Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
Abergwynfi.
Abergwynfi. pi;. Y mae rhagolygon am ail gychwyn gwaith glo yr Afon, Abergwynfi, yr wythnos hon ueu y nesaf. Y mae ysgolion y Cynghor wedi eu hail asor ar ol bod yn gau am chwe' wythnos. Hysbysir fod Major Morris, Y.H., wedi danfon hysbysiad o'i ymddiswyddiad fel ymddiriedolwr i'r Neuadd Gyhoeddus a'r Llyfrgell.
[ 'PriZe-Drawing.
PriZe-Drawing. I beg to inform you that the Committee have Postponed the Prize-Drawing in aid of JOHN PROWLE until February 26th, 1906. WILLIAM ROSSER, Secretary i
Advertising
A J. G. GRAVES Agency means less waste of time and more business than any ¡I other agency. During the past four years the Firm has paid to spare time agents commission amounting to over One Hun- dred and T weive Thousand Pounds I (E112,655 igs. gd.) This should appeal to all respectable working men desirous of turning their spare moments to advantage. I provide everything.' Write for full par- ticulars. J. U. GRAVES, Agency Dept., The World's Supply Warehouse, Sheffield.
[No title]
Mae cwmni Lipton wedi ei ddirwyo o sop am gadw cig moch heb fod yn addas.
Achos Rhyfedd mewn Capel.
Achos Rhyfedd mewn Capel. Cosb dram ar berchenog darllawdy yn y Vig, (fer Penybont. Yn flys Penybont, dydd Sadwrn, cafodd Lewis Harry, briweddwr, o'r Wig, ei wysio am ymddwyn yn afreolaidd a chy- thryblut. yn nghapel Methodistiaid Calfin- aidd y Wig, ar yr 8fed o Dachwedd, yn y cyfarfod blynyddol, pan yr oedd y Parch E P Jones, Caerdydd, yn pregethu. Ymddangosai Mr T J Hughes, cyfreith- iwr, ar ran Mr Wm Morgan Jenkins, ysg. y capel, a Mr Trevor Hunter dros yr amddiffyniad, ¥n ffodus, meddai Mr Hughes, yr oedd achosion o'r fath hyn yn anaml iawn, ac yr oedd sm ddweyd ar y dechreu, os gwrai yr amddiffynydd dalu y treuliau, amlygu ei ofid am ei ymddygiad, ac addaw i beidio ymddwyn felly eto, byddai yr eglwys yn foddlon i adael y mater i syrthio. Dywedodd Mr Hunter nas gallai Mr Harry gytuno i dalu y treuliau, am nad oedd yn credu ei fod wedi troseddu, er y galhd fod wedi ymddwyn yn fFol; felly, ymddangosai fod yn rhaid i'r achos fyned yn m'aen. Yna aeth Mr Hughes yn mlaen i egluro fod Mr Harry wedi rhentu sedd yn y capel, ond ar yr amgylchiad hwn, cyrhaeddodd i'r gwasanaeth tuag awr ar ol amser, ac yn unol a'r arferiad, cymerwyd y seddau na lenwid gan eu perchenogion i fyny gan ymwelwyr. Darfu i Mr Jenkins, yr hwn oedd wrth y drws, anog Mr Harry i gym- eryd sedd arall yn nghorff y capel, ond gwrthododd. Drachefn gofynodd iddo gymeryd sedd yn yr oriel, ond gwrthododd eto, a chymerodd i fyny le ar risiau yr oriel. Fel yr oedd y pregethwr yn dangos y drygioni o feddwdod, gwnawd gwrth- wynebiad lleisiol cryf a glywyd dros y capel i gyd, gan Mr Harry. Fe aeth Mr Jenkins ato i ofyn iddo fod yn dawel, ac yna cerddadd Mr Harry i lawr yn dryst-s fawr dros y grisiau, ac aeth ymaith. Fe ddaeth yn ol drachefn, a chymerodd ei le eto ar risiau yr oriel. Yr oedd y pregethwr yn cyfeirio at ddy n ieuanc oedd wedi I syrthio drwy y ddiod, ond oedd wedi di- wigio drwy lythyr a dderbyniodd oddiwrth ei fam. Gwaeddodd Mr Harry allan yn I uchel, 'Ai Mr Morris oedd hwnw?' Yna. siaradodd Mr Jenkins ag ef eto, ac aetlfj ymaith wedi hyny, ond yr oedd yr holl gwrdd wedi ei gyffro y pryd hwn. Wedi ca?l cyfarwyddyd gan yr eglwys, ysgrifeit- odd Mr Jenkios lythyr at Mr Harry, yn I gofya am eplurhad atri ei.^m4ctygiad>. ac i j ymrwymo i beidio ail-ymddwyn felly eto, i'r hwn yr a^ebodd Mr Hurry ei fod ef yn synu, yn nyddiau y diwygiad fel y rhai'n, fod neb yn gallu gwneud y fath dwrw am ei ymddygiad, pan yr oedd hawl gan bawb i gymeryd rhan. Datganai hefyd ei fodd- lonrwydd i beidio ymyraeth eto os rhoddid cyfarwyddyd i bregethwyr i beidio dweyd pethau fuasent yn cynhyrfu yr ysbryd ynddo i siarad yn uchel Yna rhoddwyd tystiolaeth gan Mr Jen- kins, ysgrifenydd yr eglwys, yn cadarnhau mynegiadau Mr Hughes. Dywedodd nad oedd Mr Harry yn fynychwr cyson, ac | na ddysgwylid ei bresenoldeb y noson | hono, wedi dechreuad y gwasanaeth, a galwyd tystion ceddent yn eistedd yn y set fawr i brofi iddynt glywed Mr Hairy yn bloeddio yn uchel. Dros yr amddiffynydd, dywedodd Mr Hunter ei b--(t yn arferiad mewn Ileoedd o addolsad gyda'r Ymneillduwyr, i rai i wneud sylwadau, y rhai ni ystyrid yn afreolaidd a chythryblus. Dywedai yr amddiffynydd ddarfod iddo hysbysu ceidwad y capel ei fod an raei ei sedd yn y cyfarfod blynyddol, ac iddo gael ei siomi i weled y sedd wedi caei ei llenwi. Ni wnaeth ond enwi Mr Morris' ddwywaith yn ystod y gwasanaeth, ac os oedd ei gerddediad yn drystfawr, nid ei fai ef oedd hyny, oblegyd yr oedd yn ddyn trwm iawn. Daeth dau dyst n aH na chlywsant trwst nac unrhyw gythrwfl. z;1 Wrth ddyfarnu yr achos, dywedodd cadeirydd y fainc (Mr W R Uewelyn) fod yr ynadon yn gofidio fod y mater wedi ei ddwyn i'r llys. ac na iwyddid i'w setlo y tuallan iddi. Ymfalchient mai anaml, os byth, yn wir, y gofynid iddynt dreio achos o'r fath. Byddai i Mr Harry gael ei ddirwyo yn y swm o <65.
----__-----------Trengholiadau.
Trengholiadau. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd treng- I holiad ar gorff plentyn o'r enw Arthur Alfred Pavey, 11, Coronation Place, Aberaman, yr hwn a gafwyd yn farw yn y gwely yn y boreu. Dywedodd y fam ei fod yn eithaf iach am chwech o'r gloch, ac yn mhen ychydig amser ar ol II hyny pan yfdyhunodd yr oedd wedi marw. Wedi cael tystiolaeth y meddyg, pasiwyd rheithfarn o farwolaeth naturiol.' I Yi un dydd, cynaliodd Mr R J Rhys, Plasnewydd, y crwner, drengholiad ar j gorff -tin George Tobias Luton, 19 oed, Fforchaeol Road, Cwmaman. Hysbys- odd y meddyg ei fod medi marw mewn canlyniad i fit of apoplexy.
[No title]
-=- Enillwyd y brif wobr am eidion dan ddwyflwydd oed, yn siou fawr Smithfield yn Llundain, gan Mr Greaves, y Wern, Porth- madog a'r brif wobr am eidion dros ddwy- flwydd oed gan Mr Robert Hughes, Llan- fairfechan. Biff Cymru am byth
!Birchgrove. ..-
Birchgrove. Kawn Sadwrn cyn y diweddaf, claddwyd gweddillion Thomas Owen yn mynwent j Bctuel, Liansamlet. Gwasanaethwyd yn y cylVyw gan y parchn J Elias, Treherbert, a J Hywel Parry. Bu yr ymadawedig farw yn Nghlafdy Abertawe mewn canlyniad i ddamwain yn nghlofa Abercrave, Buodd f w naw diwrnod v edi y ddamwain. Yr oedd yn ddyn ieuanc o natur garedig, ac yn eithaf tawel yn ei ftordd o fyw. Cynerai gryn ddyddordeb mewn cerddor- iaeth, a chwareuai yr organ a'r berdoneg yn feistrolgar. Bu yn or 5anydd yn eglwys Srfron am flynyddau, [ac am ei wasanaeth yn y cyfeiriad hwn, cafodd anrheg o'i ddailun gan yr eglwys. Hedd i'w lwch. —— x gadlef yma, fel yn mhob dosbarth o Rhanbarth Gwyr, yn awr yw yr Etholiad GySredinol. Bydd tri yn cystadlu am sedd Gwyr, sef Mri T J Williams Jno Williams j a rhyw ddieithrddyn o'r enw Helmur (nis gwn a wyf yn ei I spelian' yn iawn, Mr Gol.) Pa un o'r tri enilla'r dydd yw'r cwestiwn yn awr. Credwyf fod digon o Ryddfrydwyr a Llafurwyr yn y Rbanbarth i guro pum' o Doriaid, ond iddynt fod yn ffyddion ddydd yr Etholiad. Mr T J Williams yw dewis ddyn y Gymdeithas Ryadfrydol, ac os bydd y rhai bleidleisant iddo ef a Mr Jay Williams yn ddiweddar yn Jtyddlon i'w hegwyddorion ddydd yr; Etholiad Cyffredinol, credwn y bydd ar y blaen o ddigon. Ond ofnwn na fyddant, am fod ansefydloerwydd ac anghysonderau yn nodweddion mor amlwg mewn llawer o blant dynion. Bu amser yn hanes Cymru mai eithriad fyddai i chwi weled Cymro neu Gymraes yn swyddogion ein llythyrdai, ond erbyn heddyw, eithriad yw i chwi weled Saesonyn trwyadl yn llanw y swydd hon, Gwelwn adroddiadau mynych yn y wasg o gyfeiriad- au dieithr a chywrain yn Gvmraeg ar am- lenau llythyrau yn cael eu hanfon, a'r cyfryw yn cyrhaedd eu Ileoedd priodol yn I amserol. Dyma'r modd yr ysgrifenodd Mr William Alfa Richards, y bardd Cymreig adnabyddus, y cyfeiriad ar amlen llythyi i Eilir Mai, Birchgrove, yn ddiweddar, a daeth y llythyr i law y bardd yn ddyogel- 41 Birchgrove, rhed ar hofran-heb cedi 9 Y bywydol Bostman I Eilir Mai, wele'r man, Rho hwn i'r gwr ei hunan.'
-----,,-_------f^ONTYPlCiDD."'…
f^ONTYPlCiDD. I Cymdcithas Archwilwyr Glofaol Sir I Fynwy a Deheudir Cymru y Mewn cyfarfod o'r gymdeithas uchod a gynaliwyd yn y Park Hall, nos Sadwrn i diweddaf, amlygwyd teimladau boddhaus dros ben am lwyddiant eithriadol y darlith- iau draddodir o fan i fan dan nawdd y gymdeithas hon gan Mr Henry Davies, M.E., goruchwyliwr dosbarthiadau mwnawl Cynghor y Sir, Fe drinia Mr Davies bynciau sydd o iudd arbenig i bob glowr, a phynciau ddylent gael gwyntylJíad helaeth- ach, a sylw mwy cyltredinoi ar hyd a lied y glo faes. Mae efe hefyd yn feistr ar bync- iau glofaol, a phan y mae yn siarad, y mae'r swyddog uchelaf fel yr iselaf yn foddlon talu iddo y warogaeth a haedda. Pa nos yma, yr oedd neb Jlai na Sr Wm Thumas Lewis yn ysgrifenu i ddatgan ei ofid o'i anallu- i fod yn bresenol i wrando Mr Davies yn un o'r darlithiau hyn. Deallwn fod dynion fel Mr Leonard Llewellyn a Dr Morgan, Clydach Vale, i gymeryd irhan j mewn rhai cyfarfodydd dyfodol dan nawdd j y gymdeithas hon. y naill ar Rescue Work o'r safbwytTt swyddogol, a'r Hall o'r saf- bwynt feddygol. Ereill weji addaw cymeryd ihan yw y boneddwyr D Hannah, j Ferndsle-; T Griffiths, Cym met■, ^r Evan Jones, Aberdar, &c. Fe welir oddiwrth y rhag!en uchod beth ydyw a.mean y gymdeithas hon, no y mae hyn yn ardderchog, fel y mae gwarogaeth y fath ddynion ag a nodais yn profi. Fe haedda, nid yn unig gymeradwyaeth, ond hefyd gefnogaeth ymdrechgar pob un sydd yn dal Thyw berthynas a'r lufa, ac yn enwedig pob un sydd a'i lygad ar archwil- ia-eth lofaol, neu ryw swyddogaeth arall yn y lofa. Pan ystyiiom hyn oil, nid rhyfedd i'r cyfarfod yn y Park Hotel nos Sadwrn basio pleidials galonog o ddiolchgarwch i Gyng- hor Sirol Morganwg am iddo fod mor garedig a chaniatau yn y lie cyntafi Mr Davies fel un sydd yn gyfrifol i'r Cynghor am ei amser, i draddodi y gyfres ddarlith- iau hyn. Eiddunwn i'r gyfres eto bob llwyddiant yn y dyfodol, a chyda chaniatad y Gol., cymerwn y cyile hwn i anog ein glowyr ieuainc yn neillduol i'w mynychu, a medck,-l yn ddyfal am y materion ymdrinir a hwynt o dro i dro, canys o hyn nis gall na ddel daioni. i FIREMAN.
Yr Anghyflogedig a C.B., C3,…
Yr Anghyflogedig a C.B., C3, a John Burns. Gosodwyd y Prif Weinidog newydd a Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol ar ychydig o brawf dydd Mercher, gan gynrychiolaeth oddiwrth dyrfaoedd an nghyflogedig Llundain. Un fechan oedd y ddirprwyaeth gafodd ymddan os. sef Mr James Macdonald, ysgrifenydd Cyng- hor Undebau Crefftol Llundain Mr H Quelch a Mr Banks, ond llwyddasant i gyflwyno cais y tlu allan o waith mewn goleuni clir a digamsyniol. Yr oeddent, yn fyr, am gael rhywbeth heblaw elusen, yr oeddynt am i'r wladwriaeth symud i ddarparu gwaith. j Wedi hysbysu y cynrychiolwyr eu bod wedi ei ddal dan anfantais, am nad oedd ond newydd gymeryd y swydd yn ffurf- iol, y buasai yn rhaid aros i'r Etholiad Cyffredinol i weled y gefaogaeth a gaffai, cydnabyddodd Syr Henry Campbell Bannerman fod elusen er mor rhagorol ydoedd, yn anigonol i gyfarfod y sefyllfa a'i fod ef a'i gyfeillion yn benderfynol 0 chwilio allan ffynhonell y drwg a cheisio meddyginiaeth effeithiol fel na byddo y fath anffawd a'r fath angen yn cymeryd lIe yn flynyddol. Yn ei anerchiad yn Hyde Park ar ol ymweled a'r Prif Weinidog, eglurodd Mr Quelch fod Syr Henry yn union yr un farn a hwy mai ffolineb oedd pasio deddf fel y gwnaeth y Llywodraeth ddiweddaf, ac yna ei gosod yn ddibynol ar elusen. Ac eglurodd Mr Quelch yn mhellach fod y Prifweinidog wedi cyfaddef mai nid j pan fo dynion mewn angen y mae dar-! paru, ond cyn delo yr angen a'r trueni, ac fod yn ddyledswydd ar y Llywodraeth i ragflaenu y perygl a'r drwg a'i atal. 'Dyna yn union' ebai Mr Quelch ein dadl ni, y Sosialiaid.' Mae'n amlwg fod Bannerman wedi gwneud argraff lied ffafriol ar y gynrych- iolaeth, ac nid camp fechan oedd hyny pan gofier fod Quelch a'i gyfeillion yn arwain yn y mudiad, ac yn teimlo yn angerddol am y sefyllfa. Wrth reswm fe gafwyd ychydig o ddi- fyrwch a doniolwch yn nghyfarfod Hyde Park wrth gyfeirio 'at the Right Hon. gentleman-the new President of the Local Government Board a darfu i Mr Quelch a Mr Jack Williams gyhoeddi eu barn yn groch nad oedd un busnes gan aelod Llafur i fod mewn gweinyddiaeth o j gyfalafwyr. Dywedodd Jack Williams hefyd ei fod ef ugain mlyneid yn ol wedi bod ysgwydd wrth ysgwydd a John Burns yn cydganu—' Dare to be a Daniel' mewn cyfarfod cyhoeddus yn. Trafalgar Square, a'i fod ef yn disgwyl iddo feiddio bod yn Daniel heddyw yn ei swydd, a rhoi i fyny y swydd os na rydd y Weinyddiaeth gymhorth o'r Trysorlys i'r Annghyflogedig i ddarparu gwaith i'r gweithwyr sydd yn dyheu am waith, acyn methu a'i gael. |
Advertising
W\ 'liiiams Castle Street, Swansea. Lk-, I- C 5TCC Kin WALES. Engagement Rings, 2 2 Carat Gold Wedding Rings 18 rat Gold Keepers. E I- ft, Patent Lever Watche Brazilian Crystal Spectacles s
Advertising
W. Williams Watchmaker$Jeweller? 29, Castle St., S > .u^ep ¡ d.- c; iijmrr hcff de'wch at y Cyriirs Oil 1m heirdd fodrvryau tur ? Oraduron ac awrleisiau, Gemau a chadwynau claer Yapectol gelfydd, hin-fyn-egy; Gwrei-festirydd, cwmpawd jT, Crir gaa Williams, Heol-y-Ct i? Trowch i mewn i wel'd ei
Nodion Amrywiol.
Nodion Amrywiol. Nos Sadwrn diweddaf derbyniodd yr yr Arglwydd Faer, Robert Hughes, Caerdydd, wifreb o Wellington, New Zealand, yn llongyfarch y Cymry ar eu buddugoliaeth, Y mae cytundeb wedi cael ei arwyddo i sincio nifer o byllau newydd yn Nghwm Cylla, Hengoed, rhwng Cwmni Glofaol y P.D., a W J Pigott a'i feibion. Yn Mountain Ash y dydd o'r blaen, cyfranodd 13 o weithwyr 20p yr un tuag at gronfa adeiladu Capel Noddfa, perth- ynol i'r Methodistiaid Calfinaidd. Y mae Mr W James'Evans, un o'r yrm- geiswyr am y swydd o gofrestrydd i'r Brif Ysgol newydd dderbyn y gradd 0 B.Sc. Mab ydyw i Mr James Evans. • Cynghorwr Sirol Blaenclydach. Y mae Mr Herbert Lewis, A.S., wedi cael ei anrhydeddu a sedd yn y Llywodr- aeth Brydeinig newydd. Dydd LIun bu farw Mr John Palmer, yn Pembroke, yn 99 mlwydd oed. Cyfanswm y derbyniadau yn nglyn a'r « ornest dydd Sadwrn diweddaf oedd 2,650. Y mae y swm yn fwy na dder- "byniwyd o'r blaen yn Nghymru. Dydd Llun diweddaf, deuwyd o hyd i gorff un John Clark, East Moors, Caer- dydd, mewn planigfa ar Penylan. Deu- wyd o hyd i botel yn cynwys laudunum yn ei ymyl.
Drefach.I ' -¡
Drefach. I ¡ Dydd Sadwrn diweddaf unwyd mewn glan briodas, yn nghapel Bethel, Castellnewydd Emlyn, gan y Parch W Talfan Davies, ] Closygraig, Mr Dd Evans, Ty Cornel, Felin- dre, a Miss Hannah Davies, Llwynhelyg, Penrhiwllan (gynt Llanfair). Cychwynwyd yn y boreu o dy tad a mam y gwr ieuangc, mewn cerbyd,. am dy a char- I tref y briodfercb, yn Pemhiwllan. Wedi cael hyd i'r ddyweddi aedyn hwylus a hapus am Gastellnewydd. Wedi gorpben y gwaith o uno y ddau yn y lie a enwyd, aed i westty dirwestol Mr T Lloyd Cawdor Hotel-i gael boreufwyd. Wedi mwynhau eu hunain gyda'r darpariadau rhagorol osod- wyd get eu won, yn ewyliysgar iawn ihodd- I wyd caniatad iddynt gael mwynhau eu j hunain drwy ganu a chynorthwywyd hwynt yn rhagoroliawn ar yr offeryn oedd yn yr j ystafeil gan Miss Jones, Spring Gardens— cyfnither y priodfab. Wedi treulio ychydig amser yma yn mwynhau eu hunain mewn j canu tonau diwygiadol, pa rai a ganwyd yn j swynol, am fod amryw o'r cwmpeini yn medru hyny yn hapus a dymunol, aed am daith i dref Aberteifi; aroswyd yno hyd adeg cychwyn adref, yn mwynhau eu hunain yn gvveled gwahanol ranau o'r dref bryd- ferch a henafol bono a chyfarfyddwyd yno ag amryw gyfeillion, pa rai a roddasant iddynt longyfarchiadau yr achlysur. Wedi i'r amser penodedig ddyfod cych- wynwyd am gaitref, [a chyrhaeddwyd hwnw heb un anffawd-pawb yn teimlo eu bod wedi cael diwrnod hapus, yr hin yn bobpeth a allesid ddj muno ytymor hwn o'r flwyddyn, a'r cwmni oil yn ddyddan ac anwyl. Yr ct-dd yr oil o'r cwmni yn ddirwestwyr, ac am hyny wedi cael y goreu allan o holl ddig wyddiadau y C-laitri. ) Dymunwn longyfarch y ddau, hefyd, am eu penderfyniad i gynal y gwasanaeth mewn capel, a thrwv hyny gadw urddas crefyddol yr ordinhad briodasol i fyny. Rhyw gytundeb cyfreithiol, oer, a daearol, y byddwn i yn edrych arno pan yn cael ei gyflawni yn swyddfa y cofrestrydd. Da genym iddynt hwy fod yn eithriad ai-i- rhydeddus i'r rheol sydd gan y rhan fwyaf yn yr ardal hon yn bresenol. Gobeithio y bydd rhagor yn eu dilyn yn hyn yn y dyfodol; ac y bydd i bob capel fynu ei gofrestru er cynal priodasau ynddo nid yw pob un felly yn yr ardal hon yn bresenol. Hefyd, ar yr un dydd a'r uchod, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, yn Nghastellnewydd Emlyn, unwyd Mr Samuel Jones, Llys Newydd Cottage, a Miss Mary Jones, Dol- wion, mewn priodas. Cyrnerodd y briodas hon ei thaith gyda'r gerbydres i Gaerfyrddin, /am y diwrnod a dychwelodd pawb yn hapus a diogel y noswaith hono i'w cartrefi. gyda hir oes i'w mwynhau.
Cymmer, Glyncorrwg.
Cymmer, Glyncorrwg. Y mae yn dda genym longyfarch Mr W II Palmer ar ei benodiad yn brif oruchwyl- iwr yn nglofa Dyffryn Rhondda. Yr ydym yn -cr fod dymuniadau goreu gweithwyr y Cymmer yn ei ddilyn i'w faes newydd. Hysbysir fod gwaith glo Tynewydd yn cael ei ail gychwyn yn fuan, a bod Mr Jonah Davies, cyn oruchwyliwr glofa y G.W.R., yn Abergwynfi, wedi cael ei benodi yn oruchwyliwr yn y lie. Nos Lun diweddaf, yn y Neuadd Gy- hoeddus, traddodwyd darlith -gan Mr W v Abraham, A.S. (Mabon), ar y testyn poblog- aidd 'Noson yn Nhy y Cyffredin.' Yr oedd Mabon yn eithwyliau goreu, a gwnaeth sylwadau buddiol ar y cytundebau newydd diweddaf.
¡FASKACH LO.
¡ FASKACH LO. N03 Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfar- fod o haliers glofeydd y Powell Dyffryn yn New Tredegar, er ystyried y cytubdeb newydd. Yr eedd y cyfarfod yn hynod o gynhyrfus, ac amryw sm basio penderfyn- iad yn gwrthod llawnodi y cytundeb. Eglurwyd y sefyUfa yn fanwl gan Evan Thomas, yr hwn a ddywedodd, yn mnlith pethnu ereill, mai annoeth iyddai peidio l'awnodi, gan fod un o'r adranau yn y cytundeb yn dweyd y cawsai sefyhfa yr bailers ei ystyried er ei ad-drefnu. Fod cyfartod o'r Bvvrdd Cymodol i'w gynat ar y 6ed o Ionawr i ystyried y mater. Mewn canlyniad, penderfynwyd bron yn unfrydol f lawnodi y cytundeb, ar y ddealldwriaeth iod y gwelliantau yn cael eu cario allan.
,-Mertltyr Valc.
Mertltyr Valc. Y mae y glofeydd hyn wedi bod yn segur am ychydydig ddyddisu o herwydd prinder gw^geni. Effeithia yr ataliad ar ryw 3,500 o weithwyr.
Dowlais.
Dowlais. Yn Neuadd yr Odyddien, Dowlais, cyn- aliwyd cyfarfod cyhoeddus o aelodau Dosbarth Dowlass. Cafwyd anerchiad maith ar y cytundeb newydd gan y goruch- wyliwr, Mr John Davies. Ar gynygiad Mr Isaac Lewis, ac eiliad Mr Richard Hughes, pasiwyd n' eidias o ymddiried- aeth yn nghynrychioiwyr y gweithwyr. Penderfynwyd cymeryd pleidlais o'r gweithwyr ar y cwestiwn o wneud levy o 6c. ar ran Trysorfa'r Claf a Damweinioi y Gweithwyr perthynol i'r Dosbarth.
'.. Cwmafon. '>
Cwmafon. '> Nos lau wythnos i'r diweddaf, cynaliodd aelodau eglwys y Bible Christian, te a chyfarfod amrywiol. Gwasanaethwyd wrth .1 y byrddau gan y boneddigesau canlynol- Mrs Phillips, Mrs Hill, Mrs Lewis, Mrs Rees, Mrs Williams, Mrs Jevons, Mrs Cotty, Mrs Jones, Misses Jeffreys, Emily a Winnie Phillips, a B Parr. Yn ystod yr amser y mwynhawyd y lluniaeth a barotwyd, cafwyd amrywiaethau ar y Gramaphone gan Mr T C Hill. Llywyddwyd ar y cyfarfod. amrywiaethol gan y Parch W R A Budd, Cafwyd unawdau gan Mri John Stephens, Lewis Williams, D Anderson, a G Vaughan unawdaa ar y crwth gan Miss Nelli; Clarke unawd ar y piccolo -gan Mr John Jenkins arddangosiad gan Mr Charles Lloyd, Port Talbot, ar yr Indian Clubs adroddi ad gan Mr Anderson, &c. Cafwyd cyfarfod cyddorol yn mhob ystyr, ac ym- wahanodd pawb wedi mwjnhau eu hunain.
------- -..------------""--.…
Ystalyfera. v Nos Fercher cynaliwyd cyfaifod Cym- deithas Ymdrechol capel y Wern, dan iywyddiaeth y gweinidog, pryd y cafwyd dau bapyr dyddorol ac addysgiadol dros ben gan Mr Taliesin Jones a Miss Annie Jonesy brawd ieuanc yn traethu hanes Williams, Pantycelyn, a'r chwaer ieuapc yn tracthu ar Grefydd Ymarferolhen grefydd round y tadau. Diolchwyd yn gynes i'r brawd a'r chwaer am eu papyrau ardderchog. Gwaith arditerchog yw gwaith y gymdeithas hon— gofalu am waith meddwl i'r bobl ieuanc ddeffrodd gyda'r diwygiad. Aed yn mlaen Nos Lun diweddaf yn y lie uchod, bu y Parch Thomas Morgan, Sciwen, yn tradd- odi ei ddarlith benigamp ar C H Spurgeon,' i gynulleidfa fawr. Cadeiriwyd gan Mr Jay Williams, cynymgeisydd am sedd Gwyr yn y Senedd. Trodd y cyfan allan yn llwydd- iant. -=
[No title]
Adroddir o Fryngwyan, Sir Fon, fod I cwmni o Lundain wedi pyrnu tir yn y gym- dogaeth hono gyda'r diben o agor mwn- j feydd. Bernir fod yno fwn plwm, yn nghyda haiarn, nickel, manganese, ac hyd yn nod aur ac arian. Os yw'r farn yn gywir, fe ddylai fod galw am lo Malltraeth gyda hyn. ) Gwneir paratodau mewn amryw leoedd, ar gyfer cyngherddau Nadolig-
-------__-......-__ Marwolaeth…
Marwolaeth y Parch Dr; Bowen Jones, Aber= honddu. Nos Sabboth, bu farw y Parch Dr J Bowen Jones, B.A.LL D., yn ei gartrer, The Walton, Aberhonddh, ar ol dioddef pythefnos 0 gystudd, yn ei 77 mlwydd oed. Yr oedd Mr Jones yn un o weini- i dogion mwyaf adnabyddus yr Annibyn- wvr yn iN, Yn y flwyddyn 1895 efe oedd llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig, pan y cynelid y cyfarfodydd yn Mhwliheli. Dechreuoda ei wcinidogaeth yn eglwysi Annibynol Hermon a Tabor, Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1851; ac wedi bod yn llafurio am dymhor yn Mhenybont-ar-Ogwy, svmudodd i gym- eryd gofal eglwys y Plough, Aberhonddu. a bu yn llafurio yno hyd y flwyddyn 1901, pan, ar derfyn ei haner canrif yh y weinidogaeth, y rhoddodd ei ofal gweini- dogaethol i fyny. Bu yn olygydd I Y Beirniad—cylchgrawn cliwarterol-i a'r Cenad Iledcl am amryw flynyddoedd. Cymerai ddyddordeb mawr mewn addysg a'r Eisteddfod Genedlaethol.
--",,,,,,,-'.... .Aberaman.I
Aberaman. I Y N euadd Gyhoeddus dr Llyfrgell Rydd.-Nos Wener diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o bwyllgor y mudiad hwn, pryd y gosododd T Roderick, yr archadeiiadydd, plans o'r adeiladau bwriadedig, y rhai a basiwyd yn unfryd 1. Bydd yr adeiladau yn addurn i'r He. Y mae amryw well;ant- au wedi cael eu gwneud ar yr un gwreidd- iol, sef baddonau twym; &c., pa rai a fydd- ant gymaint mewn maintioli i'r rhai sydd yn y Pare Cyhoeddus yn bresenol. Pen- I derfynwyd hefyd fod esgynlawr yn cael ei I godi yn y neuadd fawr er bod yn ymarferol i gynal cyngherddau. Bydd y llyfrgell yn n Z7, I cynwys ystafeiloedd i'r gwrywod a'r bonedd- igesau, ac hefyd i'r llyfrgellydd, yn nghyda ystafell eang er cynal darlithiau. Pender- fynwyd myned yn mlaen a'r gwaith mor j gynted ag y pasier y plans gan y Cynghor j Dosbarthol a Mr Carnegie. Y mae y pwyllgor yn barod yn awr i dderbyn y tan- ysgrifiadau addawedig.
Advertising
E2 GWENWYN YN M EICH GW AED Dyna Pabam y a Dioddefwch I Mae yn Bhaid cymeryd Hughes's ¡ Blood Pills I Buro a Glanhau y Gwaed 0 BOB Anmhuredd 'Does dim ei bath am Greu K Gwaed Newydd a lachau "P" Clefydau y Croen. Ø" Dolur Pen. cap-, Diffyg Traul. a' Poen Cefn. rr Gwynegon. _r- Maent ya IACBAD MILOEDD Yn Khyfodd lawn, RHODDWCH BRAWF ARNYNT. 1^, HYNOD EFFEITHIOL AT ANHWYLDERAU BENYWAIDD 0 BOB OEDRAN, Ii -a Alyiwcl-, Heb weled \f. Hyn LlunyalGn x..• Twy ar Bob Box. Y Ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is I I c., 2s. 9c., a..4s. 6c., neu danfoner eu gwerth mewn P.O. neu stamps atJAcoB. HUGHES, M.P.S.L ManufacturingiCher st, Penarth, Cardiff. RODDASOCH CHWI BRAWF AR Gomer's BalmP ELI YDYW HWN AT BOB CLWYF Y mae Gomer's Balm' yn iachau braidd yn wyrthiol hall glefydau allanol y corph, megys Clwyfau, Rash, Scurvy, Eczema Llosgiadau, Piles Penau Crachlyd, Llygr adau Plant a Be wod, Dwylaw Toriadol Malaethau, Tarwden, Crafu, Cymmalau Poenus, At GO ESAU DEWG Does dim o'i fath. Rhodiweh bra wf arno Gofynwch am Gomer'.$ Balm,' a myn wch weled enw JACOB HUGHES ar bob box; heb hyn twyll ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is. lic., neu danfoner ei werth mewn stamps neu P.O., PtJacob Hughes, Manufacturing Chemist i enarth, Cardiff.