Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
TWYLLO Y CYHOEDD. '-:<.
TWYLLO Y CYHOEDD. '< Ifa. GOI.,—Mae llawer o ymdrecbion yn cael eu gwneud yn bresenol at gasglil ychydig arian er cynorthwyoyrhaiaydd ar strike, ac wedi eu cloi allan yn Mynwy a Deheudir Cymru. Y-rmae amryw barties wedi myned ar hyd a. lied y wlad, yn c,rna1 cyngherddau, ac yn actio dramas, &c., ac yn dweyd eu bod yn rhoddi pob dimai y maent yn ei dder- byn (ar ol iddynt dynu allan y treuliau y maent yn myned iddynt wrth deithio 0 un lie i'r llall) er cynorthwyo y rhai syddyn ymladd yn erbyn trais a gormes ymeistradoedd. Y mae dosbarth Aber- dar wedi fy awdurdodi i ddweyd nad oes yr un parti wedi cael yr awdurdod lleiaf hyd yn hyn i fyned i gynal cyngherddau, &c., ac nad oes un ffyrling wedi dyfod oddiwrth unrhyw barti o unlle sydd yn dweyd eu bod yn dan ton yr holl arianyn 01 ar ol talu y treuliau, i'r drysorfa ga- nolog er cynorthwyo y miloedd sydd mewn angen. Twyllo y cyhoedd yr ydys yn hyn. Mae yr oil y maent yn ei dderbyn yn myned i'w pocedau eu hun- ain. Ystyriaf hyn yn ddyledswydd ar- naf er rhybuddio y cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth yn y dyfodol. Yr eiddoch fel arfer, Aberaman. SAMUEL DAYIES,
PWY YW HOMO DDU?
PWY YW HOMO DDU? At Olygwyr TARIAN Y GWEITHIWR, FoisEDDiGio^,—Y mae eich nodwedd yn uchel trwy Gymru am fyny chwareu teg i ohebwyr. Oblegid TARIAN y gelwir eich newyddiadur, ac y mae hyny ar un- waith yn sicrhau cyfiawnder yn erbyn gormes dynionach sydd yn ceisio myned yn fawr ar gefn eu cymydogion a'u perthynasau fel yn fy nghase i, ac yn erbyn papyrau crebechlyd, y rhai a geisiant boblogrwydd trwy lyfu traed budr impostors dylanwadol. Anfonais ddau anerchiad barddonol i'r Herald Cyrnreig ychydig amser yn ol. Yn ei awgrymiadau at y gohebwyr, canmolodd y caneuon; ond, gofynodd, Homo Ddu, Tonypandy, paham y defnyddiwch ffug- enw y Parch. John Lewis, CaerfyrddinP Anfonais lythyr gyda throad y post yn ateb ei gwestiwn. Ond, fonedcligion, ni wnaeth y golygydd boneddigaidd (?) gymaint a chydnabod derbyniad fy llythyr, er fod ycyhuddiadyn eigwestiwn yn un pwysig i unrhyw lenor o gymeriad da. Ni ddefnyddiaf ansoddeiriau i ddesgrifio cymeriad y golygydd dan sylw —gadawaf hyny i lenorion galluog Cymru wedi iddynt weled y llythyr can- lynol, yr hwn a anfonais i'r Herald; ac er mwyn cyfiawnder byddaf yn dra diolchgar os cyhoeddwch ef:- "Homo Ddu, Tonypandy, Paham y defnyddiwch ffugenw y Parch. John Lewis, CaerfyrddinP G-OL. Yr Herald Cymreig." "Ion.27ain,1875. Syr,—Y mae eich gofyniad syml yn brofedigaeth flin i'm teimladau, gan mai fy mrawd yn ol y cnawd ydyw yr hwn a ddefnyddia y ffugenw a ddefnyddiwyd genyf fi flynyddau cyn iddo ef feddwl am ddyfod yn ddyn cyhoeddus a hyn a a wyr yntau yn dda. Pe gofynasech i fy mrawd, paham y defnyddia ef fy ffugenw adnabyddus i, buasai y gofyniad yn hollol resymol; ond nid wvf yn gwybod pa ateb a allasai ei roddi, oddi- eithr iddo addef y gwirionedd ar unwaith -maÍ uchelgais, ac uchelgais yn unig, a'i tueddodd i feddwl am gyflawni y fath anfoes. Dylasech chwi, fel dyn cynefin a chynyrchion ysgrifenwyr Cymraeg, fod yn gwybod na bu i fy mrawd erioed gyhoeddi unrhyw beth amgen na'r hyn a ddaliai gysylltiad uniongyrchol a phynciau y seat fawr a'r pwlpud; ac os cy f an soddodd linel 1 o f arddoniaeth erioed, carwn iddo ef neu rhyw ddyn gwybodus arall wneud hyny yn hysbys, a'i nodi allan ar dudalenau y DABIAN, fel y gallo y wlad farnu drosti ei hun, pa un o honom sydd a hawl i'r Sugenw, yn ol cyfreithiau B.Y.P.; er iddo droion, pan yn nghymdeithas dynion cyfrifol, oddef yn dawel iddynt briodoli iddo yr hyn fyddai wedi ei gyhoeddi o'm heiddo i. Pa un a ydyw ymddygiad fel yna yn gweddu i Gristion, yr hwn a ymgymera gwaith o anog eieill i fyw yn foesol a gonest; bernwch chwi. Tybiaf, hyd y nod pe buasai fy mrawd yn fardd o en- wogrwydd, fod boneddigrwydd cymdeith- asol yn gwahardd iddo osod ffugen IV un arall wrth ei gyfansoddiadau, I ac yn neillduol ymgeisio at briodoli iddo ei hun unrhyw deilyngdod a dclichon fod yn nghyfansoddiadau ei frawd. Os bydd i chwi sylwi ar Ddyddiadur y Methodist- iaid am y flwyddyn 1875, cewch weled fod y golj^gydd yn awgrymu i fy mrawd, trwy adael fy ffugenw adnabyddus i allan ar ol ei enw priodol—am iddo beidio chwenych eiddo ei gymydog, a gallasai yn hawdd wneud mwy nag awgrymu sef ei anog i beidio cainfedd- ianu eiddo ei frawd. Ystyrir yn gySredin fod yr urdd-air Parchcdig yn llawn ddigon o anrhydedd i'w osod wrth enw unrhyw ddyn pan na byddo ond gwein- idog yr efengyl yn unig. Nid ydwyf yn eofio i mi weied erioed unrhyw Sugenw yn gysylltiedig ag enwau y Parchn. Griffith Jones, Lla-nddowror (E.); Christ- mas Evans (B.); William Williams (A.) John Ellas (T.O.) na Samuel Davies (T. W..), er fod eu henwogrwydd yn hys- bys trwy holl Gymru. Ac anfynych iawn y gwelir y ffugenw Gwallter Mechain, Gomer, leuan Gwynedd, [ago Trichrng, neu Gwiiym Lleyn, yn gysyllt- iedig a'i priod enwau Walter Davies, Joseph Harris, Evan Jones, James Hughes, neu William Richards, ond yn unig pan y byddent yn cyhoeddi cynyrch- ion barddonol, neu yr hyn a ddaliai gysylltiad a llenyddiaeth gyffredinol. ,y Gwyr pawb mai nid gyda golwg arnynt fel gweinidogion yr efengyl y cydna- byddwyd hwynt wrth y ffugenwau yna o gwbl. Pa fodd bynag, mor fuan ag y dengys fy anwyl frawd John ei fod yntau yn fardd awenyddol neu yri lienor cyffredinol, tebyg i'r rhai a grybwyllwyd, bydd yn dda genyf gael bod rhywle gerllaw cylch yr orsedd pan urddir ef wrth y ffugenw a ddewisia, ond iddo ofalu ei ddewis mewn modd gcinest ac anrhydeddus—hyd hyny, dymunaf gyf- lwyno i'w sylw y cynghor bach, ond pwrpasol hwn:—" Na fydd uchelfrydig, eithr ofna;" loan i. Credwyf fod yr uchod yn atebiad boddhaol i'ch gofyn- iad, ac i bawb nad ydynt yn gwybod pwy yw iawn berchenog y ffugenw Homo Ddu, Mr. Gol.—Yr eiddoch yn ddiffuant, HOMO DDU. Sef Richard Lewis Smith, Tonypandy, Pontypridd. D.S.—Rhoddwyd yr enw Smith arnaf pan oeddem dri o'r un enw yn gweithio yn yr un siop yn Birmingham, yn y flwyddyn 1842.
YR HYN A GLYWAIS.
YR HYN A GLYWAIS. MR. GOL.,—Gwelais yn rhifyn di- weddaf y DARIAN lith dan y penawd uchod gan un a eilw ei him "Wil dwevd y gwir." Dywed fel j canlyn: "Clywsom fod gwaith y Gadlys wedi casglu rhyw wmbredd o arian, ond nad oes gwybodaetli pa !e y maent hyd yn byn—nad oes dim o honynt wedi eu I rhanu rhwng yr nndebwyr na'r an- undebwyr," Yn awr, cymermi y dra- fferth o ddangos i ddarHenwyr Iluosog y D ARIAN pa le y mae yr arian a gasgl- wyd yn hen bwll y Gadlys, o herwydd nid ydym yn gyfrifol am un rhan arall o'r gwaith. Derbyniwyd oddiar Ionawr 9fed hyd Chwetror 6ed y swm o Y-86 13s. Anfonwyd £86 i'r Bute Arms, Aberdar, am y rhai y mae genym ddangosiad wrth law. Yr ydym yn hysbysu hyn rhag y bydd i ryw ddosbarth cul, fel Wil, ein drwg- dybio ein bod yn eu lladrata. Dylaswn ddweyd fod 13s. yn llaw Mr. John Jones, trysorydd. Yn nghylch eu rhanu nid oes a fynom ni a hyny; ond ein gwaith ni yw myned a hwynt i'r Bute Arms. Dywed Wil fod amryw o ddoctoriaid clasurol o amgylch y swyddfa ar nos Sadwrn yn derbyn yr arian, ac y mae Wil yn ofni fod eu dwylaw yn flewog. Beth pe byddai Wil yn cael cyfle? Dyn a dwylaw blewog a ddrwgbybia fod dwylaw blewog gan ereill. Y mae hen ddy- wediad, "LIeielr a wel leidr gyntaf." Yn awr, Mr. Gol., y mae dau ddos- barth yn ein mysg ni fel gweithwyr— un dosbarth yn cyfranu a gwneud eu goreu yn mhob cyfeiriad er daioni eu cyd-ddynion, tra y mae dosbarth arall yn nachau cyfranu dim, ac ni foddlon- ant ar hyny, ond ceisiant rwystro pawb ereill i gyfranu. Tebygol mai yn y dosbarth olaf y mae Mr. Wil dewyd y gwir. J, H. J. Nis gwn pa faint o wir sydd yn y rhan flaenaf o ysgrif Wil dweyd y gwir, ond gwn fod y rhan olaf yn anwiredd noeth; sef dweyd fod tri o ddynion yn gweithio y nos yn ngwaith y Sguborwen; ac y mae yn cadarnhau ei fod yn wirionedd, a bod dau neu dri o dystion wedi eu gweled yn dyfod o'r gwaith. Yrwyf yn rhyfeddu fod Wil mor ffol a gosod peth rhyfeddu fod Wil mor ffol a gosod peth mor ddisail yn y newyddiaduron, sef gosod yr hyn y mae yn ei glywed yn yr adeg bresenol, a cheisio diraddio ei gyd- weithwyr, a thori cymeriadau dynion ar g'oedd gwlad. Yr ydym ni sydd a'n henwau isod am i Wil beidio bod mor ffol a chyhoeddi pob peth a glywo ar hyd yr heolydd yn y newyddiaduron, rhag ofn y bydd raid iddo gael ei alw i gyfrif. Ac hefyd yr ydym yn foddlawn i Wil, neu rywrai ereill i gael chwilio y gwaith er cael. gweled os oes yma rywrai wedi gwneuthur dim o'r fath oddiar ddechreu 71 y strike hyd yn bresenol. Daw adeg pan yr el hyn heibio, a chaiff pawb weled pa faint o waith sydd wedi cael ei wneud yn y gwahanol weithfaoedd. Ac yna, os gwel Wil rhywbeth wedi ei wneuthur yn y gwaith uchod, dened allan y pryd hyny, ac nid gwrando ar bob stori; ond caiif weled y pryd hyny pa un ai'r ddau neu tri a glywodd ef yn siarad yr wyth- nos ddiweddaf, ai y ni ein tri sydr yn dweyd y gwir. Yr eiddoch yn gywir, JOHN GEIJTITHS, EVAN S. JONES, F Tan wyr. EEES HABEIES, J EllYR GLAN CYNON. [Eiddo D. Thomas ac un o Weithwyr y Scuborwen eto ar law.]
Y STRIKE YN LLWYNYPIA A THONYPANDY.
Y STRIKE YN LLWYNYPIA A THONYPANDY. MAE llawer iawn o lowyr ac ereill sydd yn byw yn y cymydogaethau uchod, heb weithio dim yn ystod y flwyddyn hon; o ganlyniad, nid ydynt wedi enill dim. Mae llawer o honynt yn wir dlawd, yn enwedig y rhai nad ydynt yn undebwyr. I'r dyben o gynorthwyo y rhai tlotaf o'r anundebwyr, mae pwyllgor wedi ei sef- ydlu yn nghapel y Bedyddwyr, Llwyny- pia, yn gyfansoddedig o lowyr yn benaf, ac ychydig o fasnachwyr yn eu cynorth- wyo. Mae y pwyllgor hwn wedi llwyddo i gasglu y swm anrhydeddus o zC54 17s. 6Jc.; acwedirhanuhyny mewn bwydydd ac arian rhwng tua 87 o deuluoedd; ac mae y pwyllgor yn tjpa diolchgar i bawb sydd wedi tanysgrifio tuag at achos mor 11 0 deilwng. Wele daflen o'r symiau a I gasglwyd:—- £ s. a. Masnachwyr ac ereil! 24 13 8 Gweithwyr yn yard Llwynypia.. 9 3 3 Glowyr Penygraig: 8 8 10 Sincwyr Clydach Vnle 8 3 6 Gweithwyr yn Cwmclydaeh yard 3 3 4| Sincwyr Penygiaig 0 16 10 Ychydig weithwyr twymgalon o'r Drym 0 8 1 Cyfanswm. £ 54 17 9i Gobeithir y daw glowyr Penygraig a mwy o gymhorth y Sadwrn nesaf, oblegid os collir y strike hon, maent hwythau yn sicr o gael gostyngiad pan ddechreuwn ni weithio gan hyny, onid gwell fyddai iddynt dalu 2s. y bunt o levy, i'n cynorthwyo i enill y frwydr hon, nag iddynt gael 2s. o ostyngiad pan ddechreu- wn ni weithio ? Mae rhai wedi rhoddi yn ewyllysgar 5s., 7s., ie, a 10s. er ein cynorthwyo. Yr ydym yn gofyn cy- mhorth oddiwrthynt, nid i'r undebwyr, ond i'r rhai nad ydynt yn aelodau o'r undeb. Nid oes gan y pwyllgor arian ar law yn bresenol, ac nid oes dim i'w ddysgwyl oddiwrth un gwaith y Sadwrn nesaf ond Penygraig yn unig. Hyderwn y daw oddiyno £50. Ni fydd hyny fwy na haner coron yr un. Yr ydym yn teimlo yn dra diolchgar i'r ychydig frodyr yn y Drym am yr 8s. Ie. a ddanfonasant i'r pwyllgor. Mae'n debyg eu bod oil yn undebwyr, a'u bod yn awr yn talu dan swllt yr wythnos o levy. Os teimla rhyw rai ar eu calonau i estyn cymhorth i'r anundebwyr yn y gymydogaeth hon, bydd y pwyllgor yn ddiolchgar iddynt am ddanfon P.O.O. neu stamps i ofal John Jones, 8, Dewinton- terrace, Llwynypia, near Pontypridd, a chant eu cydnabod yn y DABIAN. Mae y pwyllgor yn dymuno gosod enwau y masnachwyr ac ereill sydd wedi cyfranu, gan gredu, feallai, ybydd hyny yn anogaeth iddynt i barhau ac hefyd i ddeffroi y rhai hyny nad ydynt hyd yma wedi cyfranu dim:- Griffith Richard, Hor Rael Inn 0 1 0 Daniel lenkius, Pandy Inn 0 15 0 William Davies, Dewinton Hotel.. 1 10 0 John Llewelyn, Bridgend Inn 018 0 Jenkin Jenkins, White Hart Inn.. 0 0 6 Francis Martin, Cross Keys Inn.. 0 14 6 Thomas Davies, Dunraven Inn 0 0 0 Robert Williams, Miskin Inn. 1 0 0 F. Harris, Trealaw Inn. 1 0 0 Ann Roberts, Turberville Arms.. 0 1 0 Morgan Rees, Butchers Arms 0 0 0 D. Williams, Swan Inn. 0 1 0 Dyna gofres o enwau dynion sydd wedi byw, ac wedi bod yn ein mysg amryw flynyddau, yn derbyn cyfran helaeth o'n henillion ac y mae rhai o honynt fel y gwelwch wedi cyfranu yn dda, tra mae ereill o honynt heb roddi ond ychydig, ac ereill ddiin. Daniel Davies, draper and grocer. 0 11 6 Edward Jenkins „ 1 0 0 Edward Meredith 0 7 6 Thomas Thomas „ 012 0 Thomas Wiiiiama 0 4 6 George Knill „ 0 15 0 David Jones 1 5 0 John Thomas, butcher 1 2 0 Edwin Thomas, butcher. 014 0 William Williams, bookseller 0 7 6 John Lloyd, shoemaker 0 7 0 Robert Morgan, shoemaker 0 5 0 Richard Lewis, shoemaker 012 6 John Griffiths, cabinet maker 0 2 6 Dr. Jones 015 0 G. Shapland. 0 5 0 R. L. Smith (Homo Ddu) tailor 0 15 0 B. Francis, tailor. 0 3 0 Llewellyn Powell 0 6 0 Hopkin Knill, builder 0 10 0 William Richards, builder 0 1 0 J. Tilbury, green grocer 0 4 6 T. W. Lloyd, green grocer 0 9 6 G. Banghen 0 2 0 D.William s 0 2 0 Lloyd and Thomas, drapers. 0 10 0 Thomas Richards, draper. 0 8 6 James Hopkins 0 2 0 Rev. H. Rees, Baptist Minister 0 15 0 Rev. D. Thomas, Independent Minister 0 I 0 William Williams, grocer. 0 2 6 William Williams, contractor 1 0 0 Mrs. Evans, ironmonger 0 5 0 W. J. Lewis, grocer. 0 2 6 T. Tudor, hair-dresser 0 1 0 W. Phillips, hair-dresser 0 1 0 W. Davies, ironmonger. 0 9 6 J. H. Jones, grocer 0 2 0 Chemist. 0 1 0 James Griffiths, watchmaker 0 2 6 Huntsley &Latcham, watchmakers 0 3 0 Glowr 0 2 6 Adare Inn 0 2 0 Bush Inn 0 0 6 J. G. & Co. 0 1 0 A. Thomas 0 1 0 M.A.Thomas. 0 2 6 B. Schildekor 0 1 0 M. Foster, draper 0 1 0 E. Bauman 0 2 0 E. Evans 0 1 0 M.Thomas. 0 1 0 J. Williams 0 2 0 J. Evans 0 1 0 A. W. Reuduck 0 1 0 £ s. d. Evan Williams 0 0 6 D.W, Jones. 0 1 0 J. Savage. 0 10 D.Williams. 0 1 0 Daniel Williams 0 0 3 E. Thomas 0 0 6 R.Price 0 2 6 D, L. Daviea 0 3 0 Morgan Davies 0 1 0 John Williams 0 0 6 Friends. 0 15 5 Cyfanswm £ 24 13 8
Advertising
EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR. GAN mai yn Aberdar y cynelir Cynadledd Flynyddol yr Undeb Iforaidd am y flwydd- yn neAaf, bydd i EISTEDDFOD FAWREDD- OG gael ei chyoal gan Iforiaid y Dosparth y dydd blaenorol i'r Gynadledd, aef y LLUN cyntaf yn GORPHENAF. Prif Destynau. I'r Cor, heb fod dan 150 o rif, a gano yn oreu Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan J. Thomas, Blaenanerch. Gwobr j670, yn ngbyda baton ardderchog i'r arweinydd. Am y Traethawd goreu ar Safle y Gweith- iwr yn y Cyfansoddiad Prydeinig." Gwobr £ 10 10s. Am y Chwareugerdd oreu ar "Amgylch. iadau ymweliad Owen Glyndwr â Syr Lawrance Berkrolles," gwel y Givyddontadur Cwnreiq. Gwobr £ 10 10s. BEIRNIAID: Y Canu.—J. PARRY, Ysw., Aber- ystwyth; J. THOMAS, Ysw., Blaen- anerch. Y Traethodau a'r Farddoniaeth,— CYNDDELW. CYNELIR CYNGIIEIIDD ARDDERCHOG YN YR HWYR. Am fanytion peltach, gwel y programme, yr bwn a ellir ei gael am g-einiog- (trwy y post, Ile.,) 2 gan yr "Xsgrifenydd,— D. R. LEWIS, 19] 33, Wind-street, Aberdare. CROSS INN, TRECYNON, ABERDAR pYNELIR EISTEDDFOD yn y He uchod, \J dydd Llun, yr 22ail o Fawrtb, pryd y gwobr- wyir yr ymgeiswyr llwyddianus ar y testynau canlynol. Beirniaid y Cyfansoddiadau a'r Adroddiadau, Gwiiym ab loan; y Canu, Gwilym Cynon. Llywydd, Mr. Isaac Thomas. Arweinydd, Mr. Thomas Walters. 1'r un a adroddo yn oreu Pysgodyn Call," o Drysorfa'r Plant, Rhagfyr 1873. Gwobr Is. 6c. I'r hwn a gano yn oreu Awelon fy Ngwlad," o Geinion y Gan, Rhan 3. Gwobr Is. 6e. Am y pedwar penill goreu i'r "Loch-Out." Gwobr 4s. 1'r ferch a gano yn oreu "WyresFach Ned Puw," o Geinion y Gan, Rhan 3. Gwobr Is. 6c. Am y Deuawd goreu. Gwobr 3s. Am y darlleniad goreu o Lawysgrif ar y pryd. Gwobr Is. Am yr Araeth Ddifyfyr oreu. Gwobr Is. I'r parti ddim dan wyth mewn niter, a gano yn oreu "Mae 'nghalon yn Nghymru," o waith Howel Cynon. Gwobr 10s. I'r hwn a chwareuo yn oreu Difyrwch Gwyr Harlech ar y concertina. Gwobr 2s. I'r goreu a ysgrifeno lythyr caru yn Gymraeg. Gwobr Is. 6c. 13. Dadl ddifyfyr. 14. I'r hwn a gano yn oreu "Cwyrnp Llew- elyn," o Geinion y Gan. Gwobr 2s. I'r hwn a ddarlleno yn oreu ddernyn o gerdd- oriaeth ar y pryd, sol-fa neu yr hen nodiant. Gwobr Is. 6c. I'r hwn a gano yn oreu "Breuddwyd y Bardd." Gwobr Is. 6c. Am y traetbawd goreu ar yr "Hen Wr." Gwobr gan Jacob Elias, 5s. Am yr wyth penill goreu i Helfa Cwmdar, gyda enwau yr helwyr a'r cwn. Alexander Morgan, Daniel Lewis, Thos. James, Benjamin Daniels, David Roberts, John James. William Burton, a Thomas Phillips. Enwau y cwn—Leader, Countess, Warrior, Cbaunter. Music, Ruby, Colier, Darling, Beauty, Lady, Crusor, Windsor, Drummer, a Pansey. Sketch o'r helfa ar ol y cadnaw o Daren y Bwllfa. dros y mynydd i Gastell y Nos, i lawr i'r Maerdy, beibio Blaen- aman, ac heibio Blaengwawr, ao i'r lan beibio ty Richard T. Richards ac fe'i dalwyd cyn cyr- haddd Taren y Bwllfa yn ei ol. Gwobr 7s. 6c. Am y pedwar Tryban Morganwg goreu ar "Etholiad Bwrdd Iechyd Aberdar." Gwobr 5s. I'r cor, ddim dan 20 o rif a gano yn oreu "Y plentyn hardd," o'r Gerddorfa (Rhan 19). Gwobr £ 1 5s. AMODAU.—Rhaid i'r buddugol fod yn bresenol neu atelir y wobr. Y cyfansoddiadau i fod yn Haw yrYsgrifenydd, gyda ffugenwau, ac wedi talu eu cludiad, erbyn y 15eg o Mawrth, enwau y cystadleuwyr mewn canu, adrodd, &c., erbyn y 19eg o'r un mis. Ni dderbynir ffugenwau di- chwaeih. Y cyfansoddiadau buddugol yn eiddo y Pwyllgor. Cyfarfod i ddechreu am haner awr wedi Chwech olr gloeb. Mynediad i mewn drwy docynau 6ch. yr un. JOHN RICHARDS, Ysgrifenydd, Cross Inn, Trecynon, Aberdar. TREORCI. "Tra Mor tra Brythron." Mor o Gan yw Cymru Gyd." BYDDED hysbvs i holl Gymru benbaladr y cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAID yn Nheorci, ar y Dydd LInn cyntaf yn Awst, 1875, er cadw mewn cof Fuddugoliaeth y Cor Cymreig, yn Llundain, yn 1873. Zmddengvs rhai o'r prif ddarnnu mewn vhif- ynau dyfodol, yn ngbyd ac enwau y beirniaid. Bydd y Programme yn fuan yn barod, yn cynwys yr holl destynau. Dros y Pwyllgor, J. DEFYN JONES, Llywydd. E. MANSELL THOMAS, iTrysor- Gr. E. JONES (Garadog) J yddion. W. WILIIAMS, Canton House, ) v D. SKYM, (Lewi Araul), ] Sgn- ALICE GRAY. CAN, gyda geiriau Cymreig a Saesneg yn nghyd a chyfeiliant i'r piano, Pria 4|c. Cyfeirier—S. REES, Trebortb, Swansea. Cyfeirier—S. REES, Trebortb, Swansea. Y gwir yn erbgn y Byd. Yn enw Duw a phob daioni." EISTEDDFOD GADEIRIOL ABERTAWE. CYNELIR yr Eisteddfod uchod yn y MUSIC HALL, DYDD LLUN SULGWYN, 1875. Llywydd-Dr. KENEALY, Q.C., Llundain. Arweinydd—Gwiiym Davies, Ysw., Byllfa House, Abercrave. Beirniaid y Ganiadaeth—Eos Morlais, a'r Mri.. David Jenkins, Trecastell, a D. Bowen, Dowlaisl Beirniaid y Rbyddiaeth n'r Farddoniaeth-Mr. D. W. Jones (Dafydd Morganwg). PRIF DESTYNAU: Barddoniaeth — Am y Bryddest oreu i'r Pagan." Gwobr, £10, a chadair bardd. Caniatfaeth-l. I'r C6r, heb fod dan 100 o rif a gano oreu "Y Danchwa" (Alaw Ddu),'i'w chael gan 1. Jones, Treherbert. Gwobr, JE40 a darlun (oil painting) i'r arweinydd. 2. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 o rif, a gano yn oreu Fy Ngwlad," rhif 54 a 55 o'r Cerddor Cymreig. Gwobr, £ 15. 3. 1'r Brass Band a chwareuo yn oreu "Gloria" (12th Mass). Gwobr, £ 10; Y mae y programme, yn cynwys rhestr gyf- lawn o'r testynau, yn nghyd a pbob manylion, yn awr yn barod, aci'w gaelam y pris arferol gan yr Ysgrifenydd, MORGAN THOMAS, Ysgrifenydd, :0- SEION, WAUNARLWYDD7 CYNETIR EISTEDDFOD yn y lie uchod Dydd GWENER Y GROGLITH, Mawrth v 26ain. 1875. y I'r Cor, heb fod dan 40 o rif, a gano oreu- "Clyw o Dduw fy Ngweddi," o'r Gerddorfa. Gwobr, X-8. I'r Cor a gano oreu 'Ewing,' o Lyfr Stephens a Jones. Gwobr, X3. Y mae y Programmes, yn cynwys rhestr gyf- lawn o'r boll destynau, yn nghyd ag enwau y Beirniaid, yn barod, ac i'w cael drwy y post am, Ile. yr un. HENRY JAMES, Weigher, Waunarlwydd, Swansea. BETHEL, CWMPARC. CYNELIK ail EISTEDDFOD FLYNYDDOL yn y lie uchod, Gwener y Groglith, 1S75. GWOBRWYIli Y Cor, heb fod dan 50 o nifer a garo oreu "Datod mae Rhwymau Caethiwed," £ 10. Y Cor, heb fod dan 40 o nifer, a gano oreu,, Let the hills resound," £5. BEIRNIAID: Y Came-Mr. D. Bowen, Ebbw Yale. Y Traethawd a'r Farddoniueth, tf-c.-Parch. O. Waldo James, Merthyr. Bydd y Programmes yn barod ya fuan. LEWIS MILES, Ysg. Tan nawdd Duw a'i dangnef. i fyno Duw a fyddo. PUMED EISTEDDFOD (rADEIRIOL PENTRE YSTRAD, YR hon a gynelir dyddiau Llun a Mawrth Pasg, Mawrth y 29ain a'r 30ain, 1875, pryd y gwobrwyiryr ymgeiswjr buddugol mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Ce'iddoriaeth Caniad- aeth, Cerddoriaeth, a Chwa'euaeth Offerynau, Cerdd. Prif ddarnau Ctfawl— I'r Cor heb fod dan 100 o rif a gono ynoreu Why my soul art thou so vexed," (un o ddarnau y Crystal Palace am 1875). Gwobr, £ 45. A Metronome, Baton, a 6hmnatic Pitchfork i'r Arweinydd. I'r Cor o'r un gynulleidft, ddim dan 50 o rif a,, g-no oreu "Datod mae rbvymau caethiwed ein teyrnas, gan John Thomas. Gwobr, £20. (Newidiwyd Yr Arglwydd yw fy Mugail," a gosodwyd "Datod," &c., yn ei lie.) 1'r Cor o'r un gynull.'idfa, heb fod dan 30 o rif, na enillodd £ 10 a ^no yn oreu "Deffro,. Arglwydd," o'r Cerddor Cymreig, rhif y 3ydd. Bwobr, £ 10. I'r Cor o blant beb fod dan 30 mewn nifer, na thros 16 oed, a gono in oreu Jerusalem fy nghartref gwiw," Gwobr, £5.. Caniateir 12 mewn od i'w cynorthwyo. CERDDJRTAETH. Am yr Anthem. oreu ar Weledigaeth yr esgyrn sychion (Ezeciel, pen. 37). Gwobr, £ 5 5s. Beirniaid y Gerddoraeth, y Telynau, a'r Gan- iadaetb, J. Parry, YstJ. (Pencerdd America); Dr. W. F. Frost, a Mr. R. Rees (Eop Morlais). Beirniad y Rhyddheth, y Farddoniaeth, &c.» y Parch. E. Gurnos Jones, Talsarn. Arweinydd—R. Davies, Ysw. (Mynyddog.) Perdonydd—D. Bowen, Ysw., Dowlais. Cynelir CYN GHIRDD ardderchog yn hwyr yddauddydd. Am fanylion pelach gwel y programme, yr hwn sydd yn buroJ, ae i'w gael oddiwrth yr Ysgrifenyddion, am geiniog a dimai. DANIEL RODIRICK (Morleisfryn), 4, Stcno Row, l D. R. THOMAS, Glenview Cottage, J Ysgn. Pentre Ys;rad, Pontypridd. Goreu Arf, Arf Dysg. PUMED GYLCHWYL LENYDDOL SILOAH, GYFEILLION. BYDDED hysbys y cynelir yr WYL uchod, dydd GWENER Y GROGLITH, 1875, dan nawdd Prif Foneddigion yr ardal. ?RIP DESTYNAU. TraetJwdaeil.~h.va y Traethawd goreu ar "Nodweddion Hhyfeloedd yr Hen Destament." Gwobr, £1 Is. Am y traetbtwd goreu ar Y cynllun effeith- iolaf i ddiwy^io Cerddoriaeth y Cysegr.' Gwobr, 12s. Barddoniaeth. Am y Bryddest oreu ar "Gideon a'i dri chan gwr," heb fod dros 150 o linellau. Gwolr, £ 1 Is. Caniadaeth.—I'r Côr- heb fod dan 30 mewn nifer, a gano oreu Clyw o Dduw fy llefain," o'r Gerddorfa, Rhif 10. Gwobr, £7, a Chyfrol o'r Gems of Jfeleh Melodies, wedi ei rhwymo yn hardd, i'r Arvreinydd. Eto, i'r ail oreu, copi o Songs of Wales, gan Brinley Richards, i'r Arweinydd. I'r Cor heb fod dan yr un nifer, a gano oreu yr Haf," gan Gwilyrn Gwent. Gwobr, JE3. Hywydd—jAMBS DANIEL, YSW., Brynhyfryd. Arweinydd—Parch. THOS. THOMAS, Gyfeillion. Btirniad- LLEW LLWYFO. Am bob rninylion pellach, gwel y Programme yr hwn sydd yn barod, ao i'w gael gan yr Ysgrif- enydd am y pris arferol. Dros y Pwyllgor, W, B. REES, Ysgrifenydd, Gyfeillion, near Pontypridd.