Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
WILLIAMS WATOHMAEBE AND JEWELLER, 29, Castle Street, Swansea Gymry hoff! de'wcb st y Cymro Os am beirdd fodrwyau aur; Onadoren ao awr! eisiau, Gemau a ohadwynau olaer; Xsjgeotol gelfydd, hin-fyoegydd, Gwres- fesurydd, owmpawd mor, Geir gan Williams. Heol y-Casten, Trowch i mewn i wel'd ei stor.
--. YR WYTHNOS. -:0:---
YR WYTHNOS. -:0: Y mae y Senedd yn ymgyfarfod heddyw at waito y tymor. Y MAE y Frenhines wedi caniatau i'w henw gael ei roddi fel un c noddwyr Eis- teddfod Genedlaethol 1897, y Casnewydd. HYSBYSIR fod y Parch. J. Davies, Llan- dilo, wedi derbyn gwahoddiad gan eglwys y Methodistiaid yn Heoldwr, Caerfyrddin, ac yn debyg o gydsynio a'r alwad. Y MAE merch ieuanc, 20 oed. o'r enw Han-, nah Davies, wedi ei cholli o Castellnedd er dydd Llun diweddaf. Ymadawodd o'r ty yr oedd yn gwasanaethu ychydig wedi saith yn y bore. CAFWYD corff plentyn newydd anedig, bore dydd Mercher diweddaf, ar y reilffordd rhwng Magor ac Undy, sir Fynwy, a bernir ei fod wedi ei daflu o gerbyd y bore hwnw, gan fod y papyr llwyd oedd am dano yn eithaf gych. YN llys Old Bailey, dydd lau diweddaf, dedfrydwyd Iuddew o'r enw Isaac Bobker, 28 oed, i bum mlvnedd o garchariad penyd- iol am saethu at ddyn ieuanc o'r enw Spek- ke, a hyny am fod yr olaf yn myned gyda'i gariadferch ef. Bu farw Major Bell, Ynysowen, Merthyr Vale, dydd Iau diweddaf, wedi bod o dan gwmni glofaol Nixon am 36 o flynyddoedd. Dywedir ei fod yn oruchwyliwr oedd bob amser yn gwneud ei oreu i dafoli yn gyfiawn rhwng meistri a gweithwyr. AIL gychwynwyd glofeydd Tylorstown dydd Iau diweddaf, pryd yr aeth rhyw 400 o weithwyr i lawr, ond yr oedd lluaws o honynt wrth y gwaith o glirio cwympiadau, &c., fel mai ychydig o lo a anfonwyd allan. Dechreuwyd fel arfer yn yr holl lofeydd dydd Llun. YCHYDIG a wyddus am yr enwog John Ruskin, D.C.L., ond trwy ei weithiau dihaf- arch, ond yn unig ei fod yn fab i farsiandwr yn Llundain, ei fod wedi ei eni yn 1819, yn Hunter-street, Brunswick-square, a'i fod wedi byw mewn ymneillduaeth am flynydd- oedd yn ei gartref prydferth. Brantwood, yn agos i Coniston. PAM na phriodwch chwi, Robert ?' ebe y feistres y dydd o'r blaen wrth ei garddwr; 1 y mae genycb dy bach clyd, a 'does eisiau dim i'w wneud yn ddedwydd ond gwraig. Yr oedd gan y garddwr cyntaf wraig, fel y gwyddoch.' 'Oedd mestres,' ebe Robert, 4 ond chadwodd o mo'i job yn hir wedi iddo ei chael hi.' Y MAE yn meddiant Mr Cartwirght, argraff- ydd, Dowlais, hen lyfr Cymraeg a argraff- wyd yn America yn 1721, o dan yr enw, "Annerch i'r Cymry i'w galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol ermwyn cadwedigaeth eu heneidiau, &c., o waith Ellis Pugh. Argraffedig yn Phila- delphia, Y mhensylfania, gan Andrew Brad- ford, MDCCXXL." .^BORE dydd Mercher yr wythnos ddiwedd-' cyfarfyddodd glowr a diwedd dychryn- llyd yn nglofa y Naval, Penygraig. Y mae yn ymddangos fod Joseph Rosser, 50 oed, wedi ei ddal gan raff ar y yard, ac iddo gael ei dynu dros y drwm, ac i dy yr engine. Yr oedd ei ddwy goes wedi eu dryllio yn fawr, a bu farw cyn iddo gael ei gymeryd i'w gartref, Dywed TRUTH fod rhyw annealldwriaeth rhwng rector Castellnedd a'r Guardians yno, a hyny o barthed y lie y cleddir meirw y tlotdy yn y fynwent. Ymddengys mai eiddo personol y rector yw y fynwent, a'i fod yn codi 40s. y bedd am le claddu y tlodion plwyfol, fel am feddau ereill, er fod y lie hwnw braidd yn rhy serth i sefyll arno, tra na cheir ganddo eu claddu mewn lie arall yn y fynwent. BORE dydd Iau diweddaf cafwyd dyn yn farw mewn simne taproom, yn Looks Fenny, Stratford. Yn ystod y nos gorfu i Mr. a Mrs. Woolhams godi o'u gwely o herwydd syrthiad cyfanswm mawr o huddygl, ac wedi agor ffenestr yr ystafell, heb feddwl fod ysbeilydd yn marw yn eu hymyl, aeth- ant i'w gwely eilwaith. Yn y bore, yn meddwl fod y simue eisiau ei glanhau, an- fonwyd am sweep, yr hwn a ddaeth o hyd i'r corff marw. Gorfuwydtynurhano'rsimne i lawr er ei gael allan. Y MAE yn ddrwg genym ddeall fod ein cvfaill, Mr. T. Morgan Owen, Rhyl, yr hwn sydd yn un o inspectors ysgolion henaf y Dywysogaeth, yn cael aflonyddu arno, a'i symud i Nottingham, er boddio clic eglwys- ig sydd wedi bod yn gweithio yn ei erbyn er's cryn amser. Er fod Mr. Morgan Owen yn eglwyswr selog ei hun, eto nid yw yn un o'r hurtiaid eglwysig hyny sydd yn credu nad oes dim da yn dyfod oNaxareth ymneill- nad oes dimda yn dyfod oN axareth ymneill- aeth, a dyma eidrosedd. 35 mlynedd yn ol yr oedd Mr. T. Morgan Owen yn bupil teacher yn ysgol Genedlaethol Aberdaa*. Y MAE yn awr yn ddealledig fod trydydd copi o'r llyfr Cymraeg henafol a elwir Cyd- gordiad Egwyddor o'r 'Sgrythyrau," yr hwn a gyhoeddwyd yn Philadelphia yn 1730, i'w gael yn Nghymru, a hyny gan y Parch Abel J. Parry, yn awr o Cefnmawr. Y maevntau ymae yn debyg yn bwriadu cyfiwyno y copi sydd ganddo i goleg y Bedyddwyr yn Caerdydd, Felly bydd copi yn Aberystwyth, copi yn y Bala, a chopi yn Caerdydd. Hwn y mae yn debyg yw v llyfr Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yn yr Unol Dalaethiau. CYMERODD hurianladdiad gofidus le yn Llanelliprydnawll dydd Sul diweddaf, pryd j y bu farw Mr. Robert Margrave, meddyg annifeiliaid, o effeithiau gwenwyniad trwy opium. Ychydig wedi dau o'r gloch aeth Mr, Margrave i'w feddygfa yu Thomas-st., fan yfed oddeutu tair wns o laudnaum. [or gynted ag y deallodd ei was yr hyn oedd wedi cymeryd lie, anfonodd am gy-j northwy meddygol. a chyrhaeddodd tri "o honynt y lie yn fnan, ond methasant a'i achub, a bu farw mewn dwy awr. Yr oedd y trancedig yn frodor o Abertawe. ac yn 30 oed. RHODDIR yr hanesyn canlynol am y not'el- ydd enwog Mr. Crockett. Yr oedd yn dm chyfyng arno pan yn efiydwr yn Edinburgh. Lletyai mewn gorawch ystafell yn agos i orsaf lo. Yn mrig hwyr, elai allan i gasgii y man gnapiau glo a syrthiasent oddiar y troliau yn ystod y dydd. Bychan iawn yn ami fyddai y casgliad, a gwelid y nofelydd ystrywgar yn cynllunio i ychwanegu at ei danwydd. Taflai gnap bychan o lo at yrwr trol llawn, yr hyn a barai i hwnw geisio ei daraw yn ol a'r telpyn mwyaf oedd ganddo. "Felly," meddai, "byddwn yn twymo fy hun wrth daflu cnapiau bychain, ac yn twymo fy hun wed'yn yn ngwres y cnapiau mawr a deflid attf yn ol. DYWEDIR fod y CELT ar wneud ei ym- ddangosiad eto, ac i'w gyhoeddi y tro hwn yn Llanelli. DYWEDIR fod capel yBedyddwyr Saesonig yn Troedyrhiw, Merthyr, ar gael ei roddi ar arwerthiant cyhoeddus. CYMERODD ffrwydriad gas le yn eglwys Doncaster, dydd Gwener, trwy yr hwn yr achoswyd colled o £2000 ar yr adeilad. Y MAE Mr. Edward Davies. Llandinam, yr hwn sydd yn dirfeddianwr mawr, yn gystal ag yn lofeistr mawr, wedi gostwng 20 y cant yn rhentau ei denarntiaid tirol. Dyma esiampl gwerth ei hefelychu gan dirfeddianwyr ereill. DYDD Llun diweddaf cynaliwyd treng- holiad yn Caerdydd ar gorff hen wr o'r enw John Thomas, 64 oed, yr hwn a gyflawnodd hunanladdiadjtrwy ymgrogi mewn ystabl o'r tu ol i'w breswylfa, 36, Llandaff-road, Canton, ddydd Sul. CYMERODD dam wain angeuol ofidus iawn Ie yn yard reiiffordd y Taff, yn Cathays, dydd Sadwrn diweddaf, i saer o'r enw John Thomas. Pan yn croesi y linell, tarawyd ef i lawr, ac aeth y peiriant drosto. Yr oedd Thomas yn 44 oed, ac yn byw yn Cathays. Y MAE rhai o Guardians Merthyr ac Aber- dar yn achwyn mai gweinidogion ydyw y personau sydd yn eu blino fwyaf ar adeg u etholiad unrhyw swyddog o dan y Bwrdd, ac y dylent edrych yn fwy at eu busnes en hunain, a meddwl fod gan rywrai fam heblaw hwy. TUA chanol dydd ddydd Snl diweddaf.yn Cwmafon, cyfarfyddodd bachgenyn tai, oed, plentyn i Mr. Wm. Williams, Tymaen a'i ddiwedd mewn dull dyeithr arswydus. Tra yr oedd y plentyn yn sefyll ar gadair siglo, ac yn estyn am damaid oddiar flaen y gyllell, symudodd y gadair o dano, a syrthiodd yntau ar ei wyneb, pryd yr aeth y gyllell i lawr i'w wddf, a thorwyd gwyth- ien fawr. Gwaedodd y plentyn i farwol- aeth. DRWG genym gael ar ddeall fod Mr. Thos. Williams, goruchwyliwr glofeydd Aberper- gwm, Glynnedd, wedi marw, a hyny mewn canlyaiad i ddamwain. Tra yn siarad a saer o'r enw John Thomas, dydd Iau di- weddaf, ar bont tipo, ac yn pwyso ar y ganllaw, rhoddodd hono ffordd, a syrthiodd yntau i'r dyfnder o 19 treddfedd. Er iddo dderbyn pob cynorthwy meddygol, bu farw nos Sadwrn. Yr oedd yn 44 oed. Cymerir ei weddillion i'w claddu i'r Hafod, heddyw (dydd Mawrth.)
Advertising
WILLIAMS 29,Castle Street, Swansea. Largest Stock in Wales. 22CT. OLD WEDDING RINGS VJT 18CT. GOLD KEEPERS ENGLISH PATENT LEVER IL A T C H E S. jgRAZILIAN CRYSTAL g PECTACLE S
.. Damiain Ofnadiy
Damiain Ofnadiy YN Y MARDY. Rhwng chwech a saith o'r gloch y boreu hwn, dygwyddodd damwain ddychrynllyd yn Nglofa No. 1, Mardy, Rhondda Fach, pryd y niweidiwyd 12 o bersonau ond nid oes hysbysrwydd eto fod neb wedi colli eu bywydau.
RHODDI FFERM AR DAN.
RHODDI FFERM AR DAN. Rhwng dau a thri o'r gloch bore dydd Iau diweddaf, cafwyd fod adeiladau, yn cynwys ystablau a beudy amaethdy Penpark, yn agos i Towyi. sir Feirionydd, yn fflamiau. Llosgwyd yn fyw ddau farch gwerthfawr— y goreu o'u batb yn y sir--yn nghyda phump o wartheg. Y mae yn sicr nad o ddamwain y torodd y tan allan, canys rhoddwyd yr adeiladau ar dan mewn dau le gwahanol ar unwaith. Un Mr. Edward Griffiths ydyw y tenant, yr hwn sydd ar adael Penpark, ac wedi cymeryd fferm o'r enw Cemmaes. Dywedir fod rhai o'r am- aethwyr sydd am gael gostyngiad yn y rhentoedd, yn ddigofus wrth Griffiths am ei fod wedi cymeryd y Cemmaes, a'i fod wedi derbyn llythyr bygythiol dienw, yn yr hwn y dywedid, oni buasai am ei wraig a'i deulu, nad arbedid hyd yn nod ei fywyd. Ni chymerwyd sylw ar y pryd o'r llythyr, yr hwn, modd bynag, sydd yn awr yn nwy- law yr heddgeidwaid. Yr oedd y golled yn £ 1,000 heb ddim wedi ei yswirio.
GLOFA NANTMELYN.
GLOFA NANTMELYN. Anwyl Gydweithwyr,—Y mae yn ddrwg genyf hysbvsu fod blwch y lofa uchod wedi ei gau;— D. WILLIAMS, Ysg.
. GWEITHFAOL A MASNACHOL
GWEITHFAOL A MASNACHOL Y FASNACH Lo YN CAERDYDD. Dydd Llun, Chwef. 10fed,-Er yr holl lei- had a gymerodd le yn y cynyrchiant glo yn ganlynol 1 danchwa Tylorstown, ni chododd pris y glo yn wir, y mae rhai o'n glofeydd mwyaf yn methu gweithio amser llawn o eisiau ychwaneg o archebion. Yn Ngogledd Lloegr a Yorkshire y mae y fasnach lo yn hynod farwaidd, a'r pris- iau bron wedi cyrhaedd eu hiselfa. I Pris uchaf glo ager goreu Deheudir Cymru heddyw yw 10s. 6c., am gylfenwadau i cyfly ur, ond am gyflenwadau am y dyfodol, y mae yn anmhosibl cael mwy na 10s. glo ail raddol, 6c. y dynell yn llai, a gloion sych, I 9s. 6c. y dynell. Y mae glo man mewn galwad gweddol am 4s. 6c. y dynell. Y mae y llongbris i For y Canoldir a'r West yn is. ond y pris i'r India yn parhau yn uchel iawn, gan ei bod yn anhawdd cael dim i'w gludo yn ol.
--0--! ANNEALLDWRIAETH PLYMOUTH,…
--0-- ANNEALLDWRIAETH PLYMOUTH, MERTHYR. Dydd Sadwrn diweddaf tal odd cynrychiol-1 aeth o weithwyr Pjymouth ymweliad a Chaerdydd, er cael ymgyngoriad a Mr. T. H. Bailey, prif oruchwyliwr glofeydd Mri Hill Plvmolth. Mr. Wilson, a Mr. Green. Yr oedd Mr. Edward Jones, Farteg, hefyd yn bresenol fel math o gyfryngwr. Bu pynciau yr annealldwriaeth, a'r cynygiad o'u rhoddi i benderfyniad pwyllgor y Sliding Scale, o dan ystyriaeth, ond ni ddeuwyd i unrhyw benderfyniad. Llun. Methwyd heddyw eto a > annealldwriaeth hwn i derfyniad, •3 Cyngor Trefol Merthyr yn darpar rhoddi cymaint ag a allont o'r dyn- v :'•••'r at waith angenrheidiol yn ac o y dref.
: ARCHWILIAD GLOFEYDD FERNDALE.
ARCHWILIAD GLOFEYDD FERNDALE. Y mae y gweithwyr hyny a benodwyd gan gyfartod cyhoeddus o lowyr Ferndale, i archwilio y pedair glofa, wedi rhoddi eu hadroddiad, a chopi o'r cyfryw wedi ei roddi i bob glowr, yn gystal ag i Mr. Robson, yr inspector. Y mae yr adroddiad yn rhoddi sefyllfa pob adran o'r gwaith. Y mae cael adroddiad fel hyn ar brydiau yn arferol gan y gweithwyr, ac mewn rhai glofeydd yn fisol. Dywed yr adroddiad fod sefyllfa y pyllau, ar y cyfan, yn hynod dda, ac y mae diolchgarwch mawr yn deilwng i Mr. A. Tibbott, am y dull rhagorol y mae yr ad- roddiad wedi ei ddwyn allan.
-:0:-AT GOEDWYR A RIPWYR CWM…
-:0:- AT GOEDWYR A RIPWYR CWM ABERDAR. Frodyr, bydded hysbys genych y bydd cyfarfod cyffredinol o'r holl aelodau i'w gynal dydd Sadwrn nesaf, Chwef. y 15,1896, am 5 o'r gloch, yn y Royal Exchange, ac y mae dymuniad ar i bawb fod yn bresenol. Yr eiddoch, &c., YSG.
- TERFYNIAD ANNEALLDWRIAETH…
TERFYNIAD ANNEALLDWRIAETH GLOFA Y CaERAU, MAESTEG. Y mae yn dda genym allu hysbysu fod yr annealldwriaeth hir-barhol sydd wedi bod rhwng cwmni y North's Navigation a'u gweithwyr, yn nglofeydd y Caerau a'r Coeg- nant, Maesteg. wedi ei ddwyn i derfyniad. Mae yr annealldwriaeth yn y Caerau wedi parhau am yn agos i ddwy flynedd, a gweithwyr y Coegnant wedi eu cloi allan I er's rhai misoedd. Fe ddywedir fod clod mawr yn ddyledus am ddwyn yr anneall-1 dwriaeth i derfyniad, i Mr. John Thomas, j goruchwyliwr glowyr y Garw, a'r Cyngor- wr Tom Hughes, Penybont. Wedi i weith- wyr glofeydd No. 9, a'r Park Slip, Maesteg, gael rhybyddion ar ddechreu ymis presenol, dechreuodd y ddau ohebu a'u gilydd, ac ag awdurdodau y glofeydd, trwy yr hyn y pen- derfynwyd cael cyfarfod i ystyried yr ang- hydfod, yr hwn a gymerodd le ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mr. John Thomas (yr hwn ydyw aelod pwyllgor y Scale dros y Dosbarth). dau gynrychiolydd o gyfarfod misol y Dosbarth, Mr. Boyd Harvey, prif oruchwyliwr y cwmni, a Mr. SimsRees, agent y lofa. YroeddyCyngorwr Hughes hefyd yn bresenol, ar ddymuniad y ddwyblaid. Gomeddai Mr. Harvey dynu yn ol y rhybyddion hyd nes y byddai i an- nealldwriaethau y Caerau a'r Coegnant gael eu penderfynu. Yna dechreuodd Mr. John Thomas agor ymgynghoriad cydrhwng^ Pwyllgor y Gweithwyr a'r meistri, ac erbyn nos Sadwrn yr oedd y cwbl wedi ei bender- iynu. Pris toriad y dynell lo fydd Is. 5c., yn nghyda 2Ac. y dynell o allowance am y glo top, cloden a'r bast. Mae y rhybyddion a roddwyd i weithwyr Deep Maesteg a Slip y Park, i'wtynu yn ol, a gwaith i'w ddechreu mor gynted ag y byddo yn bosibl yn^Caerau a'r Coegnant. Y mae y newydd yn un derbyniol iawn gan bob dosbarth yn y gymydogaeth, gan fod caledi mawr yn ac wedi ei ddyoddef yno. nk,b- Wedi derbyn yr hanes nchod, cawn ar awdurdod y cadeirydd, Mr. Wm. Rees. a'r ysgrifenydd. Mr. Urias Richards, nad oedd gan Mri. Thomas a Hughes un Haw o gwbl yn y drafodaeth o ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond fod yr oil wedi ei wneud aan Bwyllgor Gweithiol y glofeydd ac awdur- dodau y glofeydd. Mai yr amodau ydynt a ganlyn, Pris safonol y tori, Is. 5c. y dyn- ell yr. allowance safonol, 2Ac. y dynell; y glo top i gael eilanw ar wahanneu eigobio, yn ol dewisiad y glowr; y gloden i'w chadw i fyny neu ei chymeryd i lawr, yn ol barn y goruchwyliwr trwy y face 12 Hath o led i'r stalls; y ripo ar y ffyrdd i'w fesur o'r top at y glo bach a'r taliad am bres i'w ystyr- ied gan y glowr a'r goruchwyliwr. Rhodd- wyd y telerau hyn o flaen cyfarfod mawr cyhoeddus o'r gweithwyr nos Sadwrn, y rhai a dderbyniwyd wedi iddynt gael en hegluro yn fanwl gan Mr. David Beynon, y goruchwyliwr.
ANNEALLDWRIAETH GWYTHIENAU…
ANNEALLDWRIAETH GWYTHIENAU Y MARDY. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf derbyn- iodd Mr. W. Evans, Rhondda, benderfyniad Mr. Arthur Lewis, bargyfreithiwr, yr hwn a apwyntiwyd yn ganolwr yn yr anneall- dwriaeth o barthed y tair gwythien yn y Mardy, ac ystyrir y dyfarniad gan Gynl- deithas y Cambrian yn fuddugoliaeth o du y gweithwyr. Dywed y dyfarniad,—" Yr ydwyf yn penderfynu fod y wythien a elwir gwythien y Mardy, yn mhwllNo. 1. yMardy, a'r wythien sydd yn awr wedi ei hagor yn mhwll No. 3. y Mardy, yr un yn mhob peth a'r wythien a weithir yn awr yn nglofeydd Ferndale, gan y Mri. Davis a'u Meibion, ac yn cael ei hadnabod wrth yr enw gwythien I y Bute ac yr ydwyf yn penderfynu yn mhellach mai y pris a delir gan y Mri. Davis, yn Ferndale, am weithio gwythien y Bute, fydd y pris i'w dalu gan Gwmni Glofaol Lockett Merthyr, am y wythien a elwir y Mardy, yn mhwll No. 1, a'r wythien sydd wedi ei hagor yn mhwll No. 3. y Mardy, sef y pris canlynol :-Pris safonol y tori, 2s. 2c. y dynell." Y mae pris y pethau ereill hefyd yr un fath ag a delir am wythien y Bute, Ferndale. Erbyn ystyried mai Is. 8tc. y dynell a delid am y glo hwn, fe welir fod y gweith- wyr yn enillwyr o 51c. y dynell trwy y cyf- lafareddiad hwn mewn cysylltiad a'r ddwy wythien. 0 barthed i'r wythien newydd, yn mhwll No. 1. y Mardy, y mae y canolwr wedi pen- derfynu mai y pris fydd Is. 91c. y dynell, ac nad yw y wythien yr un yn mhob peth a gwythien y Bxjte yn Ferndale. Y mae y canolwr yn mhellach yn dyfamu, cyhyd ag y bydd y wythien yn parhau yn stiff ac an- j hawdd i'w gweithio, fod allowance priodol i gael ei roddi gan y cwmni hyd nes y bydd y wythien wedi ei hagor fel ag i weithio yn debyg i'r wythien sydd yn awr yn cael"ei gweithio, a'r hon sydd yn uniawn o dan y wythien newydd. Barnai pwyllgor gweitbiol Cymdeithas y Cambrian, yn eu cyfarfod prydnawn dydd Si.clsvrn, y rhoddai y dyfarniad hwn foddion- rwy du cyffredinol i lowyr y Mardy.
ANNEALLDWRIAETH Y BWLLEA,…
ANNEALLDWRIAETH Y BWLLEA, RHONDDD. Yn y cyfarfod a gynaliwyd prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, gan bwyllgor gweithiol Cymdeithas y Cambrian, darllenodd Mr. W. Evans, yr is-oruchwyliwr, adroddiad swydd- ogol o'r drafodaeth a gariwyd yn mlaen o barthed i annealldwriaeth glofa y Bwllfa, yr ymweliadau a Mr. Jenkins, prif oruch- wyliwr y glofeydd, yn nghyda'r cyfarfod 1 o lowyr y Ton. Wedi peth siarad, pender- fynwyd na chynelid cyfarfod neillduol o'r gymdeithas yn bresenol er ystyried yr an- I nealldwriaeth yn mhellach. Hefyd, datganodd amryw o'r cynrychiol- iolwyr eu hanghymeradwyaeth i ymddygiad amryvr o weithwyr y Bwllfa, y rhai a aflon- yddasant ar y cyfarfod a gynaliwyd y Llun blaenorol er derbyn adroddiad y cynrych- iolwyr.
CYNADLEDD GENEDLAETHOL YI…
CYNADLEDD GENEDLAETHOL Y GLOWYR YN LLUNDAIN. Cynaliwyd Cynadledd Genedlaethol gan gynrychiolwyr y glowyr, yn dechreu dydd iau diweddaf, yny Westminster PalasHotel, Llundain, er ystyried Ysgrif Newydd Rheol- eiddiad Mwnglodmau. Amcan y gynadledd oedd cael cyd-daealldwriaeth cydrhwng glowyr gwahanol ranau y Deyrnas pan y daw yr Ysgrif o flaen y Senedd. Cynrych- iolid 508,000 o weithwyr. Llywyddwyd gan Mr. B. Pickard. A.S., a chefnogid ef gan Mri. T. Burt, AS., (Northumberland), John Wilson, A.S,, (Durham), a Mr. W. Abraham, A.S., (Rhondda). Yr oedd y cynrychiolwyr canlynol hefyd yn bresenol o Ddeheudir Cvmru :—P. Beynon, A Onions, L. Miles, W. Jones, W. Rees, W. Brace, T. Richards, T. D. Isaac, S. Davies, p. Morgan, ac Isaac Evans—12 cynrychiolydd, yn cynrychioli 88,200 o lowyr. Y mae yn hysbys, modd bynag, nad yw cynrychiolwyr Deheudir Cymru yn unfarn ar rai pynciau. Apwyntiwyd Mr. T. Ashton, Manchester, yn ysgrifenydd y gynadledd, a Mr. S. L. Woods, Lancashire, yn is-lywydd. Y gorch- wyl cyntaf oedd pasio penderfyniad o eyd- ymdeimlad a pherthynasau a chyfeillion y rhai a gollasant eu bywyd yn nhanchwa ddiweddar Tylorstown, ac awgrymai y llywydd ar y pryd yr angbn oedd am well- iantau yn Neddf Rheoleiddiad Glofeydd, er arbed bywydau y gweithwyr. Cydnabydd- wyd y penderfyniad hwn gan Mr. Isaac Evans, Castellnedd. Yna cyflwynodd y Cyngorwr W. Johnson, goruchwyliwr glo- wyr Warwickshire, cheque o £ 13 13s., i Mr. W. Abraham, A. S., yr hwn swm a danys- grifiwyd gan aelodau y Cyngor Sirol yno, tuag at gynorthwyo weddwon ac amddifaid y danchwa, yn nghyda phenderfyniad o gydymdeimlad y Cyngor. Yn nesaf cynygiodd Mr. J. Wilson, A. S., (Durham),—"Fod y gynadledd hon yn pro- testio yn erbyn unrhyw ymgais i ddwyn i mewn egwyddor y confcractio allan i unrhyw adran o" Ysgrif Cyfrifoldeb y Meistri, pa un bynag ai gan y Llywodraeth ynte gan aelod personol." Dywedai ei bod yn ofnus, oddi wrth atebiad yr Ysgrifenydd Cartrefol i gynrychiolaeth Trades Union y wlad, fod ymgais o'r fath i- gael ei wneud yn "NTbv r Cyffredin presenol. Eiliwy.7 gan Mr. T. Burt. A. S. a' Mr. Isaac Eval unfrydol. Yn nesaf aeth y gynadledd yn 0 ystyried Deddf Rheoleiddiad y Mwnglodd- iau (yn ei gwelliantau). Cytunwyd gadael allan yr adranau hyny a ddarparent am gwtogi oriau gweithio personau dan 20 oed, yn nghyda yr adran yn gwahardd cyflogi personau i weithio o dan y ddaear dros 18 oed, oddieithr eu bod wedi gweithio o dan y ddaear cyn cyrhaedd yr oedran hwnw. Gan fod gwahanol farnau yn nghylch yr adranau hyn, barnwyd yn oreu eu rhoddi o'r neilldu hyd ddydd Sadwrn, i'w hystyried gyda phwnc yr wyth awr. Wedi rhoddi ystyriaeth i amryw welliantau cynygiedig, yn cynwys peidio cyflogi menywod o am- gylch glofeydd, symud atalbwyswyr, cael inspectors cynorthwyol i bob 10,000 o weith- wyr, sinco shafts ychwanegol wedi i'r glo fyned dros filldir o waelod y pwll, gwell diangfeydd o lofeydd yn ngwyneb damwain, 1 gohiriwyd hyd ddydd Grwener. DYDD G\VENER ail ymgyferfu y Gynadl- edd, pryd y rhoddwyd ystyriaeth pellach i welliantau Deddf Rheoleiddiad Mwnglodd- iau. Etholwyd pwyllgor i archwilio a chyf- so<?^ os byddai yn angenrheidiol. reolau SeIS-Vo1' y cyfryw bwyllgor i gynwys Mri. B. Pickard, A. S„ T. Burt, A. S., J. Wilson, A. S., C, Fenwick, A. S., W. Abraham, A.S., S. Woods (Lancashire), Haslam (Derbyshire) W. Brace (sir Fynwy). Brown (Scotland), a Johnson (Durham). Terfynwy" y Gynadl- edd trwy roddi diolchgarwchi r llYWYdd.
YSGRIF YR WYTH AWR.
YSGRIF YR WYTH AWR. Yn y prydnawn cynaliwyd cynadledd neillduol o gynrychiolwyr ag yn gefnogol i egwyddor yr wyth awr o fanc i I fane, yn yr un lie, a hyny er ystyried Ysgrif Yf yth Awr, sydd i'w chyflwy^ i Dy y Cynredin ar ddechreu y tynior- Yr oedd y cyfarfod hwn yn llai i raddau na r gynadl- t (LSla^, yn gymaint ag na chynrychiolid Northumberland a Durham y& Ngogledd Lloegr, nac Aberdar, Merthyr, Castellnedd, ac Abertawe, yn Neheudir Cymru. Yroedd pob adran arall yn Mhrydain Fawr yn cael ei gynrychioli. Cymerwyd y gadalr an Mr. B. Pickajd, A. S. Cyflwynwyd copi 0 YsgrIf yr Wytb Awr i'r cyni-yehiolwyr, yr hon a gymeradwywyd. Y mae yr ysgrif yn hynod o fer a diamwys, yn cynwys dwy neu dair adran yn unig. Cynyg}^ gwtogi' yronau gweithio mewn glofeydd i wytb yn y dydd, a darpara ddirwyon ar y llleistri: na chydymffurfiant a'r gyfraith. Y roae y dirwyon ar weithwyr a droseddent y ddeddf, wedi eu tynu allan y tro hwn.. Apwyntiwyd y gynrychiolaeth i gyfarfod a'r Ysgrifenydd Cartrefol, y nifer, yn ol ei ddymuniad, i beidio bed dros 20. Y rhai o Ddeheudir Cymru oeddynt D. Beynon T. D. Isaac, T. Richards, ac A. Onions. Yr oedd yn ddealledig hefyd fod Mr. Abraham i fyned gyda hwynt. DYDD SADWRN ymsryfarfu y Gynadledd drachefn, dan lywyddiaeth Mr. Pickard, a gwnawd yn hysbys yr adroddiad swyddogol canlynol: Fe fu Ysgrifyr Wvth Awr o dan ystyriaeth y gynadledd, a phenderfynwyd gwthio yn mlaen y cyfryw, yr hon, fe obeithir, a ystyrir yn ystod y sesiwn. Fe ymwel cynrychiolaeth a'r' Ysgrifenydd Cartrefol ddydd Llun gyda golwg ar hyn." fissTYmgyfarfu y cynrychiolwyr Cymreig ar en penau eu hunain, er ystyried y dull goreu er parotoi cynorthwy i berthynasau T •"laddwydyn nhanchwa Tylorstown, nderfynwyd apwyntio cynrychiol- r Arglwydd Faer, ddydd Mercher, er c tx,, iddo agor trysorfa gynorthwyol yn y Wn r r. n House. r odd y pwyllgor apwyntiedig o olwyr y gynadledd a'r YsgrifeRydd j ddydd Llun diweddaf, hanes yr ddwn yn ein nesaf.
Advertising
$ilte W I1 ll Q0INIHE UTTERS ill THB | VE,Q=TABLE TQNIC- ll,.]' 680 ^^pGr^assist^Tgo^iun, pro | ft}i| TT^^f.^dfaeilitatecireii^tion. stivn?- 3 nenre» and muscles, purify-rhe hjti-ljiWll 1)00, and brace up the system jr no- f 5 a Purely Vegetable Tonic equal. Being gifted with tonic an<^ digestive properties Whp'll are P^^Uarly adapted to p^rsor.3 ii llfl from depression of spirit?, j I V*elaxation, muscular weak- |L j j( m ^mency. disturbed sloop, head- jH* ft »olpa'\? a11 aarection, of tilt fiver. WMHI J' One inanequil qunn. |j t w tim« ,Lily:on, imur f i| ChUijrftfi, hnit'tbft ahovi- quantity | |j PRKP*ked 11V j| QUIKINE BITTERS MANUFACTURING |1 J| OOMPANr. LIMITED. it M I.LA.NELLY. SOUTH 'A'ALES. 11 n ilzttzti I "p'EL eDghraifft o'r dosbarth 0 feddyginiaeth- aa y carem argymbell i sylw y Cymry yn mbob man, dymunem gyfeirio at ddarpariaeth ddiffuant, didwyll, yruddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a llesiol ag y gwyddom am dani, sef Quinine -Bitters Gwilym Evans Yr bwv sydd yn fath o Tonic llysienol, ac yn hollol yr hyn y gosodir allan- ei fod yu gyfan- soddedig o lysiau wedi ei ddarparn mewn dull gwyddonol, a chyda'r gofal mwyaf aydd ddichoQadwy er sicrhan ei lwyddiant. Y cylla vw peHant mawr treuliawl y corff, ac *a^oll ranau maethionol -•r ria chedwir hwn ,a ^yrysweh. Bitters yw aa, a pbob organ yn „ -<iei «*c yn eu lie, a gellir yn deilweg ystyried y Bitters hyn y feddygin- iaeth dauluaidd oreu y gwyddis am dani. Oymeradwyir yn ddibetros at annhreuliad yn ei gwahanol agweddau, ac afiechyd y ddwy. fron a'r afu, yn Dgbydag auhwylderau gew ynol. Yr ydym am lawer o flynyddau wecli edrych gyda gradd helacth o ddrwgdybiaeth ar feddyginiaethau hysbysiedig, a thueididni wneud hyny a'r feddyginiaeth hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans, hyd Des y gwelsom y fath dystiolaetbau pwysig a dylau- wadol oddiwrth ddynion a wyddent mor dda, ac a wnaetbant gymaint o ymchwiliad i'w hansoddion. Dymunem yn neillduolrybaddio y cyhoedd i fod yn ocbelgar yn eu detholiad o gyffeiriau, ai dylent fod yn gwybod rhywbeth am an. sawdd y darpariadau meddygol a fwriadant gymeryd cyn eu pwrcasu; ac os, wadi ym- chwiliad, y boddlonir hwy am eu rhinwedd. au, dylent fod yn ewyllysgar i dalu pris teg am y cyiryw, a rbodii iddo brawf teg & phar. haol, a pheidio cymeryd eu cvmervd eu hudo i redeg a pbwrcasu meddyginiaethau iseibris, y ahai ^n fynych a brofant, nid yn unig yn ddiwerth, ond yn dra niweidiol. Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am y darparydd a r perchenog, gwyddom ei fod yn ei broffeswriaeth wedi cyrhaedd yr anrhydedd uwcbaf yn y gangen fferyliol, ac ystyrir ef yn un o fferyllwyr mwyaf goleuedig ac addawol y dydd. M eddyginiaethhynotafyr oes bresenol yw < Quinine Bitters Gwilym Evans FFEITHIAU AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS! Y maent vn cael eu eymeradwyo gan fedd- ygon a fferyllwyr i'w cleifion ar oi i bob meddyginiaeth arall fethu. Y maent yn cael eu cymeryd gan hen ac ieuanc, cyfoethog a'r tlawd, a chan ddynion yn mhob sefyllfa ac o dan bob amgyichiad. Nid yn unig yn Nghymru y maent yn adna- byddus, ond derbynir archebion am danynt o America, Canana, yr jfft, Cyprus, Awstrapa, &c. Y mae pawb sydd wedi eu profi unwaith yn eu cymeradwyo i'w cyfeillion, a thrwy hyn y mae y gofyn am dauynt yn cynyddu yn helaetb o flwyddyn i flwyddyn. Y mae yn brawf teg o'i heffeithiolrwydd, canys paham y prynai neb y feddyginiaeth am yr ail a'r drydedd waith os na fuasent yn deroyn bndd a lleshad odd wrthynt? RHYBUDD. (loeheiweh dwyllwyr. Edrychwoh fod enw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp, a photel. ftwei-thir ef mewn poteli l/li, 2(9, a 4/6 cm; blyohau yn oynwys tair potel 4/6 12/0. I'w gael yn mhob man, neu danfonir ef yn rhad am y prisiati uohod, yn dtlyogel drwy y post; yn uniongyrchol oddiwrth y percbehioson :— Quinine Bitters Manuf-Mw ;™ Co. KLIMITEP), LLANELLY, SOUTH W ALES. w?rrifT^r,u^wXliwr yn, Am^o^—MRR.D. WILLIAMS ^lymoatb Pem iO Bwys Mawr. Y mae yn hollol wir fod canoedd o fywydai, wedi cael eu cadw drwy gymeryd HUGHES'S DROPSY I PILLS A mae y clefyd hwn, yn ei wahanol ac am I rywiol ganghenau, yn achosi poenau ac as hwylderau peryglus, ac y mae o'r pwyt ¡ mwyaf i bob gwr a gwraig, m >b a merch, p& feddygmiaetn i'w chymeryd er eu hiachaa pan yn cael eu blino gan Dropsy Diffyg Dwfr, Gwynt, Chwjdd y lraed, Coesau, a r Bol, Cramp, Curiad y Galon, Poen Pen, Gordewdra Afiach, Diffyji AnadJ, Gorffrwymedd, GrafeL Llais y Bobl. Mwy Gwerthfawr nac Aur. ksyr, V mae eich Hughes'^ POEN Dropsy Pills wedi cael effaith ABSNAU. braidd yn wyrthiol arnaf. Yr wyf wedi bod yn dyoddef am flynyddoedd gan boenau dir- CRAMP. dynol yn yr Areuau, Grafel, a phoenau gresynol yn y Pen, mi a gefais esmwythad gan y GRAFEII. dose gyntaf, ac ar ol cymeryd y blychaid yr oeddwn yn teimlo yn well nac erioed. ASTHMA Pob moddion arall wedi methu gwnead dim lies, Maent yn haeddu pob clod, ac y n fwy POEN PEN gwerthfawr nac aur. ARTHUR BROWN, Ship Hotel, Bristol. Hughes's Dropsy Fills. Dim Meddyginiaeth Tebyg ar y ddaear CLEFYD Syr,—Yr wyf yn dymuno BENYWAIDD. tystiolrtethu i'r daioni mawr a dderbyniais drwy gymeryd eich Hughes s Dropsy Pills. Dynes GORDEWDBA. ietianc ydwyf, 18 oed, wedi bod yn dyoddef yn enfawr oddi- wrth glefj dau tueddol i'r rhyw NYCHDOD. fenywaidd, wedi cymeryd braidd pob meddyginiaeth Gallaf yn ddibetrus ddweyd CHWYDDIANT nad o( eu tebyg ar y ddaear i'r rhyw fenywaidd. Wefli bod yn dyoddef llawer gan Nych ISEL TSBKYD. dod, Iselder Ysbryd, a Diffye Treuliad. Wedi cymeryd eich Pills, yr wyf wedi fy adfywhau, DIFFYG ac mor iach ag erioed. TREULIAD. RGSINA MICHAEL 20, New Quay, Bath. YD ddiod; danfoner am danynt, €$cli gwellh fydd yn sicr. Fe ddylai pob dynes eu cymeryd jna ac lysurol Hughes's Dropsy Pills. Pur angenrheidiol i'r RhywFenyw- aidd tuag sicrhau iechyd. RHYBUDD, »»wyn sierhan pawb twyn> g^faler cael y Msrk hwn (sef tt&h • <?iamond) a'r gQir- iau vropzy Pills' oddi V iewn ar bob blwch, a eBW' ^acob Hughes' at "WP5, Stamp y Llywodraeth Heb hyn twyF vdyw. Ar werth trwy yr holl deymas :am 1/1i, 2/9, a 4/6 trwy y post, 1/3, 2/11, a 4/6 oddiwrth y Perchenog,- Jacob Hughes, Mansfadhiring Chemist, PENARTH, CARDIFF Y MOR MAWR Yn rhoddi i fyny ei drysor goreu er iachaa dyn. Wrth chwilio go- rr European Medical So ciety, daethar nyd i Wymod o Fdr Nor- way, yr hwn a gynwysa feddyglyn effeithiol, a'r hwn, mewn undeb ag Extracts o lysiau nodedig o lanau Mor Pacific a wna i fyny Y feddvginiaeth mwyaf nerthol ac efteithiol a welodd y byd erioed at glefydau y gwddf y frest, a r ysgyfaint. Fe ddylai pob dynes du cymeryp yn achlysurol. Sea Weed Lung Life. Fe a wellha yn uniongyrchol besweh ac an wyd, Bronchitis ac asthma, ciygni, inflnenza. croup, a dolur gwddf, ac yn dra effeithiol er Thagflaemi y DarfodecLigaeth, FelIy gofyner ar unwaith am botelaid o Sea Weed Lung Life gan y Chemist neu unrhyw Patent Medicine Dealer. Ei bris yw 2/9 a 111-1. Mynwch gael yr enw yn lla\vn ar bob botel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall. Os bydd trafferth i'w gael, danfonex Stamps (3/- neu 1/3) at y perchenog, SEA WEED LUNG LIFE JACOB HUHGES. Sea Weed Lung Life Depot, PENARTH, CARDIFF, yr hwn a'i danfona gyda throad post ol