Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
AIL YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AIL YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR. Personait: Huw Llwyd, oed 75: Dechreuwr canu cymmer- adwy yn ei ddyddiau goreu, ond bellach wedi ymneillduo o'i swydd. Arthur Morgan, oed 55 Ymwelydda Llanfadryn, wedi ymwneyd llawer a cherddoriaeth yn ei gwahanolganghennau. John Haydn Jones, oed 35: Cymmydog Huw Llwyd, ac olynydd iddo yn ei swydd; ar- weinydd corawl hefyd, a lleisydd o gryn fri yn ei ardal. Lie: V Bryniau: Preswylfod Huw Llwyd, ger Llan- fadryn. Amser: 1905. I. H. Llwyd.—Fe drowyd tipyn ar gwrs ein y hymddiddan ddiweddaf ar gyflwr presennol caniadaeth Gymreig drwy i John ddweyd fod ein canu cvnnulleidfaol ni yn rhagori ar eiddo y Saeson. Rhyngoch chwi eich dau am hynny Wn i ddim am ganu'r Saeson ond yr ydych chwi, Mr. Morgan, wedi bod ymron ar hyd eich hoes yn Lloegr, ac wedi cael y manteision goreu 1 ymgydnabod ag ef. A. Morgan.- Y cwbl a wnaf fi fydd ceisio dangos nodweddion gwahaniaethol y canu gymreig a Seisnig, yn ol cyfartaledd v naill a'r
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
-===- T n T n Swiss Tours, ■ I I I I | 17 Days, £ .1 I7». 6d. K III. Norway Cruise, I I ■ I || July, 3 Days, £ 3 I9s. 6d. ■ II I HI Particulars — SECRETARY ■ II I HI Free Church Touring Guild I I M B B H ■ H H ■ Memorial Hal), Farringdon ■ %# III Vl | Street, E.G.
,-'1Y LLOFFT FACH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
i'r diwedd. Yn eu dilyn daw'r bobl mewn oed. Cenir dwy neu dair o anthemau gan y cor; ac y mae beirniaid cerddorol yr ysgol arall a'u penau ar gam, a'u llygaid y'nghau bob un. Daw'r benod yn ei thro—y seithfed benod yn Matthew. Hwyrach y chwenycha'r holwr chware' ar y lan gyda'r cregin, ond tynir ef i'r dyfnder dros ei ben a'i glustiau gan dduwinyddion yr ysgol sydd "ar ger'ed." Ac er y byddai'n anodd i chwi • gael gafael ar athrawiaethau mawrion crefydd yn y benod a holir, nid yw yn anodd yn y byd iddynt hwy. Bid fyno, ceir haner awr 0 holi ac ateb mor fywiog a dim allesid ddisgwyl. Daw yr holi a'r ateb, y canu a'r cwbl i ben erbyn pedwar o'r gloch. Mae'r ysgol arall yn diolch am yr ymweliad, ac yn addo talu'r ddyled yn fuan. Wedi bwyta bwyd," a rhwymo'r ceffylau wrth y ceir, eir yn ol i gyfeiriad cartre'; ac y mae pawb yn Uawen eu hysbryd ac yn foddus eu tymer. Mae un rhagoriaeth yn perthyn i Mr. Aaron nad wyf wedi son am dano. Mae yn holwr ysgol diguro. Nid y pregethwr goreu yw'r holwr goreu bob amser. Mae gweinidog Bethabara gerllaw yn bregethwr poblogaidd dros ben, ond nid yw yn werth ei halen fel holwr. Rho'wch Mr. Aaron i holi mewn Cymanfa, a dyna'i llwyddiant yn sicr o'r ochr hono. Dyna pa'm mae cymaint o alw am dano i Gymanfaoedd Ysgolion. Pan y mae yn holi ei ysgol ei hun, a drwy gwrs o wersi byrion mewn darlleniadaeth i gychwyn. Hola yn fywiog ag awgrymiadol; a chas beth yw ganddo wel'd esboniad yn cael ei grybwyll, neu sawru esbon- iad ar yr atebiad. Aeth yn ddadl boeth rhwng Bili Dafydd a gwr yr Henblas un tro pan oedd Mr. Aaron yn holi; a chymerodd yntau blaid Daniel yn erbyn Bili. Collodd Bili ei dymer pan welodd ei fod yn colli'r dydd ac meddai We], fel yr w I'n dweyd y dwed Adam Clark, bid fyno "Ie, ie," ebai Mr. Aaron, "dyn call oedd Adam Clark yn ddiame; ond-níd dyna g'nath e'n gall!" Cyn i odid neb wel'd yr ergyd, terfynwyd yr ysgol. (I'w barhaii).
AIL YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
llall. Yn mlaenaf oil mi a ddywedwn fod mwy o rymusder yn yr eiddom ni, yn codi nid yn unig oddiar fwy cyffredinolrwyd I yn y cyfranog- iad ynddo, ond hefyd oddiar fwy o gyfoeth lleisiol, yn enwedig yn y rhannau gwrrywol. Nid yw'r ddau beth hyn yn rhinweddau digymmysg, yn annibynol ar chwaeth a barn. Fe fyddai ein canu ni ar ei ennill o fod yn Hai cyffredinol, a phe byddai i lawer yn ein cynnulleidfaoedd ganu yn eu calonnau yn lie gyda'u lleisiau. Paham nas gall pobl angherddorol addoli trwy wrando ar ganu emyn, yn gystal a thrwy wrando ar weddi neu bregeth, yn lie cras-floeddio tonau, allan o gywair ac amser, nes merwino clustiau a selio geneuau eraill o uwch chwaeth a gallu i'w canu yn briodol ? Ac, ysywaeth, nid i'r dosbarth hwn yn unig y mae canu trystiog yn gyfyngedig dyma'r duedd gyffredin yn ein cynnulleidfaoedd Cymreig, hyd yn nod yn mysg ein cantorion. Byddaf fi yn hoffi canu calonnog, ie, a chanu mewn hwy], ond nid yr hwyl raiadraidd honno a glywir yn llawer rhy fynych yn ein haddoldai ni. Nodwedd i'w deisyfu a'i chymmeradwyo ydyw grymmusder yn natganiad emynnau o fawl gorfoleddus wedi eu hieuo a thonau mawreddog eu harddull. Y mae emynnau a thonau, fodd bynnag, na oddefant eu bwrlymmu allan o'u dechreu i'w diwedd gydag egni byddarol yn ymylu ar fod yn farbaraidd. Pa sawl gwaith y clywsom ni y don a adwaenir yn Nghymru wrth yr enw "Manheim" (7.6 dwbl), un o'r tonau gor-ddwysaf ei theimlad a'i thynerwch, a thon hefyd a gymdeithesir yn meddyliau cerddorion a Christionogion drwy holl wledydd cred a dioddefaint mwyaf y Groes, pa sawl gwaith, meddaf, y clywsom y don hon, a genir ers dau- gant-a-hanner o flynyddoedd ar eiriau cyssegredig Paul Gerhardt, yn cael ei chanu, nage, ond yn hytrach ei bloeddio gyda swn rhyferthwy fel pe byddai hi yn rhyfelgan feidd- gar, a'r rhai oedd yn ei chroch-Iefain yn rhyw lwyth llengawl o anwariaid o bellafoedd y ddaear. Y mae gennym lawer i'w ddysgu oddi- wrth y Saeson yn hyn. Clywais Gymry ymffrostgar o'r canu taranllyd hwn yn galw canu y Saeson wrth enwau sarhaus, megys "ysgafn," "difywyd," a "mursennaidd." We], y cwbl a ddywedwn i ydyw, o'r ddau rhoddwch i mi y "mursennaidd," hyd yn nod pe gellid yn gyfiawn gymmhwyso yr enw hwnnw atto. Credu yr wyf fi mai gennym ni y mae'r ymdeimlad dyfnaf o'r gerddoriaeth yr ydys yn ei chanu, a bod gennym wrth natur fwy o adnoddau lleisiol tuagat gynnyrchu yr effaith ddyladwy etto yr un mor gryf a hynny y credaf mai gan y Saeson y mae r ddirnadaeth oreu am iawn ddehongliad y gerddoriaeth a'r farddoniaeth. Yr hyn a'm tery fynychaf mewn cynnulleidfa Gymreig yw'r digonedd o leisiau gwych sydd ynddi, yn hytrach na gwir deilyngdod y datganiad ei hunan ond yr hyn a ymgyfyd i'm meddwl wrth wrando ar y Saeson ydyw purdeb a choethder cymharol yr effaith gyffredinol a gynnyrchir, a hynny gyda phrinnach defnyddiau. J. Haydn Jones.—A ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn rhagori arnom ni mewn amser a mynegiant ? A. M.- Yr oedd hynny ac ychwaneg yn fy meddwl; ac ymattal rhag eu henwi ddarfum am na ddeuem byth i ben pe'r aem i fanylu ar bob rhyw elfen mewn caniadaeth. J. H. J-Ond ai nid ydyw eu canu hwy yn rhy gyflym ? A. M-Diammeu fod y cyfryw eithriadau ond a dullweddau cyffredin y ddwy genedl y mae a fynnom ni yn awr. Ar y cyfan, ynte, barnu yr wyf fi mai hwy sydd agosaf i'w lie. Pa fodd bynnag am hynny, hwy a gad want at yr "amser "a gymmerir yn fwy cysson na nyni; ac y mae eu cyd-symmudiad, hyd yn nod yn eu tonau bywioccaf, gan nad pa amrywiaeth amser ac anghyfartaledd nodau a fo ynddynt, yn gyfryw ag a deilynga ein hefelychiad. An- nghymmeradwyo yr wyf fi y duedd gynyddol yn ein plith ni i gymmeryd rhyddid ar amser ton i gyrhaedd rhyw amcan plentynnaidd o liwio gair neu frawddeg neillduol o emyn, a thrwy hynny dorri ar rediad llyfn yr alaw a'r gynghanedd, yr hyn sydd mor bwysig mewn cerddoiiaeth addoliadol. Arferiad yw hwn ag y mae arwein- wyr cymanfaoedd canu yn fwyaf cyfrifol am dano, ac arferiad hefyd ag y dylem osod ein hwynebau yn gadarn yn ei erbyn fel yr hyn sydd a thuedd ynddo i ddirywio ac i lygru ein caniadaeth. y. LL. y.—Y mae'r effeithiau a gynnyrchir gan z' yr hyn a gondemniwch chwi er hynny yn orch- fygol i'r teiniladau weithiau. A. AI.—Fe ddibynna liynny yn hollol ar chwaeth a gwybodaeth gerddorol y sawl a'u clywo. I gerddorion cywir eu barn ni byddai yr effeithiau hynny namyn rhyw driciau am- mrwd nad oes ynddynt ypriodoldeb lleiaf mewn Salmyddiaeth semi a phur. Heblaw hynny, os goddefol yr ymyrriadau mympwyol hyn ag amseriad tonau, mi a ofynnwn yn mha le y maent i derfynnu ? H. LA.—A chwestiwn digon priodol hefyd. Fydde dim o'r )sfa hon cyn dyddiau'r gymmanfa ganu. Gwelais y peth yn Llanfadryn yma yn creu yr annhrefn fwyaf trwy fod rhannau o'r gynnulleidfa yn canu mewn dulliau gwahanol. J. H. J-I ddyfod bellach at gyflwr presenol ein caniadaeth, yn annibynnol ar bob cymhar- iaeth rhyngddi a chaniadaeth Seisnig, yr wyf fi yn teimlo ein bod ni yn parhau i ddiwygio ryw gymaint, er cydnabod o honof fod peth gwir yn yr hyn a ddywedai Huw Llwyd. Fe ddichon mai yn yr ymdrech a wneir i roddi mynegiant i'r geiriau a genir y mae hynny amlyccaf. Bum i fy hunan mewn ysgol dda yn hyn o beth gyda Huw Llwyd ei hunan. Nid adnabum i neb erioed a wyddai yn well pa fynegiant cyffredinol i'w roddi i unrhyw emyn ac y mae ei ol arnom oil hyd hedJyw, yn neillduol mewn absennoldeb o'r duedd i floeddio. Yr unig wahaniaeth rhyngom ydyw y byddaf fi yn ymgyrraedd at fwy o amrywiaeth yn mynegiant yr un emyn. A. M.—Mawr yw gwahaniaeth barn ar hyn mhlith cerddorion o fri. Nid wyf fi yn hoffi gorfanylder, etto nid gwiw cymmeryd )spr) d cyffredinol emyn yn fynegai i holl fynegiant cerddorol yr emyn hwnnw, os bydd y meddyliau sydd ynddo yn amrywio, yr hyn y dylid ym- gadw rhagddo ydyw geir-liwiad. Meddyliau, ac nid geiriau, a ddylai ein harwain i iawn ddirnad- aeth o ddeongliad priodol yr emynnau yr ydys yn eu canu. Ychydig o amrywiaeth yn gyffredin sydd yn ein caniadaeth Gymreig, oddigerth yr eithafion mewn "cryf" a "gwan," gydag engreifftiau achlysurol o'r mynegiant cyffroawl hwnnw sydd yn un o ffrwythau amlyccaf y cymanfaoedd canu. J. LL, J.—Ymdden :ys imi eich b )d yn wrth- wynebol i'r cyfarfodydd hyn, fel Hu w Llwyd. A. M.—Ni fum i erioed yn selog drostynt. Ystyriaf mai diddrwg, didda, ydynt, o'u cynnal yn achlysurol; ond, o'u mynychu, fel ag y gwneir yn awr, teimlaf mai llesteiriad ar ein cynnydd ydynt. Nid mewn ymdrechion ys- peidiol gogyfer a'r arddangosiadau mawrion cyhoeddus hyn yr ydys i edrych am ddiwygiad gwir a pharhaol ar ein caniadaeth. Rhaid wrth lafur cysson ac ymroddgar ar gyfer pob Sul, fel y byddo arweinydd a chor yn gwybod ymlaen llaw pa beth yn hollol fydd ganddynt i'w wneyd. Aiff y pregethwr i'r pulpud, nid yn unig wedi astudio ei djstyn yn ofalus, ond a'i feddyliau wedi eu gosod yn y drefn a'r iaith y bwriada efe eu traddodi ynddynt, fel na bydd ganddo ar y pryd ddim mwy i'w wneyd na'u cyflwyno i'w wrandaw\r naill ai oddiar ei gof neu ynte drwy eu darllen. Pa rwystr sydd ar ffordd CJntorion ein heglwysi i barottoi yn gyffelyb eu rhan hw) thau o'r gwasanaeth? A phe mabwysiedid y fath gynllun, ychydig fyddai yr angen am gymanfaoedd, ac, yn wir, ni cheid amser i barottoi ar eu cyfer. Hefyd fe ddiflannai yr angenrheidrwydd am ddechreuwyr canu ar unwaith ac am byth. Ni raid dweyd wrthych chwi fod arweiniad cerddoriaeth gynnulleidfaol, a ysgrifennwyd i leisiau cymmysg, gan ddynion yn groes i egwyddorion cynghanedd bur. Ac, ysywaeth, y mae gwaith y gvvr sydd yn arwain yn canu yr alaw yn ge?nogaeth i eraill o'r un rhyw wne) d yr un peth, yr hyn yw un o achosion pennaf gerwindeb trystiog ein caniadaeth. (Izv barhalt.)