nghymru. Syniad hen bobl yn y wlad yw mai rhwng y cyfreithwyr yr aiff pob ystad a deflir i'r Chancery, ond gobeithio mai nid dyna fydd tynged cyfoeth yr henadur hwn. CYNGHERDD CENEDLAETHOL.—Yr unig gyn- nulliad gwir Gymreig ar yr adeg hon o'r flwyddyn yw'r Cyngherdd Cenedlaethol a roddir bob blwyddyn gan bobl Castle Street. Heno y rhoddir y wledd eleni, a chadeirir gan Mr. D. Lloyd-George. Cenir caneuon Cymraeg gan ein cantorion goreu, a dylai pawb gefnogi'r cynnulliad hwn. EIN CYRDDAU MAWR.—Dathlir coffa Dewi 'Sant gan Gymry Llundain yn ystod y wythnos ddyfodol. Nos Fawrth ceir Cymanfa'r Ymneill- duwyr yn y City Temple, tra y bydd Eglwys Loegr yn cynhal eu cwrdd hwythau yn Eglwys Gadeiriol St. Paul. Trannoeth, sef ar y iaf o Fawrth, cynhelir gwledd o dan nawdd Cym- deithas Cymru Fydd yn yr Hotel Cecil, ac un arall o dan nawdd yr Hen Frythoniaid yn yr Holborn Restaurant. Rhwng y canu, a'r pregethu, a'r gwledda, a'r areithio, dylai'r Hen Sant fod yn wir foddlawn ar ein pybyrwch cenedlaethol. YMENYN PUR. -Addawa Mr. Balfour yn ei raglen am y tymhor y ceir Mesur arbenig i ymdrin a gwerthwyr ymenyn amhur. Gan ei fod wedi addaw rhywbeth tebyg yn 1903, ac nad yw'r addewid presenol ond y degfed ar ei restr, y mae'n amheus genym a lwydda i wneyd dim er sicrhau ymenyn pur i ni yn Llundain. GALWAD.—Yn ol y newyddion diweddaraf o'r America, y mae y Parch. John Davies, gynt gweinidog y M.C. yn Shirland Road, wedi derbyn yr alwad unfrydol a gafodd gan Eglwys Racine, Wis., Unol Dalaethau yr America. BARRETT'S GROVE.-Nos Iau, yr i6eg, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Williams, Allen Road, mwynhaodd plant yr eglwys uchod eu gwledd flynyddol o de a bara brith. Y mae y cyfeillion hynaws uchod ers amryw flynyddoedd bellach wedi rhoddi treat fel hyn i'r plant, a theimla yr eglwys yn dra diolchgar iddynt am hyny. Heblaw y cyfarfod adloniadol arferol, cawd eleni ddarluniau gyda'r magic lantern, gan gynrych- iolydd Cenhadaeth Drefedigaethol yr Anni- bynwyr, ac arweiniwyd ni yn ddyddorol o Lundain i Ddeheudir Affrica, ac oddiyno i ganolbarth y cyfandir eang hwnw, i weled y gwaith ardderchog sydd yn cael ei gyflawni mewn efengyleiddio, &c., y wlad gan y Gym- deithas uchod, ac hefyd leoedd sydd wedi eu cysegru a'u hanfarwoli gan Livingstone a chen- adon eraill. Arweiniwyd y rhan arall o'r wyl gan v gweinidog, y Parch. E. Owen, B.A., ac ar ol anerchiad dyddorol ganddo, cafwyd ped- warawd, "Cwymp Babilon," gan "The Evans
Am Gymry LluncHin.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Family." Caneuon:" Y Tlysau," Katie Evans, Jude Street; Gwna bobpeth a wnei fel Cymro pur," Master John Evans; Down the Vale," Master A. Egryn Owen Mae d'eisiau Di bob awr," Lizzie Evans; "Daddy," Master Tommy Roberts (gan yr hwn hefyd y caed adroddiad rhagorol); "A welsoch chwi Ef ? Lillie Evans, Devon's Road. Cafwyd hefyd ddeuawd gan y Misses Hagger, a chaneuon gan Mrs. Skelton a Mr. Daniel Evans. Ar ol talu diolch cynhes i roddwyr y wledd, ac i'r cadeirydd, terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu yn nglyn a'r plant gaed hyd yma yn Barrett's Grove.-E. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Sadwrn diweddaf, yng nghapel y Wesleyaid Seisnig, Queen's Road, Battersea, bu y cyfeillion o gapel Beauchamp Road yn cynhal cyngherdd er mwyn cynorthwyo "Gospel Temperance Society" yr eglwys uchod. Mrs. Lloyd- George oedd yn y gadair, a llanwodd hi yn deilwng. Cafwyd anerchiad byr ganddi yn ystod y cyfarfod, ar ddylanwad y Diwygiad yng Nghymru. Dywedai fod Cymru yn ddyledus i Loegr am y Diwygiad Methodistaidd, ac yr oedd yn gobeithio y bydd i'r Diwygiad presenol yng Nghymru fod o les i Loegr hefyd. Yn absenoldeb y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., Wilton Square, cafwyd ychydig sylwadau gan Mr. D. O. Evans. 'Roedd rhaglen rhagorol wedi ei baratoi gan Mr. Evans, yn cynwys caneuon gan y Misses Enid Edwards, Gwladys Lloyd, Lizzie Morgan, a Mrs. R. L. Davies; Mr. D. O. Evans, Mr. D. Jones (Llew Caron); triawd gan Miss Morgan, Mri. Davies ag Evans; a Chor Merched Beauchamp Road (o dan arweiniad Madame Susannah Pierce); pianoforte solo gan Miss Mair Lloyd-George, ac adroddiad gan Mrs. D. O. Evans. Yr oedd y cantorion oil mewn hwyliau da, ac y mae y Cor Merched wedi gwellha yn eu datganiad o'r rhan-gan y buont yn cystadlu arni yn Eisteddfod Hammer- smith. Yr oedd neuadd y capel yn llawn, a chafwyd cyfarfod ardderchog, ac yr oedd dymuniad cryf gan ein cyfeillion Seisnig am noson Gymreig eto yn fuan. L. GOTHIC HALL.—Ychydig ryfeddol oedd a wnelo yr hyn a eilw un ddarlithyddes enwog yn mere man a'r cyfarfod hwyliog o dan enw "Coffee Supper" gynhaliwyd yn y lie uchod nos Iau, y 16eg cyfisol. Merched ieuainc yr eglwys oedd wedi myned yn gyfrifol am yr oil o'r trefn- iadau-y wledd i'r inner man, yn ogystal a'r cyngherdd, a llwyddiant perftaith fu ei hym- drechion gyda'r naill orchwyl a'r llall. Pe llwyddid," meddai George Borrow, "i gael rhianod yr ardal i'r eglwys bychan o beth fyddai cael y llanciau i'w canlyn." Nis gwn i ba fesur y gellir priodoli dylanwad yr athroniaeth yma ar faint ac ansawdd cynnulliad nos Iau, ond, modd bynnag, nid wyf yn cofio gweled gymaint o'r bechgyn yn bresenol ers blynyddau. Gresyn, mewn ffordd, na ddarfu i awdurdodau y cyfarfod sicrhau gwasanaeth un o'r rhyw deg i lanw y gadair, ond gan ei bod am oddef i foneddwr lywyddu anhawdd fuasai iddynt daro ar ragorach cadeirydd na'r hynaws Mr. William Jones, Kentish Town. Cymerwyd rhan mewn gwa- hanol foddau-canu, chwareu, ac adrodd-gan y cyfeillion canlynol: y Misses Rees, Wheeler, a Gippy Jones, a'r Meistri. E. R. Jones, L. Evans, J. Jones, a J. Bevan Cowley. Am y danteithion nid oes angen canmol. Clywais un brawd, wrth son am ryw fath o felusion oedd wedi ei fwynhau yn fawr, yn dweyd, Yn diar anwyl, 'toedd y peth digri hwnnw yn llithrig deudwch 'roedd o just mor llithrig ag angel wedi rhwbio sebon' meddal ar ei wadnau ac yn sclevrio a'r enfys Hwyliog yw y gair, fel y dywedais eisoes, i ddesgrifio'r cyfan. Gyda chasgliad o ddeg gini i goroni yr oil, credaf ein bod fel eglwys yma o dan ddyled neillduol i'r merched ieuainc am eu haeloni a'u gweithgarwch diflino ynglyn a'r mudiad.E. S. R. Y BORO'.—Credwn mai ychydig yw nifer y Cymry Llundeinig sydd wedi cael treulio haner can mlynedd yn aelod yn yr un eglwys yn ddidor. Dyna ydyw hanes y boneddwr adna- byddus, Mr. W. R. Evans, Loughborough Road, yn eglwys y Boro'. Derbyniwyd ef yn aelod yno y nos Sul olaf yn Ionawr, 1854. Nos lau, Chwefror 16eg, cynhaliwyd cyfarfod dyddorol iawn yn y capel uchod i'w longyfarch, ac i gyflwyno iddo anerchiad goreuredig er coffad- wriaeth am yr amgylchiad. Llywyddwyd gan Mr. W. Lloyd Owen. Rhoddwyd hanes bywyd Mr. Evans gan y gweinidog, ac adgofion am hen swyddogion yr eglwys gan Mri. M. John a T. Hamer. Siaradwyd ym mhellach gan y Mri. Tysilian Jones, Thomas Evans, a Griffith Jenkins; datganwyd gan Miss H. Edwards, Miss L. Jenkins, a Mri. Harry Watkins ac E. R. Wood, a chafwyd nifer o englynion pwrpasol gan Mr. R. Wood (R. Maldwyn). Mae Mr. Evans yn edrych yn gryf ac yn iach, a chan ei fod yn disgyn o linach sydd yn nodedig am ei hirhoedledd, diau fod ganddo flynyddau lawer eto o'i flaen. Mae ganddo fanteision mawrion i wneuthur daioni-iechyd, amser, a digon o gyfoeth. Coroned ei hen ddyddiau drwy ddefnyddio y naill a'r Hall at wasanaeth ei gydgenedl a'i Dduw.—UN OEDD YNO. ST. MARY'S CHURCH, CAMBERWELL. — An interesting debate took place on Tuesday, the ZD 14th, the subject being "Should animal life be sacrificed for the sake of personal adornment ? Mr. T. Lloyd occupied the chair. The debate was opened by Mr. D. T. B. Morley in the affirmative, who, in the course of his able remarks, endeavoured to show the absolute necessity of such sacrifices for the comfort of mankind, ladies in particular. Although some of his statements were more imaginary than real, yet the paper was good, delivered in his customary free and humorous manner. Mrs. Wynne then brought up the opposition, and, although the first paper reached a very high standard, the second was better. Opposing the custom of her own sex. Mrs. Wynne, although leaning too much on the sentimental side, yet laid the matter before us in an excellent way. One may not be far wrong in saying that it was the best paper heard in Camberwell during this season's meetings. Several others discussed the subject ably, but it was a great pity that the gentlemen present could not better appreciate such excellent papers. The usual vote of thanks brought to an end the best meeting held in St. Mary's this season.-A. E. L. STRATFORD. — Diolch i'r nefoedd fod yr Ysbryd Glan wedi disgyn yn genllif yn y lie uchod y nos Lun o'r blaen. Yr oedd y dylan- wadau mor drymion fel y dywedai un brawd nas gallasai ddal dim rhagor. Wylai rhai yn hidl, ac edrychai eraill fel pe wedi eu parlysu. Yn wir, yr'oedd hi yn nefoedd ar y ddaear-y bobl ieuainc am y cyntaf yn cyfarch gorsedd gras, a swn cyfaddef bai ac edifeirwch ym mhob un o'r gweddiau. Yr oedd gweddi un o'r dynion ieuainc am i Dduw blygu ei frawd a phlygu dynion ieuainc y lie bron yn annioddetol o galonrwygol. Yr oeddym wedi edrych yn mlaen at dywalltiad o'r fath yma ers wythnosau lawer, oblegid cyrchid i'r cyfarfodydd gweddi bob nos ers tua dau fis i ofyn am y gawod, ac yr oedd amryw o'r cyfarfodydd gweddi hyn yn rhai gwir fendigedig; ond yn y cyfarfod hwn dyma y nefoedd yn agor, a'r Ysbryd yn dyfod nes ein hysgwyd hyd ein sylfeini. Y cyfeillion a fen- dithiwyd fel offerynau mwyaf neillduol i ddwyn y cynhyrfiad mawr dan sylw oddiamgylch ydoedd y Parch. W. R. Owen, B.A., Port Dinorwic, a Miss Maude Davies, a Miss Florrie Evans, Cei- newydd. Yr oedd difrifwch Mr. Owen wrth lefaru, yn cyrhaedd y mwyaf anystyriol, ac anerchiadau gonest Miss Evans yn gwneyd yr un peth, a chanu Miss Davies yn toddi y calonau mwyaf. 0 fel y canai, "Ai Iesu mawr, ffrynd dynolryw," nes peri i chwi deimlo eich bod yn gallu caru yr Iesu o'r newydd. Cafwyd cyfar- fodydd gogoneddus nos Sadwrn a thrwy y Sabboth; ond ar nos Lun yr ydym yn pwys- leisio, yr hwn gyfarfod a barhaodd h)d hanner nos, ac ni buasem yn blino pe buasem yno am byth. Yr Arglwydd a roddo chwaneg, o'i Ysbryd i ni fel eglwysi.