Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

. YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, •' V" A GYNNALIWYD YN RHUTHYN, Awst iydd, Bed, 6ed, c £ r 7fed, 1868. DYDD IAU. j, Llywydd-W. Lloyd, Ysw., Maer Rhuthyn. Ar ol-araeth gynnwysfawr gan y llywydd, cafwyd can gan y cor, a. cMn gan Mr. R. C. Williams; a chyhoeddwyd y dyfarniadau fel y canlyn. I A J 1. LL T> LT A JL. tXILL y titwuiiawu. uyi gureu ar DtJlUuynas yr larai ijrymraeg a hen ieithoedd eraill," (Cymraeg neu Saesneg). Gwobr, £10 10s., a medal arian. Beirniad, y Parch. Rowland Williams, D.D., Broad Chalk, Hants. Rhanwyd y wobr rhwng loan Pedr, Bala, a Gweir- ydd ap Rhys. 2. Cystadleuaeth mewn canu "The Harp of Wales." Gwobr, 21 ls. a medal arian. Beirniad, J. Hullah, Ysw. Rhanwyd y wobr rhwng Tydain a James Savage. Adroddodd Talhaiarn gyda hwyl a nerth Gywyddau Tudur Aled a'r hen Fardd Job i'r March. 3. Am y Tri Englyn goreu i'r "Elusendy." Gwobr, £2 2s. Beirniad, y Parch. R. Parry, (Gwalchmai). Rhanwyd y wobr rhwng W. Tegerin Hughes a lolo Goch. 4. Cystadleuaeth ar y Delyn. Gwobr, jE5 6s. Beirniad, John Thomas, Ysw. Goreu, Kate Jones, (Ehedydd Mynwy), tairarddeg oed. Can ddifyr garlamiadol Gwrtheyrn i'r Ffeniaid. 5. Am y traethawd goreu, Beirniadol a Bywgraffyddol, ar y Bardd a'r Ieithydd enwog Dr. William Owen Pughe. Gwobr, jElO 10s., a medal arian. Beirniad, y Parch. William Roberts, (Nefydd), Blaenau, Mon. Rhanwyd y wobr rhwng T. C. Watkins, (Ynyr Gwent), a Rowlands o Gaerdydd. Can gan Miss Edith Wynne. 6. Am y Pedair Rhan-gan wreiddiol oreu, (geiriau Cymraeg). Gwobr, £5 5s. Beirniad, John Thomas, Ysw. Goreu-y geiriau fan Downing Evans, (Lleon); a'r gerddoriaeth gan James Conway >rown—ill dau o Gaerdydd. 7. Cystadleuaeth Gorawl mewn canu "Up, quit thy bower." Gwobr, £ 5 5s. Beirniad, John Hullah, Ysw. Neb yn ymgais. 8. Am y Don Genedlaethol oreu, heb fod dros 24 llinell. Gwobr, £ 3 3s. a medal arian. Beirniad, y Parch. R. Parry, (Gwalchmai). Goreu, John Ceiriog Hughes. 9. Cystadleuaeth ar y Berdoneg—"Breuddwyd y Frenliines." Gwobr, £1 Is. a medal arian, yn cael eu rhoddi gan Mrs. Edward Westbrook. Yr oreu, Miss Mary Ellin Davies, Fflint. Can gyda'r Berdoneg gan Miss Watts-encore. Crybwyllodd Talhaiarn, fod Miss Edith Wynne a Miss Watts yn ferched yr Eisteddfod. Araeth gan Cynddelw. Can, Cadlef Morganwg," gan Llew Llwyfo. Galwyd ef yn ol, a chanodd "John Jones a John Bull;" a chafodd y derbyniad cynhesaf. Araeth y Parch. W. Jenkins, ar Lydaw. 10. Am y traethawd goreu ar "Gynnyrch Llysieuol Dyffryn Clwyd," (Cymraeg neu Saesneg). Gwobr, £ 10 10s., a medal arian. ^eimiad, Jesse Conway Davies, Ysw., M.D., TrefFynnon. Goreu, Dr. Edwards, Dinbych ri 1L cystadleuaeth mewn chwareu ar y Crwth, i rai dan 20 oed. Gwobr, medal arian. Beirniad, Edward W. Thomas, Ysw., Liver- pool. Neb yn ymgais. CAD AIR.—Am yr Awdl oreu ar "Elias y Thesbiad, heb fod dros 1000 o linellau. Gwobr, R20 a Chadair Farddonol Cymru am 1868. Beirniad, y Parch. W. Rees, D.D., (Hiraethog). Neb yn deilwng, ac felly gadawyd y GADAIR YN WAG. 13. Am y Oyneithiad Seisnig goreu o Farwnad Esgob Heber, gan Blackwell. Gwobr, P,3 3s., gan Mr. R. Williams, Dinbych; a Mr. I. Clarke, Rhuthyn; a medal arian, gan y Pwyllgor. Goreu, loan Mai, Caernarfon, 14. Cystadleuaeth mewn canu "Ar don o flaen y gwyntoedd." Gwobr, zC4 4s. Beirniad, J. Hullah, Ysw. Ni alwyd neb yn mlaen. C&n gynredinol—"Hen Wlad fy Nhadau," wrth ymadael. Ar ol y gyngherdd yn y babell, bu gan y beirdd a'r llenorion eu cyfarfod yn llysdy y Sir, dan lywyddiaeth Periglor boneddigaidd Castellnedd. Prif waith y cyfarfod hwnw oedd nodi rhyw ddwsin o feirdd profedig i fod yn gynghor er trefnu y mesurau (ychwanegol at y pedwar ar hugain) ydys i ddefnyddio o hyn all an wrth ymgais am y gadair. Yr oeddid mewn cyfarfod blaenorol, ar ol clywed papyr cynnwysfawr a manwl Pedr Mostyn, ar "Welliantau Eisteddfodol," wedi ei annog i feddwl am ddeg neu ddwsin o'r beirdd cymhwysaf i'w hethol yn gynghor i ddewis y mesurau newyddion. Darfu iddo yntau, ar ol gohebu ac ymgynghori nid ychydig, gynnyg deg 0 enwau i sylw ac i gymeradwyaeth y cyfarfod; ond gydag iddo ddechreu eu henwi, dyma wrthddadleuon poethwylltion oddiwrth Ofyddion a Derwyddon, o'r dde a'r aswy, o'r wyneb ac o'r oefn, oddifyny ac oddilawr, yn dyfod fel rhyferthwy o genllysg, ar draws y gadair a'r bwrdd a'r fainc, ac i wynebau uchel ac agored- y cadeir- ydd o Gastellnedd, a'r islywydd o Dolau Cothi, a sylfaenydd adran y 'social science' o Lundain, a Doctor y wobr fawr, a Rhydderch ac Ezra y cofiaduron, a Gohebydd y "Faner," a pherchen yr "Herald^" a maerod ac ex-maerod ribanawg; ac yr oedd y mellt yn ymsaethn, a'r taranau yn ymruo uwchben; a buasai y "noeth arf"i fyny pe buasai yn y cyrhaedd;» a diangodd hen 'Reporter' y DYDD mewn dychryn am ei einioes, ac aeth i'w wely dan grynu; ond clywodd ar ol hyny fod enwau Pedr Mostyn wedi cael eu derbyn, ar ol i'r ystorom fawr fyned heibio. Buasai yn hyfryd pe cawsent eu der- byn cyn iddi daranu a melltenu felly; ond y gwir yw, yr oedd holl linynau calon y ty, a llinynau ei garrets hefyd, yn llawn o wefr-dan y noson hbno, ac ond taro y fatchen yn rhywle, yr oedd hyny mewn moment yn gwefreiddio yr holl le. Dyma'r enwau a gynnygiwyd i'r cyfarfod:—G. Hiraethog, Caled- fryn, Cynddelw, Nefydd, Clwydfardd, Islwyn, Idris Fychan, Tal- haiarn, Tydfylyn, I. D. Ffraid, Creuddynfab, a Pedr Mostyn. Cawsant eu derbyn dan wenau heulawg ar ol tawelu y dymhestl; ac ni buasai waeth eu derbyn cyn casglu o'r cwmwl, oblegid yr oeddynt yn feirdd profedig, o'r dosbarth uchaf, cyfarwydd a'r mesurau teb- ycaf o gydweddu ag "anianawd y Gymraeg," ac elfenau ei cherdd, ac enaid ei hawen; a dichon nad oeddid yn meddwl am i'r deddfau a ffurfid ganddynt fod yn rhai o Media nac o Persia, i fod yn ddi- gyfnewid hyd byth, a hyd byth bythoedd; oblegid yr oedd yno lawer o feirdd ieuainc, a rhai hen hefyd, ag oeddynt yn dysgwyl cael byw i weled Eisteddfodau etto, ac i gynnyg gwelliantau yn eu holl drefniadau, neu o leiaf i gynnyg rhyw gyfnewidiadau er gwell neu er gwaeth, yn ol eu hwyl, fel y bydd yr awel y pryd hyny yn chwythu heibio iddynt. Ond rhodder chwareu teg i'r hen feirdd a enwyd i gynnyg ethol, y tro hwn, y mesurau ydys i'w dilyn wrth gystadlu am y gadair. Y mae y nifer amlaf o honynt yn feib y caeth-fesurau; ond yr ydym yn hyderus y byddant yn ddigon rhyddion i ddwyn rhai o'r rhydd-fesurau i gylch y gystadleuaeth; oblegid y maent yn sicr o ddyfod drwy bob rhyw rwystrau; a gob- eithio y bydd i'r cynghor ydys yn awr wedi enwi, ennill iddynt eu hunain yr enw uchel o dywys y mesurau "rhyddion" o dir isel pell eu caethiwed yn ol etto i uchel fanau tir eu gwlad. Ennillwyd yr "Urdd Goronog" eleni, mewn 'race'deg, ar yrfa eangach na chylch y pedwar ar hugain, gan Llew Llwyfo; ond nid oeddid wedi darparu yr un goron o blwm nac o bewter, o arian nac o aur, gymaint a botwm corn crys, na ceninen na rhedynen, na llygad y dydd na llygad y nos, na llinyn coch nac ysnoden werdd, i'w rhoddi ar ben nac ar fron, nac ar fraich yr ennillydd; ac yr oedd pob dyn o 'common sense,' drwy'r holl Eisteddfod, yn meddwl y dylasid gosod i eistedd yn y gadair "wag," yr un oedd wedi ennill mor deg yr "Urdd Goronog." Darfu i *yr yr enwog Dr. Owen Pughe anrhegu y Llew âg un o 'hen' dlysau y Dr.; ac yr oedd hyny yn uwch anrhydedd iddo nag unrhyw "Urdd Goronog" newydd' a allasai gael.