Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
YR EISTEDDFOD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR EISTEDDFOD. Y MAE rhai o'n cyfeillion newydd ysgrifenu i ofyn ein barn am weithrediadau yr Eisteddfod. Buom ynddi o'r dechreu i'r diwedd. Glynasom yn ffyddlawn drwy ei lioll gyfarfodydd. Yr oedd yn wythnos o braidd ormod o lafur i gorff a meddwl. Y mae y dyffrynoedd oddeutu Rhuthyn yn mysg y rhai tlysaf a brasaf yn Nghymru; ond trwy fod wythnos yr Eisteddfod yn wythnos pwys y cynhauaf drwy yr holl gymydogaeth, yr oedd hyny yn erbyn yr Eisteddfod. Buasai cannoedd yn ychwaneg y ynddi pe buasai yn dygwydd yn adeg llawenydd yr 'Harvest home.' Yr oedd cael y cynhauaf i ddiogelwch yn fwy pwysig i'r ardalwyr na chael yr hyfrydwch o wrando y Gyngherdd. Yr oedd y Pwyllgorau wedi gwneud yr hyn a allent er i'r trefniadau fod yn foddhaol, ac i'r cyflawniadau fod yn ddyddorol. Yr oeddynt wedi llwyddo i gael Llywyddion urddasol, ac oil yn ffyddlawn i amcanion yr Eisteddfod. Yr oedd Syr Watkin, llywydd llawen y dydd cyntaf, yn gwisgo gwen dywysogaidd pan yn llenwi y gadair; ac yn troi gwyneb gwridog agored at bawb o'i ddeutu. Yr oedd Mr. Mainwaring yn edrych yn llwyd, ac yn teimlo ychydig yn llesg ac yn ysig, ar ol y codwm oedd wedi gael ychydig ddyddiau cyn hyny. Ac ni raid cry- bwyll fod calonau y Squire West o'r Castell, a'r Maer Lloyd yn curo yn gynhes o blaid yr hen Eisteddfod Genedlaethol. Y mae Talhaiarn wedi cael bir brofiad bellach fel 'conductor.' Nid oes eisieu ei graffach na'i ffraethach; ond dichon y byddai yn ddoeth iddo 'trainio' rhyw frawd neu frodyr ieuangach, i allu cymeryd ei Ie, pan y bydd ef am gael hanner awr i orphwys neu i edrych o'i ddeutu. Y mae golwg a moes boneddigaidd Owain Alaw, yn weddaidd iawn mewn cyfarwyddwr cerddor- iaeth. Yr oedd yno hefyd fintai hardd o gantorion y llais, ac o blant y delyn a'r < piano.' Yr oedd yno weithiau dipyn o golli amser rhwng ymgiliad un 'performer' ac ymddangosiad ei ddilynydd. Yr oedd ambell i delynor hefyd dipyn yn hir yn gosod ei hun ar ei gadair, ac yn gosod ei goes yn ei lie, ac yn gosod ei en yn y fan iawn, ac yn tynhau ei 'screw' uchaf er cael y tant canol i gywair. Yr oedd hefyd braidd yn ddiflas i glywed deg, y naill ar ol y Hall, yn canu yr un d6n a'r un pennill. Dylasai rhyw ddau neu dri o is-feirniaid eu gwrando mewn lie llai cyhoeddus na'r Babell Fawr; a dewis y tri goreu i'w hanfon i gydymgais o flaen Mr. Hullah a'r Eisteddfod. Yr oedd yno hefyd gryn dipyn o siomedigaeth, nid yn unig yn mysg ymgeiswyr, ond drwy'r dorf, ac yn mhell y tuallan i'r dorf— drwy'r holl Dywysogaeth-
OBLEGID YR ATTAL GWOBRAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OBLEGID YR ATTAL GWOBRAU. Attaliwyd yr ail ddiwrnod nid llai na phump o wobrau. Pe buasai yr Eisteddfod wedi bod mor gynnil gyda phob peth, ag yw wedi bod wrth attal ei gwobrau, ni buasai dim rhaid iddi rudd- fan, fel y mae yn gwneud yn awr, dan y fath lwyth o ddyled. Pan yr oeddym yn dysgwyl clywed enw a gweled gwyneb rhyw fuddugwr, yr oedd yn gas iawn genym glywed o hyd, o hyd o hyd, o hyd, o hyd, o hyd, « Neb yn deilwng." Buasai yn llawer gwell genym glywed cyhoeddi, "Huw Llwyd yw y goreu, a Wil Owen yw yr ail oreu, o'r deunaw a dderbyniwyd. Nid oes dim rhyw dlysni na gorchest arbenig yn eu henglynion; ond caffed Huw y gllll, a Wil yr hanner gini: a dichon yr ymorch- estant yn well y tro nesaf." Yr oedd yn gryn siomedigaeth hefyd na buasai
BEIRNIAD AWDL Y GADAIR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEIRNIAD AWDL Y GADAIR yn bresenol, o leiaf, am awr yr 'Oration' a'r Cadeirio. Yr oeddid wedi hir freuddwydio amryw dameidiau breision o hanes yr hen Elias oddiwrth yr hen fardd a Jbeirniad, ag oedd wedi derbyn cymaint o ysbryd a nerth Elias. Buasai yn dda iawn gan gannoedd iddo allu bod yn bresenol, o leiaf, am awr y gadair, i ddarllen ei feirniadaeth; ac i roddi ei 'Oration' hysbys- edig, hyd yn nod pe buasai yn gorfod dychwelyd adref at oedfa hwyrol yn mhrifddinas Cymru. Y mae yn alluadwy i bwyllgorau mawrion, yn gystal a theuluoedd tlodion, fod weithiau yn 'Penny-wise' ac yn 'Pound- foolish.' Pe byddai i drefnwyr ein Heisteddfodau astudio mwy o gynnildeb gyda'r PEBYLL, a mwy o haelioni gyda'r GWOBRAU, atebai hyny yn well iddynt yn y diwedd. Rhaid i ni, o ddiffyg lie, adael ein nodiadau ar bynciau pwys- ig y 'Social Science,' a rhai pethau Eisteddfodawl eraill, hyd adeg ddyfodol.
LIVERPOOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LIVERPOOL. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD). Awst 11, 1868. Mr. Jefferson Davis yn ein tref.—Mae pawb yn gwybod pwy ydyw, beth oedd ei swydd, ac o ba le y mae y boneddwr uchod yn dyfod, o herwydd y mae Ilawer o bregethu, darlithio, ac ysgrifenu wedi bod arno; a rhaid dweyd hefyd fod llawer o gamddarlunio a drwgliwio, er yr amser y dechreuodd y rhyfel cartrefol yn America, wedi bod arno yn yr ysgrifau a'r siarad cyhoeddus hyny. Nid fy amcan yn hyn o lythyr ydyw cyfiawnhau na chollfarnu diweddar Lywydd y De; ni bydd a wnelwyf a hyny; ond gallaf ddweyd, cyn crybwyll am ei laniad yma, nad ydwyf yn cydolygu â'r sawl sydd yn edrych ar, ac yn dywedyd am Jeff. Davis, fel un o brif ddynion ac un o amddiffynwyr penaf y diafol a'i deyrnas. Cyfaddefaf yn rhwydd ei fod wedi dweyd a gwneud llawer o bethau yn groes i deimladau a dymuniadau llawer o honom,-fel pawb o honom, mae ei wendidau a'i ffaeleddau yntau yn ami. Cyrhaeddodd ef, Mrs. Davis, a'r teulu, yma ddydd Mawrth, y 4ydd cyf., gyda'r agerlong Austrian o Quebec. Maent yn aros yn yr Adelphi Hotel. Pryd- nawn ddydd Gwener, dywedir iddo fod ar yr 'Exchange.' Mor gynted ag y deallwyd pwy ydoedd, llongyfarchwyd ef gyda banllefau uchel a pharhaol. Major Greig, ein Prif Constable.—Y flwyddyn hon a'r flwydd- yn ddiweddaf, mae llawer o son wedi bod yn ein tref am Ffeniaid a Ffeniaeth. Yr adeg hono yr oedd enw Major Greig mewn cysyllt- iad bron a phob peth yma, a gellid meddwl mai efe oedd yn meddwl, yn dweyd, a gwneud pob peth i ddarostwng Ffeniaeth, ac i ddyfod 0 hyd i Ffeniaid; a phan dawelodd y twrw yn eu cylch, a phan yn meddwl eu bod wedi llwyddo i ymlid yr holl Ffeniaid a Ffeniaeth allan o'r dref, anrhydeddwyd ef (Major Greig) gan y Frenhines a C.B.; ac yn awr mae ein cynghor trefol wedi pasio yn eu cynghor i godi ei gyflog, hyd yr wyf yn deall, nid am ei wasanaeth di-ildio yn erbyn Ffeniaeth, ond am ei lafur ffyddlon a selog bob amser. Maent wedi codi ei gyflog o J6860 i £1,000 yn y flwyddyn, a chan- iatsbu iddo fel o'r blaen J680 yn flynyddol am dy, a swm at ei dreth- oedd, &c., a £50 at gadw ceffyl. Efallai y goddefir i mi ddweyd y buasai yn llawer mwy o fendith ac anrhydedd i'r cynghor pe buasent wedi codi cyflog yr heddgeidwaid, pa rai sydd yn gorfod bod allan ar gonglau yr heolydd, #c., a hyny bob amser ac ar bob tywydd; ac ar rai amgylchiadau neillduol, gorfodir hwy i wynebu peryglon, le, hyd yn nod eu bywydau. Beth a feddyliet ti, ddarllenydd, oni fyddai yn fwy o anrhydedd ac o fendith i'r cynghor a'r heddgeid- waid hefyd pe codid eu cyflogau hwy? Dywedir wrthyf fod eu cyflogau oil braidd yn isel; ac yn y dyddiau hyn, mae prisiau uchel ymborth yn galw am hyny, er mwyn eu galluogi i fyw yn onest, ac i gael deupen y llinyn yn nghyd, fel y byddant yn dweyd.
ABERTEIFI. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERTEIFI. Cymcmfa y Methodistiaid.—Cynnaliwyd y gymanfa uchod, Mercher a Iau diweddaf. Yr oedd 'tent' eang a chyfleus wedi ei hadeiladu i'r dyben o gynnal y cyfarfodydd; ond o herwydd gerwin- deb yr hin, gorfu ar y cyfeillion ddefnyddio capeli Ymneillduol y lie i gynnal y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd. Y cyfarfod cyntaf a gyn- naliwyd oedd yn y Tabernacl, boreu dydd Mercher, yn yr hwn y cafodd 17 o wyr ieuainc eu neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth. Pregethwyd ar natur eglwys gan y Paareh. Edwards, Brynmawr; gofynwyd y gofyniadau gan y Parch. Morgan, Dyffryn; rhoddwyd siars i'r bobl ieuainc gan y Parch. Evans, Tonyrefail. Fe ymddengys oddiwrth anerchiad yr hen frawd mai tua 45 mlynedd yn ol y cafodd ef y fraint o sefyll yn y fan hono fel hwythau, a'i ordeinio i waith y weinidogaeth. Gan i'r hin wella, a'r gwlaw attal disgyn, dewiswyd y cae i bregethu am 3 o'r gloch. Pregethwyd gan y Parch. Jones, Llandudno, ac Evans, Tonyrefail. Am 7 o'r gloch, pregethwyd yn y Tabernacl gan y Parch. Morgan, Dyffryn, a Harries o America. Y cyfarfodydd cyhoeddus nesaf a gynnaliwyd oedd boreu dydd Iau yn y Tabernacl, pryd y pregethwyd gan y Parchn. 1. D. Ffraid, a Jones, Llanllechid. Am 10 o'r gloch, yn y Tabernacl, pregethodd y Parchn. Phillips, Hereford, a Thomas Liverpool; yn Bethania, y Parchn. Evans, Tonyrefail, a Morgan, Dyffryn; yn Nghapel Mair, y Parchn. Edmunds, Aberdar, a Pritchard, Amlwch. Am 2 o'r gloch, yn y Tabernacl, pregethodd y Parchn. Jones, Caernarfon, a Pritchard, Amlwch; yn Bethania, pregethodd y Parchn. Williams, Trecastell, a Williams, Abertawe. Am 6 o'r gloch, neillduwyd y cae i gynnal y cyfarfod, gan fod y gwlaw mawr wedi attal. Pregethodd y Parchn.
CYNNRYCHIOLAETH SIR FON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae yn wir fod y diweddar Ardalydd wedi hynodi ei hun trwy ei wroldeb yn Waterloo, ac wedi gwneud gwasanaeth da i'w wlad; ond cafodd ei dalu yn helaeth am y gwasanaeth hwnw. Y mae y sefyllfaoedd mwyaf ennillfawr o dan y llywodraeth, er hyny, wedi eu llenwi ganddo ef a'i feibion. Fel y mae yn hysbys, bu Arglwydd Clarence Paget yn Ysgrifen- ydd i'r Morlys am lawer o flynyddau o dan y diweddar Arglwydd Palmerston; ond gyda golwg ar y rlian- hono o'i yrfa, lleiaf a ddy- weder gan ei gyfeillion, goreu oil. Y mae wedi ei brofi tuhwnt i bob ammheuaeth gan y presenol Arglwydd Cyntaf y Morlys, Mr. Corry, a chan Mr. Seely, ac eraill, ha wnaed dim mwy o 'blunders,' ac na bu mwy o gamdrefn, hyd yn nod yn y Morlys, ag yn ystod y cyfnod hwnw. Y mae yn ddiammheu fod Arglwydd Clarence Paget yn forwr medrus; ond y mae fel y rhan fwyaf o forwyr, er yn alluog i drin llong, heb unrhyw ddirnadaeth pa fodd i wneuthur un. Fel yna, Syr, y mae rhai o hawliau Arglwydd Clarence Paget i gynnrychiolaeth Sir Fon; a'r etholwyr yn gwybod y pethau hyn, yi ydwyf yn credu nad anghofiant y cynghor apostolaidd, i roddi "anrhydedd i'r hwn y mae anrhydedd yn ddyledus." Ydwyf, Syr, yr eiddoch, &c., Gorphenaf 30ain, 1868. A. B. C.