Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HELYNTION TREFORIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELYNTION TREFORIS. Y mae llithiau Netti o'r Forest a'i gyf- eillon wedi myned yn hollol atgas yn y gymydogaeth hon, a hyny o herwydd eu cyfeiriadau personol anwireddus a'u hen- syniadau cableddus, y rhai sydd yn peri diflasdod ac anghysur yn y cylchoedd cysegredicaf. Onid yw yn drueni fod cymeriadau diargyhoedd, sydd wedi ym- drechu gwneud y goreu o'r ddau fyd, yn gorfod dyoddef saethau gwenwynig llof- ruddwyr bradychus a digofus, nad oes ganddynt amcan dan y nef i'w holl ysgrif- au ond bwrw eu llid ar bersonau sydd yn ceisio cadw eu penau uwchlaw tonau adfydys bywyd. Y mae yma deuluoedd yn bresenol yn gruddfan o dan gyhudd- iadau anwireddus yr epil gwenwynig hyn, a phersonau ereill yn barod i fforffetio unrhyw beth na ellir profi y cyhuddiad- au a ddygir yn erbyn eu cyfeillion a'u cymydogion. Yn awr Netti a chyf., er mwyn pob peth sydd yn deg a dynol, na chwanegwch gyhoeddi ensyniadau an- wireddus, neu ynte ymddiriedwch enwau eich tystion i gadwraeth ddyogel Gol. y DARIAN, i'r hwn yr ymddiriedwch eich heiddo eich hunain a'r hwn sydd wedi dyfod yn ddiarhebol am gadw cyfrinach, fel y gellir chwilio a oes gwirionedd yn rhywbeth a ddywedwch. Credwyf na fydd hyn ond teg a dynol ynoch os ydych am i'r byd gredu fod gwirionedd yn yr hyn a gyhoeddwch. CYMYDOG. FFUGCHWEDL Y LLWYNOG. Yn enw Twm Shon Catti, beth yw'r ysfa sydd yn ngwyr Treorci am wybod pwy yw y Llwynog? Os yw yn dweyd rhywbeth ar gam am rai o honoch, "gwyn eich byd pan y dywedant yn ddrwg am danoch, a hwyyn gelwyddog;" ond os yw yn dweyd y gwir, gellweh wella hyny eich hunain, trwy fyw yn fwy heddychol a'ch gilydd ac a'ch gweithwyr, a gwneud chwareuteg mor belled ag y medroch. Ond y gwir sydd yn brathu dynion dostaf o bob peth, ac felly mae y rhai hyn yn holi cynniint am ogof y Llwynog; ond gellweh bender- fynu cysgu yn esmwyth am y ganrif hon beth bynag. Gwelais un R. L. yn y DARIAN ddi- weddaf yn rhyddhau ei hun o fod yn Llwynog, ac wrth wneud hyny yn dyfod yn agos iawn hyd at roddi challenge i'r Llwynog. Beth mae y Llwynog wedi ei wneuthur i ti, gyfaill? Yr wyf yn sawru dy fod dithau yn un o'r clic. 'Does dim o'r Llwynog yn dy adnabod, spo? ydyw yn siwr yn fiamws, oddiar pan oedd ef yn arwain mintai ar hyd y wlad i werthu papyrau ceiniog er's rhyw saith mlynedd yn ol. Paham na Jyddech chwi, fechgyn, yn gweithio allan yr egwyddorion ag oeddech yn broffesu y pryd hwnw, yn lie llechu yn ddirgelaidd, heb gymaint a rhoddi llais yn erbyn yr holl orthrwm a thrais sydd yn y lie? Dyna ddigon i ddeall fy mod yn eich adwaen bob ewyn byw yn y He hwn. Taw pia hi, fechgyn; cymerwch yr hint, rhag fy hala allan o hwyl. By jinoo, dyma y Llwynog wedi cael y peth oeddwn yn ei ddysgwyl er's llawer dydd; ie yn wir, y sack, fechgyn bach, am ddweyd y gwir. Ond nid oes dim i'w wneud. O'm lleddir am wir be waeth." Pan fu y bos genyf ddiwedd y mis yn mesur, yr oedd yn siarad yn hynod iawn, ac yn addaw rhoddi tipyn o allowance i mi am y glo snft. Felly gweithiais yn mlaen yn galonog hyd nos y talu; ond nos Wener, pan gefais y pout ticket, gwel- gis ar unwaith ei fod wedi gwneuthur substradion yn lie addition. Aethum ato yn ddioedi, gan feddwl ei fod wedi gwneud camsynied. Dywedais wrtho yn bwyllog fod rhywbeth yn eisieu ar fy mhapyr. Ni chefais fawr reswm ganddo, ond edrychai ar y papyr fel hurtyn, ac yn methu magu gwyneb i ddweyd wrthyf. Ond yn mhen ychydig dywedodd, nid oedd genyf ddim yn well i wneud a chwi na'ch sefyll yn ol 3s. 10c. y dydd am fod eich glo mor soft. Wel, meddwn wrtho, nid oedd mor soft ag yna, neu maer felldith yn y peth. Yr oeddwn wedi enill dros 4s. 8e. pe buaswn yn cael yr hyn oedd yn d'od yn deg i mi. Gwy doch fod saith ceiniog y dynell yn d'od i mi ynol mesur y glo, meddwn wrtho. Nid ydym yn talu yn ol yr heu drefn hono ddim mwyach. Dyna yr un peth i chwi a phawb ereill. Wei, nid wyf mor soft a chymeryd fy nhrafod fel hyn, a bod yn siwr, meddwn wrtho. Dim rhagor o'ch tafod, meddai Mr. Boss; a gallaf ddweyd un peth arall wrthych hefyd, meddai, mae yn rhaid i chwi ddyfod i fyw i dy'r ewmni neu ymadael a'r gwaith. Not for, Joe, meddwn inau, a chewch dalu yr holl arian sydd yn d'od i mi, a hyny yn bur fuan. Nid yw hi eto ond deohreu gwawrie, Fe gw. d y blinds yn uwch i'r lan; Holl ystrsnciau r clio bob tipyn Wnaf ddl noethi yn y man B le mae r tooins, B le mae'r teems Sf dd am fesur pris y pi J. Dangosaf iddo beth mae y Llwynog yn ei wybod, a dichon ei fod yn gwybod mwy nag y mae llawer yn dewis. Yn awr, fechgyn, ma's a'r tools bob copa walltog, a mynwn ein hiawnderau. Y mae shwd beth hyn yn ddigon i hala un Methodyn allan o'i bwyll. Y mae talu am fesur y glo mor hen a phan oedd Addá Jones yn tori glo at wasanaeth ffarmwyr yn y cwm hwn cyn soddi yr un pwll nac agor yr un lefel o fewn i sir Forganwg. Ymarfogwn o ddifrif bob glowr trwy'r lofa, ac nid gadael i ryw un dosbarth i ymladd ar ei ben ei hun, fel y mae wedi bod yma lawer gwaith yn fiaenofol, a thrwy hyny golli y dydd. Safwn yn ddisigl yn y ddwy wyth- ien, a dangoswn ein hod yn ddynion am unwaith, neu bydd yn rhaid i ni cyn hir dalu am weithio os bydd i ni gymeryd pob peth fel ag yr ydym yn ddiweddar. Peid- lwch hidio os wyf yn cael fy stopo; bydd y Llwynog yn sefyll o'ch plaid fel bug. Fy arwyddairyw, "The work-imm's fr. end." Rbaid i mi frysio yn mlaen gyda gadael llonydd i'r ddau fos, y tro hwn. Amset ddengys beth fydd y canlyniad o stopo y Llwynog. Nid yw ty yn y cefn yn fy ateb o gwbl, am fy mod yn meddwl myned i gadw tipyn o fusnes heb fod yn faith. Yr wythnos nesaf byddaf yn rhoddi gwobr o ddwy bunt am y gAn oreu i Mr. ———. Wele enghraifft o'r mesur, a bydd i'r cys- tadleuwyr gymeryd at ystyriaeth beth yw y testyn. )If¡9 yma glamp o danwr Tri a chwecb, tri a chwech, G"Ba' tro fel Kynffongllcwr, Triachwech; Mae'n well i'r oyfaill gvloblyd I ddiai c am el fywyd, Bbag iddo g iel ei lIymud, > A'i larpio gan yr yebryd, Tri a ohwech,tri a ehweok. Gwasanaethed hynyna fel rhyw dipyn o ragymadrodd. Gwyddoch erbyn hyn beth yw y testyn. Y mae genyf lawer o bethau ag eisieu eu cael i oleu dydd; ond mae fy Ihth yn myued yn rhy faith y tro hwn. Cewch hanes y ty ar dan, yn nghyd a'r dull plentynaidd o gaagluarian yr atal-. bwyswr, brwydr fawry lludw, y pwyllgor ar ben y pwll, dydd Llun dechreu y mis, dewis delicate, arian yr ysgol, boys y nos, a llawer o bethau ereill fwy na allaf enwi ar hyn o bryd. Cofion ymfflachyddol atoch bod ag un yna oil. Yr eiddoch yn plygu dan bwysau y sanau, LLWYNOG.

PORTH, CWM RHONDA.

yl:-: CWMAFON.

Advertising

HELYNTION CYHOEDDUS YN MOUNTAIN…