Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Y Pwlpud Gwag.
Y Pwlpud Gwag. Y PARCH. T. MORRIS., PORTH, CYN HYNY, DOWLAIS.. [Yr hwn oedd yn gyfaill ffyddlon, ac yn ddarlltenwr mawr, ac yn ysgrifenwr cryf, ac yn feirniad medrus, ac yn bre- gethwr galluog; a siomedig oecldem ei golli mor anisgwyliadwy.—Gol.]
AMCAN DYODDEFAINT CRIST.
AMCAN DYODDEFAINT CRIST. "Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau y cyfiawn, dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw."—I. Pedr, iii., 18. Dygir geiriau ein testyn i mewn gan yr Apo-stol fel esiampl, anogaeth, a chymhorth l'r saint i ddyoddef pan yn dyoddef ar gam. Dangosir eu bod vn y ffordd hon yn gydweithredwyr a Christ yn yr amcan o enill y byd at Dduw. Dyma fel y mae gwaith adferiadol Crist i gael ei ddwyn yn mlaen, nes fod yr adferiad y daeth Efe yma i'w effeithio wedi ei giwblhau. Crist yn cael ei gyn- ryclÜoli yn Ei saint sydd i greu y byd o newydd. Llawer 0- siarad a fu am. Grist yn cyn- rychioii Ei bob!; a cheir yn yr hen athrawiaeth hon winoneddau ben- digedig o'u hiawnddeall. Ynddo Ef fel ein Cynrychiolydd y gwelwn y posibil- rwydd gogonecldus sydd on blaen, yn nghyd a'r ffordd i'w sylweddoli. Y mae Efe yn ddangosiad o'r hyn a ddylem ni fod, yn ddylanwad traiwsnewidiol arnom, ac yn brophwydoliaeth o'r hyn a fyddwn. Y mae yn ddadl gyda Duw ar ein rhan, ac mewn un ystyr yn gyfiawnhad ar Ei waith yn ymwneud a ni. Dyna, a dweyd y lleiaf, rai o'r gwirioneddau cynwysedig yn yr athrawiaeth am Grist fel Cynrychiolydd Ei bobl. Un o athrajwiaethau sylfaenol ein crefydd yw hon, a mwyaf cysurlawn o wneud 1 chwareu teg a hi. Gorwedda yn es- mwyth ar foesoideb y Natur Ddwyfol— y sylfaen ddisigl rhaid cael holl athraw- iaethau ein crefydd yn hwyr neu hwyr- ach i orpihwys airni. Nid ydym yn synu fod yr athrawiaeth am Grist fel Cyn- rychiolydd Ei bobl wedi cael cymaint o le yn nysgeidiaeth yr Eglwys; y mae mer Efengyl ei Bond a drylai gael He amlwg yn Ei dysgeidiaeth ar bob adeg, a hyny yn y ffurf oreu elllr roddi iddi. Ond y m:ae vna athrawiaeth arall a deilynga le cyfochrog a hi, sef yr athrawiaeth am Grist yn cael Ei gyn- rychioli gan Ei bobl. Yr ydym bob un yn ei ffordd, ac yn ol ei allu ei hun i ddangos Crist i'r byd, ac i fod yn ddylanwad dros Grist ar y byd. Yr ydym mewn gair i fod yn gorphoriad o hono—Ei ysbryd yn gweithio ynom, Ei ddysgeidiaeth yn ein llywodraethu, a'i Esiampl yn cael ei ddilyn genym. Cael y saint i'r tir uchel hwn yw y peth yr amcana, yr Apostot ato yn nghys- ylltiadau ein testyn. Myn eu cael i fod yn gynryc'hiolwyr teilwng o Grist. Pan elwir arnoch, i ddyoddef, meddai, ac yn enwedig i dyoddef ar gam, cofiwch am y Dyoddefwr penaf o haw-b. "Gwell ydyw, os ewyllys Duw a'i myn, i chwi ddyoddef yn gwneuthur daioni nag yn gwneuthur drygioni; oblegid Crist hefyd unwaith a ddyoddiefodd dros bech- odau, y cyfiawn dros yr anghyfialwn, fel y dygai ni at Dduw." Dyoddef ar gam wnaeth Efe, a dyoddef ar gam yr ydych chwithau-mor belled ag yr ydych yn dyoddef fel Ei ddisgyblion. Dyoddef yn herwydd pechodau wnaeth Efe, a dyoddef yn herwydd pechodau vr ydych .chwithau, mor bell ag yr ydych yn dyoddef fel ei ganlynwyr. Dyoddef wnaeth Efe, nid er ei mwyn ei hun, ond "fel y dygai ni at Dduw"; dyoddefwch chiwithau fel ag i fod yn gydgyfranogion ag Ef yn iachawdwriaieth y byd. Arwydda y gair "hefyd" yn y testyn fod dioddefiadau y saint, mor belled ag y maent yn myned, yn gweithio yn yr un cyfeiriad a dyoddefiadau Crist Ei hun. Y mae y dyn Crist-debyg yn gwneud ,Crist yn allu byw i bawb di ddeutu. 0 gwyn fyd nadaillem ei fyw yn well! Y gwahaniaeth mawr rhiwng Crist a'r saint yn ei ddyoddiefiadau yw hyn Ei fod Ef gyda Duw yn anibynol air Ei ddyoddefiadau; tra nas gellir ein caiel ni ato. nac yn v4jx i ddyoddef yn ystyr Gristionogol y gair, and drwy Ei ddy- oddefiadau Ef fel ysbrydiaeth i'r cwbl. "Canys Crist hefyd unwaith a ddyoddef- odd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y drygai ni at Dduw." Yn awr, beth sydd yn nyoddefiadau Crist i enill dynion at Dduw ? Arweinia hyn ni at gynrychiolaeth arall eto, sef "Crist yn cynrychiOlli puw." Efe, fel dangosiad o deimlad calon Duw tuag atom, yw y dylanwad fwriadwyd gan Dduw i gael gafael adferiadol arnom. "Dangos i rii y Tad" oedd Ei amcan yn Ei ymgnawdoliad, .i fywyd, Ei ddysg- eidiaeth, a'i farwolaeth. Y mae Efe "yn -ddisgleirdeb Ei ogoniant Ef, ac yn ivir lun Ei berson Ef." Yr ydym yn deaM ac yn adnabod calon Iesu Grist. Y mae y ddiwv yr un fath yn union a'u gilydd. Tad a Mab yw y ddau hyn, ac mor, debyg, fel y dywedai yr un a anfonwyd i fod yn ddatguddiad o'r llall, "Y neb a'm gwelodd i a welodd y Tad." Meddwl Duw mewn ffurf ddealiadwy i ddyn yw lesu Grist; "Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni." O am gael modd i ddweyd. "Ac ni a welsom Ei ogoniant Ef, gogoniant megis yr unig-anedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd." Golwg feMv arno a'n dygai am y cyntaf ato, ac a'n gwnai am y mwyaf ymroddgar i'w wasanaethu, ac am y mwyaf uchel- geisiol i gael "ein newid i'r unrhyw ddelw." Duw ydyw "Duw yn Nghrist" sydd yn "cymocli y byd ag Ef Ei hun"- yn chwillio am yr .aflan i'w olchi ;,aiill yr euog i'w gyfiawnhau am v colledig i'w gadw; ac am v truenus gan bechod i'w lenwi a defnyddiau nefoedd dros byth. Wedi myned o honom yn ol am Ei ogoniant, byddai Duw o'r fath ag a ddat- guddir i ni yn Nghrist. am ein henill fel pechaduriaid yn ol ato Ei hun. Beth yw y moddion goreu allai ddefnyddio i'r amcan ihwn ? Daw Ei syniad Ef Ei hun ar y mater i'r golwg yn ein testyn "Oblegid Crist hefyd unwaith a ddyodd- efodd dros bechodau, y Cyfiaavn dros yr anghyfiawn,. fel y dygai ni at Dduw." Yn ffordd y dyoddef ar ein rhan, a'r aberth dr-osom, y myn ein cadw. Yn Nghrist, y mae calon Duw wedi ei dad- leny, a dynion mewn gorfoledd ,yn dwe)rd, "Duw cariad«yw." Dyma y goleu yn yr hwn y myn Duw ein cael,; edrych arno. Tuedd pechadur yw edrych arno fel gelyn, ac ymgilio oddi wrtho mewn ofn a dychryn. Yn 1'-1 Fab, y mae Duw yn dweyd, "Myfi a. wn v meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl am danoch chwi, meddyfiau heddwch, ac nid niwed, i roddi chwi y diwedd yr ydych yn ei ddisgwyl." Yn yr ym- gnawdoliad, y mae yn dyfod i'n natur, ac megis yn dweyd Nid oedd yn ormod genyf wneud hyn drosoch mewn trefn i gaiel gafael arnoch—i dlodi dyfnaf elin natur, ac megis yn dweyd-Nid oedd yn ormod genyf wneud hvn drosoch mewn trefn i gael gafael arnoch—i ddyoddef- iadau penaf ein natur; ac megis yn dweyd'—Nid oedd yn ormod genyf wneud hyn drosoch mewn trefn i gael gafael arnoch. Gwyddai mai fFordd y darostyngiad oedd ffordd y llwyddiant; mai ffordd yr aberth oedd fford yr enill; mai ffordd y Groes oedd ffordd y cymod. Yma cawn Dduw megis yn gofyn i'w elynioTi, "A ydych chwi, bell- ach, ddim yn fy adwaen i ? Dyma fi wedi. dangos fy nghalon i chwi, ac os nad allaf eich enill1 yn y ffordd hon, nid oes un ffordd arall am diani. Os gell- wch edrych arnaf yn y gwaradwydd, ac o dan y Groes, aCalr y Groes, yn eich achos, heb deimlo awydd i gymodi a mi, y mae holl adnoddau fy nghariad anfeidrol a thragwyddol wedi eu gwario arnoch yn ofer. Yr wyf wedi agor fy mynwes yn llwyr, at wedi gollwng fy unig-anedig Fab o honi, i'w cynrychioli yn eich plith, ac i ddangos i chwi sut un ydwyf." C,ariadi yn denu gair yma i gadw y pechadur rhag distryw. Ni garwn allu portreadu v Crist croeshoel- iedig yn y fath fodd nes fod yr olwg arno yn eich dityn i bob man, a phechod yn ymddangos i chwi yn fwy pechad- urus nag erioed. Yr wyf hyd yma. wedi bod yn ymrodio gvdaig ymylon ein testyn, ond yn ofni ymdaflu i'w ddyf'nderoedd, er yn teimlo chwant i hyny. Y mae yna ryw swyn anarlunadwy i mi yn y gwirionedd, ond v mae ymgodymu a'i anhawsderau yn beth sydd yn fy llenwi ag arswyd lawer pryd. Yr wyf wedi sefyll ar lan ambell wirkinedd yn mhrofiad "Ieuan Glan Geirionydd" ar lan yr Iorddonen sydd yn gwahanu rhwng deufyd "Mewn blys myn'd drwy, ac ofn Ei 'stormydd enbyd." Oes, y mae gan y gwirionedd c'i 'stormydd enbyd" yn nglyn ag ef. Y mae athrawiaeth yr lawn wedi bod' o bryd i bryd yn ysgwyd y byd i'w syl- feini; nid yw eto wedi. peidio a'i ysgwyd, ac nis gall y sylwedydd myfyrgar lai na gweled fod yna amseroedd cythryblus o'i blaen yn y dyfodol a,gos,. Bu o oes i oes yn ymladd ei ffordd yn mlaen o ffurfiau is i ffurfiau uwch; nid yw hyd heddyw wedi cymeryd ei ffurf derfynol; ac nid yw i ymgodi i'w ffurf nesaf heb i rywrai dybied fod sylfeini teml fawr Cristionogaeth yn rhoi ffordd; neu o leiaf yn cael eu peryglu gan ddynion y mynir gwneud gelynion a bwganod o. hbnynt, tra nad vdvnt ond cyfeillion a chyAiwynaswyr heb "gael eu hadnabod. Y mae yn rhyfadd i feddwl nad yw y byd yn gallu ymgodi i ddulliau cywirach a llawn ach o amgyffred y gwirionedd heb fod hyd yn nod ddynion a gyfrifir yn oleuedig yn ymgynhyrfu yn ngwyneb pob cyfnewidiad, fel pe byddai col;ofnau y cread yn myned yn yfflon. Daeth Iesu Grist i'r byd1 i gyflawni y gyfraith ond yn marn arweinwyr ei genedl, ni fu y faith dorwr cyfraith ar y ddaear. Cododd Paul wirionedd ar ol gwirione- edd o lefel y "llythyren sydd yn lladd" i lefel yr "ysbryd sydd yn bywhau"; ond yn marn dysgawdwyr ei oes, efe oedd ei harch-"heretic." Gellid. lluos- ogi engreiphtiau o'r pryd hyny hyd heddyw, ond amser a ballaii. Buasai yn ddyddorol i sylwi ar y gwa- hanol ffurfiau fu i athrawiaeth yr lawn 01 ddyddiau yr Apostolion yn mlaen i'n dyddiau ni; ond prin y gellid gwneud dim heblaw eu ctybwyll, fel nad yw o un dyben i ddechreu. Ond hyn a ddy- wedwn, mai canolbwiynt ein crefydd o'r dechreuad yw Croes Grist, ac mai han- fod Cristionogaeth ydyw athrawiaeth yr lawn drwy bob cyfnewidiad a fu arni. I ddeaM y Beibl yn ngoleuni dysgeid- iaeth y Beibl, rhaid cofio fod y geiriau a ddefnyddir i'w osod allan yn cael eu defnyddio mewn ystyi fwy Ha.c .a. naturiol nag a roddwyd iddynt yn oes oedd diweddarach y dadleuon duwinyddol. Y mae iaith y Beibl dtrwyeldo yn fwy ffig- yrol n-ag a dybir yn gyffredin. Arwyddluniol a elamhea-ol ydyw yn fyn- ych, lie myn y meddwl rhesymegol ei hesbonio yn ei hystyr fwyaf arwynebol a llythyrenol. Ymgyrhaeddiad ydyw at osod allan wirioneeldau mawrian ac ys- brydol ein crefydd. Dynesiael ydyw yn ei man goreu at gyfleu yr hyn y ceisir rhoddi mynegiad iddo, ac nid cyflawn- iad perffaith. Y mae iaith ddynol yn rhy wan i feddyliau Dwyfol.' Y maent yn well na'r geiriau yn y rhai y ceisir rhoddi i ni ryw syniad am danynt. Mesur ydyw geiriau o. amgyffrediad y dyn a'u defnyddlia, ar y pryd y gwna hyny, ac nid mesur meddyliau Duw. Y perygl o lynu wrth y llythyren ydyw crebachu y pethau nas gellir eu cynwys ynddi, a throi i ymo-sod ar y rhai a geis- iant ymgodi i ysbryd y dadguddiad, fel rhai fyn ei wadu. O'm rhan fy hun, glynwn wrth y llythyren hyd byth, os nad allwn drwyddi ymgodi i ddadgudd- iad mwy gogoneddus na dim a geir yn y llythyren yn uniff ac anogwn bawb nad allant ymgodi i'w boddlonrwydd eu huna:in at rywbeth gwell i lynu mewn ysbryd cariad wrth y llythyren, nes y delont yn gymhwys i'r rhywbeth gwell hwnw. Dal gafael yn y dadguddiad y sydd yw y ffordd yn yr hon y deuir i feddiant o i ragorach. Ei wadu ar gyfrif ei anhawsderau yw ffordd i dywyllwch yn mhob ystyr. Elin cynghor i bob crefyddwr ydyw, "Dal yr hyn sydd genyt." Nid ei ddal yn yr ystyr o gau -allan y poeibilnvydd i'w gynyddu. Dall i golli yw hyny. "Dal yr hyn sydd genyt," i farchnata yn gall ag ef. Trwy ei ddal felly, cei ei fod yn newlid ü dan dy ddwylaw; ond newid er gwell a wna. Nid ei golli a wnai wrth ei gael mewn ffurfiau uwch; ond ei gael, fel cael yr had yn y cynhauaf—ei gael fel cael y blagur yn y blodeuyn, a'r blodeuyn yn y ffrwyth, a'r ffrwyth yn melusder eli addefdrwydd. Daw yn rhywbeth gwa- hanol yn mhob cyfnewidiad, ond ni chollir ef yn y rhywbeth gwahanol hwnw. Bywyd wedi ei gael yn helaeth- ach fydd. Tebyg ydyw i "Iwybr y cyf- iawn, yr hwn, fel y goleuni, a lewyrcha fWlY fwy hyd ganol dydd." Peth yn dechreu yn wanaidd yw gokuni-mor wanaidd fel nad ydych yn sicr fod y nos yn teimlo' oddi wrthol; ond bob yn ychydig, y mae y no's yncilio, a maes o law nid oes ond diluw o oleuni yn ymdoni ar bob llanerch. Dyna hefyd yw.ein dirnadaeth o wlirioneddau ein crefydd1—"fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy-fwy hyd ganol dydd." Teimlir hyn hyd yn nod yn nglyn a gwybodaeth apostol ysbrydoledig fel Pedr, ar athrawiaeth fel athrawiaeth yr lawn. Ymddangosai dyoddefiadau Crist iddoi mewn goleu tra, ^wahanol ar dierfyn ei weinidogaeth rhagor ar ei dechreu. Yn eistedd wrth draed yr Iesu ar hvd ei daitli, yr oedd wedi dal i ddysgu i'r diwedd, nes fod yr iachawdwriaeth yn gwella o hyd yn ei olw°- wrth fyned yn mlaen. Marwolaeth Crist yn dad- guddio echryslonrwydd tliechocl ei groes- hoelwyr geir yn hanes piregethu boreuol yr Anostol yn nechreu Llyfr yr Actau mewn engraipht ar ol engrainht. Ond yn ngeiriau ein testyn, tua thymholr diwedd ei we'inidogaeth, dyoddefiadau Crist fel dylanwad moesiol i'n cael ni at Dduw, sydd yn llenwi ei fryd. Ni, raid ond darllen y llythyr hwn drwyddo, na welir nad oes y fath beth a'n cael ni at Dduw, heb ein cael ni yn yr ystyr o'n hadnewyddu ar e:i ddelw, fel ag i wneud pechod a thrueni yn anmhosibl i ni yn y dyfodol. Unwaith y dygir ni at Dduw, neu ynte, y gosodir ni ar y ffordd i gael ein dwvn fwy-fwy ato, dvna ein huffern ar y ffordd ii ddiflanu all,an o'n hanes. Nid oes ond nefoedd i fod yn, ac o gylch, pawb o waredigion yr Arglwydd, pan weithir eu hiachawd- wriaeth allaln i'r man eithaf y bwriada Duw liddi gael ei gweithio allan. Nid oes dim wedi ei seilio ar foesolde b uwch nag iachawdwriaeth pechadur. Y mae yr lawn wedi ei fwradu i fod yn ddylan- ,wad arnom i'n codi 'i ystad o berffeith- rwydd yn y man, a'r lesu i brofi Ei hun yn Waredwr am Ei fod i waredu Ei bobl oddi wrth eu pechodau. Y mae y byd i raddau pell wedi arfer edrych ar yr lawn fel darpariaeth^i ddylanwadu ar Dduw i'w newid! ef, ac nid fel darpariaeth o'i drefniad ef ei hun i newid dyn. Yn y blynyddoedd diweddaf hyn, y mae duwinyddion yn tueddu yn gynyddol i edrych ar yr lawn fel darpariaeth rasol i ddylanwadu yn un'ig arnom ni. O'n tu ni y mae y diflyg; ai phwnc mawr Duw yn Nghrist ydyw gweithio arnom yn v dull effeith- iolaf er ein cymodi ni ag Ef Ei hun. Credir, bellach, oni baii fod yn rhaid i Dduw wrth yr lawn fel trefniant i ddylanwadu yn adferiadol arnom ni, y gallasai o'i ran ei hun, ac o ran gofyn- ion ei lywodraeth wnued hebddo. Nid oes neb a amheua nad all Duw wneud, heb droseddu unrhyw foesoideb perthynol iddo Ei hun na'i lywodraeth. Yr hyn allwn ni fel rhieni wneud yn ein perthynas a'n plant, heb droseddu un- rhyw foesoideb perthynol i'r naill na'r Hall o honom, y darlun goreu o Dduw, ag eithrio y darlun gawn o hono yn Ei I1 ab, ydyw yr hyn a geir mewn tad a mam teilwng o'r enw, (I'w oirpihen yn y nesaf.)
Birmingham.
Birmingham. Cynaliodd y Gobeit' lu a'r Gym- deithas Ddirwestol gyfatfod llwyddianus yn y lie uchod yn ddiweddar. Bu Mr. .,t iMi -s. Edward Pritchard mor haelionus a rhoddi gwledd -'r aelodau, yr hyn a fwynhawyd yn fawr ganddynt. Arol- ygwyd y rhan yma gan y Misses Mary a Lizzie Pritchard, Miss A. Williams, Markeby-road, a Mrs. E. Lloyd; a rhoddodd Mr. J. Murphy, ysgrifenydd gweithgar y Gymdeithas Ddiwrestol, rodd o lyfr i bob un o'r plant. Llywydd- wyd y cyfarfod hwyrol gan y Parch. Hywel Edwards. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Katie Murphy, a chymerwyd rhan yn y cyfarfod fel y canlynAdroddiad gan Llewellyn Davies; dadl gan y Misses Mary a Lizzie Pritchard a Miss Annie Williams adroddiad gan Master Alban Davies; datganiadau, Mr. T. Llewellyn Hughes a'i barti, Mr. Walter W. Watk- kin, Miss Gwl'adys Davies, a Master Gwilym Davies; deuawd ar y berdoneg' a'r crwth gan Miscs Phillips a Mr. Tom Roberts. Cystadleuaeth adrodd emyn —goreu, Miss Maggie Davies; ail, Miss Annie Edwards. Eto am adrodd adnod -Goreu, Master Alban Davies. Caf- wyd hwyl wrth wrando Mr. Edward Pritchard yn canu penillion. Pe buasai Mr Pritchard yn leuengach, gallai brofi yn gystadleuydd peryglus i "Eos Dar." Mwynhawyd y rhan yma o'r rhaglen yn fawr. Yr oedd Miss Katie Davies, Wreatham-road, wedi gofalu am "Christmas Tree" yn orlawn o hobpeth dymunol, pa rai a ranwyd cydrhwng y plant, er eu mawr lawenydd. Ar OIl diolch i bawb am eu caredigrwydd a'u haelioni, terfynwyd trwy ganu "Hen vVlad fy Nhadaiu," Mr. David Davies yn arwain yn yr unawd. Rhoddodd Mr. T. Llewellyn Hughes bob math 0 ffrwythau cydrhwng y plant, fel rhwng pobpeth, cafodd pawb eu llwyr foddloni, ac ni anghofiant y cyfarfod yn fuan.
CYMDiEITHAS CYMRU FYDD.
CYMDiEITHAS CYMRU FYDD. Y Parch. Hywel Edwards ydoedd y prif siaradwr yn nghyfarfod diweddaf y Gymdeithas. "Trem ar y Sefyllfa, WIeidyddol" ydoedd y testyn, ac fe drin- iodd Mr. Edwards ei destyn yn feistrol- gar, fel y mae yn arfer gwneud gyda phobpeth yr ymgymera mewn llaw. Y mae Mr. Edwards yn ddyn amlochrog, yn bregethwr nad ocs angen ei well, yn wieidyddwr goleuedig, yn fardd, a,c yn gerddor. Dylai anfon ambell ysgrif i'r "Celt"; yr wyf yn sicr y byddent yn dderbyniol gan y dar lien wyr a'r Gol.
AMRYWION.
AMRYWION. Y m.ae y diwygiad crefyddol wedi cyr- haedd hyd Birmingham. Y mae wedi cydio yn ein pobl ieuainc, ac yn y gwragedd yn fwy nag yn y dynion hyd yn hyn. Y mae angen am fwy o gyd- ddealldwriaeth cydrhwng y gwahanol eglwysi Cymreig y ddinas, o's am gael diwygiad trwyadl, ac y mae yn ofynol gwnued ymdrech i gael y Cymry hyny sydd wedi myned ar ddisberod, yn ol i'r gorlan. Y mae yma dde.ga.u o feibion a merched wedi dod a Ilythyrau aelod- aeth ganddynt. o eglwysi Cyimru wedi myned ar gall, a llawer o' honynt yn ym- drabaeddu yn mhechodau v ddinas fawr hon. Gobeithio y bydd i'r adfywiiad presenol gyrhaedd, y rhai hyny yn ogys- tal a, rhoi bywyd newydd yn ngweithwyr yr eglwysi. Bydd. y Parch. H. Elfed Lewis yn dyfod i'r ddinas ddechreu y mis nesàf, i'r "Central Hall." Diau y cymer y Cymry fantais ar ei ymweliad i'w wran- daw. Goh.