Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
11 MI ii niyp——1^— WEAR WALTON'S Good Clothes. OUR INVINCIBLE "TWO YEAR" SERGE Is far and away the most economical to buy. LOUNGE ectyf- SUIT DO/" Made to Measure. WILL STAND Two Years' HARD wear. keep its deep rich colour, and look well all the time. Write for sample cutting or call and see the Cloth. ISAAC WALTON I, CO., LTD. 97, 99 & IOI, NEWINGTON CAUSEWAY, S.E. 1,3, 5, 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. S18, 520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442, 444 & 446, HOLLOWAY ROAD, N.
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddingto 11.0a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- i i. o a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. — Stewart, Llansamlet. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- I 1.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.30, LI. Edwards, M.A. 6.30, „ P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Supply Willesden Green. 6.30, Parch. G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, J. E. Davies, M.A. 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, J. Wilson Roberts. 6.30, D. Oliver. Shirland Road .10.45, W. Davies, B.A., Gaer- dydd. 6.30, W. Thomas, Llanrwst. Holloway 10.30, W. H. Davies, Pont- saeson. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, D. P. Jones, Llan- brynmair. 6.30, F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, D. Oliver. 6.30, J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0, W. Thomas, Llanrwst. 6.30, W. Davies, B.A., Caer- dydd. Walham Green 10.30 a 6.30, Parch. D. A. Jones, Llangeitho. Willesden Green 11.0, Parch G. H. Havard, M.A. Lewisham 11.0, a 6.30, Cyfarfodydd Gweddi. Tottenham 11.0, Parch. R. O. Williams. 6.30, W. H. Davies, Pont- saeson. Walthamstow 11.0, P. H. Griffiths. 6.30, LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, F. Knoyle, B.A. 6.30, D. P. Jones, Llan- brynmair YR ANNIBYNWYR. V Tabernacl, King's Cross— 11.0 a 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0 a 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0 a 6.30, Parch. J. Vlachreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 6.30 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- II a 6.30, Mr. Perkins, New College. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 3, a 6.30, Parch. LI. Bowyer. Battersea Rise- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, Eglwysbach. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.° a 6.3°. Little Alie Street, Aldgate- 11.° a 6,3°; Parch. B. Arberth Evans. Tottenham- 11.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEY AID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. D. N. Evans. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Mr. J. H. Edwards. 6.30, Mr. D. Owen. Poplar, Duff Street- 3.0 a 6.30, Parch. T. Jones. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bdlaf.
Y DYFODOL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1906. Meh. 4, 5. Cyfarfod Pregethu Blynyddol y Boro'. 27-29. Bazaar Capel Stratford. Os am wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis gellwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhesymol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur i bob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference. Gweler y telerau ar tudalen 11.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
blaen. Credir fod hyn i'w briodoli i raddau mawr i weithgarwch yr arolygwyr a'r athrawon, ac i'r ysbryd gwir Gymreig sydd wedi cymeryd gafael yn y bobl ieuainc. Y mae Mr. Timothy Davies, A.S., ar ol gweithredu yn selog a ffyddlon am naw-mlynedd-a-hanner, wedi ym- ddiswyddo o fod yn ysgrifenydd yr eglwys. Cymerir ei le gan Mr. Isaac D. Lloyd. Hyd yn ddiweddar y mae yr eglwys hon wedi methu cael un aelod ag a fyddai yn gymwys fel arweinydd canu yn y capel, ond nos Sul diweddaf penderfynwyd, gyda brwdfrydedd a Uawenydd mawr, fod arolygwr yr Ysgol Sul, sef Mr. Gomer Jones, R.A.M., i fod yn arweinydd y gan, a'i fod i arwain o'r sedd fawr. BATTERSEA RISE. — Cynhaliwyd Coffee 'Supper" olaf y tymor yng Nghapel Battersea Rise nos Fercher diweddaf, y 23ain, a chafwyd -cyngherdd o'r radd uchelaf, yr hwn a erys mewn .côf fel un o'r rhai mwyaf llwyddianus er pan
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gychwynwyd yr achos yn y lie. Mr. Philip Meredith, Clapham, ydoedd y cadeirydd, a gwnaeth ei waith yn ddeheuig dros ben. Bon- eddwr yw Mr. Meredith ag y mae ei haelioni at bob achos teilwng yn ddiarhebol, yng Nghymru yn ogystal ag yn y Brifddinas. Y mae gan ei dref enedigol, Builth, achos da i fod yn falch o hono. Canodd Miss Florence Jenkins "The Glee Maiden a Pwy sy'n myn'd i'w fagu ef," ac fel encore canodd "0 na byddai'n haf o hyd." Dangosodd fedr neillduol, a chredwn fod dyfodol gobeithiol yn y byd o gan i'r gantores ieuanc hon. Cafwyd datganiad hapus iawn o Love's Echo gan Miss Alice Meredith, ac yr oedd yn dra teilwng o'r encore a dderbyniodd. Canodd Miss Agnes Parry (merch ieuanc o'r Amerig) y gan adnabyddus, "Gwlad y Delyn," yn effeithiol iawn, a gorfu iddi ail-ymddangos. Yr oedd datganiad Miss Dasie Avis o'r Promise of Life yn deimladwy iawn, ac encoriwyd hithau hefyd. Yr oedd Mr. J. Maldwyn Evans yn ei elfen yn canu Hoff wlad fy ngenedigaeth a bu raid iddo ail ganu. Baritone mwyn yw Mr. D. S. Austin, a chanodd "The Message" a Because yn wir dda. Er na ddaeth ond dau barti i ganu y don Alexander," cafwyd cystad- leuaeth dda iawn, ac aeth y wobr i Barti Clap- ham. Y mae defnyddiau da yn y parti hwn, a gobeithiwn ei weled eto yn cystadlu y gauaf nesaf. Cyfeiliwyd yn fedrus yn ystod y cyfarfod gan Miss Sallie Jenkins, a chlorianwyd y partion gan Mr. David Richards, A.R.C.O. Cawsom hefyd ddetholiadau ar y gramophone, o dan ofal Mr. G. F. Doland. Deallwn fod amcan y cyngherdd—yn arianol-wedi ei gyrhaedd tu hwnt i bob disgwyliad. Ynghyda rhodd an- rhydeddus o ;C, io gan y Cadeirydd, cyrhaeddodd yr elw i dros Z30. Y mae hyn i'w briodoli i weithgarwch y cyfeillion, yn enwedig y bonedd- igesau, a gymerasant ran tuagat wneyd y cyfarfod mor llwyddianus. FALMOUTH ROAD.—Nos Iau, Mai iyeg, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol y plant, o dan lywyddiaeth Mr. Edward Owen, Coral Street. Arweinwyd y cyfarfod gan Mr. D. R. Hughes, ac aethpwyd trwy rhaglen faith o gystadleu- aethau. Y buddugwyr oeddent :-Safonau yr Iaith Gymraeg Safon II-I, Llew. Jones 2, Jennie Evans a Willie Prytherch. Safon III— i, Johnny (Evans) Davies; 2, Katie Hughes. Safon IV-I, Annie Evans; 2, Maggie Roberts. Arholiad ar Luc xvi-xxiv: i, Tudor Jones; 2, Jennie Jones (y ddau o Ysgol Brixton). Adrodd (dan 8 oed), emyn 230 1, Myfanwy James; 2, Katie Evans. Datganu emyn 230, ar y don "St. Bees": i, Megan Jenkins; 2, Katie Evans. Adrodd (dan 12), emyn 416 1, Jennie Evans; 2, Llew. Jones. Pianoforte solo, Tarantella" i, Katie Hughes. Ebysgrif- iaeth: i, Maggie Roberts; 2, Annie Evans. Datganu (dan 12), "Craig yr Oesoedd": i, Gwen Davies; 2, Jennie Evans a C. LI. Davies. Pianoforte solo (dan 16), "Llwyn Onn" (V. Davies): I, Annie Evans. Adrodd (dan 16), Salm cxxxix (139): 1, Maggie Jenkins; 2 ¡ Maggie Roberts. Canu ar y modulator: r, Llew. Jones 2, Annie Evans. Datganu (dan 16), Bedd y Meddwyn": i, Gwen Davies. Deuawd, "0 am ras i garu Iesu" i, Maggie Jenkins a Annie Morgans. Parti 0120 blant (dan 16), "Gwaredigaeth Pedr": i, Parti Falmouth Road. Parti o 12, mewn oed, Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn (T. Davies). Daeth pedwar parti ymlaen, sef Brixtonians, Falmouth Road, y Boro', a Mile End, a chaf- wyd cystadleuaeth rhagorol. Dyfarnodd y beirniad y wobr i'r Brixtonians (o dan arweiniad Mr. Joseph Davies). Yn ychwanegol at y wobr rhoddodd arweinydd y cyfarfod gopi o'r plate rhagorol o holl Aelodau Seneddol Cymreig i'r arweinydd buddugol. Y beirniaid oeddynt:— Cerddoriaeth, Mr. D. Thomas, Hackney; adroddiadau, Mr. Tom Jenkins, Battersea; Ysgrythyrol, Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., Wilton Square; safonau ac amrywiaethol, Mr. Fred Hughes, Mr. W. Williams, a Mr. T. Hughes- (Falmouth Road). Cyfeiliwyd yn y cyfarfod gan Miss Katie Jones (organyddes yr eglwys).