Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

n■■■— CYMRU DDfcDW YDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

n ■ — CYMRU DDfcDW YDD GAN R. BLATCHFORD, GoL. Y CLARION* PEWOD V.—BTWYD Y GWEITHIWR. Teimlaf yn sicr fod yr amser i dd'od pan y bydd pobl yn methu yn eu byw a chredu fod teyrnas gyfoetbog, fel yr eiddom ni, wedi gallu ymddarostwng erioed i fyw y ftuh fywyd cul, brwnt, iselwael, ag yr ydym ni yn ei fyw yn bresenol.— Wm. Morris. Y pwnc i'w benderfynu yw Wedi cael gwlad a phobl, dangoswch pa fodd y gall y bobl wneud mwyaf o'u gwlad, ac o honynt eu hun- ain.' Cyn myned yn rulaen, dewch ini weled pa mor bell yr ydym ni yn Mhrydain wedi ateb y cwestiwn hwn. Y mae y canlynol yn ffeith- lau nad oes un dyn yn beiddio eu ewadu :— 1. > mae miloedd e bobl onest a diwyd heb gartrefi, na dillad, na bwyd addas a digonol. 2. Y mae llawer o filoedd yn flynyddol dan afiechydon y gellid en gwella. 3. Y mae yr oes yn mhlith y bobl ar gyfar- taledd yn annaturiol o fyr. 4. Y mae nifer luosog o bobl* wedi oes o weithio, yn gorfod chwilio am nodded yn y tlotdy, lie y byddant farw mewn gwarth a dir- myg, dan warth tlodi. 5. Y mae yn ymyl bod yn rheol ddieithriad mai y rhai a weithiant fwyaf yn y wlad hon, a delir iselaf, ao a anmherchir fwyaf. 6. Y dynion cyfoetbocaf yn ein cenedl ni yw y rbai na wnaethant awr o waith defnyddiel erioed. 7. Y mae cyfoeth a gallu yn cael eu parchu'n fwy na doethineb, diwydrwydd, a rhimvedd. 8. Y mae canoedd o filoedd o wrywod a ben- ywod yn foddlon gweitbio, ond yn methu cael gwaith. 9. Tra ar un llaw y gostynghr eyflegau o her- wydd gorlawnder o lo, cotwm, ac yd, ar y llaw arall y mae lluaws o'r bobl mewn angen am lo, dillad, a bara. 10. Y mae agos yr oil dir ac eiddo y wlad yma yn cael ei berchenogi gan ychydig segnr- wyr, ac y mae y rhan fwyaf o'r deddfau a basir yn cael eu gvneud i amddiffyn eu hawliau a'u nelw hwy. 11. Y mae amaethyddiaeth genedlaethol yn suddo yn gyflym i ddirywiad, a hyny er niwed a pherygl mawr i'r wladwriaeth. 12. 0 herwydd cystadleuaeth. y mae miliyn- au o ddynion yn cael eu gorweithio mewn lle- oedd aflan ac afiach, er mwyn i un dihiryn per- chenogol allu gorchfygu dihiryn arall. Dywedir wrthym fed yr holl bethau hyn i arcs t'el y maent, er mwyn bywioliaeth.' Pa fat,h fywioliaeth ydych yn gael ? Gellir rhanu eich bywyd i bedalr rhan: Gwerthio, bwyta, gorphwys, oysgu. Yn nglyn a gwaith, yr ydych yn gweithio o 53 i 70 awr yr wythnos. Y mae rhai o'ch cymdeithion yn gweithio mwy, yn galetach, ac mewn gwaeth lleoedd. Eto, fel rheol, gellir dweyd am danoch i gyd fod eich horiau gwaith yn rhy unrhywieg1, peirianol, a chaled ac y mae eich amgylchoedd yn afiach, annymunol, a pheryglus. A wyddoch chwi y gwahaniaeth rhwng gweithio a thrafferthu? Cymaint ag sydd rhwng y garddwr a'r caeth- was. Clywn lawer y dyddiau hyn am ddiwyd- rwydd swyddogol, a diogi llafurûl. Y mae gwa- haniaeth yn y gwaith. Y mae y meddyg neu y cerflunydd yn dilyn galwedigaeth eu dewisiad. Y mae yn hawddach iddynt weithio yn galetach na'r glowr, sydd dan orfodaeth trafferthu er mwyn ei fara beunyddiol. Y mae yr arlunydcl mewn cariad a'i waitl.gwel ynddo ffordd i fri, « ac efallai ffoitiwn tra na wel y gweithiwr ond hyn a hyn o lafur caled i'w gyflnvk-iii er cael bara. Fel rheol. y mae eich gwaitih chwi yn f&led ac annymunol, a pheth yw eich cyflog? Tid wyf yn golygu pa nifer o sylltau enillwch yn yr wythnos, ond pa fath fyu-yd ydych yn gael fel W am eich liafur. 0 ran sylltau, gell- wch fod yn enill punt, neu ddeg-ar-hugain, neu ddwy bunt yr wythnos ond y cwestiwn ydyw, pa fodd yr ydych yn byw ? Pa beth ydych yn btrynu a'ch harian ? Dangosais yn flaenorol nad ydych yn cael digou (I hamdden, na digon o awjT iach, na digon o addysg, na digon o iech- yd ac y mae y lie yr ydych yn byw ynddo yn nagr iawn, a brwnt iawn, a dibleeei' iawn. Ond denwch i fanylion. Yr wyf fi wedi eich gweled yn troi eich trwyn i fyny. ac yn edrych yn ddirmygus ar grwydr- iaid (gipsies). Eto, y mae y crwydriaid fel rheol yn iachach, cryfach, gwrolach, a challach dyn 1111 chwi, ac yn byw bywyd llawer mwy dymunol, a rhydd, a naturiol na chwi. Nid wyf yn dweyd fod y crwydriad yn ddineeydd teilwng o efelychiad yn mhob ystyr., ond y gell- wch chwi ddysgn llawer oddiwrtho ef; ac y mae'n amheus genyf a all efe ddysgu dim genych ehw^. Ac yn ;nvr, gadewch i ni weled out yr ydych yn byw. Yn nghyntaf, eich bwyd. Nict yw eich bwyd yn fwyd da—nid oes digon o amrywiaeth ynddo; ac y mae agos yr oil a fwytewch ac a yfwch yn halogedig (adulter- ated). Tueddaf ti i gredn mai Uysieu-fwyd yw y goreu, ac yr wyf yn sicr nad yw diodydd a gwirodydd meddwol yn hanfodol. Ond hyn, wrth fvned yn mlaen: Os ydych yn yfed diod a gwirod, byddai yn well i chwi eu cael yn bur. Yn y dyddiau presenol, y mae y rhan fwyaf o'r gwlybyroedd yn ffiaidd. Ond y mae un peth yn nglyn a'ch bwyd sydd yn waeth na'i ddiffyg purdeb. a'r petit hwnw yw coginiaeth. Y mae Mrs Jones yn fenyw ardderchog, ac yna yr wyf yn moes-grymu iddi; ond nis gwyr Mrs Jones ond y peth nesaf i ddim am y gelfyddyd 0 goginio. John eTones, y mae yn wirionedd irwwr a difrifol, ac yr wyf yn cael loee wrth ei ddweyd wrtbych—nid ydych erioed wedi bwyta cig a bobwyd yn iawn, ao ni welsoch erioed daten wedi ei choginio 'n drwyadl. Y mae cog- iniaeth yn gelfyddyd, ond ofnwn ei bod yn un o'r celfau coll yn y wlad hon, neu heb ei dar- ganfod. Trowcfa oddiwrth y bwyd at y dillad. O! y mae yn druenus. A wyddoch chwi, Mr Jones, mae yn druenus. A wyddoch chwi, Mr Jones, beth yw ystyr y geiriau 'ffurf,'a 'lliw?' Ed- ryohwn ar wisgoedd ein pobl. Syfwch ar eu toriad, a'r difrifoldeb cyffredinol sydd o'u cylch. Y ootiau duon, angladdol yna yr het- ian a'r oapanau barnol. Y mae gwisgoedd, ond yn enwedig gwisgoedd Sabbothol gweithwyr Prydain, yn bethau rhy bruddaidd i ddagrau. jDylai gwisg dyn fod yn syml* iachus, cyfleus, a phrydferth. Nid yw gwisgoedd Prydeinig y dyn yn naill na'r llall o'r pethau yma. Achoeir hyn gan y ffaith ein bod yn ymdcMried ffasiynau «on gwisgoedd i deilwriaid a choegwyr pen- chwiban, pan y dylid eu hymddiried i'r celfwyi- mwyaf enwog (artists). Edrychwn eto i'r car- trefi. Nid yw eieh tat yr hyn ddylent fod. Nid wyf yn cyfeirio at y bwthynod gwaelai-y nwe y rhai hyny islaw syiw. Y mae yma yn Man- ceinion ddeugain mil o dai anaddas i'w han- eddu. O, dewch i ni gael edrych ar dy a char- tref y crefftwr llwyddianus. Y mae beiau lawer arno ao ynddo. Nid yw wedi ei gynJlunio Da'i adetladn, na'i ddodrelnu 'n iawn. Y mae y:<- ystafHloedd yn rhy fychaiu. Nid oes ynddo priodol glanweithdra. Nid yw y rrt yn ddigon mawrion. Y mae ynddo | >oenuf goieu ac awyr—y mae y pedr- tnio mewn gwirionedd yn farbaraidd. "Mto. y le y tai yn hagr, ac V,) ■ ymu syn- ifcufc i&:iwael. Y Mae -try«U d yn rhy ..sid oet? f "t i-1ynt; Did ,1.' i dosbarth Ms. v J 'I:'lloedd i £ Y80n „ i.idrr>; Y ryv.ocbfan (bath- ;i. '.wuihy^uns vnddynt. Mewu 1 .e tioh tai yn hagr. afiach, a .i tywyll. a drud. Y mae hyn i feeur I -'v; .m fod y tlr mor ddrud. Heblaw L le gwneud v defnydd mwyaf o'r lie II: ch. yr ydych yn mynu ei orlenwin, <3 lies a diamcan. Y mae (lodrem yn h 1 W yn eich gohvg: yr ydych yn dodrefn. ac y mae eich gwraig; yn g! dynt. A feddyliasoch chwi frioed Ui-ii j ddefnydd ydych yu wneud a'r rhan f,"n.. dodrefn ydyw eu glanhau; dyna'r g 'to yr ydych yn parhau i ymdrechu c, neg o ddodrefn i wasanaethu arnynt. E.v ,« 1 i ar y desgrlflad canlynol o dy yn Jn.a.R. ;nL ydd a ohwaeth,' meddai'r Hospital, j "1-1weddwn mwyaf amlwg bywyd yn jV v.. ileiledir y ty oddiar y llawr. Cyfan- 8o; itriau oddiallan a'r muriau a wahan- ai..felloedd a choed j^geifn, y rhai a lith v 53 eu gilydd, neu gellir eu symud ymaith yn hollol, os ewyllysir. Gorch- uddir lloriau yr ystafellocdd, y rhai sydd droedfedd oddiwrth y llawr, a charpedi trweh- na, y rhai a gedwir yn berffaith lan. Yn nghanol llawr y gegin v mae lie tan cyfleus a phrydferth wedi ei ddiifynu A metel oddifewn. Nid oes yno ddodrefn. megys byrddau, cadeir- iau, &c. Y llllte)" Hawr giaii yn gwasanaethu l yn lie cadeirian, gwelyau, a byrddau. Eto, nis gall unrbyw bobl fod yn fwy manwl a ohwaethus gyda'u bwyiydd, nac yn fwy gwedd- us a phrydferth gyda'u gwisgoedd.' Y mae lluaws o bethau ereill ganddynt nas gellir eu nodi, ond y cwbl yn ddefnyddici, ac yn gwasanaethu er cysur cyffredinol. Druan o Mrs Jones—y mae ei bywyd yn un tymor maith o gaeth-wasanaeth-cogi-nio, glanhau, trefnu, cywiro, golchi, gweini ar wr a phlant yn ddi- ddiwedd. Pa faint yw ei horiau gwaith hi ? Pa bleser sydd ganddi, pa orphwys, pa obaith ? Ac ai ni elhr gwelia'r pethau hyn ? Gellir yn hawdd. A y'ch chi'n tybio fod y wraig yn Japan yn trafferthu fel y wraig yn Nghymru ? Nag yw. Y gwir yw, y mae llawer o ifolineb a barbareiddiwch yn ein cyfxmdrefnau presenol. Yr unig beth sydd yn eisieu yw tipym c synwyr cyRredin. Edrycher ar y niferoedd sydd yn byw heb weithio dim, Y mae eisieu rhanu'r gwaith, Mr Jones. Ac yn awr, deuwn at y peth olaf yn eich hamser hamddenoL Beth ydych yn gael, Mr Jones, yn yr oriau hyn? O'r braidd y mae r^nych ddim. Y mae music, celf, gwyddon- ^th, a'r ddramayn cael eu cadw cd<fewrthych. Ond, nid pobpeth; na. y mae y daforn yn. ag- ored i gyd, ao yno yr ewch i chwareu ac yfed. Y mae betio a rhedegfeydd yn cael lie amlwg yn yr holl bapyrau parchas(V). Prif aohosion yr holl ddrygioni hyn yw cystadleuaeth, gor- faelaeth (monopoly), a diffyg llywodraetb. Ewch i'r ystryd nesaf, a chewch weled tri cer- byd a thri o ddynion at yr amcan o werthu llaetb. Y mae un llythyrgludydd yn gwasan- aefehu dosbarth cyfan. Yn mhob ty, y maa menyw yn coginio a golchi. Y mae'r coginio a'r golchi yn caei eu gwneud yn anmheiffaith, a'r ty yn 11awn o sawr annymunol; felly gyda phob peth a wnawn ac a ddefny&diwn. Y mae I dwy faelfa at werthu bwydydd yn sefyil ddrws nesaf i'w gilydd, a phob un o'r ddwy a^ gwas- anaeth-ddynion,a'uhanhebgorion costus. Dych- mygwch ddau lythyrdy yn yr un ystryd. Pa faint gostiai hi i anfon Uythyr o Gaerdydd i Lundain ? Yn awr, ynte, gadewch i mi roddi braslun i chwi yn y fan yma o'm cynlluniau i at wella pethau. Yn ngbyntaf oil, gosodwn ddynion i amaothu- codi yd a flrwythau, magu anifeiliaid a da pluog at ein gwasanaeth ein hunain. Yna, dadblygwn y pysgodfaoedd: gwnawn lynoedd a Hesedd i'w lluosega. Yna, cyfyngwn niteri y glofeydd. gweithfeydd hai- arn, a fl'aotriau, &c.,i'r rhif angenrhMdiol ar gyfer ein pobl ni ein hunain. Yna, rhoddwn atalfa ar y mwg afiach, drwy ddadblygn nerth- oedd dwfr a thrydaniaeth. Er cyrhaedd yr amcaiiion hyn, gwnawn yr holl diroedd, melin- au, glofeydd, gweithiau, llongau* a chledr- ffyrdd, yn eiddo'r bobL Ail-adeiladwn y tref- ydd, gwnawn yr ystrydoedd yn lletach, pob ty ar ei ben ei hun, gyda gerddi, llwybrau. a choed. Gwnawn y cledrffyrdd yn rhydd, fel yr heolydd a'r pontydd. Mynwn adeiladau oyhoeddus ar gyfer ein gwahanol anghenion, megys bwyta, golchi, ac ymdrochi. Mynwn i'n plant gael eu bwydo, a'u dilladn, a'u hadd- ysgu ar goet y wladwriaeth. Mynwn adeilad- au cyhoeddus at amcanion gwyddor a chelf. Carwn gael pob dosbarth i allu gwneud a deall a mwynhau y celfau cain. Yna'n raddol, gwnawn bobpetb yn rhydd, fel y gellid bwydo, dilladu, ac eddysgsi y bobl heb ddefn- yddio arian brwnt. Yn awr, Mr Jones ymar- ferol a chall, edrychwoh ar y ddau ddariun. Yr ydych yn credu fod fy narlnn i yn anmhosibl. Ond rhaid i chwi addef ei fod yn brydferthach darlnn na'r llall. Am y posiblrwydd neu yr anmhosiblrwydd, ceisiwn ei drin yn eglur IHflwn penod ddyfodol. Yn bresenol, gofynweh i chwi eich hun y ddau beth canlynol 1. A yw Prydain morddedwydd ag y gallai fod ;| 2. A yw Prydain yn y llythyr hwn yn wel! na Phrydaingyn bresenol. 1:, [I'w BAKHAU],

EISTEDDFOD GADEIRIOL ABEBTAWE,…

TRAETHA WD-" OYSTADLEUAETH."

CYMANFA GERDDOROL FAWREDDOG…

NODION MIN Y FFORDD.

Yvidrechion Canmoladtcy.

Galicad i Weinidog.

Hardd Briodas.

Cyfarfod Pwysig.

Y Cyvirodorion.

Parti o Ferched.

Capel yr Annibynwyr•

, Undeb yn Nerth.

Cyfarfod Dimcestol.

Eglwys Ymroddgar.

Cyfarfod Cymdcithasol.

Prwygraipht y Cyfarfod.

Gofyniad DyryslycL

-.u.---._-;;.------------CRAIG-CEFN-PARK,…

CWMAMAN, ABERDAR.

. CYFARFOD MISOL Y METHODISTIAID…

NODION 0 RYMNI.

YR ENGLYN-" GWEN."