Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. CYFARFOD MAWR Y G LOWYR AR FYNYDD LLANWYNO DYDD Mawrth diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyffredinol yr holl lowyr cym- ydd Aberdar o Rhondda ar y mynydd gerllaw Eglwys Wyno, er ystyried pa beth a wnelid yn ngwyneb penderfyn- iad y meistri y dydd Gwener blaenorol. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. John Prosser, Nantmelyn, Aberdar. Dy- wedai Mr. Prosser nas gellid condemnio y gweithwyr mewn un modd am wrthod y gostyngiad presenol heb i'r meistri egluro ei fod yn ddyledus. Fod dyn yn greadur rhy urddasol i gymeryd ei arwain yn y tywyllwch, nas gwyr yn y byd i ba Ie. Yr oedd y gweithwyr wedi gwneud pob peth yn eu gallu tuag at gael terfyniad teg i'r ymrafael presenol, a'i fod yn anrhydedd iddynt (hyd yn nod pe wedi gwneud camsynied) en bod wedi gwrthod ymostwng, heb yn gyntaf gael prawf digonol oddiwrth y meistri fod y gostyngiad yn ddyledus. Yna pasiwyd penderfyniad nad oedd neb o wahanol ddosbarthiadau y Lock- out i gael llais yn y cyfarfod. Mr. Morgan Owen, Ystrad, a ddymnnai ar i bawb ddweyd eu meddyliau yn y cyfarfod hwn. Dywedai mai nid pwnc o ostyngiad oedd genym mewn dadl, ond pwnc o reswm, a darllenodd lythyr a barotowyd ganddo i'r Western Mail yn cynwys y cynygiad hwn, Ein bod i gymeryd y gostyngiad presenol ar yr amodnad ydym i gael yr un gostyng- iad arall o fewn y flwyddyn hon, a bod pwyllgor o'r gweithwyr a rhai o'r meistri i gael ei benodi i reoleiddio pethau yn y dyfodol." Parodd hwn gynhwrf mawr yn y cyfarfod. Mr. D. Morgan, Mountain Ash, a gynygiai y cynllun canlynol; "Fod tri dyn i gael eu dewis er penderfynupwnc y gostyngiad hwn, ac i drefnu pethau yn y dyfodol." Yna siaradwyd gan un o Hirwaun, a dywedai ein bod fel corfF o weithwyr wedi suddo hyd ein gyddfau yn yr afon, ac y dylem wneud ein goreu i ddyfod allan o honi yn anrbydeddus, a chodi pont drosti er ein dyogelu rhag- llaw. Gynygiai ef fod deuddeg o'r gweitbwyr i gael eu penodi i drefnu y llwybr goreu er ein dwyn o'r annhrefn presenol. Mr. Phillip Jones, Abertileri, a ddy- wedai fod y gweithwyr wedi gwneud pob peth o'u tu hwy at ddwyn y rhyfel presenol i derfyniad. Eu bod wedi taer ofyn am gyflafareddiad, ond fod byny a phob cynllun arall wedi ei wrthod iddynt. Dywedai fod cystal hawl gan y gweithiwr i fynu gwybod am ba bris y gwerthir ei lafur ag -sydd gan y masnachwr i fynu gwybod pris y te a'r siwgr. Ei bod yn drueni fod y fath galedi yn cael ei ddyoddef yn ein gwlad, yn unig am na fuasai y meistri mor ddynol a boneddigaidd a dangos rbeswm dros y gostyngiad. Dywed y meistri nad oes galw am lo o gwbl y dyddiau hyn, a bod y fasnach wedi ei dwyn i Ogled dLloegr; ond cyn y byddai i Mr. Jones eu hanog i ym- ostwng heb gael rheswm digonol dros hyny, cynghorai hwynt i fyned i'r 11arthau hyny ar ol y fasnach, a gadael y gweithfeycld hyn hyd nes y dychwelai drachefn. Mr. William Abraham a ddywedai fod yr ymwybyddiaeth o sefyllfa ein gwlad yn gyfryw ag y dylai pob un fesur a phwyso pob gair cyn ei ollwng allan. Y mae yr ymrafael wedi dwyn Uawer iawn o drueni ar ein gwlad, ac y mae llnwer yn dyoddef eisieu bara beunyddiol. Y mae yn bwysig fod dynion yn dyoddef eisieu pan yn segur, ond y mae mor bwysig a hyny fod dynion yn dyoddef eisieu pan yn gweithio. Os cymer y gweitbwyr eu gostwng fely myno y meistri, heb fynu gwybod yr angenrheidrwydd o hyny, byddant mewn sefyllfa o angen parhaus. Yna gwnaeth amryw sylwadau pwr- pasol ar gyflafareddiad, a chondemniai y meistri yn y modd mwyaf pender-* fynol eu bod yn cymeradwyo yr eg- wyddor hon mewn gwledydd ereill, ac yn ei gwrthod yn eu plith hunain. Dy- wedodd fod eu hymddygiad gyda golwg ar y hock-out yn gyfryw ag y byddai anwariaid yn gwrido yn ei wyneb. Barnai mai nid lie i benderfynu dim oedd y cyfarfod hwn, oblegyd nid mewn cyfarfod cyhoeddus o gwbl y cychwynodd y strike. Mai yr unig le i benderfynu y pwnc oedd eyfarfod o gynrychiolwyr o bob gwaith, fel y cyf- arfod hwnw a benderfynodd wrthod y gostyngiad. Yna adroddodd ychydig linellau i'r glowr, a diweddodd gyda'i hoffbenill, "Meibion Llafur." &c. Wedi hyny, darllenwyd y cynygiad canlynol; "Fod y pwnc mewn dadl i gad ei ymddiried i dri o ddynion o blaid y gweithwyr a tliri o blaid y meistri, a cbanolwr os bydd angen." Cariwyd ef yn unfrydol. Yna pasiwyd penderfyntad fod cyf- arfod o gynrychiolwyr o bob gwaith i gyfarfod a'u gilydd yn y Workman's Hall, Mountain Ash, dydd Mawrth nesaf, i ddechren am 10 o'r gloch. Cy- nygiwyd diolchgarweh i'r llywydd ac i bawb oedd wedi cyfrnau tuag at gy- northwyo y rhai sydd allan. Canwyd can ddoniol gan Mabonwyson i ddi- weddu y cyfarfod.

CYFARFOD GAN LOWYRI ABERDAR.

CODIAD ANARFEROL 0 LO YNI…

SYR GEORGE ELLIOT, A.S., AR…

♦ HELYNT Y GWEITHWYR HAIARN.

—. YR ANNEALLDWRIAETH YN NGOGLEDD…

.— ♦— MRI. MOODY A SANKEY…

Y GWIRFODDOLION A'R CLOIAD…

—+ Y CYFLOGAU YN FOREST OF…

— Y STRIKE YN NGOGLEDDI CYMRIJ.I

^ CYNADLEDD ABERTAWE.I

--+----' LLOFRUDDIAETH Ail…

OFFETRIAD YN YMUNO A'R BEDYDDWYR.

^ COLLED AR Y MOR.

^. PSOTESTANIAETH YN MEXICO.

,......,-" HIEWAUN. '

Family Notices

ICyfarfod Prydnawn.